°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Gwneud didyniadau dyled budd-daliadau o gyflog gweithiwr

Printable version

1. Trosolwg

Fel cyflogwr efallai bydd gofyn i chi ddidynnu gordaliadau budd-dal sy’n ddyledus gan gyflogai i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o’u cyflog. Gelwir hyn yn Atodiad Uniongyrchol o Enillion (DEA).

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn i chi weithredu’r cynllun DEA os effeithir ar unrhyw un o’ch cyflogeion. Mae DEA ond yn berthnasol i gyfran fach o bobl sydd ag arian yn ddyledus i DWP.

Hefyd, efallai bydd gofyn i chi wneud didyniadau ar gyfer gordaliadau Budd-dal Tai sy’n ddyledus gan gyflogai i’w hawdurdod lleol. Cysylltwch ag awdurdodau lleol, nid DWP, am y didyniadau hyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English)

2. Sut mae'n gweithio

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch os bydd angen i chi wneud didyniadau Atodiad Uniongyrchol o Enillion (DEA) ar gyfer cyflogai.

Sut mae didyniadau’n gweithio

Bydd angen i chi ddilyn y camau hyn os byddwch yn cael llythyr gan DWP yn dweud bod angen i chi wneud didyniadau Atodiad Uniongyrchol o Enillion (DEA) ar gyfer cyflogai:

  1. Dweud wrth eich cyflogai y bydd arian yn cael ei dynnu o’u cyflog.

  2. Cyfrifo faint i’w ddidynnu o gyflog eich cyflogai.

  3. Gwirio a oes gan eich cyflogai orchmynion dyled eraill i’w talu ac os ydynt yn cymryd blaenoriaeth dros DEA.

  4. Cymerwch yr arian o gyflog eich cyflogai.

  5. Talwch yr arian i DWP dim hwyrach na’r 19eg diwrnod o’r mis ar ôl didynnu o’ch cyflogres.

a6. Parhewch i wneud didyniadau cyflogeion a thaliadau i DWP nes bod y ddyled wedi’i had-dalu neu nes bydd DWP yn dweud wrthych am roi’r gorau iddi.

Darllenwch y canllaw i gyflogwr am fwy o wybodaeth am ddidyniadau a thaliadau DEA.

Cadw cofnodion

Rhaid i chi gadw cofnod o ddidyniadau a dweud wrth DWP pan fydd cyflogai yn gadael eich cwmni.

Gallech gael dirwy o hyd at £1,000 os na fyddwch yn gwneud didyniadau DEA.

Help gyda thaliadau DWP

Ffoniwch y llinell gymorth i gyflogwyr os oes gennych gwestiynau am sut i gynnal DEA neu dalu DWP.

Llinell gymorth i gyflogwyr 0800 916 0614 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Mae’r llinell gymorth hon ar gyfer didyniadau DWP yn unig. Cysylltwch ag awdurdod lleol eich cyflogai ar gyfer didyniadau Budd-dal Tai.

3. Cyfrifo DEA

I gyfrifo’r didyniadau o gyflog eich cyflogai bydd yn rhaid i chi:

  • gyfrifo enillion y cyflogai ar ôl treth, Yswiriant Gwladol dosbarth 1 a chyfraniadau pensiwn gweithle
  • didynnu’r ganran a ddangosir yn y tabl o enillion y cyflogai
  • gwirio a oes gan y gweithiwr orchmynion dyled eraill ac os yw’n cymryd blaenoriaeth dros Atodiad Uniongyrchol o Enillion (DEA) - gweler canllaw’r cyflogwr

Os yw cyfanswm yr holl ddidyniadau yn fwy na 40% o enillion net y cyflogai, mae’n rhaid addasu DEA - gweler canllaw’r cyflogwr.

Os gwneir taliadau bob 2 neu 4 wythnos, cyfrifwch y tâl wythnosol a didynnwch y ganran yn y tabl.

Cyfraddau DEA safonol

Didyniadau o enillion Tâl wythnosol cyflogai Tâl misol y gweithiwr
Dim i’w ddidynnu £100 neu lai £430 neu lai
3% £100.01 i £160 £430.01 i £690
5% £160.01 i £220 £690.01 i £950
7% £220.01 i £270 £950.01 i £1,160
11% £270.01 i £375 £1,160.01 i £1,615
15% £375.01 i £520 £1,615.01 i £2,240
20% Mwy na £520 Mwy na £2,240

Cyfraddau DEA uwch

Mewn rhai amgylchiadau efallai y gofynnir i chi ddidynnu DEA ar gyfradd uwch. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn dweud wrthych pa gyfradd i’w defnyddio pan fyddent yn cysylltu â chi i sefydlu didyniadau DEA.

Didyniadau o enillion Tâl wythnosol cyflogai Tâl misol y gweithiwr
5% £100 neu lai £430 neu lai
6% £100.01 i £160 £430.01 i £690
10% £160.01 i £220 £690.01 i £950
14% £220.01 i £270 £950.01 i £1,160
22% £270.01 i £375 £1,160.01 i £1,615
30% £375.01 i £520 £1,615.01 i £2,240
40% Mwy na £520 Mwy na £2,240

Ffoniwch y llinell gymorth i gyflogwyr os nad ydych yn sicr pa gyfradd y dylech dalu.

Llinell gymorth i gyflogwyr 0800 916 0614 Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Mae mwy o fanylion am gyfrifo DEA yng nghanllaw’r cyflogwr.

4. Yr hyn sy’n cyfrif fel enillion

Wrth gyfrifo taliadau Atodiadau Enillion Uniongyrchol (DEA), dylech gyfrif y canlynol fel enillion:

  • cyflogau a salarïau

  • ffioedd

  • bonysau

  • comisiynau

  • taliadau goramser

  • pensiynau galwedigaethol os caiff eu talu gyda chyflog

  • iawndaliadau

  • Taliadau Salwch Statudol

  • y rhan fwyaf o daliadau eraill ar ben cyflogau

  • taliadau yn lle rhybudd diswyddo

Peidiwch â chyfrif y canlynol:

  • Taliadau Mamolaeth Statudol

  • Taliadau Mabwysiadu Statudol

  • Taliadau Tadolaeth Statudol

  • Taliadau Gofal Newyddenedigol Statudol

  • Taliadau Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

  • Taliadau ar y Cyd i Rieni

  • Isafswm Pensiwn Gwarantedig

  • unrhyw arian mae’r cyflogai’n ei gael gan y llywodraeth, fel budd-daliadau, pensiynau neu gredydau (gan gynnwys Gogledd Iwerddon neu unrhyw le y tu allan i’r DU)

  • Taliadau Diswyddo Statudol

  • treuliau

  • taliadau neu lwfansau fel aelod o Luoedd Arfog EF (nid yw’n cynnwys lwfansau ar gyfer aelodau arbennig o’r llu wrth gefn)