Mewnforio cerbydau i mewn i’r DU
Printable version
1. Sut i fewnforio cerbyd
Rhaid ichi gwblhau camau penodol wrth ddod â cherbyd yn barhaol i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
- Prydain Fawr, o unrhyw le
- Gogledd Iwerddon, o’r tu allan i’r UE
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch gael eich erlyn os ydych yn defnyddio’ch cerbyd ar ffordd gyhoeddus cyn ichi gwblhau’r camau hyn, oni bai eich bod yn ei yrru i brawf MOT neu brawf cymeradwyo cerbyd sydd wedi’i archebu ymlaen llaw.
Mae’r drefn rydych yn cwblhau’r camau hyn yn dibynnu ar y canlynol:Ìý
-
os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo i’r DU ichi gan gwmni mewnforio
-
os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
Nid oes rhaid i fewnforwyr masnachol cerbydau newydd sy’n defnyddio cynllun cofrestru diogel ddilyn y camau hyn.
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludoÌý
-
Gwneud datganiad mewnforio. Rhaid ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud hyn ichi. Gallant naill ai wneud hyn cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.Ìý
-
Talu TAW a tholl dramor ar ffin y DU - bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu i wneud hyn ichi.
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU.Ìý
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn ichi ei fewnforio.
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, naill ai drwy Dwnnel y Sianel neu ar fferi
-
Rhoi gwybod i CThEF o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU.Ìý
-
Gwneud datganiad mewnforio os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a thollau. Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud y datganiad mewnforio ichi.
-
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) - gweler Rhoi gwybod i CThEF i gael gwybodsut i wneud hyn.Ìý
-
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd yn bodloni safonau diogelwch ac amgylcheddol.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
-
Yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn ichi ei fewnforio.
Dod â’ch cerbyd i mewn neu allan o Ogledd Iwerddon
Os ydych yn byw yn y DU, gallwch symud eich cerbyd yn rhydd rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae wedi’i gofrestru yn y naill wlad neu’r llall
-
nad ydych yn ei symud i’w werthu, neu at unrhyw ddiben masnachol arall (er enghraifft, defnyddio’r car fel tacsi neu ei logi i rywun)
-
mae’r car at eich defnydd eich hun neu ddefnydd personol eich cartref
Cael gwybod beth i’w wneud os yw rhywun arall yn dod â’ch cerbyd i Ogledd Iwerddon.
Rhoi gwybod i DVLA am newid cyfeiriad.
Ymweld â’r DU gyda cherbydÌý
Dilynwch y rheolau ar gyfer mewnforion dros dro yn lle hynny os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
nad ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
rydych yn dod â cherbyd i’r DU am lai na 6 mis
Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Rhaid ichi gwblhau camau penodol os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU:
-
sydd wedi’i gofrestru yn y DU o’r blaen
-
sy’n cael ei ail-fewnforio i’r DU
2. Gwneud datganiad mewnforio
Fel arfer, mae angen ichi wneud datganiad mewnforio os ydych yn dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Prydain Fawr, o unrhyw leÌý
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UEÌý
Ni fydd angen ichi wneud datganiad mewnforio os ydych yn dod â cherbyd i mewn i un o’r gwledydd canlynol:
-
Gogledd Iwerddon o’r UE
-
Prydain Fawr neu Ogledd Iwerddon, o Ynys Manaw
Os yw’ch cerbyd yn cael ei gludo
Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Gallant naill ai wneud y datganiad cyn dod â’r cerbyd i mewn neu wrth ffin y DU.
Bydd angen talu unrhyw TAW neu doll tramor wrth y ffin.
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
Nid oes angen ichi wneud datganiad mewnforio cyn ichi ddod â’r cerbyd i’r wlad neu wrth y ffin.
Mae angen ichi wneud datganiad mewnforio dim ond os oes unrhyw TAW neu doll dramor i’w thalu. Bydd CThEF yn rhoi gwybod ichi os oes angen ichi dalu unrhyw beth ar ôl ichi ddod â’r cerbyd i mewn i’r DU.
