Herio’ch band Treth Gyngor
Printable version
1. Trosolwg
Mae bandiau Treth Gyngor yn seiliedig ar faint oedd gwerth eiddo ar:
- 1 Ebrill 1991, ar gyfer Lloegr
- 1 Ebrill 2003, ar gyfer Cymru
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch herio’ch band Treth Gyngor os:
- mae gennych hawl gyfreithiol i herio (a elwir yn ‘gwneud cynnig’)
- rydych chi o’r farn ei fod yn anghywir ac nid oes gennych hawl gyfreithiol i herio (a elwir yn ‘adolygiad band’)
Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, rydych yn cyflwyno’ch her i’r Swyddfa Brisio.
Yn yr Alban, rydych yn cyflwyno’ch her i aseswr sydd wedi’i leoli yn eich Cyd-Fwrdd Prisio neu gyngor lleol. .
2. Pan fydd gennych hawl gyfreithiol i wneud her
Mae gennych hawl gyfreithiol i herio band Treth Gyngor (‘gwneud cynnig’) os ydych o’r farn fod eich band yn anghywir a naill ai:
- rydych wedi bod yn talu Treth Gyngor ar eich eiddo am lai na 6 mis
- mae Swyddfa Brisio (VO) wedi newid eich band Treth Gyngor yn y 6 mis diwethaf
Mae gennych hefyd hawl gyfreithiol i herio os:
- bu newid sy’n effeithio ar yr eiddo
- rydych am dynnu’r eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor
- rydych am ychwanegu’r eiddo at restr y Dreth Gyngor
Os oes newid wedi bod sy’n effeithio ar yr eiddo
Gallwch gynnig band newydd os bu newid sy’n effeithio ar werth yr eiddo. Rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol:
- mae eich eiddo wedi newid - er enghraifft, mae wedi’i rannu’n eiddo lluosog neu wedi’i gyfuno’n un
- mae defnydd eich eiddo wedi newid - er enghraifft, mae rhan o’ch eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer busnes
- mae eich ardal leol wedi newid yn ffisegol - er enghraifft, mae archfarchnad neu brif ffordd newydd wedi’i hadeiladu
Os oes angen tynnu’r eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor
Gallwch ofyn i eiddo gael ei dynnu oddi ar restr y Dreth Gyngor os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae eich eiddo wedi’i ddymchwel
- mae eich eiddo yn adfail neu mewn cyflwr difrifol gyda nifer o broblemau strwythurol difrifol
- mae eich eiddo yn cael ei adnewyddu’n sylweddol sy’n effeithio ar y cyfan neu’r rhan fwyaf o’r eiddo
- mae eich eiddo bellach yn cael ei ddefnyddio fel busnes ac nid yw bellach yn cyfrif fel eiddo domestig
Ni allwch gael gwared ar eiddo dim ond oherwydd ei fod mewn ‘cyflwr gwael’. Rhaid iddo fod yn adfail neu mewn cyflwr difrifol (er enghraifft nenfwd sydd wedi dymchwel). Mae rhagor o ganllawiau ar yr hyn sy’n cyfrif fel cyflwr gwael a’r hyn sy’n adfeiliedig neu sydd mewn cyflwr gwael.
Unwaith y bydd eiddo wedi’i dynnu oddi ar restr y Dreth Gyngor, ni fyddwch yn talu Treth Gyngor ar yr eiddo hwnnw mwyach.
Byddwch ond yn dechrau talu Treth Gyngor eto os cafodd eiddo ei ddileu oherwydd gwaith adnewyddu mawr, a bod y gwaith hwnnw wedi’i gwblhau, neu eich bod yn symud yn ôl i mewn. Bydd yr eiddo’n cael ei ailasesu a bydd angen i chi dalu Treth Gyngor o ddyddiad cwblhau’r gwaith neu ddyddiad symud i mewn.
Os oes angen ychwanegu’r eiddo at restr y Dreth Gyngor
Gallwch ofyn i eiddo gael ei ychwanegu at restr y Dreth Gyngor os nad oes gan eich eiddo fand Treth Gyngor eto. Bydd angen i chi awgrymu’r band arfaethedig.
Gwybodaeth y mae angen i chi ei darparu
Pan fyddwch yn gwneud her, bydd angen i chi ddarparu:
- eich enw
- cyfeiriad eich eiddo
- y dyddiad yr ydych am wneud y cynnig
Bydd angen i chi hefyd ddweud ai chi yw perchennog y tŷ neu’n denant.
