Labelu a phecynnu bwyd
Printable version
1. Trosolwg
I werthu cynhyrchion bwyd a diod, rhaid i’r wybodaeth am y cynnyrch (ar y label, ar unrhyw hysbysiadau gerllaw, neu ar-lein) fodloni’r canlynol:
- mae’n glir ac yn hawdd ei darllen
- mae’n barhaol
- mae’n hawdd ei deall
- mae’n hawdd ei gweld
- nid yw’n gamarweiniol
Gallech gael eich erlyn os byddwch yn disgrifio, yn hysbysebu neu’n cyflwyno cynnyrch bwyd yn anghywir.
Rhaid i chi ddangos gwybodaeth sylfaenol benodol a rhestru’r cynhwysion. Efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi ddangos rhybuddion penodol.
Dysgwch sut i ddangos gwybodaeth ar labeli bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.
Mae hefyd rheoliadau arbennig ar gyfer labelu gwin.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu’n rhydd neu wedi’u pecynnu ar y safle
Os ydych chi’n gwerthu bwyd yn rhydd, rhaid i chi ddarparu gwybodaeth am alergenau.
Os ydych chi’n pecynnu bwyd i’w werthu yn eich siop, rhaid i chi ddarparu:
- enw’r bwyd
- rhestr gynhwysion
- gwybodaeth am alergenau
Rhaid i chi ddangos mwy o wybodaeth os ydych chi’n gwerthu cynhyrchion cig yn rhydd yn Lloegr.
Ar gyfer rhai bwydydd rhydd neu fwydydd wedi’u pecynnu, efallai y bydd angen i chi ddangos y canlynol hefyd:
- p’un a yw unrhyw rai o’r cynhwysion wedi cael eu harbelydru, neu wedi dod o ffynonellau wedi’u haddasu’n enetig
- rhybuddion penodol
- unrhyw ychwanegyn bwyd rydych chi wedi’i ychwanegu
Dysgwch fwy am labelu:
Pecynnu
Os mai chi sy’n pecynnu bwyd, rhaid i chi ddefnyddio deunydd pecynnu sy’n addas i’w ddefnyddio ar gyfer bwyd. Os bydd deunydd pecynnu’n addas, bydd ‘for food contact’ wedi’i nodi arno, neu bydd symbol arno sy’n edrych fel gwydr gwin a fforc.
Mae rheolau arbennig ar gyfer defnyddio plastigau, cerameg neu seloffen ar gyfer deunydd pecynnu. Rhaid i chi fod â thystiolaeth ysgrifenedig eich bod wedi glynu atynt.
‘Datganiad cydymffurfiaeth’ yw’r enw ar hyn, a gallwch ei gael oddi wrth eich cyflenwr deunydd pecynnu. Bydd hefyd yn rhaid i chi gael un os byddwch chi’n prynu bwyd sydd eisoes wedi’i becynnu i’w werthu yn unrhyw un o’r deunyddiau hynny.
Gallwch ddysgu mwy am:
Pecynnu dan wactod
Os ydych chi’n pecynnu bwyd dan wactod (‘vacuum pack’) neu mewn atmosffer wedi’i addasu, rhaid i chi sicrhau nad yw bwyd yn cael ei halogi wrth ei lapio neu ei becynnu.
Bydd y canlynol yn eich helpu i wneud hyn:
- defnyddio deunyddiau lapio a phecynnu na fyddant yn halogi bwyd
- storio deunyddiau lapio a phecynnu yn iawn
- cadw cynwysyddion yn lân a heb ddifrod
Cynlluniau sicrwydd bwyd
Gallech hefyd ymuno â chynlluniau sicrwydd bwyd gwirfoddol fel . Gellir gynnwys logos cynlluniau sicrwydd ar labeli bwyd i ddangos bod y cynnyrch yn bodloni safonau penodol – er enghraifft, safonau diogelwch bwyd neu les anifeiliaid.
2. Labelu bwyd – yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddangos
Rhaid i chi ddangos yr wybodaeth ganlynol:
- enw’r bwyd
- dyddiad ‘ar ei orau cyn’ neu ddyddiad ‘defnyddio erbyn’, os oes angen
- unrhyw rybuddion angenrheidiol
- gwybodaeth am y maint net
- rhestr gynhwysion (os oes mwy nag un cynhwysyn)
- y wlad neu’r man tarddiad, os oes angen
- rhif y lot neu’r dyddiad ‘defnyddio erbyn’
- unrhyw amodau storio arbennig
- cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio neu goginio’r cynnyrch, os oes angen
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Hefyd, mae’n rhaid i chi gynnwys enw a chyfeiriad ar y deunydd pecynnu neu’r label bwyd, ar gyfer un o’r canlynol:
- y busnes y mae’r bwyd yn cael ei farchnata yn ei enw
- y busnes sydd wedi mewnforio’r bwyd
Gwybodaeth am y maint
Rhaid i chi nodi’r maint net mewn gramau, cilogramau, mililitrau neu litrau ar labeli’r canlynol:
- bwyd wedi’i becynnu dros 5g neu 5ml
- perlysiau a sbeisys wedi’u pecynnu
Rhaid i fwydydd caled sy’n cael eu pecynnu mewn hylif – neu mewn sglein (‘glaze’) iâ – ddangos pwysau net y bwyd wedi’i ddraenio.
