°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Gwneud trefniadau ar gyfer plant os ydych yn ysgaru neu’n gwahanu

Printable version

1. Gwneud trefniadau ar gyfer plant

Gallwch ddewis sut i wneud trefniadau ar gyfer gofalu am eich plant os ydych yn gwahanu oddi wrth eich partner.

Mae’r hyn y gallwch ei wneud yn wahanol yn a .

Efallai y gallwch chi a’ch cyn-bartner osgoi mynd i’r llys os ydych chi’n cytuno ar:

  • lle bydd y plant yn byw
  • faint o amser y byddant yn ei dreulio gyda phob rhiant
  • sut y byddwch yn cefnogi’ch plant yn ariannol

Gelwir hyn yn gwneud trefniadau plant (a elwir weithiau’n ‘cystodaeth plant’ neu’n ‘cyswllt plant’).

Gallwch gytuno ar gynhaliaeth plant ar yr un pryd neu ar wahân.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn cytuno

Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn cytuno ar drefniadau plant, gallwch wneud Cynllun Rhianta. Cofnod o’r hyn rydych wedi cytuno arno ydyw.

Cael help i gytuno heb fynd i’r llys

Gallwch ddarllen mwy am:

Gallwch hefyd gael cymorth a gwybodaeth gan:

Os na allwch gytuno ar bopeth

Gallwch wneud cais am orchymyn llys os na allwch gytuno ar ôl i chi ddefnyddio cyfryngwr neu gael help.

Os byddwch yn penderfynu mynd i’r llys, bydd rhaid i chi fel arfer ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn i chi wneud cais. Gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.

Mae’n costio £263 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd y llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu talu am gynghorydd cyfreithiol yn y llys. Er enghraifft, os oes gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.

2. Os ydych yn cytuno ar drefniadau plant

Nid oes rhaid i chi lenwi unrhyw waith papur swyddogol os ydych yn cytuno ynghylch trefniadau plant.

Gallwch ysgrifennu’r hyn rydych wedi cytuno arno mewnÌýÌýos ydych eisiau cofnod.

Os ydych am wneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, gall cynghorydd cyfreithiol helpu gyda’r gwaith papur.

Gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol

³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýgael cynghorydd cyfreithiol i ddrafftio ‘gorchymyn cydsynio’ os ydych am gael cytundeb sy’n rhwymol yn gyfreithiol.

Mae gorchymyn cydsynio yn ddogfen gyfreithiol sy’n cadarnhau eich cytundeb. Gall gynnwys manylion am sut y byddwch yn gofalu am eich plant, megis:

  • ble maent yn byw
  • pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)

Rhaid i chi a’ch cyn-bartner ill dau lofnodi’r gorchymyn cydsynio drafft. Bydd angen i chi hefyd drefnu bod y gorchymyn cydsynio yn cael ei gymeradwyo.

Cael cymeradwyaeth i’ch gorchymyn cydsynio.

Bydd angen i chi neu’ch cyn-bartner wneud cais am orchymyn llysÌýer mwyn i’ch gorchymyn cydsynio gael ei gymeradwyo.Ìý Gall eich cynghorydd cyfreithiol eich helpu gyda’ch cais.

Ni fydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.

Cadwch gopi o’r ffurflen a’r gorchymyn cydsynio drafft.

Ar ôl i’r llys gael eich gwaith papur

Fel arfer nid oes gwrandawiad llys. Bydd barnwr yn cymeradwyo eich gorchymyn cydsynio i’w wneud yn rhwymol yn gyfreithiol os yw’n meddwl eich bod wedi gwneud penderfyniadau er lles eich plant.

Os nad yw’r barnwr o’r farn bod eich gorchymyn cydsynio er lles eich plant, gall:

  • newid eich gorchymyn cydsynio
  • gwneud gorchymyn llys gwahanol i benderfynu beth sydd orau i’ch plant

3. Gwneud cytundeb drwy gyfryngu

Gallwch ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu chi a’ch cyn-bartner gytuno ar drefniadau plant. Yn aml, gall hyn olygu nad oes rhaid i chi fynd i’r llys.

Mae cyfryngwr yn weithiwr proffesiynol a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar les gorau eich plentyn. Byddant yn gwrando ar y ddau riant heb gymryd ochr.

Os yw’n briodol, gall cyfryngwr siarad â’ch plentyn am beth maent eisiau. Gelwir hyn yn ‘gyfryngu plentyn-gynhwysol’.

Gallwch fynychu sesiynau wyneb yn wyneb neu o bell (er enghraifft drwy fideo neu dros y ffôn). Nid oes rhaid i chi fod yn yr un ystafell neu ar yr un alwad a’ch cyn-bartner.

Nid yw cyfryngu yr un peth â chwnsela.

Bydd angen i chi ddefnyddio cyfryngwr ardystiedig. .

Sut all cyfryngu eich helpu

Gall cyfryngwr eich helpu chi a’ch cyn-bartner i gytuno ar drefniadau ynghylch gofalu am eich plentyn, megis:

  • ble maent yn byw
  • pryd fyddant yn treulio amser gyda phob rhiant
  • pryd fydd cyswllt yn digwydd a pha fathau eraill o gyswllt sy’n digwydd (galwadau ffôn, er enghraifft)
  • sut i dalu am gostau byw eich plentyn (er enghraifft, tai a gofal dydd i ddydd)

Cyn i chi ddechrau ar gyfryngu

Efallai y bydd angen i chi fynychu cyfarfod cychwynnol gyda chyfryngwr. Gelwir hwn weithiau yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM).

Yn y cyfarfod, bydd y cyfryngwr yn rhoi cyngor i chi am y broses gyfryngu, trafod eich sefyllfa gyda chi a’ch helpu i benderfynu a yw cyfryngu yn iawn i chi. Efallai y byddant hefyd yn egluro ffyrdd eraill y gallwch gytuno ar drefniadau plant heb fynd i’r llys.

Os byddwch yn penderfynu mynd i’r llys, gan amlaf bydd angen i chi ddangos eich bod wedi mynychu MIAM cyn i chi wneud cais. Os ydych yn mynychu MIAM ond nad yw eich cyn-bartner yn gwneud hyn, gallwch dal wneud cais i fynd i’r llys.

Ni fydd rhaid i chi fynychu MIAM mewn rhai amgylchiadau, er enghraffit os oes tystiolaeth o gamdriniaeth ddomestig.

Bydd angen i chi ddefnyddio cyfryngwr ardystiedig. .

Ar ôl i chi fynychu MIAM

Bydd y cyfryngwr yn llofnodi ffurflen sy’n dangos eich bod wedi mynychu. Bydd angen i ddangos y ffurflen hon os byddwch yn gwneud cais i fynd i’r llys. Dim ond cyfryngwr sydd wedi’i achredu gan y Cyngor Cyfryngu Teuluol all lofnodi’r ffurflen.

Faint mae MIAM yn costio

Bydd cost MIAM yn dibynnu ar y cyfryngwr byddwch yn dewis. Y gost arferol yw tua £120. Bydd angen i chi a’ch cyn-bartner fynychu MIAM ar wahân.

Ni fydd rhaid i chi dalu am MIAM os ydych chi neu’ch partner yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Faint mae cyfryngu’n costio

Gan amlaf, mae cyfryngu yn rhatach ac yn gyflymach na mynd i’r llys.

Mae cost MIAM ar wahân i gost cyfryngu.

Bydd angen i chi a’ch cyn-bartner penderfynu sut y bydd cost cyfryngu yn cael ei rannu.

Cael hyd at £500 tuag at gost cyfryngu

Fel arfer gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.

Fel arfer bydd y daleb yn talu am o leiaf 2 sesiwn gyfryngu, gan ddibynnu ar lle rydych yn byw a’r math o gyfryngu. Er enghraifft, gallai cyfryngu lle mae pob rhiant mewn ystafell ar wahân gostio mwy.

Ni allwch ddefnyddio’r daleb i dalu am gost mynychu MIAM. Gellir ond ei defnyddio ar gyfer talu am sesiynau cyfryngu.

Dim ond un taleb allwch chi a’ch cyn-bartner ei defnyddio ar y cyd i dalu am eich costau cyfryngu hyd at £500 - ni allwch wneud cais am fwy nag un taleb.