Bydd angen ichi dalu cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi.
Gwneud cais am ryddhad treth
Gall eich cwmni cludo neu asiant tollau wneud cais am ryddhad ar TAW a tholl dramor pan fyddant yn gwneud eich datganiad mewnforio.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio os yw’r canlynol yn wir:
-
roeddech yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
-
rydych yn symud i’r DU yn barhaol
Os roeddech yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol
I hawlio Rhyddhad ar Nwyddau a Dychwelwyd, rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol:
-
rhaid ichi fod wedi prynu’r cerbyd newydd neu’n ail-law yn y DU
-
rhaid ichi fod wedi talu TAW ar y cerbyd os gwnaethoch ei brynu’n newydd
-
rhaid i’r person sy’n mewnforio’r cerbyd fod yr un person a’i cymerodd allan o’r DUÌý
-
rhaid i’r cerbyd beidio â bod wedi’i uwchraddio i gynyddu ei werth
I wneud cais am Ryddhad Nwyddau a Dychwelwyd, anfonwch y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
ffurflen C179B wedi’i llenwi
-
tystiolaeth eich bod wedi bod yn berchen ar y cerbyd yn y DU yn flaenorol, er enghraifft, copi o lyfr log (V5CW) y DU blaenorol, bil gwerthu neu anfoneb prynu
-
copi o’r ddogfen gofrestru gyfredol o’r wlad allforio
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu Gyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
Os ydych yn symud i’r DU
Efallai y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad trosglwyddo preswylio (TOR) os yw’r DU i fod yn eich prif fan preswylio.
Bydd angen ichi gael cymeradwyaeth gan CThEF drwy lenwi ffurflen ToR1.Ìý
Os caiff ei gymeradwyo, bydd CThEF yn anfon llythyr atoch gyda chyfeirnod unigryw. Bydd angen ichi gynnwys y cyfeirnod hwn wrth wneud y datganiad mewnforio.
Bydd angen ichi hefyd anfon y canlynol gyda’ch datganiad mewnforio:
-
eich cyfeiriad yn y DU
-
y dyddiad cyrhaeddodd y cerbyd y DU
-
bil gwerthu neu anfoneb prynu ar gyfer y cerbyd
-
copïau o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau VIN neu rif siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu MRN ar gyfer eich cerbyd
3. Rhoi gwybod i CThEF
Mae gennych 14 diwrnod i roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar ôl ichi ddod â cherbyd i mewn i’r DU yn barhaol. Ni allwch gofrestru’r cerbyd nes eich bod wedi gwneud hyn.
Bydd sut rydych yn rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar y canlynol:
-
p’un a ydych chi’n ei fewnforio i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) neu i Ogledd Iwerddon
-
o ble rydych yn ei fewnforio
Mae’n bosibl y cewch ddirwy os byddwch yn hwyr yn rhoi gwybod i CThEF.Ìý
Os oes gan eich cerbyd injan o 48cc neu lai (7.2kw neu lai os yw’n drydan), gallwch ei gofrestru heb roi gwybod i CThEF yn gyntaf.
Os ydych yn mewnforio cerbyd i Brydain Fawr o unrhyw le, neu i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Mae sut rydych yn rhoi gwybod i CThEF yn dibynnu ar os ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW.
Gwneud datganiad Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) os ydych yn gwmni sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW
Rhaid ichi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) o fewn 14 diwrnod. Gallwch ddefnyddio taenlen os oes angen ichi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau.
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
na allwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA - gofynnwch am ffurflen TAW NOVA1 yn lle hynny
-
mae angen help arnoch i gwblhau cais NOVA
Gwneud datganiad NOVA os ydych yn unigolyn preifat neu gwmni sydd heb gofrestru ar gyfer TAW
Rhaid ichi roi gwybod i CThEF am y cerbyd a fewnforiwyd drwy wneud datganiad NOVA. Mae sut rydych yn gwneud hyn yn dibynnu ar os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo neu’n dod ag ef i mewn eich hun.
Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, gellir gwneud y datganiad NOVA gan un o’r canlynol:Ìý
-
eich cwmni cludo neu asiant tollau (efallai y byddant yn codi ffi ychwanegol am wneud hyn)
-
tîm CARS CThEF ar eich rhan
Rhaid gwneud hyn o fewn 14 diwrnod i ddod â’r cerbyd i mewn.
Bydd angen y canlynol ar bwy bynnag sy’n gwneud y datganiad NOVA:
-
dogfennau tollau C88 ac E2 neu’ch dogfen mewnforio Cyfeirnod Symud (MRN) ar gyfer eich cerbyd
-
yr anfoneb neu’r bil gwerthu ar gyfer eich cerbyd - os gwnaethoch ei brynu yn ystod y 6 mis diwethaf
-
prisiad presennol os gwnaethoch brynu’r cerbyd fwy na 6 mis yn ôl - rhaid i hyn gael ei wneud yn bersonol yn y DU gan garej, deliwr neu fusnes cydnabyddedig arall
-
copi o unrhyw ddogfen swyddogol sy’n cadarnhau VIN neu rif siasi eich cerbyd (er enghraifft, dogfen gofrestru neu deitl, neu dystysgrif allforio)Ìý
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhaid ichi gysylltu â thîm CARS CThEF a rhoi gwybod iddynt os:Ìý
-
gwnaethoch brynu’r cerbyd y tu allan i’r DU yn ddiweddar
-
ydych wedi symud i’r DU a dod â’ch cerbyd gyda chi
-
ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU yr oeddech yn berchen arno yma yn flaenorol
-
ydych wedi etifeddu’r cerbyd gan rywun sy’n byw y tu allan i’r DU
Rhaid ichi wneud hyn o fewn 14 diwrnod o ddod â’r cerbyd i mewn.
Yna bydd CThEF yn rhoi gwybod y canlynol ichi os:Ìý
-
oes angen ichi dalu unrhyw TAW neu doll dramorÌý
-
ydych yn gymwys i gael unrhyw ryddhad
Os oes unrhyw TAW neu doll dramor yn ddyledus, bydd angen ichi hurio cwmni cludo neu asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Byddant yn rhoi gwybod ichi faint i’w dalu a sut i wneud hyn, yn ogystal â darparu’r dogfennau sydd eu hangen i wneud datganiad NOVA.Ìý
Bydd angen ichi anfon y dogfennau hyn at dîm CARS CThEF fel y gallant wneud datganiad NOVA ichi.
Rhaid ichi fod wedi talu unrhyw drethi mewnforio sy’n ddyledus cyn y gall CThEF wneud y datganiad NOVA.
Gallwch gysylltu â’r tîm CARS drwy e-bost neu drwy’r post:
Tîm CARS CThEF
ecsm.nchcars@hmrc.gov.uk
Busnes, Treth a Thollau / Business, Tax and Customs
Cyllid a Thollau EF
BX9 1EH
Mewnforio cerbyd o Ynys Manaw
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, nid oes angen ichi wneud cais NOVA. Mae dim ond angen ichi anfon ffurflen V55 wedi’i llenwi a dogfen gofrestru Ynys Manaw ar gyfer y cerbyd i DVLA.
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn Ynys Manaw, neu os oes ganddo blatiau trwydded y DU o hyd, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio am ffurflen NOVA1. Anfonwch y ffurflen hon a llythyr eglurhaol yn esbonio’r sefyllfa i’r Uned Trafnidiaeth Bersonol.
Uned Trafnidiaeth BersonolÌýÌý
Cyllid a Thollau EFÌýÌý
BX9 1GD
Os ydych yn mewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Rhowch wybod i CThEF drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA).
Gallwch ddefnyddio taenlen os ydych yn fusnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW ac mae angen ichi ddefnyddio NOVA ar gyfer llawer o gerbydau.
Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, Os nad ydych yn gallu defnyddio gwasanaeth ar-lein NOVA, gofynnwch i’r llinell gymorth mewnforio ac allforio am ffurflen NOVA1.
