°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Sut i brisio ystâd at ddiben Treth Etifeddiant a rhoi gwybod am ei gwerth

Printable version

1. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

I weld a oes Treth Etifeddiant i’w thalu, mae angen i chi brisio arian, eiddo a meddiannau (‘ystâd’) y person a fu farw.

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais am brofiant (os yw’n berthnasol).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi gwblhau 3 prif dasg pan fyddwch yn prisio’r ystâd.

  1. Nodi asedion a dyledion y person megis cynilion, buddsoddiadau, morgeisi a benthyciadau.

  2. Amcangyfrif gwerth yr ystâd. Bydd hyn yn effeithio ar sut yr ydych yn rhoi gwybod am y gwerth, a’r dyddiadau cau ar gyfer rhoi gwybod am, a thalu, unrhyw Dreth Etifeddiant. Nid yw’r rhan fwyaf o ystadau’n cael eu trethu.

  3. Rhoi gwybod am werth yr ystâd – mae’r ffordd rydych yn gwneud hyn yn dibynnu a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd a’i gwerth.

Faint o amser y mae’n ei gymryd

Mae prisio ystâd yn gallu cymryd sawl mis, ond mae’n gallu cymryd mwy o amser os yw’n ystâd fawr neu gymhleth (er enghraifft, os yw’n ymwneud ag ymddiriedolaethau neu os oes treth i’w thalu).

Dyddiadau cau

Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus gan yr ystâd, mae’n rhaid i chi roi gwybod am ei gwerth cyn pen blwyddyn gan ddefnyddio ffurflen IHT400. Ni allwch wneud cais am brofiant hyd nes eich bod wedi gwneud hyn.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddechrau talu Treth Etifeddiant cyn i brofiant gael ei ganiatáu.

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw er mwyn osgoi talu llog.

Cael help

Gallwch gyflogi rhywun proffesiynol (er enghraifft cyfreithiwr) i helpu gyda rhai neu bob un o’r tasgau sy’n gysylltiedig â phrisio ystâd.

Mae gwefan Helpwr Arian yn rhoi arweiniad ynghylch . Mae gwefan Law Donut yn rhoi cyngor ynghylch .

2. Nodi asedion a dyledion

Cyn i chi allu prisio arian, eiddo a meddiannau (ystâd) y person sydd wedi marw, bydd angen i chi adnabod y canlynol:

  • yr hyn yr oedd yn berchen arno (ei asedion)Ìý
  • ei ddyled

Mae asedion yn cynnwys pethau fel cyfrifon banc, cynilion a phensiynau, yn ogystal ag eiddo, nwyddau i’r tŷ ac eitemau personol.

Mae dyledion yn cynnwys pethau fel biliau cyfleustodau, morgeisi ac arian sy’n ddyledus ar gardiau credyd. Maent hefyd yn cynnwys costau angladd, megis cost trefnydd angladdau, carreg fedd neu blac a lluniaeth.

Yna, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

Pa sefydliadau y dylid cysylltu â nhw

Mae sefydliadau sy’n dal asedion yn aml yn cynnwys:

  • banc y person
  • darparwr pensiwn y person – gofynnwch a ddylech gynnwys pensiwn preifat pan fyddwch yn prisio’r ystâd
  • cyflogwr y person – mae’n bosibl bod cyflogau’n ddyledus i’r person
  • unrhyw gwmnïau yr oedd gan y person gyfranddaliadau ynddynt – dylech gynnwys nifer y cyfranddaliadau, manylion y cwmni a rhif tystysgrif y cyfranddaliadau (os oes gennych hwn)
  • Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) ar gyfer Bondiau Premiwm – defnyddiwch y os na allwch ddod o hyd i dystysgrifau
  • sefydliadau eraill sy’n dal asedion fel cyfrifon ISA, cyfranddaliadau, buddsoddiadau neu asedion mewn ymddiriedolaeth (yn agor tudalen Saesneg)
  • y landlord, os oedd gan y person un – efallai ei fod wedi talu rhent ymlaen llaw

Yn eich llythyr i’r banc, dylech hefyd holi ynghylch:

  • unrhyw archebion sefydlog a debydau uniongyrchol sydd i’w stopio (neu sydd i’w trosglwyddo os oeddent mewn enw ar y cyd)
  • rhestr o unrhyw dystysgrifau cyfranddaliadau neu weithredoedd yr oedd y banc yn eu dal ar ran y person a fu farw

Os oedd gan y person forgais

Gofynnwch i’r benthyciwr morgeisi a fydd angen i daliadau barhau tra ydych yn gwneud cais am brofiant. Os felly, bydd yn rhaid i chi wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • talu’r biliau hyn eich hunan – a’u hawlio’n ôl o’r ystâd unwaith y bydd gennych brofiant
  • gwirio a oedd gan y person aswiriant bywyd neu bolisi diogelu morgais sy’n cwmpasu’r taliadau hyn

3. Amcangyfrif gwerth yr ystâd

Bydd angen amcangyfrif arnoch o werth yr ystâd (arian, eiddo a meddiannau’r person a fu farw) er mwyn canfod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.Ìý

Fel arfer, does dim Treth Etifeddiant i’w thalu os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:

  • mae gwerth yr ystâd o dan y trothwy, sef £325,000
  • rydych yn gadael popeth sydd uwchben y trothwy o £325,000 i’ch priod, partner sifil, elusen, neu glwb chwaraeon amatur cymunedol

Os mai gweddw oedd y person a fu farw, neu os yw’n rhoi ei gartref i ffwrdd i’w blant, gall y trothwy treth fod yn uwch.

Cyfrifo’ch amcangyfrif

Bydd angen i chi amcangyfrif cyfanswm gwerth yr ystâd. Mae hyn yn cynnwys:

Bydd eich amcangyfrif yn eich helpu i wirio a yw gwerth yr ystâd yn fwy na’r trothwy. Os yw’n fwy na’r trothwy, bydd angen i chi ddarparu prisiadau ar gyfer yr asedion i weld faint o Dreth Etifeddiaeth sy’n ddyledus.

Hefyd, bydd angen eich amcangyfrif arnoch os ydych eisiau gwneud cais am brofiant. Bydd angen i chi wneud hyn hyd yn oed os nad oes Treth Etifeddiant yn ddyledus.

Gallwch gyfrifo’r amcangyfrif eich hun, neu gallwch ddefnyddio’r gwiriwr Treth Etifeddiant.

Gwirio a oes angen i chi dalu Treth Etifeddiant

Bydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:

  • rhoi amcangyfrif i chi o werth yr ystâd
  • eich helpu i benderfynu a oes unrhyw Dreth Etifeddiant yn debygol o fod yn ddyledus ai peidio

Ni fydd yr offeryn hwn yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo swm y Dreth Etifeddiant sy’n ddyledus
  • rhoi gwybod i CThEF am werth terfynol yr ystâd

Gallwch gadw ac argraffu eich canlyniadau unwaith i chi ateb yr holl gwestiynau.

Cyn i chi ddechrau, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • manylion asedion y person, gan gynnwys asedion ar y cydÌý
  • manylion unrhyw roddion a wnaeth

Prisio’r asedion

Dechreuwch drwy restru asedion y person – y pethau yr oedd yn berchen arnynt ac oedd â gwerth ariannol. Yna, cyfrifwch neu amcangyfrifwch werth pob un ar y dyddiad y bu farw’r person.

Gallai’r rhain gynnwys:

  • ei gartref
  • unrhyw eiddo arall, adeiladau eraill neu dir arall
  • arian mewn banciau, cymdeithasau adeiladu neu gyfrifon ISA, neu arian parod yn ei gartref
  • stociau a chyfranddaliadauÌý
  • eitemau i’r tÅ· ac eitemau personol, gan gynnwys hynafolion, nwyddau trydanol, dodrefn, gemwaith, paentiadau a chasgliadau o stampiau
  • ceir, carafannau neu gychod
  • asedion tramor, megis eiddo tramor
  • cryptoasedion (fel crypto-arian neu bitcoin)
  • arian sy’n ddyledus iddo – er enghraifft, cyflogau neu ad-daliadau o filiau’r cartref
  • taliadau pan fu farw’r person – er enghraifft, yswiriant bywyd neu gyfandaliad ‘buddiant marwolaeth’ o bensiwn

Dylech gynnwys pob ased yn eich amcangyfrif. Mae hyn yn cynnwys unrhyw asedion oedd wedi’u gadael i briod neu bartner sifil y person, neu i elusen – ni fyddwch yn talu treth ar yr asedion hyn.