Darllenwch fwy am sut mae Cynllun Talebau Cyfryngu Teuluol yn gweithio.

Sut i gael taleb cyfryngu

Gofynnwch i gyfryngwr achrededig wneud cais am daleb i chi. Nid oes rhaid i chi dalu ymlaen llaw am unrhyw sesiynau y bydd y daleb yn talu amdanynt.

Cymorth cyfreithiol

Efallai y byddwch hefyd yn galluÌýcael cymorth cyfreithiolÌýar gyfer cyfryngu os ydych ar incwm isel.

Os ydych chi a’ch cyn-bartner yn gymwys am gymorth cyfreithiol

Bydd cymorth cyfreithiol yn talu am:

  • MIAM
  • unrhyw sesiynau cyfryngu sydd eu hangen ar ôl y MIAM
  • gwneud cais am orchymyn cydsynio (dogfen sy’n gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol)

Os mai dim ond un rhiant sy’n gymwys am gymorth cyfreithiol

Bydd cymorth cyfreithiol yn talu am:

  • MIAM
  • y sesiwn gyfryngu gyntaf ar gyfer y ddau riant ar ôl y MIAM

Bydd hefyd yn talu am unrhyw gostau eraill y rhiant sy’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol. Ni fydd yn talu am gostau’r rhiant arall.

Gwiriwch a allwch gael cymorth cyfreithiol

Beth fydd yn digwydd nesaf

Os byddwch yn dod i gytundeb, byddwch yn cael dogfen ar ddiwedd y cyfryngu yn dangos yr hyn y gwnaethoch chi a’r rhiant arall gytuno arno. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall.

Os ydych eisiau gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol, dylech gyflogi cyfreithiwr. Byddant yn ddrafftio gorchymyn cydsynio. Gallwch wedyn wneud cais i’r llys i ofyn i farnwr neu ynad adolygu a chadarnhau’r gorchymyn.

Os yw’r cyfryngwr o’r farn nad yw cyfryngu yn iawn i chi, efallai y byddant yn eich cynghori i fynd i’r llysÌýyn lle hynny.

Cymorth a chefnogaeth

Darllenwch fwy am ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i’r llys.

Gallwch hefyd:

4. Ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i'r llys

Mae yna ffyrdd eraill i’ch helpu i gytuno ar drefniadau plant tu allan i’r llys. Weithiau, gelwir y rhain yn ‘datrysiad y tu allan i’r llys’ (NCDR).

Gan amlaf, mae NCDR yn gyflymach na mynd i’r llys.

Bydd y math o ddatrysiad byddwch yn ei ddewis yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Er enghraifft eich sefyllfa ariannol, ble rydych yn byw a ph’un a ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner.

Gallwch roi cynnar ar:

  • drafod drwy gyfreithiwr
  • cyfraith cydweithredol
  • cyflafareddu
  • gwerthuso niwtral
  • cyfryngu

Os ydych yn penderfynu mynd i’r llys, fel arfer bydd angen i chi ddangos eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu cyn i chi wneud cais. Fel arfer gallwch gael taleb i dalu am gyfryngu teuluol, waeth faint rydych yn ennill.

Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i benderfynu pa fath o ddatrysiad sy’n addas i chi. Gallant hefyd ddweud wrthych faint mae’n costio.

Os nad ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner

Trafod drwy gydweithiwr

Os na allwch gysylltu â’ch cyn-bartner neu os nad ydynt yn eich ateb, gallwch chwilio am gynghorydd cyfreithiol i’ch helpu i drafod. Gelwir hyn yn ‘trafod drwy gydweithiwr’.

Nid oes rhaid i chi siarad â’ch cyn-bartner os byddwch yn dewis cyfreithiwr i drafod ar eich rhan.

Os ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner

Gallwch dal drafod drwy gydweithiwr os ydych mewn cyswllt â’ch cyn-bartner ond mae yna opsiynau eraill ar gael i chi.

Cyfraith cydweithredol

Gallwch chi a’ch cyn-bartner gyflogi eich cynghorwyr cyfreithiol eich hun i’ch helpu i drafod. Yna byddwch i gyd yn cyfarfod i geisio cytuno ar drefniadau ar gyfer eich plant. Gelwir hyn yn ‘cyfraith cydweithredol’.