Ar ôl ichi roi gwybod i CThEF
Bydd CThEF yn rhoi gwybod ichi:
-
os oes rhaid ichi dalu TAW a tholl dramor - mae hyn yn berthnasol dim ond os gwnaethoch ddod â’r cerbyd i mewn eich hun ar fferi neu drwy Dwnnel y Sianel
-
pan fydd eich cais NOVA wedi’i brosesu – ni allwch gofrestru eich cerbyd gyda DVLA tan ar ôl hynny
Help a chymorth
Cysylltwch â’r llinell gymorth TAW i gael help gyda TAW.
Cysylltwch â’r llinell gymorth mewnforio ac allforio i gael help gyda mewnforio cerbyd.
4. Talu TAW a tholl dramor
Mae’n bosibl y bydd rhaid ichi dalu TAW mewnforio a tholl dramor pan fyddwch yn mewnforio cerbyd.Ìý
Codir TAW ar gyfanswm cost y cerbyd, ynghyd ag unrhyw un o’r canlynol:
-
ategolion y gwnaethoch eu prynu gydag ef
-
dosbarthu a thaliadau ychwanegol
-
toll dramor
Codir tollau ar gerbydau a fewnforir i’r gwledydd canlynol:
-
Cymru, Lloegr a’r Alban o’r tu allan i’r DUÌý
-
Gogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU neu’r UE
Mae’r cyfraddau a godir arnoch yn dibynnu ar y math o gerbyd ac o ble rydych yn ei fewnforio. Gallwch wirio’r cyfraddau gyda’ch cwmni cludo neu’ch asiant tollau neu gallwch ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae sut rydych yn talu yn dibynnu ar y canlynol:
-
o ble rydych yn mewnforio’r cerbyd
-
p’un a ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo neu os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun
Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych yn talu TAW a tholl dramor ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.
Os gwnaethoch fewnforio’r cerbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban o’r tu allan i’r DU
| Pam wnaethoch ei fewnforio | Yr hyn rydych yn ei daluÌý |
|---|---|
| Rydych yn symud i’r DU gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
| Rydych yn dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
| Rydych yn ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro |
| Unrhyw reswm arall - os nad ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
| Unrhyw reswm arall - os ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Sut i dalu os ydych yn ddyledus ar TAW a tholl dramorÌý
Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU.Ìý
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a tholl dramor, mae angen ichi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod ichi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.
Os ydych wedi cofrestru TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid ichi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.
Os gwnaethoch fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Fel arfer, dim ond ar gerbydau newydd y codir TAW arno. Mae cerbyd yn newydd os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae’r cerbyd wedi cael ei yrru llai na 6,000km (tua 3,728 milltir)
-
mae’r cerbyd wedi bod yn cael ei ddefnyddio am ddim mwy na 6 mis
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, mae angen ichi gyfrif am unrhyw TAW rydych wedi’i dalu ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Os nad ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW neu os ydych yn unigolyn preifat, mae angen ichi dalu CThEF yn uniongyrchol cyn y gallwch gofrestru eich cerbyd.
Adennill VAT
Os oes rhaid ichi ddatgan TAW i CThEF, gallwch hawlio unrhyw TAW a dalwyd gennych yn yr UE. Anfonwch y Dystysgrif TAW a gewch gan CThEF at y person a werthodd y cerbyd ichi.
Os gwnaethoch fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r DU a’r UE
| Pam wnaethoch ei fewnforio | Yr hyn rydych yn ei daluÌý |
|---|---|
| Rydych yn symud i’r DU gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
| Rydych yn dychwelyd cerbyd sydd wedi’i allforio i’r DU | Dim TAW na tholl dramor os ydych yn gymwys i gael rhyddhad |
| Rydych yn ymweld â’r DU neu’r UE gyda’ch cerbyd | Dim TAW na tholl dramor os yw’n gymwys fel mewnforyn dros dro |
| Unrhyw reswm arall - os nad ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
| Unrhyw reswm arall - os ydych wedi’i gofrestru ar gyfer TAW | TAW a tholl dramor |
Sut i dalu os ydych yn ddyledus ar TAW a tholl dramorÌý
Os ydych yn cael y cerbyd wedi’i gludo, bydd eich cwmni cludo neu asiant tollau fel arfer yn trefnu talu CThEF wrth ffin y DU.Ìý
Os ydych yn dod â’r cerbyd i mewn eich hun, rhoi gwybod i CThEF cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyrraedd. Os yw CThEF yn rhoi gwybod bod angen ichi dalu TAW a tholl dramor, mae angen ichi gael asiant tollau i wneud datganiad mewnforio ichi. Bydd yr asiant tollau yn rhoi gwybod ichi faint sydd angen i’w dalu a sut gallwch wneud hynny.
