Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
Printable version
1. Trosolwg
Gall Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant helpu gyda chostau ychwanegol gofalu am blentyn sydd:
- o dan 16 oed
- yn cael anawsterau cerdded neu angen llawer mwy o ofal na phlentyn o’r un oed nad oes ganddynt anabledd
Bydd angen iddynt fodloni yr holl anghenion cymhwysedd.
²Ñ²¹±ð’r gyfradd DLA rhwng £30.30 a £194.60 yr wythnos yn dibynnu ar y lefel o gymorth sydd angen ar y plentyn.
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg) ac a fformat (hawdd ei ddarllen)
Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban
Mae angen i chi yn lle DLA i blant.
Os bydd eich plentyn yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Os yw’ch plentyn yn cael Taliad Anabledd Plant, mae’n rhaid i chi:
-
gwneud cais newydd am DLA i blant
Bydd Social Security Scotland yn dweud wrthych pryd y bydd eich Taliad Anabledd Plant yn stopio.
Gwnewch gais am DLA i blant cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn symud i Gymru neu Loegr. Os na fyddwch yn gwneud, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Os yw’ch plentyn yn symud o Loegr neu Gymru i’r Alban
Os yw’ch plentyn yn cael DLA i blant ac yn symud o Loegr neu Gymru i’r Alban, rhaid i chi:
- dweud wrth y DWP eu bod wedi symud
- gwneud cais newydd am gan Social Security Scotland
Bydd DLA eich plentyn yn parhau am hyd at 13 wythnos ar ôl iddynt symud i’r Alban. Gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Rhaid i chi ddweud wrth DWP a gwneud cais am os:
- yw eich plentyn yn aros am ganlyniad cais DLA i blant
- rydych chi wedi herio canlyniad cais DLA i blant
2. Cyfraddau DLA i blant
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant yn fudd-dal di-dreth sy’n cynnwys 2 elfen (rhannau). Efallai y gall y plentyn fod yn gymwys am un neu ddau o’r elfennau.
Elfen ofal
| Elfen ofal | Cyfradd wythnosol |
|---|---|
| Isaf | £30.30 |
| Canol | £76.70 |
| Uwch | £114.60 |
Elfen symudedd
| Elfen symudedd | Cyfradd wythnosol |
|---|---|
| Isaf | £30.30 |
| Uwch | £80 |
Sut mae DLA i blant yn cael ei dalu
Fel rheol, telir DLA bob 4 wythnos ar ddydd Mawrth.
Os bydd eich dyddiad talu ar ŵyl banc, fel arfer cewch eich talu cyn gŵyl y banc. Ar ôl hynny byddwch yn parhau i gael eich talu fel arfer.
Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Cymorth ychwanegol
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am blentyn sy’n cael y gyfradd gofal ganol neu uchaf o DLA.
3. Cymhwyster
Fel arfer byddwch yn gallu cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol. Rhaid i’r plentyn:
- fod o dan 16 oed - rhaid i unrhyw un dros 16 oed wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- angen gofal ychwanegol neugael anawsterau cerdded
- byw yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais (oni bai eich bod yn gymwys i hawlio o dramor)
Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael DLA i blant yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Os yw eich plentyn yn byw yn yr Alban, yn lle. Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am .
Gallwch hawlio DLA i blant os ydych mewn gwaith neu’n ddi-waith.
Pryd y gallwch hawlio o dramor
Efallai y byddwch dal yn gallu cael DLA i blant os:
- yw eich plentyn yn byw yn UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein – gallwch  ond gael help gyda thasgau byw dyddiol eich plentyn
- mae eich plentyn dramor yn derbyn triniaeth feddygol
- mae eich plentyn yn byw gyda rhiant sy’n gweithio yn y lluoedd arfog
Os ydych chi wedi symud i’r DU o dramor yn ddiweddar
I fod yn gymwys rhaid i’ch plentyn:
- fod wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am isafswm o gyfnod o amser
- bod yn byw naill ai yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais
Os nad yw’ch plentyn yn ddinesydd Prydeinig mae’n rhaid iddo hefyd fod â’r hawl i hawlio ‘arian cyhoeddus’. Bydd hyn yn dibynnu ar eu .
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael DLA i blant heb fodloni’r gofynion hyn os oes ganddynt statws ffoadur neu amddiffyniad dyngarol, neu os ydynt yn ddibynnydd i rywun sydd â statws amddiffyniad dyngarol.