Chwilio am gynghorydd cyfreithiol

Cyflafareddu

Cyflafareddu yw pan fydd gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (megis barnwr, cyfreithiwr neu fargyfreithiwr) yn gwrando ar ddadleuon y ddau ohonoch.

Gwerthuso niwtral

Gall gwerthuso niwtral eich helpu chi a’ch cyn-bartner i ddeall pa mor debygol ydyw y byddwch yn cael y trefniadau plant rydych eisiau yn y llys.

Bydd gweithiwr proffesiynol ym maes y gyfraith (megis cyfreithiwr teulu neu farnwr) yn gwrando ar ddadleuon y ddau ohonoch. Yna byddant yn rhoi eu barn annibynnol ar beth allai’r llys benderfynu.

Mae’n rhaid i’r ddau riant fynychu cyfarfod gwerthuso niwtral.

Fe allai eich helpu i ddod i gytundeb heb fynd i’r llys a gallai hyn arbed amser ac arian i chi.

Mae gwerthuso niwtral yn wahanol i gyfryngu oherwydd ni all cyfryngwr ddweud wrthych beth allai canlyniad eich gorchymyn llys fod.

Chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol i drefnu gwerthusiad niwtral.

Beth sy’n digwydd nesaf

Os byddwch yn dod i gytundeb, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Gallwch chi a’ch cyn-bartner gytuno i ddilyn beth sydd wedi’i gytuno.

Gofynnwch i’ch cyfreithiwr neu chwiliwch am gynghorydd cyfreithiol os ydych eisiau gwneud eich cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol. Byddant yn drafftio gorchymyn cydsynio. Yna gallwch wneud cais i’r llys neu ofyn i farnwr neu ynad adolygu a chadarnhau’r gorchymyn.

Cymorth neu gyngor

Gallwch ofyn i gynghorydd cyfreithiol am fathau eraill o ddatrysiad.

Gallwch hefyd:

5. Gwneud cais am orchymyn llys

Mae gorchymyn llys yn benderfyniad sy’n rhwymol yn gyfreithiol a wneir gan y llys. Mae’n nodi’r trefniadau plant y mae’n rhaid i chi a’ch cyn-bartner ddilyn.

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer gwneud trefniadau plant yn a .

Pwy all wneud cais

Gallwch wneud cais am orchymyn llys os oes gennych gyfrifoldeb rhiant. Er enghraifft, os mai chi yw mam neu dad y plentyn.

Gallwch hefyd wneud cais os ydych yn berthyn i’r plentyn mewn rhyw ffordd arall, megis rydych yn nain/taid, modryb/ewythr y plentyn.

Pa mor hir y mae’n cymryd i gael gorchymyn llys

Gan amlaf mae’n cymryd tua 10 mis i gael gorchymyn llys, gan ddibynnu ar ble rydych yn byw a’ch amgylchiadau.

Efallai yr hoffech ystyried cyfryngu neu ffyrdd eraill o gael cymorth i gytuno heb fynd i’r llys. Gall y rhain fod yn gyflymach.

Cyn i chi wneud cais

Efallai y bydd angen i chi fynd i gyfarfod cyn gwneud cais i’r llys. Gelwir hwn yn Gyfarfod Asesu a Gwybodaeth am Gyfryngu (MIAM).

Yn y cyfarfod hwn, bydd cyfryngwr yn egluro sut mae cyfryngu’n gweithio, trafod eich sefyllfa a’ch helpu i benderfynu os yw cyfryngu yn iawn i chi. Efallai y gallant hefyd egluro ffyrdd eraill y gallwch gytuno ar drefniadau plant heb fynd i’r llys.

Fel arfer, gallwch gael taleb gwerth hyd at £500 tuag at gost cyfryngu.

Os byddwch yn mynychu MIAM ond nad yw’ch cyn-bartner yn gwneud hynny, gallwch dal wneud cais i fynd i’r llys.

Darllenwch fwy am gyfryngu gan gynnwys sut i drefnu MIAM a chael y daleb.