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch hawlio’r TAW yn ôl ar eich Ffurflen TAW nesaf.
Mae’n rhaid ichi dalu unrhyw TAW a tholl dramor cyn y gallwch gofrestru’r cerbyd.
5. Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd i ddangos bod eich cerbyd a fewnforiwyd yn bodloni rheoliadau amgylcheddol a diogelwch. Bydd angen tystiolaeth o gymeradwyaeth arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd.
Ni allwch gofrestru a threthu cerbyd sydd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’. Os ydych yn talu am gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd ac yna’n ceisio cofrestru cerbyd sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn cael eich ad-dalu.
Pan rydych wedi’ch esemptio rhag cael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Os cafodd eich cerbyd ei gofrestru am y tro cyntaf neu ei weithgynhyrchu fwy na 10 mlynedd yn ôl, efallai na fydd angen cymeradwyaeth arnoch. Gwiriwch i weld a yw’r cerbyd wedi’i esemptio.
Bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd arnoch i drethu eich cerbyd os cafodd ei gofrestru am y tro cyntaf ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 gyda chymeradwyaeth math yr UE ac mae’n un o’r canlynol:
-
cerbyd nwyddau ysgafn (pwysau uchaf 3,500kg neu lai)
-
cerbyd ysgafn i deithwyr - car neu fws mini gydag 8 sedd teithwyr neu lai (heb gynnwys y gyrrwr) a gyda ffigur allyriadau CO2 mewn g/km
Os nad oes gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd eisoes, anfonwch lythyr gyda’ch cais i DVLA yn esbonio pam nad oes un gennych.
DVLA
Abertawe
SA99 1BE
Os nad yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
I gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd nad yw wedi’i gofrestru yn yr UE, gwnewch gais am y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
Cymeradwyaeth ar gyfer Cerbyd Unigol i Feic Modur (MSVA) os yw’n gerbyd 2 neu 3 olwyn, neu’n gerbyd 4-olwyn sy’n llai o faint
Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru yn yr UE
Mynnwch Dystysgrif Cydymffurfio Ewropeaidd gan y gwneuthurwr i ddangos bod gennych gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn yr UE.
Os yw’n gerbyd â’r llyw ar y chwith, bydd hefyd arnoch angen tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) .
Os oes gennych lori neu gerbyd nwyddau dros 3,500kg, ni allwch gael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA. Gwnewch gais am IVA yn lle hynny.
Cael tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais am:
Codir ffi o £100. Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.
Cael help gyda thystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA
Cysylltwch â’r Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA) os nad ydych yn siŵr a yw’ch cerbyd yn gymwys ar gyfer tystysgrif bod cerbyd yn addas at ddefnydd ym Mhrydain Fawr ar gyfer IVA.
Asiantaeth Ardystio Cerbydau (VCA)ÌýÌýÌýÌý
vehicleimporting@vca.gov.ukÌý
6. Cofrestru cerbyd sydd wedi’i fewnforio
Rhaid ichi gofrestru eich cerbyd gyda DVLA os ydych yn dod ag ef i mewn i’r DU yn barhaol.
Cyn ichi gofrestru’ch cerbyd, rhaid ichi wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) eich bod wedi mewnforio’r cerbyd a chael cadarnhad bod eich cais am Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) yn cael ei brosesu
-
talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch
-
cael tystiolaeth o gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
Bydd angen ichi dalu ffi gofrestru o £55 a threthu eich cerbyd pan fyddwch yn ei gofrestru.