Os oes newid wedi bod i’ch eiddo neu ardal
Os ydych yn cynnig band newydd, rhaid i chi hefyd ddarparu un o’r canlynol:
- disgrifiad o unrhyw newidiadau i’ch eiddo
- manylion newid defnydd eich eiddo
- disgrifiad o sut mae eich ardal leol wedi newid yn ffisegol
- manylion unrhyw waith ffisegol sydd wedi’i wneud i’ch eiddo
Os ydych yn drethdalwr newydd ac wedi bod yn eich eiddo am lai na 6 mis
Rhaid i chi hefyd ddarparu’r dyddiad y daethoch yn dalwr y Dreth Gyngor. Gallai’r dyddiad hwn fod cyn i chi symud i mewn i’r eiddo rydych yn gwneud y cynnig ar ei gyfer.
3. Pan nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio
Gallwch ofyn i’ch band gael ei adolygu os:
- rydych wedi bod yn talu Treth Gyngor am fwy na 6 mis
- nad oes unrhyw newidiadau wedi bod i’r eiddo yn ddiweddar ond rydych chi’n meddwl bod y band yn anghywir
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o pam rydych o’r farn fod eich eiddo yn y band anghywir.
Tystiolaeth i gefnogi eich her
Bydd angen i chi ddarparu cyfeiriadau ar gyfer hyd at 5 eiddo tebyg mewn band is na’ch un chi.
Dylai’r eiddo fod yr un fath â’ch eiddo chi o ran:
- math - er enghraifft, os ydych yn byw mewn tŷ pâr dylai’r eiddo fod yn dai pâr
- maint - er enghraifft, nifer yr ystafelloedd gwely a chyfanswm yr arwynebedd
- oed
- arddull a dyluniad
Dylai’r eiddo hefyd fod naill ai:
- yn yr un stryd neu stad - os ydych yn byw mewn tref neu ddinas
- yn yr un pentref neu ardal - os ydych yn byw yng nghefn gwlad
Tystiolaeth o brisiau tai
Gallwch hefyd ddefnyddio’r pris y gwerthwyd eich eiddo neu eiddo tebyg amdanynt fel tystiolaeth, os oedd y gwerthiant rhwng:
- 1 Ebrill 1989 a 31 Mawrth 1993 - os yw eich eiddo yn Lloegr
- 1 Ebrill 2001 a 31 Mawrth 2005 - os yw eich eiddo yng Nghymru
Gallwch chwilio am brisiau gwerthu eiddo ar-lein o 1995 ymlaen.
Cymharwch y prisiau gwerthu â’r prisiau y prisiwyd yr eiddo ar gyfer Treth Gyngor.
| Band Treth Gyngor | Eiddo yn Lloegr - gwerth ym mis Ebrill 1991 | Eiddo yng Nghymru - gwerth ym mis Ebrill 2003 |
|---|---|---|
| A | Hyd at £40,000 | Hyd at £44,000 |
| B | Mwy na £40,000 a hyd at £52,000 | Mwy na £44,000 a hyd at £65,000 |
| C | Mwy na £52,000 a hyd at £68,000 | Mwy na £65,000 a hyd at £91,000 |
| D | Mwy na £68,000 a hyd at £88,000 | Mwy na £91,000 a hyd at £123,000 |
| E | Mwy na £88,000 a hyd at £120,000 | Mwy na £123,000 a hyd at £162,000 |
| F | Mwy na £120,000 a hyd at £160,000 | Mwy na £162,000 a hyd at £223,000 |
| G | Mwy na £160,000 a hyd at £320,000 | Mwy na £223,000 a hyd at £324,000 |
| H | Mwy na £320,000 | Mwy na £324,000 a hyd at £424,000 |
| I | Amherthnasol | Mwy na £424,000 |
Os yw’r prisiau gwerthu y tu allan i fand Treth Gyngor, gallwch ddefnyddio hwn fel tystiolaeth. Bydd angen i chi roi:
- cyfeiriadau’r eiddo
- y prisiau gwerthu
- y dyddiadau y gwerthwyd yr eiddo - po agosaf yw hwn at y dyddiad prisio, y mwyaf tebygol yw y bydd Swyddfa Brisio (VO) yn gallu defnyddio’r dystiolaeth hon
Ni fydd y VO yn ystyried gwybodaeth am brisiau tai cyfartalog o wefannau fel Nationwide House Price Index, Nethouseprices, Rightmove neu Zoopla fel tystiolaeth gref.