Unigolion nad oes rhaid iddynt fynychu MIAM

Gan amlaf, ni fydd rhaid i chi fynychu MIAM os yw un o’r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi mynychu MIAM neu wedi rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o gytuno heb fynd i’r llys yn y 4 mis diwethaf
  • mae gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig
  • rydych yn gwneud cais am orchymyn cydsynio
  • mae eich plant mewn risg o niwed, er enghraifft mae gwasanaethau cymdeithasol yn gysylltiedig â’u gofal
  • ni allwch fynychu MIAM oherwydd eich lleoliad, sefyllfa neu argaeledd y cyfryngwr
  • rydych yn gwneud cais am ‘wrandawiad heb rybudd’ (gwrandawiad sy’n digwydd heb roi gwybod i’r unigolyn arall)
  • mae’r cais yn un brys, er enghraifft, rydych chi neu’ch plentyn mewn perygl

Darllenwch fwy am , gan gynnwys y dystiolaeth fydd angen i chi ddangos a sut mae’r llys yn penderfynu pa geisiadau sy’n rhai brys.

Gwirio pa orchymyn llys sydd ei angen arnoch

Mae’r math o orchymyn llys sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar beth allwch chi ddim cytuno arno.

Gallwch wneud cais am fwy nag un math o orchymyn llys.

Bydd y llys ond yn gwneud gorchymyn os mai dyna sydd orau i’r plentyn.

Os oes gennych orchymyn llys mewn lle yn barod, gallwch ei newid neu ei orfodi. Er enghraifft, os nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn.

Gorchymyn cydsynio

Os ydych wedi cytuno ar drefniadau plant gyda’ch cyn-bartner, gallwch wneud cais am orchymyn cydsynio i wneud y cytundeb yn rhwymol yn gyfreithiol.

Mae angen i’r ddau riant lofnodi’r gorchymyn cydsynio a gall gynnwys manylion ynghylch gofalu am eich plentyn. Bydd barnwr neu ynad yn adolygu ac yn penderfynu a fydd yn cadarnhau’r gorchymyn.

Nid oes rhaid i chi fel arfer fynychu’r llys.

Gorchymyn trefniadau plant

Gorchymyn trefniadau plant yw pan fydd y llys yn penderfynu lle mae eich plentyn yn byw, gyda pwy y maent yn treulio amser a ph’un a fydd mathau eraill o gyswllt yn digwydd, er enghraifft galwadau ffôn.

Gorchymyn mater penodol

Gallwch ofyn i’r llys eich helpu i gytuno ar fater penodol, er enghraifft ble ddylai eich plentyn fynd i’r ysgol.

Gorchymyn camau gwaharddedig

Mae gorchymyn camau gwaharddedig yn atal eich cyn-bartner rhag gwneud unrhyw benderfyniadau parhaol am fagwraeth eich plentyn. Er enghraifft, cymryd eich plentyn allan o’r wlad.

Cael cymorth gan gynghorydd cyfreithiol

Gall cynghorydd cyfreithiol eich helpu i wneud cais am orchymyn llys. Gallant hefyd ddweud wrthych faint fydd cyngor cyfreithiol efallai’n costio. Mae rhai cynghorwyr cyfreithiol yn cynnig cyfarfodydd un-tro am ddim.

Chwilio am gynghorydd cyfreithiol

Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol i helpu talu am gynghorydd cyfreithiol yn y llys. Er enghraifft, os ydych ar incwm isel neu os oes gennych dystiolaeth eich bod yn ddioddefwr camdriniaeth ddomestig.

Gall rhai elusennau eich helpu i ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol. Gallwch os na allwch fforddio talu am gynghorydd cyfreithiol ac nid ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol.

Os nad oes gennych gynghorydd cyfreithiol

Gallwch gynrychioli eich hun yn y llys heb gynghorydd cyfreithiol.

I gael help, gallwch gysylltu ag:

  • - canllawiau ar sut mae pethau’n gweithio yn y llys teulu
  • - gwasanaeth am ddim sy’n egluro proses y llys a gall eich helpu i wneud cais am orchymyn llys
  • - cyngor cyfreithiol am ddim neu fforddiadwy

Faint mae’n costio i wneud cais

Mae’n costio £263 i wneud cais am orchymyn llys. Efallai y gallwch gael cymorth i dalu ffioedd llys os ydych yn cael budd-daliadau neu ar incwm isel.

