°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf a’i thalu

Printable version

1. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Mae sut rydych yn rhoi gwybod am eich Treth Enillion Cyfalaf yn dibynnu a wnaethoch werthu:

Cyn i chi allu rhoi gwybod am unrhyw enillion, bydd angen y canlynol arnoch:

  • manylion swm yr ased pan wnaethoch ei brynu a’i werthu
  • y dyddiadau pan wnaethoch gymryd perchnogaeth o’r ased a’i waredu
  • unrhyw fanylion perthnasol eraill, megis costau prynu, gwerthu neu wneud gwelliannau i’r ased, ac unrhyw ryddhadau treth y mae gennych hawl iddynt
  • cyfrifiadau ar gyfer pob ennill cyfalaf neu golled gyfalaf rydych yn rhoi gwybod amdanynt

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant eiddo neu dir yn y DU, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu. Nid oes angen i chi roi gwybod am na thalu treth ar unrhyw beth arall y mae ei werth wedi cynyddu.

2. Os gwnaethoch werthu eiddo yn y DU

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am unrhyw Dreth Enillion Cyfalaf sy’n ddyledus ar eiddo preswyl yn y DU cyn pen 60 diwrnod i ddyddiad cwblhau gwerthiant yr eiddo.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llog a chosb os na fyddwch yn rhoi gwybod a thalu mewn pryd.

Os oedd eich eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am eich ennill neu’ch colled eich hun. Mae rheolau arbennig yn berthnasol os ydych yn rhoi eiddo yn y DU i’ch priod, eich partner sifil, neu i elusen.

Cyn i chi ddechrau

Cyfrifwch eich enillion er mwyn cael gwybod a oes rhaid i chi roi gwybod am dreth a’i thalu.

Os ydych yn breswylydd yn y DU, nid oes angen i chi roi gwybod am eich enillion ar-lein os yw cyfanswm eich enillion yn llai na’r lwfans rhydd o dreth.

Rhoi gwybod a thalu ar-lein

Defnyddiwch gyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU er mwyn:

  • rhoi gwybod am unrhyw dreth sy’n ddyledus ar eiddo yn y DU a’i thalu
  • bwrw golwg dros neu newid Ffurflen Dreth flaenorol

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn barod, bydd angen i chi hefyd gynnwys manylion y gwerthiant ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Bydd angen i chi fewngofnodi i roi gwybod a thalu ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Yr hyn y mae angen i chi ei wybod

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad a chod post yr eiddo
  • y dyddiad y cawsoch yr eiddo
  • y dyddiad y gwnaethoch gyfnewid contractau pan oeddech yn gwerthu (neu’n ‘gwaredu’) yr eiddo
  • y dyddiad y gwnaethoch stopio bod yn berchennog ar yr eiddo (dyddiad cwblhau)
  • gwerth yr eiddo pan gawsoch ef
  • gwerth yr eiddo pan wnaethoch ei werthu neu ei waredu
  • costau prynu, gwerthu neu wneud gwelliannau i’r eiddo
  • manylion unrhyw ryddhadau treth, lwfansau neu eithriadau y mae gennych hawl iddynt
  • y math o eiddo, os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein ac yna ei hargraffu a’i hanfon i CThEF.

Bydd CThEF yn anfon cyfeirnod Treth Cyfalaf atoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch i dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych erbyn y dyddiad cau.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am bob gwerthiant a gwarediad o eiddo neu dir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y dyddiad cau, hyd yn oed os nad oes gennych dreth i’w thalu.

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran rhywun arall neu ar ran ystâd

Defnyddiwch eich cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU i roi gwybod ar ran rhywun arall.

Bydd angen tystiolaeth arnoch i ddangos bod gennych ganiatâd i roi gwybod ar ran rhywun arall, megis pŵer atwrnai arhosol. Os yw’r person wedi marw, bydd arnoch angen dyddiad ei farwolaeth.

Ni allwch dalu drwy ddefnyddio’ch cyfrif os ydych yn rhoi gwybod am ennill ar ran ystâd fel cynrychiolydd personol (ysgutor neu weinyddwr). Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i dalu ar ôl i chi roi gwybod am yr ennill.

Cadwch gopi digidol neu brintiedig o’r Ffurflen Dreth ar gyfer eich cofnodion.

Ni allwch fwrw golwg dros na newid Ffurflen Dreth rydych wedi’i chyflwyno ar ran rhywun arall ar-lein. Yn lle hynny, llenwch ffurflen ar-lein, ei hargraffu a’i hanfon i CThEF.

Ni allwch newid Ffurflen Dreth:

  • ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 neu cyn hynny
  • os ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth â’r Ffurflen Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

Os ydych yn rhoi gwybod ar ran ymddiriedolaeth

Bydd angen i chi gael cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) neu Gyfeirnod Unigryw (URN) er mwyn rhoi gwybod am Dreth Enillion Cyfalaf.

Os nad oes gennych un, mae’n rhaid i chi gofrestru’r ymddiriedolaeth gyda CThEF, hyd yn oed os yw’r ymddiriedolaeth fel arfer wedi’i hesemptio.

Os ydych yn ymddiriedolaeth nad yw’n breswyl, mae’n rhaid i chi gyflwyno adroddiad erbyn y dyddiad cau hyd yn oed os nad oes Treth Enillion Cyfalaf i’w thalu.

Os ydych yn ymddiriedolwr corfforaethol

Bydd angen i chi roi gwybod drwy’r post am Dreth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU.