Am bethau fel cyfrifon banc, cyfrifon ISA a phensiynau, dylech gysylltu â’r sefydliad perthnasol er mwyn cael ffigur manwl gywir.Ìý

Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.

Prisio asedion ar y cyd

Mae angen i chi ganfod pa asedion yr oedd y person yn berchen arnynt ar y cyd â rhywun arall, a sut y perchenogwyd yr asedion hynny.

Mae’r rheolau ar gyfer prisio asedion ar y cyd, megis eiddo, gemwaith neu baentiadau, yn amrywio yn dibynnu a oedd y bobl dan sylw yn berchen arnynt fel:

  • ‘cyd-denantiaid’ (‘cydberchnogion’ yn yr Alban)
  • ‘tenantiaid cydradd’ (‘perchnogion cydradd’ yn yr Alban)

Cyd-denantiaid

Mae cyd-denantiaid yn trosglwyddo unrhyw asedion, megis tir neu eiddo, yn awtomatig i’r perchnogion eraill os bydd un ohonynt yn marw.Ìý

Os perchenogwyd yr ased, megis tir neu eiddo, fel cyd-denant gyda phriod neu bartner sifil y person, rhannwch werth yr ased â 2.

Os perchenogwyd y tir neu’r eiddo gyda chyd-denantiaid eraill, er enghraifft ffrindiau, brodyr neu chwiorydd, gwnewch y naill a’r llall o’r canlynol:

  • rhannu’r gwerth â nifer y perchnogion
  • didynnu 10% oddi wrth gyfran y person a fu farw

Enghraifft

Roedd y person a fu farw yn berchen ar eiddo fel cyd-denant gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw, sy’n rhoi cyfran o £50,000 iddo (£200,000 wedi’u rhannu â 4).

Ar ôl didynnu 10% (£5,000) o’i gyfran £50,000, y gwerth terfynol yw £45,000 (£50,000 - £5,000 = £45,000).

Yn yr Alban, os perchenogwyd tir neu eiddo ar y cyd â phobl eraill (ac eithrio priod neu bartner sifil), didynnwch £4,000 oddi wrth werth yr ased cyfan cyn cyfrifo cyfran y person.

Enghraifft

Roedd y person a fu farw yn gyd-berchen ar eiddo yn yr Alban gyda 3 o bobl eraill. Gwerth yr eiddo yw £200,000 ar y dyddiad y bu farw.

Ar ôl i £4,000 gael eu didynnu oddi wrth gyfanswm gwerth yr eiddo, mae £196,000 yn weddill (£200,000 - £4,000).

Ar ôl rhannu hyn â nifer y perchnogion, ei gyfran o’r eiddo yw £49,000 (£196,000 wedi’u rhannu â 4).

Er mwyn prisio cyfrif banc ar y cyd, rhannwch y swm â nifer y deiliaid cyfrif, oni bai bod y cyfrif yn un ar y cyd er cyfleustra yn unig. Er enghraifft, efallai y bydd person hŷn yn ychwanegu ei blentyn er mwyn ei helpu gyda’r cyfrif. Os felly, defnyddiwch y swm yr oedd y person yn berchen arno mewn gwirionedd.

Tenantiaid cydradd

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer tenantiaid cydradd, gan nad yw tenantiaid cydradd yn trosglwyddo unrhyw asedion y maent yn berchen arnynt ar y cyd yn awtomatig.

Os oedd y person a fu farw yn berchen ar eiddo neu dir ar y cyd fel tenant cydradd, cyfrifwch y gwerth yn seiliedig ar ei gyfran.

Cyfrifo gwerth unrhyw roddion

Mae angen i chi gyfrifo gwerth unrhyw roddion a wnaed gan y person a fu farw.

Mae rhoddion dim ond yn cyfrif tuag at werth yr ystâd os yw’r canlynol yn wir amdanynt:

  • cawsant eu rhoi yn ystod y 7 mlynedd cyn i’r person farwÌý
  • roedd cyfanswm eu gwerth mewn unrhyw flwyddyn dros yr esemptiad blynyddol, sef £3000

Os bydd person yn byw am 7 mlynedd ar ôl gwneud rhodd, ni fydd Treth Etifeddiant i’w thalu.