Sut i gofrestru
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer cofrestru cerbyd i lenwi’ch ffurflenni ac anfon dogfennau ategol.
Gallwch hefyd anfon unrhyw ddogfennau ategol ar gyfer cerbyd sydd wedi’i fewnforio.
Efallai y bydd DVLA yn gofyn i archwilio’r cerbyd.
Dogfennau ategol ychwanegol ar gyfer cerbydau sydd wedi’u mewnforio
Mae’n rhaid ichi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:
-
tystiolaeth o gymeradwyaeth ar gyfer cerbyd
-
ffurflen V267 (weithiau yn cael ei alw’n ‘datganiad o fod yn newydd’) os ydych yn cofrestru cerbyd newydd
-
tystiolaeth sy’n dangos y dyddiad y cafodd y cerbyd ei gasglu, er enghraifft yr anfoneb gan y cyflenwr
-
y dystysgrif gofrestru tramor wreiddiol i ddangos pryd y cafodd y cerbyd ei gynhyrchu (ni fyddwch yn cael hyn yn ôl)
-
ffurflen (V627/3W) os yw’r cerbyd wedi’i addasu’n strwythurol y tu hwnt i fanyleb y gwneuthurwr
Mae angen ichi ddarparu gwahanol ddogfennau os ydych yn dod â cherbyd yn ôl i’r DU sydd wedi’i gofrestru o’r blaen.
Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, efallai y bydd DVLA yn derbyn tystiolaeth arall o’r dyddiad gweithgynhyrchu, er enghraifft llythyr gan y gwneuthurwr neu glwb selogion cerbydau.
Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’ch tystysgrif gofrestru (V5CW) gyrraedd.
Mae angen y V5CW arnoch i drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
7. Dod â cherbyd yn ôl i’r DU
Rhaid ichi gofrestru cerbyd pan fyddwch yn ei ail-fewnforio i’r DU os:
-
yw wedi’i gofrestru yn y DU yn flaenorol
-
yw wedi cael ei allforio i wlad arall
Dylech wneud y canlynol:
-
Rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) o fewn 14 diwrnod bod y cerbyd wedi cyrraedd y DU.
-
Talu unrhyw TAW a tholl dramor sy’n ddyledus arnoch.
-
Cofrestru a threthu’r cerbyd gyda DVLA - byddant yn rhoi rhif cofrestru ichi fel y gallwch drefnu i blatiau rhif gael eu gwneud.
Nid oes angen ichi gael cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd.
Mae’n rhaid ichi hefyd yswirio’ch cerbyd cyn ichi ei yrru ar ffyrdd y DU.
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi, gwiriwch a allwch ei gofrestru yn y DU cyn i chi ei fewnforio.
Bydd arnoch angenÌýdogfennau ategol ychwanegolÌýi gofrestru cerbyd sydd wedi’i addasu’n strwythurol.
Pan fyddwch yn cofrestru cerbyd wedi’i ail-fewnforio
Unwaith y bydd eich cerbyd wedi pasio ei MOT, dylech gofrestru a threthu’r cerbyd. Nid oes angen ichi dalu’r ffi o £55.
Rhaid ichi anfon y dogfennau gwreiddiol canlynol:
-
tystiolaeth sy’n dangos unrhyw newidiadau a wnaed i’r cerbyd, er enghraifft anfoneb i ddangos newidiadau lliw neu newidiadau injan
-
y dystysgrif gofrestru dramor wreiddiol (ni fyddwch yn cael hon yn ôl)
Os nad oes gennych y dystysgrif o gofrestru dramor wreiddiol, anfonwch lythyr i DVLA i esbonio pam nad yw gennych.
Peidiwch ag anfon llungopïau na chopïau sydd wedi’u ffacsio.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y fforddÌý
Pan fyddwch yn ail-fewnforio’ch cerbyd i’r DU, mae angen ichi ei dynnu oddi ar y ffordd os na allwch neu os nad ydych eisiau cael MOT. Er enghraifft, os nad ydych am drethu eich cerbyd oherwydd eich bod yn bwriadu ei werthu neu oherwydd nad yw’ch cerbyd yn addas i’ch ffordd eto.