Gwiriwch pa mor hir y mae’n rhaid bod eich plentyn wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
Mae pa mor hir y mae’n rhaid bod eich plentyn fel arfer wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban yn dibynnu ar ei oed.
| Oedran y plentyn | Isafswm amser a dreulir yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban |
|---|---|
| Dan 6 mis oed | o leiaf 13 wythnos |
| Rhwng 6 mis a 3 oed | o leiaf 26 o’r 156 wythnos diwethaf |
| Dros 3 oed | o leiaf 6 o’r 12 mis diwethaf |
Efallai y bydd eich plentyn yn gallu cael DLA i blant yn gynt os:
- yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
- mae eich plentyn yn byw gyda rhiant sy’n gweithio yn y lluoedd arfog
- mae’ch plentyn yn dychwelyd ar ôl byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein a’i fod wedi’i gynnwys yn y cytundeb tynnu’n ôl
Anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn
Mae rhaid i anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn olygu bod o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae angen llawer mwy o ofal arnynt na phlentyn o’r un oed nad oes ganddo anabledd
- maent yn cael anhawster symud o gwmpas
Mae’n rhaid eu bod wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf 3 mis a disgwyl iddynt bara am o leiaf 6 mis.
Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) nid oes angen iddynt fod wedi cael yr anawsterau hyn ers 3 mis.
Elfen ofal
²Ñ²¹±ð’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel edrych ar ôl ei angen, er enghraifft:
- cyfradd isaf - help am rywfaint o’r dydd
- cyfradd ganol - cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, goruchwyliaeth gyda’r nos neu rywun i helpu tra’u bod ar ddialysis
- cyfradd uwch – cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, neu maent yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
Elfen symudedd
²Ñ²¹±ð’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel yr help y mae arno ei angen i fynd o gwmpas, er enghraifft:
- cyfradd isaf - gallant gerdded ond mae angen help a/neu oruchwyliaeth arnynt yn yr awyr agored
- cyfradd uchaf - ni allant gerdded, dim ond heb bellter difrifol y gallant gerdded, gallent fynd yn sâl iawn os ydynt yn ceisio cerdded neu os ydynt yn ddall neu â nam difrifol ar eu golwg
Mae hefyd derfynau oedran i dderbyn yr elfen symudedd:
- cyfradd isaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 5 oed neu’n hŷn
- cyfradd uchaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 3 oed neu’n hŷn
Os yw’ch plentyn o dan yr oedrannau hyn a’ch bod yn hawlio DLA ar eu cyfer, dylid anfon pecyn hawlio atoch 6 mis cyn iddynt droi 3 a 6 mis cyn iddynt droi’n 5. Gallwch wedyn wneud cais am yr elfen symudedd os credwch eu bod yn gymwys ar ei gyfer.
Os nad ydych wedi derbyn unrhyw becynnau hawlio a’ch bod yn credu y gallai fod gan eich plentyn hawl i’r gydran symudedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.
4. Sut i wneud cais
I wneud cais am DLA am blentyn mae angen i chi fod yn rhiant iddynt neu’n gofalu amdanynt fel petaech yn rhiant iddynt. Mae hyn yn cynnwys llys-rieni, gwarcheidwaid, neiniau a theidiau, rhieni maeth neu frodyr neu chwiorydd hŷn.
Mae ffordd wahanol o wneud cais os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd ei oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).
Os yw eich plentyn yn byw yng Nghymru neu Loegr ar hyn o bryd gallwch wneud cais naill ai drwy:
- argraffu a chwblhau’r ffurflen DLA
- ffonio’r llinell gymorth Lwfans Byw i;r Anabl a gofyn iddynt am ffurflen wedi’i hargraffu
Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl
Ffôn: 0800 121 4600
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am . Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban, .
Os yw’ch plentyn yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Bydd Social Security Scotland yn dweud wrthych pryd y bydd eich Taliad Anabledd Plant yn stopio.
Gwnewch gais am DLA i blant cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn symud i Gymru neu Loegr. Os na fyddwch yn gwneud, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Gellir talu DLA o ddechrau eich cais. Ni ellir ei ôl-ddyddio. Bydd eich cais yn cychwyn ar y dyddiad y derbynnir y ffurflen neu’r dyddiad y byddwch yn ffonio’r llinell ymholi (os dychwelwch y pecyn hawlio cyn pen 6 wythnos).