Mae unrhyw rodd yr oedd person yn parhau i gael budd ohoni cyn iddo farw hefyd yn cyfrif tuag at werth ystâd – er enghraifft, os gwnaeth y person roi tŷ i ffwrdd ond byw ynddo’n ddi-rent (yr enw ar hyn yw ‘rhodd â budd amodol’).

Os nad ydych yn siŵr pryd y dylech gynnwys rhodd, gwiriwch y rheolau ar roi rhoddion

Yr hyn sy’n cyfrif fel rhodd

Gall rhodd gynnwys:

  • arian
  • nwyddau’r tÅ· a nwyddau personol, er enghraifft dodrefn, gemwaith neu hynafolion
  • tÅ·, tir neu adeiladau
  • stociau a chyfranddaliadau sydd wedi’u rhestru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain
  • cyfranddaliadau heb eu rhestru, a ddaliwyd am lai na 2 flynedd cyn i’r person farw
  • cryptoasedion (fel crypto-arian neu bitcoin)

Gwirio am roddion

Gallwch wirio am roddion drwy wneud y canlynol:

  • darllen drwy gyfriflenni banc
  • siarad ag aelodau o’r teulu
  • edrych drwy ddogfennau ariannol

Cofnodwch werth unrhyw rodd a’r dyddiad rhoddi.Ìý

Amcangyfrif gwerth y rhodd

Er mwyn amcangyfrif gwerth y rhodd sydd ddim yn arian parod, defnyddiwch y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • amcangyfrif o werth y rhodd ar yr adeg y cafodd ei rhoi (pris gwerthu realistig)
  • pris realistig ar gyfer gwerthu’r rhodd, os oedd y person a fu farw yn parhau i gael budd o’r rhodd ar ôl ei rhoi i ffwrdd (sef ‘rhodd â budd amodol’)

Rhoddion sydd wedi’u heithrio rhag Treth Etifeddiant

Nid yw pob rhodd yn cyfrif tuag at werth yr ystâd gan eu bod wedi cael eu heithrio rhag Treth Etifeddiant, fel y canlynol:

  • asedion a drosglwyddwyd i briod neu bartner sifilÌý
  • rhoddion i elusennau, pleidiau gwleidyddol, cymdeithasau tai, cyrff treftadaeth (er enghraifft yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a sefydliadau eithriedig eraill
  • rhoddion bychan o £250 neu lai
  • rhoddion priodas a phartneriaeth sifilÌýÌý
  • taliadau cyson (megis rhent a dalwyd ar ran aelod o’r teulu)

Dyledion

Peidiwch â chynnwys dyledion yr ystâd wrth amcangyfrif ei gwerth. Fodd bynnag, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) am unrhyw ddyledion wrth roi gwybod am y gwerth.

Gwiriwch am gofnodion o ddyledion pan fu farw’r person, er enghraifft:

  • ei forgais, benthyciadau, cardiau credyd neu orddrafftiau
  • biliau’r cartrefÌý
  • biliau am nwyddau neu wasanaethau yr oedd y person wedi’u cael ond heb dalu amdanynt eto (megis gwaith adeiladu, peintwyr a phapurwyr, neu gyfrifwyr)

Yr hyn i’w wneud nesaf

Gwiriwch a oes angen i chi anfon manylion llawn am werth yr ystâd.

4. Gwirio a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd

Mae p’un a oes angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd yn dibynnu ar sawl peth, gan gynnwys a oes Treth Etifeddiaeth i’w thalu.

Mae ‘manylion llawn’ yn golygu asedion, dyledion, rhoddion, rhyddhadau ac eithriadau sydd gan ystâd, Bydd y rhain yn rhoi cyfanswm gwerth yr ystâd i chi.

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir.

Os yw Treth Etifeddiant yn ddyledus

Gallwch ddefnyddio’r gwiriwr ar-lein i gael gwybod a oes Treth Etifeddiant i’w thalu.

Os oes Treth Etifeddiant i’w thalu, bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, a chyn gwneud cais am brofiant.

Pryd i anfon manylion llawn am yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus

Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth i’w thalu, os yw un o’r canlynol yn wir am y person a fu farw:

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 12 mis i farwolaeth y person.

