Tâl Salwch Statudol (SSP): arweiniad i gyflogwyr
Trosolwg
Mae’n bosibl bod eich cyflogeion yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol (SSP).
Mae hyn naill ai’n £123.25 yr wythnos neu’n 80% o enillion wythnosol cyfartalog - pa un bynnag sydd isaf.
Mae’n cael ei dalu am hyd at 28 wythnos.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch gynnig mwy na hyn os oes gan eich cwmni gynllun tâl salwch ond ni allwch gynnig llai na hyn. Mae cynlluniau cwmni hefyd yn cael eu galw yn dâl salwch ‘galwedigaethol’ neu ‘gontractiol’, ac mae’n rhaid eu cynnwys fel rhan o gontract cyflogaeth.
Mae canllaw ar wahân ynghylch Tâl Salwch Statudol os ydych yn gyflogai.
Gwyliau (neu ‘gwyliau blynyddol’)
Mae gwyliau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) statudol yn cael eu cronni tra bo’r cyflogai i ffwrdd o’r gwaith yn sâl (waeth pa mor hir y mae i ffwrdd), ac mae modd eu cymryd yn ystod absenoldeb salwch.