Os nad ydych yn talu wrth i chi roi gwybod

Gallwch dalu ar ôl i chi roi gwybod am eich enillion drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • bancio ar-lein neu dros y ffôn
  • cerdyn debyd neu gredyd
  • siec

Bwrw golwg dros Ffurflen Dreth flaenorol a’i newid

Gallwch ddefnyddio’ch i fwrw golwg dros a newid eich Ffurflenni Treth blaenorol eich hun.

Llenwch ffurflen ar-lein ac yna ei hargraffu a’i hanfon i CThEF os oes angen i chi newid Ffurflen Dreth a wnaethoch ar ran rhywun arall.

Ni allwch newid Ffurflen Dreth:

  • ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 neu cyn hynny
  • os ydych eisoes wedi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer yr un flwyddyn dreth â’r Ffurflen Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

3. Os oes gennych enillion cyfalaf eraill i roi gwybod amdanynt

Os nad yw’ch ennill cyfalaf yn dod o eiddo preswyl yn y DU, gallwch roi gwybod am eich ennill yn y ffyrdd canlynol:

  • mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth ‘Amser Real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf

Cyn i chi ddechrau, bydd angen i chi gyfrifo a oes angen i chi dalu a faint sydd arnoch.

Mae ffordd wahanol i roi gwybod am enillion o eiddo preswyl yn y DU.

Rhoi gwybod mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Gallwch roi gwybod am eich enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi werthu neu waredu ased.

Gallwch gael help gyda’ch Ffurflen Dreth gan gyfrifydd neu gan ymgynghorydd treth.

Ar ôl i chi gyflwyno Ffurflen Dreth, bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn rhoi gwybod i chi faint sydd arnoch, sut i dalu a phryd i dalu.

Rhoi gwybod drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ‘amser real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i roi gwybod am enillion ar asedion a werthwyd gennych yn ystod blwyddyn dreth:

  • 2025 i 2026
  • 2026 i 2027

Mae’n rhaid i chi fod yn preswylio yn y DU i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Ni allwch ei ddefnyddio i roi gwybod ar ran rhywun arall, er enghraifft cleient, ymddiriedolaeth neu ystâd.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth i roi gwybod:

Os ydych wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn barod, bydd angen i chi gynnwys manylion y gwerthiant ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad hefyd.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i chi fewngofnodi i roi gwybod ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

³Ò·É¾±°ù¾±´Ç’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi roi gwybod am eich enillion.

Mae’n rhaid i chi atodi copi o’ch cyfrifiad pan fyddwch yn rhoi gwybod am eich enillion.

Sut i dalu

Ar ôl i chi roi gwybod am eich enillion, bydd CThEF yn anfon llythyr neu e-bost atoch, gan roi cyfeirnod talu i chi sy’n ddechrau gydag ‘X’.

Defnyddiwch eich cyfeirnod talu pan fyddwch yn talu:

Mae’n rhaid i chi roi gwybod erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn dreth ar ôl i chi wneud eich ennill, a thalu erbyn 31 Ionawr. Er enghraifft, os gwnaethoch ennill ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi roi gwybod amdano erbyn 31 Rhagfyr 2026 a thalu erbyn 31 Ionawr 2027.

Os oes angen i chi wneud newid

Bydd angen i chi gyflwyno adroddiad newydd gan ddefnyddio cyfeirnod eich adroddiad sy’n dechrau gydag ‘RTT’. Caiff y cyfeirnod hwn ei anfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi ddefnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf.

4. Dulliau o dalu

Bydd angen eich cyfeirnod talu Enillion Cyfalaf arnoch i wneud taliad. Mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Os gwnaethoch werthu eiddo yn y DU ar neu ar ôl 6 Ebrill 2020, gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod:

  • yn eich cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU, os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein
  • mewn llythyr a anfonwyd atoch gan Gyllid a Thollau EF (CThEF), os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur neu ar ran rhywun arall

Os gwnaethoch ddefnyddio’r gwasanaeth ‘amser real’ ar gyfer Treth Enillion Cyfalaf, gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod mewn llythyr neu e-bost a anfonwyd gan CThEF.

Os gwnaethoch roi gwybod am eich enillion cyfalaf mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad, bydd angen i chi dalu’ch treth fel rhan o’ch bil treth Hunanasesiad.ÌýÌý

Talu ar-lein

Os gwnaethoch roi gwybod am eich Enillion Cyfalaf drwy ddefnyddio’r gwasanaeth amser real

Gallwch i dalu ar-lein â cherdyn debyd neu gredyd.

Bydd CThEF yn derbyn taliad â cherdyn ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.

Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.

Os gwnaethoch roi gwybod am eich enillion drwy ddefnyddio cyfrif Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU

i dalu ar-lein.

Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein

Gallwch ddewis dyddiad talu drwy’ch cyfrif banc ar-lein, cyn belled â’i fod cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.

Trosglwyddiad banc

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS (System Dalu Awtomataidd y TÅ· Clirio) neu Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr):

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf.

Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.

Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Taliadau gan gyfrifon yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Taliadau gan gyfrifon y tu allan i’r DU

Defnyddiwch Rif Cyfrif Banc Rhyngwladol (IBAN) CThEF:

  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • enw’r cyfrif - HMRC Shipley

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Siec

Gallwch anfon siec drwy’r post i CThEF.

CThEF
Direct
BX5 5BD

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu Enillion Cyfalaf, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, ar gefn y siec.

Fel arfer, mae’n cymryd hyd at 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei oedi os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.