Bydd angen i chi dalu unrhyw costau am gynghorydd cyfreithiol ar wahân.

Gwneud cais ar-lein

Gallwch gadw a dychwelyd at eich cais yn hwyrach ymlaen. Mae gennych 28 diwrnod i’w gwblhau unwaith y byddwch wedi dechrau.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch hefyd wneud cais drwy’r post. Llenwch ffurflen C100.

Bydd angen i chi anfon eich ffurflen C100 wreiddiol a 3 copi i’r llys. .

6. Ar ôl i chi wneud cais am orchymyn llys

Efallai bydd y llys yn trefnu ‘gwrandawiad cyfarwyddo’ gyda’r ddau riant os byddwch yn gwneud cais am orchymyn llys.

Fel arfer bydd cynghorydd llys teulu o’rÌýÌýyn y gwrandawiad. Byddant o os ydych yng Nghymru.

Os bydd gwrandawiad, bydd Cafcass yn anfon gwybodaeth atoch cyn i chi fynd iddo. Byddant fel arfer yn eich ffonio chi hefyd.

Yn y gwrandawiad, bydd barnwr neu ynad yn ceisio gweithio allan:

  • beth allwch chi gytuno arno
  • yr hyn na allwch gytuno arno
  • os yw eich plentyn mewn perygl mewn unrhyw ffordd

Byddant yn eich annog i ddod i gytundeb os yw hynny er lles y plentyn. Os gallwch chi, ac os nad oes unrhyw bryderon am les y plentyn, gall y barnwr neu’r ynad ddod â’r broses i ben.

Bydd y llys yn gwneud gorchymyn cydsynio sy’n nodi’r hyn yr ydych wedi cytuno arno, os oes angen.

Os na allwch ddod i gytundeb yn y gwrandawiad llys cyntaf

Bydd y barnwr neu’r ynad yn gosod amserlen ar gyfer yr hyn sy’n digwydd nesaf.

Efallai y bydd yn gofyn i chi geisio dod i gytundeb eto, er enghraifft trwy fynd i gyfarfod gyda chyfryngwr.

Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd ar gwrs os yw eich achos yn ymwneud â threfniadau plant. Gelwir y cwrs yn ‘’, a gallai eich helpu i ddod o hyd i ffordd i wneud i drefniadau plant weithio.

Fel arfer mae’n rhaid i chi fynd i un neu ddau gyfarfod, yn dibynnu ar y math o raglen. Ni fydd eich cyn-bartner yn yr un cyfarfodydd â chi.

Os byddwch yn dod i gytundeb ar unrhyw adeg, gall y barnwr neu’r ynad atal y broses.

Adroddiadau Cafcass

Gall y llys ofyn i Cafcass baratoi adroddiad ar eich achos i helpu i benderfynu beth sydd orau i’r plentyn.

Mae’n bosibl y bydd y cynghorydd llys teulu Cafcass yn gofyn i’ch plentyn beth yw eu teimladau nhw. Byddwch yn cael copi o’r adroddiad pan fydd yn barod.

Beth mae barnwyr ac ynadon yn ei ystyried

Byddant bob amser yn rhoi lles plant yn gyntaf. Byddant yn meddwl am y canlynol:

  • dymuniadau a theimladau’r plentyn
  • anghenion corfforol, emosiynol ac addysgol y plentyn
  • yr effaith y gall unrhyw newidiadau ei chael ar y plentyn
  • oedran, rhywedd, nodweddion a chefndir y plentyn
  • risg posibl o niwed i’r plentyn
  • gallu’r rhieni i ddiwallu anghenion y plentyn
  • gorchmynion y mae gan y llys y pŵer i’w gwneud

Dim ond os ydynt yn meddwl y byddai gwneud gorchymyn er lles gorau’r plentyn y bydd barnwr neu ynad yn gwneud hynny.

Os ydych eisiau newid eich cais

DefnyddiwchÌýffurflen C2Ìýi newid cais y mae’r llys yn dal i’w ystyried.