Os yw’r ystâd yn cynnwys ymddiriedolaethau

Bydd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd os wnaeth y person a fu farw y canlynol:

  • rhoi rhoddion (megis arian parod, eiddo, a chyfrannau) a roddwyd mewn ymddiriedolaethau
  • dal asedion a oedd yn werth mwy na £250,000 mewn ymddiriedolaeth
  • dal mwy nag un ymddiriedolaeth

Bydd hefyd angen i chi anfon manylion llawn am yr ystâd os cafodd asedion a ddelir mewn ymddiriedolaeth eu pasio i briod neu bartner sifil sy’n fyw neu i elusen, ac os mai gwerth yr ymddiriedolaeth oedd:

  • £1 miliwn neu fwy
  • £250,000 neu fwy, ar ôl didynnu’r swm sy’n cael ei basio i’r priod neu’r partner sifil sy’n fyw neu i elusen

Pryd nad oes angen manylion llawn am yr ystâd

Nid oes angen i chi roi manylion llawn am werth ystâd os yw pob un o’r canlynol yn wir:

  • mae’r ystâd yn cyfrif fel ‘ystâd eithriedig’
  • nid oes Treth Etifeddiant i’w thalu
  • rydych wedi gwirio nad yw’r un o’r rhesymau o dan ‘Pryd i anfon manylion llawn am werth yr ystâd, hyd yn oed os nad oes unrhyw dreth yn ddyledus’ yn berthnasol

Mae’r rhan fwyaf o ystadau’n rhai eithriedig.

Beth sy’n cyfrif fel ystâd eithriedig

Mae ystâd fel arfer yn ystâd eithriedig os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

Yr hyn i’w wneud nesaf

Mae’r broses y mae angen i chi ei dilyn yn dibynnu ar y canlynol:

Delio ag ystâd eithriedig

Gallwch roi gwybod am werth ystâd eithriedig os ydych yn gwneud cais am brofiant. Gwiriwch a oes angen profiant arnoch, a gwnewch gais amdano, os felly.

Does dim angen i chi roi gwybod am werth ystâd eithriedig os nad oes angen profiant arnoch.

Mae ffordd wahanol o roi gwybod am ystâd eithriedig os bu farw’r person ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021 (yn agor tudalen Saesneg).

Gwneud cais am brofiant yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon

Mae ffordd wahanol o wneud cais am brofiant os oedd y person a fu farw yn ²Ô±ð³Ü‵µ .

Os oes angen help arnoch gyda phrofiant neu werth ystâd

Cysylltwch â Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF os nad ydych yn sicr a fydd angen profiant arnoch neu os bydd gwerth yr ystâd yn newid.

Y Ganolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Ffôn: 0300 303 0648
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am hyd at 1pm
Ar gau ar wyliau’r banc
Dysgwch am gostau galwadau

E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk

Os oes angen help arnoch gyda Threth Etifeddiant

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau ynghylch Treth Etifeddiant.

5. Os oes Treth Etifeddiant yn ddyledus neu os oes angen manylion llawn am yr ystâd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod holl fanylion llawn am yr ystâd i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy lenwi ffurflen IHT400.Ìý

Mae ‘manylion llawn’ yn golygu asedion, dyledion, rhoddion, rhyddhadau ac eithriadau sydd gan ystâd, Bydd y rhain yn rhoi cyfanswm gwerth yr ystâd i chi.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r ffurflen cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, a chyn gwneud cais am brofiant (os oes ei angen arnoch).

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os byddwch yn methu’r dyddiad cau heb esgus rhesymol.

Cael prisiadau cywir

Bydd angen i chi roi prisiadau cywir wrth i chi lenwi’r ffurflen.

Gallwch gael prisiad o unrhyw eiddo neu dir gan asiant tai neu syrfëwr siartredig.

Gallwch hefyd gael prisiad proffesiynol ar gyfer unrhyw beth sy’n werth dros £1,500.

Gallwch amcangyfrif gwerth asedion rhatach, fel eitemau electronig a nwyddau arferol y tÅ·.Ìý

Ar gyfer eitemau fel ceir, gemwaith a phaentiadau, cyfrifwch faint y byddech wedi’i gael pe byddech wedi’u gwerthu. Gallwch chwilio am eitemau tebyg ar farchnadoedd ar-lein i wneud hyn.