Rhaid i’r maint net fod yn ddigon agos at enw’r bwyd fel y gallwch weld yr holl wybodaeth hon ar yr un pryd. Mae hyn hefyd yn berthnasol i gryfder diodydd alcoholaidd.
Nid oes rhaid i chi ddangos y pwysau na’r cyfaint ar fwydydd sy’n cael eu gwerthu ar sail nifer – er enghraifft, 2 rôl fara – ar yr amod y gallwch weld nifer yr eitemau yn y pecyn yn glir.
Gallwch ddarllen mwy o ganllawiau ar labelu meintiau.
Gwybodaeth y gallai fod yn rhaid i chi ei dangos
Rhaid i chi hefyd gynnwys datganiad os yw eich cynnyrch:
- yn ddiod sydd â chynnwys alcohol dros 1.2%
- yn cynnwys cynhwysion wedi’u haddasu’n enetig (GM), oni bai eu bod yn bresennol yn ddamweiniol ac yn cyfrif am 0.9% neu lai o’r cynnyrch
- wedi cael ei arbelydru
- wedi’i becynnu gan ddefnyddio nwy pecynnu – os felly, rhaid i chi ddefnyddio’r geiriau ‘packaged in a protective atmosphere’
Gwlad neu fan tarddiad
Rhaid i chi ddangos y wlad neu’r man tarddiad ar gyfer:
- cig eidion, cig llo, cig oen, cig dafad, porc, cig gafr a dofednod
- pysgod a physgod cregyn
- ³¾Ãª±ô
- olew olewydd
- gwin
- ffrwythau a llysiau
Gwiriwch y rheolau ar gyfer pryd i nodi’r wlad tarddiad wrth labelu cig, pysgod a physgod cregyn.
Rhaid i chi hefyd ddangos y wlad tarddiad os yw’n bosib y byddai cwsmeriaid yn cael eu camarwain heb yr wybodaeth hon – er enghraifft, os yw label pizza yn dangos Tŵr Gogwyddol Pisa er bod y pizza wedi’i wneud yn y DU.
Os yw label yn nodi bod cynnyrch wedi’i wneud mewn un man ond bod prif gynhwysyn y bwyd yn dod o fan gwahanol, rhaid i’r label ddangos hynny hefyd. Er enghraifft, ar gyfer pastai porc sydd wedi’i labelu’n ‘Brydeinig’ ac sy’n cael ei gynhyrchu yn y DU gan ddefnyddio porc o Ddenmarc, rhaid i’r label ddatgan ‘with pork from Denmark’ neu ‘made with pork from outside the UK’.
Rheolau arbennig ar gyfer rhai cynhyrchion
Mae rheolau arbennig ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddangos ar y label os ydych chi’n cyflenwi unrhyw un o’r canlynol:
- bara a blawd
- brasterau ac olewau
- cig a chynhyrchion cig
- coffi toddadwy (‘soluble’)
- cynhyrchion coco a siocled
- dŵr potel
- jamiau a chyffeithiau (‘preserves’)
- llaeth a chynhyrchion llaeth
- ³¾Ãª±ô
- pysgod
- siwgr
- sudd a neithdar ffrwythau
3. Rhestr gynhwysion
Os oes gan eich cynnyrch bwyd neu ddiod ddau gynhwysyn neu fwy (gan gynnwys dŵr ac ychwanegion), rhaid i chi restru pob un.
Mae angen i chi ddefnyddio’r pennawd ‘Ingredients’ neu bennawd addas sy’n cynnwys y gair ‘ingredients’. Rhaid rhestru cynhwysion yn nhrefn eu pwysau, gyda’r prif gynhwysyn gyntaf.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Meintiau’r cynhwysion
Rhaid i chi hefyd ddangos canran cynhwysyn os yw un o’r canlynol yn wir:
- mae’r label neu’r llun ar y pecyn yn amlygu’r cynhwysyn – er enghraifft, ‘caws ychwanegol’
- mae enw’r cynnyrch yn crybwyll y cynhwysyn – er enghraifft, ‘pastai caws a nionyn’
- byddai’r defnyddiwr fel arfer yn cysylltu’r cynhwysyn â’r enw – er enghraifft, ffrwythau mewn pwdin haf
Rhaid i chi ddilyn y gofynion o ran labelu’r maint net ar gyfer pob bwyd wedi’i becynnu sy’n fwy na 5 gram neu 5 mililitr.