Mae’r ffi yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn gofyn i’r llys ei wneud. Bydd rhaid i chi dalu’r llys:

  • £190 os ydych dal eisiau i’r llys benderfynu ar eich achos drwy wrandawiad llys
  • £60 os ydych chi a’ch cyn-bartner wedi dod i gytundeb a’ch bod eisiau i’r llys gymeradwyo eich gorchymyn cydsynio heb wrandawiad llys

7. Newid neu orfodi gorchymyn

Gallwch newid gorchymyn llys neu orchymyn cydsynio sydd eisoes yn bodoli. Gallwch hefyd ofyn i lys orfodi gorchymyn os nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn.

Os byddwch yn gofyn i’r llys newid neu orfodi gorchymyn, mae’n debyg y bydd rhaid i chi fynd i wrandawiad llys. Fel arfer gallwch osgoi hyn os ydych chi’n cael cymorth y tu allan i’r llys, felÌýdefnyddio cyfryngwr neu gael help arall.

Newid gorchymyn

Gallwch benderfynu gwneud rhywbeth gwahanol i’r hyn a nodir yn y gorchymyn llys, os yw’r ddau ohonoch yn cytuno. Ond ni fyddwch yn gallu gorfodi hyn yn hwyrach ymlaen oni bai eich bod yn ei wneud yn rhwymol yn gyfreithiol.

Gwneud newid yn rhwymol yn gyfreithiol

Os yw’r ddau ohonoch yn cytuno, gallwchÌýddrafftio gorchymyn cydsynio i gwmpasu’r cytundeb newydd a gofyn i’r llys ei gymeradwyo.

Os na allwch gytuno, gallwch Ìýofyn i lys benderfynu sut i newid (‘amrywio’) y gorchymyn.

Gorfodi gorchymyn

Os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn y gorchymyn, gallwch ofyn i’r llys ei orfodi. Dilynwch y camau hyn.

  1. LlenwchÌýffurflen C79Ìýi wneud cais - darllenwchÌýganllaw CB5Ìýos oes angen help arnoch.

  2. DefnyddiwchÌýffurflen C78Ìýi atodi ‘hysbysiad o rybudd’ os gwnaed eich gorchymyn cyn 8 Rhagfyr 2008. Bydd gorchmynion a wnaed ar ôl y dyddiad hwn eisoes yn cynnwys un.

  3. Anfonwch ef i’r . Mae’n costio £263.

Bydd y llys yn edrych ar y ffeithiau eto i weld a oes unrhyw beth wedi newid.

Os bydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn

Yn dibynnu ar eich sefyllfa a beth rydych wedi gofyn i’r llys benderfynu, gall wneud:

  • ‘gorchymyn gorfodi’ – mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’ch cyn-bartner wneud rhwng 40 a 200 awr o waith di-dâl
  • ‘gorchymyn iawndal am golled ariannol’ – mae hyn yn golygu y bydd rhaid i’ch cyn-bartner ad-dalu unrhyw arian rydych wedi’i golli oherwydd na wnaethant ddilyn y gorchymyn (er enghraifft, os gwnaethoch chi golli gwyliau)

Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad yw eich cyn-bartner yn dilyn gorchmynion y llys o hyd.

Os na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn

Mae’n bosibl na fydd y llys yn gorfodi’r gorchymyn presennol os yw’n meddwl nad yw eich cyn-bartner yn ei ddilyn oherwydd:

  • mae ganddynt reswm da dros beidio
  • mae’n well i’ch plant wneud rhywbeth gwahanol

Gallwch fynd yn ôl i’r llys os nad ydych yn cytuno â’u penderfyniad neu os bydd eich sefyllfa’n newid.

Terfynu gorchymyn

Defnyddiwch ffurflen C100 iÌýwneud cais i derfynu gorchymyn llysÌýnad yw’n gweithio, neu nad yw’n berthnasol i chi a’ch plant mwyach.

Os daw eich gorchymyn i ben ar amser penodol (‘cyfyngiad amser’),Ìýgallwch wneud eich cytundeb eich hun wedi hynny. Gallwch gael cymorth i ddod i gytundeb, megis defnyddio cyfryngwr neu gymorth fel arall.