°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Sgoriau hylendid bwyd

Printable version

1. Trosolwg

Mae sgoriau hylendid bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta neu brynu bwyd, drwy ddangos i ba raddau y gwnaeth y busnes fodloni safonau diogelwch bwyd pan gafodd ei arolygu ddiwethaf.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhoddir sgoriau i fusnesau fel:

  • bwytai, caffis a siopau tecawê
  • tafarndai a bariau
  • archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill
  • ysgolion, ysbytai a chartrefi gofal

Sut mae busnesau’n cael eu sgorio

Mae cynghorau lleol yn arolygu busnesau bwyd ac yn rhoi sgôr o 0 i 5 iddyn nhw.

Yn ystod arolygiad hylendid bwyd, mae’r cyngor lleol yn archwilio i ba raddau y mae’r busnes yn bodloni cyfraith diogelwch bwyd.

Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gwneud y canlynol:

  • trin, storio a pharatoi bwyd yn ddiogel
  • cadw’r safle’n ddiogel ac yn lân
  • rheoli prosesau a hyfforddiant diogelwch bwyd
³§²µÃ´°ù
5 Da iawn
4 Da
3 Boddhaol ar y cyfan
2 Angen gwella rhywfaint
1 Angen gwella’n sylweddol
0 Angen gwella ar frys

Os yw busnes eisiau gwella neu egluro ei sgôr, gall gyhoeddi ymateb ‘hawl i ymateb’, cyflwyno apêl, neu ofyn am ‘arolygiad ailsgorio’.

2. Dod o hyd i sgôr hylendid bwyd busnes

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn er mwyn darganfod:

  • sgôr hylendid bwyd busnes
  • pryd y cafodd ei arolygu ddiwethaf
  • pa gyngor lleol wnaeth yr arolygiad

Os na allwch ddod o hyd i’r sgôr rydych chi’n chwilio amdani, cysylltwch â thîm diogelwch bwyd lleol y busnes.

Gallwch hefyd weld y sgôr hylendid bwyd ar sticer ar ddrws neu ffenestr y busnes.

Rhaid i fusnesau bwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ddangos eu sticer sgôr hylendid yn ôl y gyfraith.

3. Apelio, egluro neu wella eich sgôr hylendid bwyd

Cyflwyno apêl

Os ydych chi o’r farn nad yw’ch sgôr yn adlewyrchu safonau hylendid bwyd eich busnes ar yr adeg y cafodd ei arolygu, gallwch gyflwyno apêl i’ch cyngor lleol.

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi apelio, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol i ddeall pam maen nhw wedi rhoi’r sgôr honno i chi.

Sut i apelio

I apelio yn erbyn eich sgôr, defnyddiwch ffurflen apelio’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Edrychwch ar y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi beth yw’ch sgôr, er mwyn dysgu:

  • i ba gyfeiriad y mae angen i chi anfon eich ffurflen apêl
  • a allwch apelio mewn ffordd arall, fel drwy e-bost

Os byddwch yn apelio cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael eich sgôr, ni fydd eich cyngor lleol yn cyhoeddi’r sgôr ar-lein. Bydd eich sgôr yn ymddangos fel ‘i’w chyhoeddi’n fuan’, nes i’r cyngor adolygu’ch apêl.

Bydd eich cyngor lleol yn dweud wrthych chi beth yw’r canlyniad cyn pen 21 diwrnod ar ôl cael eich apêl.

Cyhoeddi ymateb ysgrifenedig (‘hawl i ymateb’)

Gallwch ymateb i’ch sgôr hylendid bwyd er mwyn esbonio:

  • sut mae eich busnes wedi gwella ei safonau hylendid bwyd
  • unrhyw beth a effeithiodd ar ganlyniad eich arolygiad

Bydd y manylion cyswllt sydd eu hangen arnoch ar y llythyr sy’n rhoi gwybod i chi beth yw eich sgôr. Os na allwch ddod o hyd iddynt, cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol.

Bydd eich ymateb yn cael ei ddangos ar-lein gyda’ch sgôr.

Gallwch gyflwyno ymateb ar unrhyw adeg.

Gofyn am arolygiad ‘ailsgorio’ newydd

Os gwnewch welliannau i safonau hylendid bwyd eich busnes, gallwch ofyn am arolygiad sgôr hylendid bwyd newydd. Weithiau gelwir hyn yn ‘ailsgorio’, ‘arolygiad ailsgorio’, neu ‘ailymweliad’.

Bydd angen i chi gynnwys manylion a thystiolaeth o’r hyn rydych chi wedi’i wella.

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n codi ffi am y gwasanaeth hwn. Byddan nhw’n dweud wrthych chi faint yw’r ffi cyn i chi wneud cais.

Ar ôl yr arolygiad, byddwch yn cael sgôr hylendid bwyd newydd. Gallai eich sgôr fynd i fyny, i lawr neu aros yr un fath.