Efallai y bydd angen i chi hefyd ddweud wrth ddefnyddwyr am ganran cynhwysion penodol gan ddefnyddio datganiad meintiol o gynhwysion (QUID). Darllenwch yr adran ynghylch pryd i ddangos y QUID yn y canllawiau labelu bwyd.
Alergenau
Rhaid i chi amlygu alergenau ar y label drwy ddefnyddio ffont, arddull neu liw cefndir gwahanol. Rhaid i chi eu nodi yn y rhestr gynhwysion hefyd.
Dyma’r alergenau y mae angen i chi eu hamlygu a’u rhestru:
- bysedd y blaidd (‘lupin’)
- cnau
- cramenogion (‘crustaceans’) – gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
- ffa soia
- grawnfwydydd sy’n cynnwys glwten – gan gynnwys gwenith, rhyg (‘rye’), haidd (‘barley’) a cheirch
- hadau sesame
- llaeth
- molysgiaid – gan gynnwys môr lawes (‘squid’), cregyn gleision (‘mussels’), cocos (‘cockles’), cregyn môr (‘whelks’) a malwod
- mwstard
- pysgnau
- pysgod
- seleri
- sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neu’r litr
- wyau
Dysgwch sut i labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw.
Dylech ddefnyddio label alergenau rhagofalus (‘precautionary’) os oes siawns bod rhywfaint o alergenau wedi mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain.
4. Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL)
Os ydych chi wedi sylwi ar risg o groeshalogi alergenau posib na ellir ei rheoli, dylech chi ddefnyddio labelu alergenau rhagofalus (‘precautionary’) (PAL) er mwyn rhybuddio defnyddwyr.
Croeshalogi alergenau yw pan fo’r mymryn lleiaf (‘traces’) o alergenau yn mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch ddefnyddio geiriad fel ‘may contain milk’ neu ‘not suitable for people with a nut allergy’.
Ni ddylech ddefnyddio datganiadau cyffredinol fel ‘may contain allergens’.
Os cewch unrhyw wybodaeth ragofalus am alergenau gan gyflenwyr cynhwysion, dylech ei throsglwyddo i’r defnyddwyr terfynol, oni bai bod eich asesiad risg yn disodli’r wybodaeth honno.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pryd na ddylech ddefnyddio PAL
Ni ddylech ddefnyddio PAL:
- ar y cyd â datganiad rhydd rhag ar gyfer yr un alergen – er enghraifft, os ydych chi’n dweud wrth ddefnyddwyr fod cynnyrch yn rhydd rhag llaeth, ni allwch chi hefyd ddweud y gallai gynnwys llaeth
- yn lle arferion hylendid a diogelwch bwyd
Os byddwch yn defnyddio PAL pan nad oes unrhyw risg wirioneddol i’r defnyddiwr wedi’i nodi, gallech chi fod yn camarwain defnyddwyr ac felly’n torri cyfraith bwyd.
Sut i ddefnyddio PAL
Nid oes angen nodi gwybodaeth ragofalus am alergenau ar y label bwyd. Gellir roi gwybod amdani mewn ffyrdd eraill, fel rhybuddion llafar gan staff neu arwyddion a ddangosir yn y safle bwyd.
Dylech adolygu eich PALs yn rheolaidd, yn enwedig pan fydd cyflenwyr neu brosesau’n newid.
Gallwch ddarllen canllawiau mwy manwl ar ofynion a deddfwriaeth labelu alergenau.
Cael cymorth
Cysylltwch â thîm gorsensitifrwydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) os oes angen cyngor arnoch am PAL.
