Hylendid bwyd ar gyfer busnesau
Printable version
1. Trosolwg
Os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd, mae’n rhaid i chi fod â system ar gyfer rheoli diogelwch bwyd ar waith, a’i dilyn. Bydd cynnal y system hon yn eich helpu i gadw bwyd yn ddiogel a phrofi i arolygwyr eich bod yn gwneud hynny.
Os nad yw eich busnes bwyd yn ddiogel, gallech gael sgôr hylendid bwyd isel, cael eich carcharu neu hyd yn oed gael eich erlyn.
Er mwyn sicrhau bod eich bwyd yn hylan, dylech ddilyn yr hanfodion diogelwch bwyd:
Dylech hefyd ddilyn yr arferion gorau o ran storio a chludo bwyd.
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
2. Coginio bwyd yn ddiogel
Mae coginio trylwyr yn lladd bacteria niweidiol. Gall bwyd sydd heb ei goginio ddigon achosi gwenwyn bwyd.
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dilynwch y cyfarwyddiadau coginio mewn rysáit neu ar ddeunydd pecynnu a gwiriwch am arwyddion gweledol, fel sicrhau bod y bwyd yn stemio’n boeth.
Y cyngor safonol yw coginio bwyd nes ei fod wedi cyrraedd tymheredd craidd o 70°C am 2 funud.
Dyma’r cyfuniadau amser a thymheredd diogel eraill:
- 60°C am 45 munud
- 65°C am 10 munud
- 75°C am 30 eiliad
- 80°C am 6 eiliad
Gallwch wirio eich bod wedi coginio bwyd yn drylwyr drwy fewnosod thermomedr â phrob glân i’w ganol.
Gall rhai llysiau wedi’u rhewi, fel india-corn, pys a moron, gynnwys bacteria. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu coginio’n drylwyr trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
²Ñ²¹±ð’r pecynnau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB)’ yn cynnwys canllawiau ar fwyd sydd angen gofal ychwanegol.
Cig
Rhaid coginio rhai mathau o gig yn drylwyr drwyddynt draw bob amser. Cyn ei weini, gwiriwch fod y bwyd yn stemio’n boeth drwyddo draw. Torrwch drwy ran fwyaf trwchus y cig i wirio bod y suddion yn rhedeg yn glir ac nad oes cig pinc. Gwnewch hyn ar gyfer:
- dofednod, fel cyw iâr neu dwrci
- hwyaid ac adar hela eraill
- porc
- darnau o gig wedi’u rholio
- cynhyrchion wedi’u gwneud o gig wedi’i friwio, fel byrgyrs, cebabs a selsig
- offal, fel yr arennau a’r afu / iau
Dim ond arwyneb darnau cyfan o gig eidion a chig oen, fel steciau, cytledi a darnau o gig i’w rhostio, y mae angen i chi eu coginio (selio). Rhaid coginio darnau o gig wedi’u rholio’r holl ffordd drwyddynt.
Cadw bwyd yn boeth
Rhaid cadw bwyd poeth ar dymheredd o 63°C neu uwch os na fyddwch chi’n ei weini ar unwaith.
Gallwch ei gadw ar dymheredd is na 63°C am hyd at ddwy awr. Ar ôl hynny, oerwch y bwyd cyn gynted â phosib i 8°C neu is, neu ei daflu.
Ailgynhesu
Mae ailgynhesu yn golygu coginio bwyd eto, nid dim ond ei gynhesu. Cofiwch ailgynhesu bwyd nes ei fod yn stemio’n boeth drwyddo draw. Dim ond unwaith y gallwch chi ailgynhesu bwyd.
3. Oeri a rhewi
Oeri bwyd
Rhaid cadw bwyd oer ar dymheredd o 8°C neu is. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Yn yr Alban, argymhelliad ydyw.
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gosodwch eich oergell i 5°C neu is i wneud yn siŵr bod bwyd yn aros yn ddigon oer, hyd yn oed os bydd y tymheredd yn newid.
Gallwch gadw bwyd oer allan o’r oergell am hyd at 4 awr, yna rhaid i chi ei daflu. Os yw bwyd wedi bod allan am lai na 4 awr, gallwch chi ei roi yn ôl yn yr oergell.
Mae bwydydd y mae angen eu cadw’n oer i atal bacteria niweidiol rhag tyfu yn cynnwys:
- bwyd sydd â dyddiad ‘defnyddio erbyn’
- prydau wedi’u coginio
- bwyd parod i’w fwyta fel saladau wedi’u paratoi a phwdinau
Rhewi bwyd
Wrth rewi bwyd, mae angen i chi wneud y canlynol:
- rhoi bwyd sydd wedi’i rewi yn y rhewgell yn syth
- rhewi bwyd ffres cyn ei ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ a nodi’r dyddiad y gwnaethoch chi ei rewi
- rhannu bwyd yn ddognau llai cyn ei rewi
- oeri prydau wedi’u coginio cyn eu rhoi yn y rhewgell
- labelu popeth rydych chi’n ei rewi
Gwiriwch y rheolau ar gyfer rhewi bwyd môr y bwriedir ei fwyta’n amrwd neu wedi’i goginio’n ysgafn.