Os yw’ch cerbyd oddi ar y ffordd, mae angen ichi wneud hysbysiad oddi ar y ffordd statudol (HOS).Ìý
Mae angen ichi gofrestru’r cerbyd o hyd os ydych yn gwneud HOS. Yna byddwch yn cael llyfr log cerbyd (V5CW).
8. Mewnforion dros dro
Fel arfer, gallwch ddefnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor heb ei gofrestru na’i drethu yn y DU os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
rydych yn ymweld ac nad ydych yn bwriadu byw yma
-
mae’r cerbyd wedi’i gofrestru a’i drethu yn ei wlad wreiddiol
-
dim ond am hyd at 6 mis i gyd y byddwch yn defnyddio’r cerbyd - gall hyn fod yn un ymweliad, neu sawl ymweliad byrrach dros 12 mis
Bydd angen ichi gofrestru’ch cerbyd os ydych am ei symud rhwng Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a Gogledd Iwerddon.
Os byddwch yn dod yn breswylydd neu’n aros am fwy na 6 mis, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i Gymru, Lloegr neu’r Alban
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych yn ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych yn ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
byddwch yn ei ail-allforio o’r DU cyn pen 6 mis - neu’n hirach os ydych yn gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
os ydych yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
Ni fydd yn rhaid ichi dalu TAW na tholl dramor os byddwch yn dod â’ch cerbyd eich hun o’r UE.
Ffoniwch y llinell gymorth mewnforio ac allforio os oes gennych gwestiynau am ddod â cherbyd o’r UE am lai na 6 mis.
Os ydych yn dod â cherbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r tu allan i’r UE
Nid ydych yn talu TAW na tholl dramor ar gerbyd os ydych yn ei fewnforio dros dro ac mae pob un o’r canlynol yn berthnasol:
-
mae at eich defnydd preifat eich hun
-
nid ydych yn breswylydd yn y DU
-
nid ydych yn ei werthu, ei fenthyg na’i hurio o fewn y DU
-
rydych yn ei ail-allforio o’r DU o fewn 6 mis - neu’n hirach os ydych yn gymwys i ddefnyddio platiau rhif tramor am gyfnod hirach
Hawliwch ryddhad drwy lenwi ffurflen C110 (yn agor tudalen Saesneg) a mynd â’ch cerbyd drwy’r sianel ‘dim byd i’w ddatgan’ pan fyddwch yn cyrraedd y DU.
Defnyddio platiau rhif tramor am fwy na 6 mis
Efallai y byddwch yn gallu defnyddio cerbyd gyda phlatiau rhif tramor am fwy na 6 mis os:
-
ydych fel arfer yn byw yn y DU
-
ydych chi yn y DU am gyfnod penodol fel myfyriwr neu weithiwr
Os byddwch yn aros ar ôl i’ch rhyddhad tollau ddod i ben, rhaid ichi gofrestru a threthu’ch cerbyd yn y DU – dilynwch y camau ar gyfer mewnforio cerbyd.
Os ydych yn cael eich stopio gan yr heddlu
Rhaid ichi ddangos i’r heddlu y gallwch ddefnyddio’r cerbyd yn y DU heb ei drethu a’i gofrestru yma, er enghraifft tystiolaeth:
-
o’r amser rydych wedi bod yn y DU (fel tocyn fferi)
-
bod eich cerbyd yn gymwys i gael rhyddhad rhag TAW a tholl dramor fel mewnforyn dros dro, fel llythyr gan CThEF
Pan fydd angen platiau rhif Q arnoch
Rhaid ichi gael platiau rhif Q dros dro gan y DVLA os ydych yn ymweld â’r DU am hyd at 6 mis a’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:
-
mae eich platiau rhif yn dangos rhifau neu lythrennau nad ydynt yn adnabyddadwy yn y DU, er enghraifft sgript Arabeg
-
nid yw’ch cerbyd wedi’i gofrestru yn ei wlad wreiddiol
Cysylltwch â DVLA os oes rhaid ichi gael platiau rhif Q dros dro.
