°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Newid manylion cerbyd ar dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log)

Printable version

1. Pan fydd angen ichi ddiweddaru’ch V5CW

Rhaid ichi ddiweddaru’r manylion ar eich tystysgrif gofrestru (V5CW) i ddweud wrth DVLA am:

  • gamgymeriadau ar eich V5CW

  • y rhan fwyaf o newidiadau a wnewch i’ch cerbyd

Ni allwch newid dosbarth treth drwy ddiweddaru eich V5CW. Rydych yn gwneud hyn drwy newid eich treth cerbyd - hyd yn oed os ydych yn newid i ddosbarth treth sydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd, er enghraifft ‘anabl’.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Newidiadau y mae’n rhaid ichi eu rhoi yn eich V5CW

Rhaid ichi ddiweddaru eich V5CW pan rydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

  • lliw

  • injan

  • capasiti silindr (cc)

  • math o danwydd – er enghraifft, os ydych yn trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan

  • capasiti seddi

  • pwysau cerbyd mawr, er enghraifft cerbyd nwyddau neu fan wersylla

  • siasi, cragen gorff neu ´Ú´Ú°ùâ³¾ beic modur (os yw eu maint neu eu hymddangosiad yn wahanol i’r adeg y gwnaed eich cerbyd – cael gwybod am addasiadau strwythurol

Dweud wrth DVLA am newidiadau tebyg am debyg

Hyd yn oed os nad ydych yn newid ymddangosiad neu ddimensiynau gwreiddiol y cerbyd, rhaid ichi ddweud wrth DVLA os ydych yn adfer neu’n amnewid y canlynol ar eich cerbyd:

  • siasi
  • siasi a chragen gorff gyfunol (a elwir weithiau yn ‘gragen corff unigol’)
  • ´Ú´Ú°ùâ³¾ beic modur

Nid oes angen ichi ddiweddaru’ch V5CW ond rhaid ichi ddweud wrth DVLA gan ddefnyddio ‘Datganiad am rannau cerbyd’ (V627/1W).

Cael gwybod am atgyweiriadau ac adferiadau.

Newidiadau y gallai fod angen eu harchwilio

Rhaid ichi hefyd ddiweddaru eich V5CW os ydych yn newid unrhyw un o’r canlynol:

Bydd DVLA yn dweud wrthych os oes angen iddynt archwilio’r newid.

2. Pa dystiolaeth i'w rhoi

Rhaid ichi roi tystiolaeth neu gadarnhad ysgrifenedig i DVLA os ydych yn gwneud unrhyw un o’r newidiadau canlynol i’ch cerbyd. Bydd eich diweddariad V5CW yn cael ei wrthod os na wnewch hynny.

Newid rhif injan neu gapasiti silindr (cc)

Mae angen ichi ddarparu un o’r canlynol:

  • derbynneb am yr injan newydd sy’n cynnwys rhif yr injan a’r capasiti silindr

  • tystiolaeth ysgrifenedig gan y gwneuthurwr

  • adroddiad archwilio a ddarperir at ddibenion yswiriant

  • cadarnhad ysgrifenedig ar bapur pennawd gan garej (os digwyddodd y newid cyn ichi brynu’r cerbyd)

Newid y math o danwydd

Mae angen ichi ddarparu tystiolaeth os:

  • yw eich injan bresennol wedi’i throsi – rhaid i’r cadarnhad fod ar bapur pennawd gan y garej a wnaeth y gwaith

  • yw injan newydd wedi’i gosod – bydd angen ichi anfon y dderbynneb

  • ydych wedi trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan

Newid siasi, cragen corff unigol neu ´Ú´Ú°ùâ³¾, neu drosiad trydan

Bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth gyda’ch diweddariadau V5CW, os ydych wedi:

  • newid (‘addasu’) neu amnewid siasi eich cerbyd

  • addasu neu amnewid siasi a chragen gorff gyfunol eich cerbyd (cragen corff unigol)

  • addasu neu amnewid ´Ú´Ú°ùâ³¾ eich beic modur

  • trosi eich cerbyd i redeg ar drydan

Os nad ydych yn newid golwg a maint gwreiddiol y cerbyd

Os ydych wedi amnewid siasi, cragen corff unigol neu ´Ú´Ú°ùâ³¾ heb newid dimensiynau na golwg y cerbyd ers iddo gael ei wneud gyntaf, rhaid ichi ddarparu:

  • y dystysgrif gofrestru V5CW ddiweddaraf neu ffurflen gais V62W

  • V627/1W Datganiad am rannau cerbyd

  • V5CW y cerbyd y mae unrhyw ran amnewid yn dod ohono, os nad ydych yn defnyddio rhannau newydd

  • anfoneb neu dderbynneb sy’n cynnwys manyleb y siasi newydd - gallwch anfon yr un gwreiddiol neu lungopi

Rhaid ichi anfon ffotograffau o’r canlynol i gyd:

  • y cerbyd cyfan, gan gynnwys ei flaen, ei gefn, ei ochrau, ei du mewn a’i blât rhif cofrestru

  • rhif injan y cerbyd

  • y stamp neu blât rhif adnabod cofrestru’r cerbyd (VIN) ar yr hen siasi neu ´Ú´Ú°ùâ³¾ sy’n cael ei amnewid

  • yr hen sticer VIN - fel arfer gallwch ddod o hyd iddo ger drws y gyrrwr neu ar y panel deialau ger y ffenestr flaen ar ochr y gyrrwr

Os ydych wedi gwneud addasiad strwythurol neu drosiad i drydan

Mae gan eich cerbyd addasiad strwythurol os ydych wedi newid (‘addasu’) y dimensiynau neu’r ymddangosiad gwreiddiol ac unrhyw un o’r canlynol:

  • ²õ¾±²¹²õ¾±Ìý

  • cragen corff unigol

  • ´Ú´Ú°ùâ³¾

Os ydych wedi trosi’ch cerbyd i redeg ar drydan, mae’n cyfrif fel addasiad.

Rhaid ichi anfon y dystiolaeth ganlynol o’r addasiad strwythurol neu’r trosiad trydan pan rydych yn diweddaru’ch V5CW:

Newid pwysau cerbyd mwy

Os ydych yn newid pwysau cerbyd mawr (er enghraifft, fan wersylla neu gerbyd nwyddau), bydd angen ichi ddarparu naill ai:

  • tystysgrif platio

  • tystysgrif pwysau dylunio

Newid y math o gorff yn garafán modur

Gwiriwch pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch pan rydych yn trosi fan yn fan wersylla neu garafán fodur.

3. Sut i ddiweddaru eich V5CW

Llenwch adran 1 os oes gennych lyfr log steil newydd gyda blociau wedi’u rhifo amryliw ar y clawr blaen. Llenwch adran 7 os oes gennych y llyfr log steil hŷn.

Anfonwch ef i DVLA gydag unrhyw dystiolaeth angenrheidiol.

Os nad yw’r newid wedi’i restru yn adran 1 neu 7, ychwanegwch nodiadau at yr adran ‘manylion y cerbyd’ yn lle hynny. Anfonwch ef i DVLA gyda thystiolaeth a llythyr yn egluro’r newid.

Ble i anfon eich V5CW

Anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1DZ os gwnaethoch newid unrhyw un o’r canlynol:

  • maint yr injan (cc)

  • math o danwydd

  • pwysau cerbyd nwyddau

  • nifer y seddi ar fws

Ar gyfer pob newid arall, anfonwch eich V5CW i DVLA, Abertawe, SA99 1BA.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd DVLA yn cysylltu â chi i:

  • gadarnhau’r newid neu ddweud wrthych a oes angen archwiliad arno

  • dweud wrthych os yw’r newid yn golygu bod rhaid ichi dalu mwy o dreth cerbyd

Gall gymryd hyd at 2 i 4 wythnos i gael tystysgrif newydd os gwnewch gais drwy’r post.

Cysylltwch â DVLA os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log a bod 4 wythnos wedi mynd heibio ers ichi wneud cais.

Os nad ydych wedi derbyn eich llyfr log ar ôl 6 wythnos ac nad ydych wedi hysbysu DVLA, bydd rhaid ichi dalu £25 i gael un amnewid.