Mathau o ddedfrydau carchar
Printable version
1. Dedfrydau cydredol ac olynol
Os cewch chi eich anfon i’r carchar am ddau neu fwy o droseddau, byddwch fel arfer yn cael dedfryd am bob trosedd. Bydd y barnwr neu’r ynad yn dweud wrthych a fydd eich dedfryd o garchar yn cael ei bwrw ar yr un pryd, neu’n olynol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Dedfrydau cydredol
Os yw eich dedfrydau’n cydredeg, mae’n golygu y byddwch chi’n eu bwrw ar yr un pryd.
Er enghraifft, os cewch chi un ddedfryd 6 mis ac un ddedfryd 3 mis, cyfanswm y ddedfryd fydd 6 mis.
Y rheswm am hyn yw y byddwch yn bwrw’r ddedfryd 3 mis ar yr un pryd â’r ddedfryd 6 mis.
Dedfrydau olynol
Os yw eich dedfrydau’n olynol, mae’n golygu y byddwch chi’n eu bwrw un ar ôl y llall.
Er enghraifft, os cewch chi un ddedfryd 6 mis ac un ddedfryd 3 mis, cyfanswm y ddedfryd fydd 9 mis. Byddwch chi’n bwrw’r ddedfryd gyntaf, yna byddwch yn bwrw’r ail ddedfryd ar ôl hynny.
2. Dedfrydau gohiriedig o garchar
Mae dedfryd ohiriedig o garchar yn cael ei bwrw yn y gymuned yn hytrach nag yn y carchar.
Mae’n bosibl y bydd rhaid i chi fodloni rhai amodau os cewch chi ddedfryd ohiriedig o garchar.
Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi wneud y canlynol:
- cadw draw o le penodol
- gwneud gwaith di-dâl (Gwneud Iawn â’r Gymuned)
Os byddwch chi’n torri amodau dedfryd ohiriedig gallwch chi gael eich anfon i’r carchar.
3. Dedfrydau penodol o garchar
Mae dedfryd benodol o garchar yn cael ei bwrw am gyfnod penodedig. Mae’n cynnwys cyfnod o amser yn y carchar a chyfnod o amser yn y gymuned ‘ar drwydded’.
Os byddwch chi’n torri amodau eich trwydded neu’n cyflawni trosedd arall, mae’n bosibl y gallwch chi gael eich anfon yn ôl i’r carchar.
4. Dedfrydau amhenodol o garchar
Nid oes hyd penodol yn perthyn i ddedfryd amhenodol o garchar.
Mae hyn yn golygu:
- nid oes dyddiad wedi’i bennu ar gyfer eich rhyddhau
- mae’n rhaid i chi dreulio isafswm amser yn y carchar (a elwir yn ‘dariff’) cyn i chi gael eich ystyried ar gyfer cael eich rhyddhau
Y Bwrdd Parôl sy’n gyfrifol am benderfynu a ellir eich rhyddhau o’r carchar.
Mae dedfrydau amhenodol yn cael eu rhoi os yw llys o’r farn eich bod chi’n berygl i’r cyhoedd. Mae dedfryd oes yn fath o ddedfryd amhenodol.
5. Dedfrydau oes
Os cewch chi eich dyfarnu’n euog o lofruddiaeth, rhaid i lys roi dedfryd oes i chi. Mae llys yn gallu penderfynu rhoi dedfryd oes am droseddau difrifol eraill hefyd, fel trais rhywiol neu ladrad arfog.
Os cewch chi ddedfryd oes, bydd yn para am weddill eich oes.
Os byddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r carchar, byddwch chi’n treulio gweddill eich bywyd ‘ar drwydded’ yn y gymuned.
Os byddwch chi’n torri amodau eich trwydded neu’n cyflawni trosedd arall, mae’n bosibl y gallwch chi gael eich anfon yn ôl i’r carchar.
Gorchmynion oes gyfan
Mae gorchymyn oes gyfan yn golygu na fyddwch chi byth yn cael eich rhyddhau o’r carchar, ac eithrio mewn amgylchiadau tosturiol eithriadol.
6. Dedfrydau i blant a phobl ifanc o dan 18 oed
Os ydych chi o dan 18 oed, bydd llys yn eich trin yn wahanol i oedolion. Dim ond mewn rhai achosion y cewch chi ddedfryd o garchar (yn Saesneg).
Ni all y ddedfryd fod yn hwy na dedfryd y byddai oedolyn yn ei chael am yr un trosedd.
Gorchmynion cadw a hyfforddi
Os ydych chi rhwng 12 ac 17 oed, fe allech chi gael gorchymyn cadw a hyfforddi. Mae hyn yn para rhwng 4 mis a 2 flynedd.
Byddech chi’n bwrw hanner cyntaf y ddedfryd yn y ddalfa.
Byddwch chi’n bwrw ail hanner y ddedfryd yn y gymuned ‘dan oruchwyliaeth’.
Rhaid i chi fodloni rhai amodau penodol wrth gyflawni dedfryd dan oruchwyliaeth.
Os byddwch chi’n torri’r amodau tra eich bod chi dan oruchwyliaeth, mae’n bosibl y cewch eich anfon yn ôl i’r ddalfa.
Dedfrydau hirach o garchar
Os ydych chi dan 18 oed, gallech chi gael dedfryd o garchar hirach am drosedd difrifol. Er enghraifft, trosedd a oedd yn dreisgar neu’n rhywiol.
Byddech chi’n bwrw rhan o’r ddedfryd yn y ddalfa.
Byddech chi’n bwrw gweddill y ddedfryd yn y gymuned ‘ar drwydded’.
Rhaid i chi fodloni rhai amodau penodol wrth gyflawni dedfryd ar drwydded.
Dedfrydau oes
Os cewch eich dyfarnu’n euog o lofruddiaeth, rhaid i lys roi dedfryd oes i chi. Gall llys benderfynu rhoi dedfryd oes am droseddau difrifol eraill hefyd, fel trais rhywiol neu ladrad arfog.
Y llys sy’n penderfynu am ba hyd y mae’n rhaid i chi fwrw dedfryd yn y ddalfa cyn y gellir eich ystyried ar gyfer parôl (yn Saesneg).
Os cewch chi eich rhyddhau, byddwch chi’n cael eich rhoi ar drwydded am weddill eich oes.