Tîm gorsensitifrwydd yr ASB
hypersensitivitypolicy@food.gov.uk
5. Rhybuddion bwyd a diod
Rhaid i chi ddangos rhybudd priodol ar y label os yw’ch bwyd yn cynnwys cynhwysion penodol.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
| Cynhwysyn | Geiriad y mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio |
|---|---|
| Allura red (E129) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
| Aspartame (E951) | ‘Contains a source of phenylalanine’ os ydych chi’n enwi aspartame yn y rhestr gynhwysion, neu ‘Contains aspartame (a source of phenylalanine)’ os ydych chi’n defnyddio’r E-rif yn lle’r enw yn y rhestr gynhwysion |
| Caffein dros 150 mg/l | ‘Not suitable for children, pregnant women and persons sensitive to caffeine’ (Gallwch ddysgu mwy am y gofynion labelu ar gyfer caffein yn yr adran ynghylch caffein yn y canllawiau labelu bwyd) |
| Carmoisine (E122) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
| Licorys | ‘Contains liquorice’ (Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddefnyddio geiriad ychwanegol ar gyfer danteithion (‘confectionery’) neu alcohol sy’n cynnwys licorys yn yr adran ynghylch licorys yn y canllawiau labelu bwyd) |
| Llaeth amrwd | ‘This milk has not been heat-treated and may therefore contain organisms harmful to health’ |
| Llaeth sgim gyda braster nad yw’n dod o laeth | Nid oes geiriad penodol, ond rhaid i chi ddangos rhybudd bod y cynnyrch yn anaddas i fabanod neu na ddylid ei ddefnyddio ar gyfer babanod |
| Melysyddion | ‘With sweetener(s)’ |
| Melysyddion a siwgr | ‘With sugar and sweetener(s)’ |
| Polyolau dros 10% | ‘Excessive consumption may cause a laxative effect’ |
| Ponceau 4R (E124) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
| Quinoline Yellow (E104) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
| Sterolau a stanolau planhigion | Gallwch ddysgu am y gofynion labelu ar gyfer ffytosterolau, esterau ffytosterol, ffytostanolau neu esterau ffytostanol a ychwanegir yn yr adran ynghylch sterolau a stanolau planhigion yn y canllawiau labelu bwyd |
| Sunset yellow (E110) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
| Sylffwr deuocsid dros 10mg/l | ‘Contains sulphur dioxide (or sulphites/sulfites)’ |
| Tartrazine (E102) | ‘May have an adverse effect on activity and attention in children’ |
6. Labelu maeth, honiadau iechyd, ac atchwanegiadau
Labelu maeth
Rhaid i chi ddilyn rheolau o ran labelu gwybodaeth am faeth ar gyfer pob cynnyrch wedi’i becynnu ymlaen llaw, oni bai bod y ddau beth canlynol yn wir:
- rydych chi’n fusnes bach gyda llai na 10 o weithwyr a throsiant o lai nag £1.4 miliwn
- rydych chi’n cyflenwi naill ai’n uniongyrchol i ddefnyddwyr neu i fanwerthwyr lleol – mae ‘lleol’ yn golygu o fewn eich sir, eich sir gyfagos, neu hyd at 30 milltir o ffin eich sir
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Honiadau am faeth ac iechyd
Rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi am wneud honiad am faeth (er enghraifft, braster isel) neu honiad iechyd (er enghraifft, mae calsiwm yn helpu i gynnal iechyd arferol yr esgyrn).
Ni allwch honni nac awgrymu y gall bwyd drin, atal na gwella unrhyw glefyd neu gyflwr meddygol.
Atchwanegiadau bwyd, bwydydd cyfnerthedig, a bwydydd ar gyfer grwpiau penodol
Rhaid i chi ddilyn rheolau penodol os ydych chi’n cynhyrchu, gwerthu neu fewnforio:
Mae rheolau penodol hefyd i fwydydd ar gyfer grwpiau penodol (FSGs), a oedd yn arfer cael eu galw’n ‘fwydydd at ddefnydd maethol neilltuol (PARNUTS)’, er enghraifft:
- fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol
- bwydydd babanod
- bwydydd ar gyfer amnewid deiet yn llwyr ar gyfer rheoli pwysau
- bwydydd at ddibenion meddygol arbennig
Yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban
Rhaid i chi ddweud wrth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol os ydych chi am werthu fformiwla fabanod neu fwydydd at ddibenion meddygol arbennig.
Gallwch ddysgu mwy yn nhaflen wybodaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am ddeddfwriaeth maeth.
Yng Ngogledd Iwerddon
Rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd os ydych chi am werthu fformiwla fabanod neu fwydydd at ddibenion meddygol arbennig.
7. Bwyd organig
Os ydych chi’n fanwerthwr, gallwch chi labelu cynhyrchion yn organig cyn belled â bod y canlynol yn wir:
- mae o leiaf 95% o’r cynhwysion a dyfir ar ffermydd yn organig
- rydych chi’n gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid yn eich siop
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Ardystiad organig
Rhaid i chi gael eich ardystio gan un o’r cyrff rheoli organig os ydych chi’n cynhyrchu neu’n paratoi bwyd organig ac eisiau ei werthu neu ei labelu fel bwyd organig.
Gallwch benderfynu â pha gorff yr hoffech chi gofrestru, yn seiliedig ar eich lleoliad a’ch anghenion.
Ar ôl cofrestru, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:
- dilyn set gaeth o ganllawiau a osodir gan gyfraith genedlaethol a rhyngwladol
- cadw cofnodion trylwyr a chywir o brosesau cynhyrchu
- caniatáu arolygiadau blynyddol a dirybudd
Bydd hefyd yn rhaid i chi ddilyn y rheolau ar gyfer labelu cynhyrchion organig.
Gallwch wirio sut mae rheolau labelu bwyd yn cael eu gorfodi.