°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Treth pan fyddwch yn gwerthu eiddo

Sgipio cynnwys

Gwerthu eiddo tramor

Rydych yn talu Treth Enillion Cyfalaf pan fyddwch yn ‘gwaredu’ eiddo tramor, os ydych yn breswylydd yn y DU.

Mae rheolau arbennig os ydych yn breswylydd yn y DU a bod eich cartref parhaol (‘domisil’) dramor.

Efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi dalu treth yn y wlad lle gwnaethoch yr enillion. Os cewch eich trethu ddwywaith, efallai y gallwch hawlio rhyddhad.

Os ydych yn ddibreswyl

Efallai y bydd yn rhaid i bobl ddibreswyl dalu treth yn y DU ar eiddo tramor os ydynt yn dychwelyd i’r DU cyn pen 5 mlynedd o’i gadael.