4. Sut i herio
Ar gyfer eiddo yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i wneud her. Gallwch ddefnyddio hwn p’un a oes gennych hawl gyfreithiol i herio ai peidio.
Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich achos.
Gwiriwch .
Rhaid i chi barhau i dalu y Dreth Gyngor tra bod eich her yn cael ei hadolygu.
Herio ar ran rhywun arall
Gallwch herio band Treth Gyngor rhywun ar eu rhan os ydynt wedi eich apwyntio fel ‘cynrychiolydd’ mewn ffurflen Awdurdod i Weithredu.
Yn dilyn hyn, bydd angen i chi lenwi Ffurflen herio Treth Gyngor ar eu rhan – gallwch ddefnyddio y gwasanaeth ar-lein.
Anfonwch y ddwy ffurflen wedi’u cwblhau i Swyddfa Brisio (VO) ar e-bost neu drwy’r post, gyda’i gilydd ar yr un pryd.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
I ofyn am gael gwared ar eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor, bydd angen i chi lenwi ffurflen herio’r Dreth Gyngor yn lle hynny.
Gallwch herio’ch band Treth Gyngor drwy anfon e-bost at:
ctinbox@voa.gov.uk
Gallwch hefyd gael cymorth ychwanegol gan y VO os oes angen help arnoch i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
5. Ar ol i chi wneud her
Bydd Swyddfa Brisio (VO) yn cadarnhau ei bod wedi derbyn eich her. Fel arfer bydd hyn o fewn ychydig ddyddiau, ond weithiau gall gymryd hyd at 28 diwrnod.
Mi fydd yn adolygu eich her ac yn gwneud penderfyniad. Gall hyn gymryd hyd at 6 mis os oes gennych hawl gyfreithiol i wneud her (‘gwneud cynnig’).
Os ydych wedi cyflwyno her am eich bod yn meddwl bod eich eiddo yn y band anghywir ond nad oes gennych hawl gyfreithiol i herio (‘adolygiad band’), gall hyn gymryd hyd at 12 mis.
Os bydd y VO angen mwy o wybodaeth, mi fydd yn cysylltu â chi.
Pan fydd wedi gorffen yr adolygiad, mi fydd yn gwneud un o’r canlynol:
- newid eich band Treth Gyngor a rhoi gwybod i’ch cyngor lleol – bydd eich cyngor yn diwygio eich bil ac yn talu unrhyw ad-daliad sy’n ddyledus
- dileu eich eiddo oddi ar restr y Dreth Gyngor – gwiriwch beth sy’n digwydd ar ôl i eiddo gael ei ddileu (yn saesneg)
- ychwanegu eich eiddo at restr y Dreth Gyngor – byddwch yn derbyn band newydd
- dweud wrthych pam na ellir newid eich band
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad
Dim ond os oeddech â hawl gyfreithiol i herio (‘gwneud cynnig’) y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.
Yn dibynnu a ydych yn byw yn Lloegr neu Gymru, gallwch apelio i’r:
Mae’r tribiwnlysoedd yn annibynnol ar y VO. Mae apelio yn rhad ac am ddim, ond bydd angen i chi dalu eich costau cysylltiedig eich hun, megis teithio i’r lleoliad, neu am asiant os byddwch yn dewis defnyddio un.
Fel arfer mae angen i chi apelio o fewn:
- 3 mis o ddyddiad derbyn y penderfyniad os ydych yn byw yn Lloegr
- 4 mis o ddyddiad derbyn y penderfyniad os ydych yn byw yng Nghymru
Efallai y gallwch gael estyniad i’r terfyn amser mewn rhai amgylchiadau. Bydd angen i chi egluro pam mae angen estyniad arnoch ar y ffurflen apelio.
Os bydd y tribiwnlys yn cytuno â chi, bydd y VO yn newid eich band a bydd y cyngor yn diweddaru eich bil.
Cael help
Os ydych yn Lloegr, mae gan y Tribiwnlys Prisio arweiniad ar y canlynol:
Os ydych yng Nghymru, mae gan Dribiwnlys Prisio Cymru a .