Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif
Printable version
1. Mewngofnodi neu greu cyfrif
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn gallu bwrw golwg dros bethau fel eich cyfrif treth busnes neu’ch cyfrif treth personol, Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE i gyflogwyr, TAW a Chynllun y Diwydiant Adeiladu.
Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pa fanylion mewngofnodi i’w defnyddio
Mae 2 ffordd o fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF, sef:
- Porth y Llywodraeth – mewngofnodi gan ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) (hyd at 12 o gymeriadau) a chyfrinair
- °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login – mewngofnodi gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Os ydych eisoes yn defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch barhau i ddefnyddio’r manylion mewngofnodi sydd gennych. Er enghraifft:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth – hyd yn oed os oes gennych fanylion mewngofnodi °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login o wasanaeth arall y llywodraeth
- manylion mewngofnodi °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login – ar gyfer gwasanaethau treth bersonol
Os nad ydych erioed wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Dewiswch ‘Creu manylion mewngofnodi newydd’ wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF, hyd yn oed os oes gennych fanylion mewngofnodi °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login o wasanaeth arall y llywodraeth neu danysgrifiad e-bost.
Bydd y gwasanaeth yn eich tywys i greu manylion mewngofnodi Porth y Llywodraeth neu °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login.
Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda’ch cyfrif ar-lein CThEF
Gallwch gael mynediad at wahanol wasanaethau drwy’r dulliau canlynol:
- eich cyfrif treth personol
- eich cyfrif treth busnes
- cyfrifon asiantau treth (yn agor tudalen Saesneg)
Gwasanaethau yr ydych yn mewngofnodi iddynt ar wahân
Mae yna ffordd wahanol i fewngofnodi ar gyfer:
2. Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF os ydych yn cael problemau wrth ddefnyddio Porth y Llywodraeth.
Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll
Gallwch adfer neu ailosod eich manylion mewngofnodi os ydych wedi eu colli. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hyn pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi.
Problemau wrth gael cod mynediad
Gallwch newid y ffordd rydych yn cael eich cod mynediad.
Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Dewiswch ‘Gallwch gael help’ pan fydd gofyn i chi am god mynediad a dilyn y camau hyn.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi.
Gallwch gael cod drwy neges destun, galwad llais neu ap dilysu.
Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif
Os ydych yn nodi’r manylion mewngofnodi anghywir gormod o weithiau, byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif.
Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif.
Argaeledd a phroblemau ynghylch y gwasanaeth
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda gwasanaethau (yn agor tudalen Saesneg).
Rhagor o help
Gallwch am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.
Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.
Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: