Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Printable version
1. Sut mae’n gweithio
Os na fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn cael ei ohirio’n awtomatig. Nid oes rhaid i chi wneud dim.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pan fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer gallwch chi gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel:
- taliad untro
- taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’)
Gallai unrhyw daliadau ychwanegol a gewch chi o ohirio gael eu trethu.
Mae’r hyn a gewch yn dibynnu ar pryd y byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 os naill ai:
- rydych chi’n ddyn a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951
- rydych chi’n fenyw a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953
Cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 os naill ai:
- rydych chi’n ddyn a aned cyn 6 Ebrill 1951
- rydych chi’n fenyw a aned cyn 6 Ebrill 1953
Os ydych chi’n cael budd-daliadau
Ni allwch chi gronni Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig tra byddwch chi neu’ch partner yn cael rhai budd-daliadau.
Os ydych chi wedi treulio amser yn y carchar
Ni allwch gronni Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig am unrhyw amser rydych chi wedi’i dreulio yn y carchar.
2. Os gyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016
Gallwch gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel:
- taliad ôl-ddyledion untro o hyd at 52 wythnos (12 mis)
- taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol’)
- taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol
Cael taliad ôl-ddyledion untro
Dim ond taliad ôl-ddyledion untro o hyd at 52 wythnos y gallwch ei hawlio.
Os byddwch chi’n gohirio am fwy na 52 wythnos, byddwch chi’n cael y gweddill fel Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Enghraifft
Os byddwch chi’n gohirio’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 52 wythnos, byddwch chi’n cael taliad ôl-ddyledion untro o £12,547.60.
Os byddwch chi’n gohirio’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 27 wythnos, byddwch chi’n cael taliad ôl-ddyledion untro o £6,515.10.
Ni chaiff unrhyw log ei ychwanegu at eich taliad ôl-ddyledion untro.
Cael taliadau rheolaidd uwch
Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ychwanegol ar ben eich taliad rheolaidd.
Rhaid i chi ohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 9 wythnos cyn y gallwch hawlio taliadau rheolaidd uwch.
Am bob 9 wythnos y byddwch yn gohirio, byddwch yn cael 1% wedi’i ychwanegu at eich taliad pensiwn wythnosol rheolaidd am oes.
Mae hyn yn gweithio allan fel ychydig o dan 5.8% am bob 52 wythnos (12 mis) y byddwch yn gohirio.
Enghraifft
Rydych yn cael £241.30 yr wythnos (Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn).
Os byddwch yn gohirio am 52 wythnos, byddwch yn cael £13.99 ychwanegol yr wythnos (5.8% o £241.30).
Os byddwch yn gohirio am 104 wythnos (2 flynedd), byddwch yn cael £27.99 ychwanegol yr wythnos (11.6% o £241.30).
Bydd yn cymryd dros 15 mlynedd i gael 52 wythnos o Bensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn gohiriedig yn ôl. Mae’r amser hwn yn cynyddu tua 1 flwyddyn am bob 52 wythnos ychwanegol y byddwch yn gohirio hawlio.
Cael taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol
Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol.
Enghraifft
Os byddwch yn gohirio eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 78 wythnos (18 mis), gallwch ôl-ddyddio eich hawliad 12 mis a chael taliad ôl-ddyledion untro o £12,547.60.
Am y 26 wythnos ychwanegol a ohiriwyd, byddwch yn cael taliad Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o £6.97 yr wythnos (2.89% o £241.30).
Cynnydd blynyddol
Ar ôl i chi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm ychwanegol a gewch oherwydd eich bod wedi’i ohirio fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn yn seiliedig ar y . Ni fydd yn cynyddu i rai pobl sy’n byw dramor.
Gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig
Gwnewch gais am Bensiwn Newydd y Wladwriaeth gohiriedig.
Mae ffordd wahanol o hawlio os:
- rydych chi’n byw dramor, gan gynnwys yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Cael cymorth
Cysylltwch â Gwasanaeth Pensiwn os oes angen cymorth arnoch.
3. Os gyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallwch gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel naill ai:
- taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’)
- taliad swm unigol
Ni allwch gael taliadau rheolaidd cynyddol a swm unigol (oni bai eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi gohirio cyn 2005).
Pan fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch chi’n cael llythyr yn gofyn sut hoffech chi gael eich pensiwn gohiriedig. Bydd gennych chi 3 mis o’r dyddiad ar y llythyr i benderfynu.
Cael taliadau rheolaidd cynyddol
Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ychwanegol ar ben eich taliadau rheolaidd.
Rhaid i chi ohirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 5 wythnos.
Am bob 5 wythnos rydych chi’n ei ohirio, byddwch chi’n cael 1% o’r swm hwnnw wedi’i ychwanegu at eich taliad rheolaidd am oes.