Ar ôl i chi wneud cais, fe gewch lythyr o fewn 3 wythnos yn cadarnhau eich cais. Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, fe gewch lythyr arall a fydd yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
5. Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt
Rhaid i chi gysylltu â llinell gymorth y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os:
- yw manylion personol eich plentyn yn newid, er enghraifft eu henw, cyfeiriad neu feddyg
- yw lefel yr help sydd ei angen arnynt neu eu cyflwr yn newid
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud ei fod yn agosáu at ddiwedd ei oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
- ydynt yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal
- ydynt yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
- ydynt yn cael eu carcharu neu eu cadw yn y ddalfa
- yw eu statws mewnfudo wedi newid, os nad ydynt yn ddinesydd Prydeinig
- maent yn mynychu ysgol breswyl
Gallech gael eich cludo i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau eich plentyn .
Gall newid effeithio ar faint o DLA y mae eich plentyn yn ei gael. Ni fydd hyn fel arfer yn effeithio ar eu DLA os ydynt yn mynd:
- i mewn i gartref gofal awdurdod lleol am lai na 28 diwrnod
- i mewn i ysbyty
- dramor am lai na 13 wythnos
- dramor am lai na 26 wythnos i gael triniaeth feddygol ar gyfer cyflwr a ddechreuodd cyn iddynt adael
Os yw eich plentyn mewn cartref gofal
Os yw eich plentyn yn mynychu cartref gofal am fwy na 28 diwrnod, bydd angen i chi roi gwybod os:
- oes newid i’r ffordd y mae ffioedd cartref gofal eich plentyn yn cael eu hariannu (er enghraifft, rydych chi’n dechrau neu’n gorffen cael cyllid gan y GIG neu’r cyngor lleol)
- roedd eich plentyn yn aros yn y cartref gofal dros dro ac maent wedi dod yn breswylydd parhaol
- mae eich plentyn yn symud i gartref gofal arall
Os bydd eich plentyn yn symud i’r Alban
Os yw’ch plentyn yn cael DLA a’u bod yn symud i’r Alban, rhaid i chi roi gwybod am hyn drwy ffonio’r llinell gymorth DLA.
Bydd eu DLA yn parhau am hyd at 13 wythnos ar ôl iddynt symud. Gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Ffoniwch y llinell gymorth DLA
Ffôn: 0800 121 4600
(os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
6. Os yw'ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes
Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd ei oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Gelwir hyn weithiau’n ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael budd-daliadau eraill os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes.
Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban, yn lle hynny. Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am .
Cymhwyster
Mae eich plentyn fel arfer yn gymwys os:
-
maen nhw dan 16 oed - rhaid i unrhyw un dros 16 oed wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol(PIP)
-
mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod ganddynt 12 mis neu lai i fyw
Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Os ydych chi eisoes yn cael DLA i blant
Cysylltwch â’r llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl ar unwaith os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gan eich plentyn 12 mis neu lai i fyw.
Beth y byddwch chi’n ei gael
Bydd eich plentyn yn cael yr elfen gofal uchaf o £108.55 yr wythnos.
Efallai y byddant hefyd yn gymwys ar gyfer yr elfen symudedd.
Sut i wneud cais
Gofynnwch i weithiwr proffesiynol meddygol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Cysylltwch â llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl i ddechrau eich cais.
Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl
Ffôn: 0800 121 4600
(os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
7. Pan mae eich plentyn yn cyrraedd 16
Bydd angen i’ch plentyn wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) pan fyddant yn 16 oed.
Pan fyddant yn gwneud cais am PIP
Bydd eich plentyn yn cael llythyr yn eu gwahodd i wneud cais am PIP. Anfonir y llythyr:
- ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed
- pan fyddant yn gadael yr ysbyty, pe byddent yn yr ysbyty ar eu pen-blwydd yn 16 oed
- tua 20 wythnos cyn i’w dyfarniad DLA ddod i ben, pe byddent yn cael DLA o dan y rheolau ar gyfer pobl sydd efallai gyda 12 mis neu’n llai i fyw
Bydd taliadau DLA eich plentyn yn dod i ben oni bai eu bod yn gwneud cais am PIP erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr.
Os byddant yn gwneud cais erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr, byddant yn parhau i dderbyn DLA nes bod eu cais yn cael ei asesu.
Dylent gysylltu â DLA i newid y manylion talu a chael DLA wedi’i dalu i’w cyfrif banc eu hunain.
Os oes angen help ar eich plentyn i reoli eu budd-daliadau
Os oes gan eich plentyn anabledd difrifol ac yn methu rheoli ei fudd-daliadau eu hunain, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i reoli eu materion ar eu rhan unwaith y byddant yn troi’n 16 oed. Gelwir hyn yn dod yn ‘benodai’.
Darganfyddwch fwy am ddod yn benodai a sut i wneud cais.
I wneud cais i ddod yn benodai ar gyfer cais PIP eich plentyn, cysylltwch â’r llinell ymholiadau PIP yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.