Rhoi gwybod am werth yr ystâd drwy lenwi ffurflen IHT400

Mae angen i chi lawrlwytho a llenwi ffurflen IHT400. Anfonwch hi i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Wrth lenwi a chyflwyno’r ffurflen, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud y canlynol:Ìý

  • ateb bob cwestiwn perthnasolÌý
  • cwblhau ac anfon unrhyw dudalennau ychwanegol perthnasol (a elwir yn ‘atodlenni’)ÌýÌý
  • anfon copi o’r ewyllys yn unig (os oes un) a chynnwys copïau o unrhyw newidiadau swyddogol (a elwir yn ‘godisiliau’) – peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gwreiddiol

Gallwch ddarllen arweiniad ar sut i lenwi ffurflen IHT400.

Os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen

Cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael help gyda llenwi’r ffurflen IHT400.

Ar ôl i chi gyflwyno’r ffurflen

Bydd CThEF yn cyfrifo faint o dreth sy’n ddyledus, yn ogystal ag unrhyw log y gallai fod angen i chi ei dalu. Bydd yn ysgrifennu atoch gyda’i gyfrifiadau ac yn rhoi gwybod i chi beth sy’n digwydd nesaf.

Pryd y gall CThEF gynnal gwiriadau pellach

Weithiau, gall CThEF gynnal gwiriadau pellach ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i darparu (a elwir yn wiriad cydymffurfio).

Gall hyn gynnwys yr Swyddfa Brisio (VO) neu’r tîm Prisio Cyfranddaliadau ac Asedion (SAV) yn gwirio unrhyw brisiadau a ddarperir.

Os nad ydych wedi clywed gan CThEF 14 wythnos ar ôl cyflwyno’ch ffurflen IHT400, ni fydd unrhyw wiriadau pellach yn cael eu cynnal.

Os dewisir eich ffurflen ar gyfer gwiriadau pellach

Bydd CThEF yn ysgrifennu atoch os yw’n cynnal gwiriadau pellach.

Bydd CThEF wedyn yn ffonio i egluro beth mae’n ei wirio. Bydd yn gwneud hyn cyn pen 8 wythnos o ysgrifennu atoch chi.

Os bydd yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth, bydd yn cytuno pryd y bydd angen i chi ei darparu.

Os oes angen i’r VO neu’r SAV wirio prisiadau

Efallai y bydd y VO neu’r SAV yn cysylltu â chi ynglŷn â’r prisiadau rydych chi wedi’u darparu.

Os ydynt yn penderfynu bod unrhyw un o’r asedion yn werth mwy na’r prisiadau a ddarperir, bydd CThEF yn anfon cyfrifiadau newydd atoch unwaith y cytunwyd ar y gwerthoedd.

Rhoi gwybod i CThEF am newidiadau i werth yr ystâd

Mae angen i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau unwaith y bydd y gwerthoedd yn derfynol neu 18 mis ar ôl i’r person farw, pa un bynnag sydd gyntaf.

Os nad yw’r gwerthoedd yn derfynol neu os yw’n llai na 18 mis ers i’r person farw, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF dim ond os yw’r canlynol yn wir:

  • mae newid yng ngwerth tir, adeiladau neu gyfranddaliadau heb eu rhestruÌý
  • rydych wedi gwerthu tir neu gyfranddaliadau ar golledÌý
  • rydych wedi gwerthu unrhyw asedion yr oeddech chi’n talu treth fesul rhandaliadÌý
  • mae gwerth yr ystâd wedi cynyddu neu ostwng gan fwy na £50,000 cyn unrhyw esemptiadau neu ryddhadauÌý
  • fe wnaeth y person a fu farw rodd â budd amodol neu roedd yn ‘fuddiolwr’ mewn ymddiriedolaeth pan fu farw
  • mae gwiriadau pellach yn cael eu cynnal ar yr ystâdÌý

Sut i roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau

Bydd angen i chi lenwi ffurflen cyfrif cywirol (yn agor tudalen Saesneg) neu ar gyfer ystadau yn yr Alban cyfrif a stocrestr gywirol (Yr Alban) (yn agor tudalen Saesneg).Ìý Ar ôl llenwi’r ffurflen, anfonwch at y cyfeiriad ar y ffurflen.