Mae hyn yn dod i ychydig o dan 10.4% am bob 52 wythnos (12 mis) rydych chi’n ei ohirio.
Enghraifft
Rydych chi’n cael £184.90 yr wythnos (y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn).
Drwy ohirio am 52 wythnos, byddwch yn cael £19.22 ychwanegol yr wythnos (10.4% o £184.90).
Cael taliad untro
Rhaid i chi ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis i gael ‘taliad swm unigol’ untro.
Bydd y swm a gewch yn cynnwys llog o 2% uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Cynnydd blynyddol
Ar ôl i chi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y swm ychwanegol a gewch oherwydd eich bod wedi’i ohirio fel arfer yn cynyddu bob blwyddyn yn seiliedig ar y . Ni fydd yn cynyddu i rai pobl sy’n byw dramor.
Gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig
Gwnewch gais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gohiriedig.
Mae ffordd wahanol o hawlio os:
-
rydych chi’n byw dramor, gan gynnwys yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Cael cymorth
Cysylltwch â llinell hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os oes angen cymorth arnoch.
4. Os ydych yn cael budd-daliadau
Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod rydych yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gofalwr
- Taliad Cymorth Gofalwr
- Budd-dal Analluogrwydd
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Pensiwn Gwraig Weddw
- Lwfans Rhiant Gweddw
- Atodiad Anghyflogadwy
Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod y mae eich partner yn cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
Rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn os ydych ar fudd-daliadau ac rydych eisiau oedi.
Bydd angen i chi oedi am isafswm o amser cyn i’ch Pensiwn y Wladwriaeth dechrau cynyddu. Bydd hyn yn naill ai 9 neu 5 wythnos, yn dibynnu ar pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw amser pan rydych chi neu’ch partner yn cael y budd-daliadau hyn yn cyfri tuag at yr amser hynny.
Taliadau wythnosol uwch
Gallai cymryd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel taliadau wythnosol uwch ostwng y swm a gewch o:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Budd-dal Tai
- Gostyngiad Treth Cyngor
Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallai eich taliadau Credyd Cynhwysol ostwng os ydych yn dewis i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel cyfandaliad.
Taliad Tanwydd Gaeaf
Rydych angen gwneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf os ydych wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dim ond unwaith rydych angen gwneud hyn.
Cael help
Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych angen help i ddeall sut y gallai eich budd-daliadau gael eu heffeithio.
5. Os ydych yn symud dramor
Os ydych yn symud i unrhyw un o’r gwledydd ar y rhestr hon, mae’r rheolau ar gyfer gohirio’r un fath â’r DU:
- gwledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
- Swistir
- gwlad y mae gan y DU gytundeb nawdd cymdeithasol gyda hi (ar wahân i Ganada neu Seland Newydd)
Os ydych yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd y taliad ychwanegol yn aros yr un fath. Ni fydd yn cynyddu neu’n gostwng dros amser.
Os byddwch yn symud i wlad nad yw ar y rhestr, bydd eich taliad ychwanegol yn seiliedig ar swm y Pensiwn y Wladwriaeth y mae gennych hawl iddo ar ba bryd bynnag yw’r hwyraf o’r :
- dyddiad rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- dyddiad rydych wedi symud dramor
Cysylltwch â’r Ganolfan Pensiwn Rhyngwladol os ydych angen help i weithio allan beth y gallech ei gael.
6. Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth sydd wedi’i ohirio
Fel arfer, gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
- roeddech wedi priodi, neu mewn partneriaeth sifil gyda, eich partner pan fuont farw
- roedd eich partner wedi gohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi’u ohirio pan fuont farw
- ni wnaethoch ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2010, mae rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:
-
roeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner
-
roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner, rydych yn fenyw ac roedd eich partner a fu farw yn ŵr i chi
Dim ond os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch dderbyn unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol rydych wedi ei etifeddu.
Os bu farw eich partner cyn gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth
Mae sut y byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner yn dibynnu ar ba mor hir roeddynt wedi gohirio eu pensiwn.
Blwyddyn neu fwy
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth am flwyddyn neu fwy, fel arfer gallwch ddewis i’w etifeddu fel cyfandaliad neu fel taliadau rheolaidd. Byddwch yn cael llythyr gyda’r opsiynau y gallwch eu dewis.
Rhwng 5 wythnos a blwyddyn
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 5 wythnos a blwyddyn, byddwch yn ei etifeddu fel taliadau rheolaidd. Cewch y taliadau hyn gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.
Llai na 5 wythnos
Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth gan lai na 5 wythnos, bydd eu taliadau Pensiwn y Wladwriaeth am yr wythnosau hynny yn mynd yn rhan o’u hystad (cyfanswm eu heiddo, arian a buddsoddiadau).
Os oedd eich partner yn cael eu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn iddynt farw.
Byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner fel taliadau rheolaidd ychwanegol. Cewch y taliadau hyn gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.