Cyn ichi gael platiau rhif Q
Rhaid ichi hawlio rhyddhad rhag TAW a tholl dramor cyn y gallwch gael platiau rhif Q dros dro.
I hawlio rhyddhad, llenwch ffurflen C110 ar ôl i’r car gyrraedd y DU a’i hanfon i dîm NTAS i’w stampio.
NTAS team
Second Floor West
Ralli Quays
3 Stanley Street
Salford
M60 9LA
9. Talu TAW ar fewnforion cerbydau i Ogledd Iwerddon o’r UE
Mae angen i chi dalu Cyllid a Thollau EF (CThEF) cyn i chi gofrestru cerbyd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
-
os wnaethoch chi fewnforio cerbyd i mewn i Ogledd Iwerddon o’r UE
-
os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW neu eich bod yn unigolyn preifat
Yr hyn bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad
Defnyddiwch eich rhif cyfeirnod Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) 13 o gymeriadau pan fyddwch chi’n talu. Gallwch gael hyd iddo:
-
ar yr e-bost anfonodd CThEF atoch os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth NOVA
-
ar yr hysbysiad talu anfonodd CThEF atoch
Peidiwch â gadael unrhyw fylchau rhwng y cymeriadau yn eich cyfeirnod.
Talu ar-lein
Gallwch dalu’n uniongyrchol gan ddefnyddio’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol. Pan fyddwch chi’n barod i dalu, dechreuwch eich taliad am fewnforio cerbydau i mewn i’r DU.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu symudol i gymeradwyo’ch taliad.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y TÅ· Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr)
-
drwy’ch cyfrif banc ar-leinÌý
-
drwy ffonio’ch banc
Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
cod didoli - 08 32 00
-
rhif y cyfrif - 12000903
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Os ydych yn talu o gyfrif banc tramor
Talwch i mewn i’r cyfrif CThEF hwn:
-
rhif y cyfrif (IBAN) - GB20 BARC 2005 1730 3364 91
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
-
enw’r cyfrif - HMRC Indirect Miscellaneous
Dylai taliadau tramor fod mewn sterling, ac mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEM ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.Ìý
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.Ìý
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.Ìý
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
10. Mewnforio cerbyd sydd wedi’i ddifrodi neu ei achub
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi neu ei achub, efallai y bydd DVLA yn:
-
rhoi rhif adnabod cerbyd (VIN) newydd i’ch cerbyd
-
rhoi marciwr ar lyfr log eich cerbyd (V5CW) - i ddangos bod eich cerbyd wedi’i newid neu ei adeiladu gan ddefnyddio gwahanol rannau
Os yw’ch cerbyd wedi’i ddifrodi
Os yw’ch cerbyd wedi’i ystyried fel un sydd wedi’i ddifrodi’n ddifrifol, ni fyddwch yn gallu ei gofrestru yn y DU. Ni fyddwch yn cael eich ad-dalu am unrhyw ffi TAW a tholl dramor neu ffi cymeradwyaeth ar gyfer cerbyd a dalwyd gennych cyn ceisio cofrestru’r cerbyd.
Mae difrod difrifol yn golygu na ellir atgyweirio’r cerbyd - gallai ddweud rhywbeth fel ‘gwerth dim yn statudol’, ‘wedi sgrapio’ neu ‘y tu hwnt i atgyweirio’ ar y dystysgrif gofrestru.
Gwiriwch gyda’r awdurdod cofrestru ar gyfer y wlad y mae’r cerbyd yn dod ohoni os yw’r cerbyd wedi’i ‘ddifrodi’n ddifrifol’.
Os nad yw wedi cael ei ‘ddifrodi’n ddifrifol’, gofynnwch iddynt ddarparu tystiolaeth o hyn – bydd angen hyn arnoch i gofrestru a threthu’r cerbyd yn y DU.