Dadmer bwyd
Rhaid dadmer bwyd yn llwyr cyn ei goginio oni bai bod cyfarwyddiadau’r gweithgynhyrchwr yn dweud i’w goginio yn syth o’r rhewgell.
Rhowch fwyd wedi’i rewi yn yr oergell i’w ddadmer yn ddiogel.
Os na allwch chi ddadmer bwyd yn yr oergell, gwnewch y naill neu’r llall o’r canlynol:
- rhowch y bwyd mewn cynhwysydd o dan ddŵr oer (dylai’r cynhwysydd fod wedi’i selio os ydych chi’n dadmer cig neu ddofednod amrwd)
- defnyddiwch yr opsiwn ‘dadmer’ ar ficrodon
Gall bacteria dyfu os caiff bwyd sy’n dadmer ei gadw rhwng 8°C a 63°C.
4. Glanhau
Rhaid i chi allu profi eich bod chi’n glanhau’n effeithiol.
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Rhowch amserlen a chofnod glanhau ar waith. ²Ñ²¹±ð’r pecynnau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell (SFBB)’ yn cynnwys canllawiau ar sut i wneud hyn.
Rhaid i’r amserlen lanhau gynnwys yr hyn sydd angen ei lanhau neu ei ddiheintio, pa mor aml, a pha gynhyrchion i’w defnyddio.
Peidio â glanhau’n drylwyr yw un o’r rhesymau mwyaf cyffredin pam mae busnesau bwyd yn cael eu herlyn.
Rhaid i chi lanhau’r canlynol yn rheolaidd:
- arwynebau gwaith a byrddau torri
- offer cegin, llestri ac offer coginio
- cadachau llestri, sbyngau a llieiniau sychu llestri
- pethau rydych chi’n cyffwrdd â nhw’n aml, fel dolenni drysau, biniau, switshys golau a dyfeisiau electronig
Rhaid i bob aelod o staff lanhau eu dwylo’n rheolaidd ac ymarfer hylendid personol da.
Glanhewch a diheintiwch offer a mannau paratoi bwyd bob amser ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â bwyd amrwd.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio labeli cynhyrchion glanhau. Nid yw pob un yn lladd bacteria a feirysau. Er mwyn sicrhau bod diheintyddion yn bodloni’r safonau cywir, gwiriwch fod y labeli’n cynnwys naill ai’r codau neu .
Storiwch gynhyrchion glanhau i ffwrdd o fwyd.
Cofiwch gael gwared ar wastraff bwyd cyn gynted â phosib.
5. Atal croeshalogi
Mae croeshalogi’n digwydd pan fo bacteria yn lledaenu rhwng bwyd, arwynebau neu offer. Gall achosi gwenwyn bwyd.
Dylech hefyd atal croeshalogi o fwyd sy’n cynnwys alergenau.
Dylid cadw cig, pysgod neu ddofednod amrwd ar wahân i’r canlynol:
- ffrwythau a llysiau
- bwydydd parod i’w bwyta fel saladau a chaws
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Golchwch eich dwylo bob amser rhwng tasgau gan ddefnyddio sebon a dŵr cynnes. Yn enwedig cyn ac ar ôl trin bwyd amrwd.
Ar gyfer cig, pysgod neu ddofednod amrwd, rhaid sicrhau bod opsiynau ar wahân ar gyfer:
- byrddau torri ac offer cegin
- peiriannau ac offer (fel peiriannau pecynnu dan wactod, peiriannau sleisio a briwio) neu, fel arall, rhaid eu diheintio’n drylwyr rhwng pob defnydd
- mannau paratoi bwyd neu, fel arall, ewch ati i ddiheintio’r fan yn drylwyr rhwng pob defnydd
- dillad a staff neu, fel arall, dylech eu hannog i newid a golchi eu dwylo rhwng paratoi gwahanol fwydydd
- deunyddiau glanhau (fel sbyngau, cadachau a mopiau) mewn mannau lle mae’r bwydydd hyn yn cael eu trin
6. Storio a chludo bwyd
Pan fyddwch chi’n storio ac yn cludo bwyd, rhaid sicrhau’r canlynol:
- mae bwyd yn cael ei roi mewn deunydd pecynnu neu gynwysyddion sydd wedi’u nodi’n addas i’w defnyddio fel deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd er mwyn ei ddiogelu rhag halogiad
- rydych chi’n defnyddio oergelloedd ar wahân ar gyfer bwyd amrwd a bwyd parod i’w fwyta os yw’n bosib neu’n storio bwyd amrwd o dan fwyd parod i’w fwyta yn yr un oergell
- mae bwyd oer a bwyd rhew’n cael eu cadw ar y tymheredd cywir wrth eu cludo a’u storio
- mae’r holl gynhwysion yn cael eu labelu i atal croeshalogi, yn enwedig bwyd sy’n cynnwys alergenau
²Ñ²¹±ð’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).