Bydd angen i chi gyfrifo unrhyw dreth ychwanegol sy’n ddyledus a gwneud taliad ar gyfrif i atal unrhyw log rhag cronni. Bydd CThEF yn anfon cyfrifiadau terfynol unwaith y bydd ganddo’r holl fanylion.Ìý

Hawlio rhyddhad ar eiddo neu gyfranddaliadau a werthwyd ar golled

I hawlio rhyddhad ar dir neu adeiladau a werthwyd ar golled cyn pen 4 blynedd i farwolaeth y person, llenwch ffurflen IHT38 (yn agor tudalen Saesneg).

I hawlio rhyddhad ar gyfranddaliadau a werthwyd ar golled cyn pen 12 mis i farwolaeth y person, llenwch ffurflen IHT35 (yn agor tudalen Saesneg)Ìý

Ar ôl llenwi’r ffurflen, anfonwch at y cyfeiriad ar y ffurflen.

Talu Treth Etifeddiant

Mae’n rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r person farw er mwyn osgoi talu llog. Er enghraifft, os bu farw’r person ym mis Ionawr, bydd yn rhaid i chi dalu erbyn 31 Gorffennaf.

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddechrau talu Treth Etifeddiant cyn i chi gael profiant.

Gallwch dalu fesul rhandaliad blynyddol ar gyfer rhai pethau a allai gymryd amser i’w gwerthu, megis tŷ.

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Treth Etifeddiant oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF) o leiaf 3 wythnos cyn talu unrhyw dreth.

Pryd y gallwch wneud cais am brofiant

Bydd CThEF yn anfon cod unigryw atoch sy’n cadarnhau eich bod wedi talu digon o dreth. Fel arfer, cewch hwn cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’ch ffurflen IHT400 neu’ch taliad Treth Etifeddiant ddod i law CThEF, pa un bynnag sydd hwyraf.

Bydd angen y cod hwn arnoch i wneud cais am brofiant yng Nghymru a Lloegr neu gadarnhad yn yr Alban.

Os ydych yn gwneud cais am brofiant yng Ngogledd Iwerddon

Llenwch ffurflen IHT421 (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon at CThEF ynghŷd a ffurflen IHT400.

Bydd CThEF yn llenwi ei ran o ffurflen IHT421 a’i dychwelyd atoch chi. Fel arfer, cewch hwn cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl i’ch ffurflen IHT400 neu’ch taliad Treth Etifeddiant ddod i law CThEF, pa un bynnag sydd hwyraf.

Bydd angen hwn arnoch er mwyn gwneud .

6. Cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion penodol ar ôl prisio ystâd.

Gall Cyllid a Thollau EF (CThEF) ofyn am gael gweld eich cofnodion hyd at 20 mlynedd ar ôl i’r Dreth Etifeddiant gael ei thalu.

Mae’n rhaid i chi gadw copïau o unrhyw:

  • ewyllys
  • copïau o ffurflenni a dogfennau atodol ynghylch Treth Etifeddiant sydd wedi’u llofnodi
  • cofnodion sy’n dangos sut y gwnaethoch gyfrifo gwerth asedion yr ystâd, er enghraifft prisiad asiant tai
  • dogfennau sy’n dangos unrhyw drothwy Treth Etifeddiant sydd heb ei ddefnyddio a all gael ei drosglwyddo i briod neu bartner sifil sy’n fyw
  • cyfrifon terfynol

Cyfrifon terfynol

Dylech gynnwys unrhyw ddogfennau sy’n dangos sut y gwnaethoch ddosbarthu arian, eiddo neu feddiannau personol o’r ystâd, er enghraifft:

  • llythyrau gan CThEF sy’n cadarnhau eich bod wedi talu Treth Etifeddiant
  • derbynebau sy’n dangos dyledion wedi’u talu, er enghraifft biliau cyfleustodau
  • derbynebau ar gyfer eich treuliau yn sgil delio â’r ystâd
  • cadarnhad ar bapur fod y ‘buddiolwyr’ (unrhyw un sydd wedi etifeddu) wedi cael eu cyfran o’r ystâd

Anfonwch gopïau o’r cyfrifon terfynol at bob buddiolwr.