Apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
Printable version
1. Trosolwg
Efallai y gallwch apelio i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) os credwch bod camgymeriad cyfreithiol wedi’i wneud gyda phenderfyniad a wnaed yn eich erbyn gan rai tribiwnlysoedd is a sefydliadau.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Efallai y gallwch apelio os oedd eich achos am:
- nawdd cymdeithasol neu gynnal plant
- pensiynau rhyfel ac iawndal y lluoedd arfog
- iechyd meddwl
- anghenion addysgol arbennig neu anableddau
- anghydfod a wrandawyd gan y Siambr Rheoleiddio Cyffredinol
- penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- penderfyniad a wnaed gan y Comisiynydd Traffig (neu’r Uned Rheoleiddio Trafnidiaeth yng Ngogledd Iwerddon)
Mae yna hefyd achosion eraill y mae’r tribiwnlys yn delio â nhw.
Mae yna broses wahanol os yw eich achos am iawndal am anafiadau troseddol.
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Byddwch angen i chi wneud cais i os gwrandawyd eich achos yng Ngogledd Iwerddon ac roedd yn ymwneud â nawdd cymdeithasol neu bensiynau rhyfel.
Cael help gyda’ch apêl
Gallwch ddarllen mwy am y broses apêl.
Mae’n bosibl y gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan neu help gan os ydych yn yr Alban.
Cysylltu â’r tribiwnlys
Cymru a Lloegr
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 020 7071 5662
Ffacs: 0870 324 0028
Gwybodaeth am gost galwadau
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
5th floor
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Yr Alban
UTAACMailbox@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0131 271 4310
Ffacs: 0131 271 4398
Gwybodaeth am gost galwadau
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH
Gogledd Iwerddon
tribunalsunit@courtsni.gov.uk
Rhif ffôn: 028 9072 4848
Gwybodaeth am gost galwadau
Canolfan Wrandawiadau’r Tribiwnlys
2nd floor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JF
2. Sut i apelio
Efallai y bydd rhaid i chi ofyn am ganiatâd i apelio - mae’n dibynnu ar eich achos.
Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan dribiwnlys arall
Mae’n rhaid i chi gael caniatâd i apelio.
Yn gyntaf, gofynnwch i’r tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad am ganiatâd i apelio. Fel arfer mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod o’r penderfyniad - siaradwch â’r tribiwnlys hwnnw i gael gwybod y dyddiad terfyn.
Unwaith y byddwch wedi cael caniatâd, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen apêl berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 1 mis i chi gael caniatâd.
Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi
Gallwch ofyn i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r ffurflen ganiatâd berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen o fewn 1 mis o gael eich gwrthod.
Os ydych chi’n apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan sefydliad
Ni fydd angen i chi ofyn am ganiatâd i apelio (oni bai eich bod yn apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Apeliwch gan ddefnyddio’r ffurflen apêl berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Bydd angen i chi ofyn i’r Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol) am ganiatâd cyn y gallwch apelio.
Defnyddiwch y ffurflen ganiatâd berthnasol a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
3. Sut bydd eich achos yn cael ei benderfynu
Bydd barnwr yn gwneud penderfyniad gan ddefnyddio:
- eich ffurflen apêl
- y dogfennau a ddarparwyd gennych
- y dogfennau a ddefnyddiwyd gan y tribiwnlys is neu’r sefydliad wnaeth benderfynu eich achos
Anfonir y penderfyniad atoch drwy’r post.
Mynychu gwrandawiad
Mewn achosion penodol efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad i gyflwyno eich achos. Gallwch hefyd ofyn am wrandawiad pan fyddwch yn gwneud cais - bydd y barnwr yn penderfynu a yw’n angenrheidiol.
Byddwch yn cael gwybod amser a dyddiad y gwrandawiad a ble bydd yn cael ei gynnal. Byddwch yn cael gwybod o leiaf 14 diwrnod ymlaen llaw fel arfer os bydd yna wrandawiad. Gall gwrandawiadau gael eu cynnal yn gynt na hyn o dan amgylchiadau eithriadol neu os bydd pob parti yn cytuno i gyfnod rhybudd byrrach.
Fe anfonir gwybodaeth atoch am sut i baratoi a pha ddogfennau y byddwch angen eu darparu.
Os ydych chi neu eich tyst neu gynrychiolydd y tu allan i’r DU ac yn dymuno rhoi tystiolaeth fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i ofyn am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath o dystiolaeth a roddir. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
Cael estyniad amser
Efallai y gallwch gael estyniad amser os byddwch angen mwy o amser i baratoi – gofynnwch i’r barnwr.
Mae’n rhaid bod gennych reswm da, er enghraifft rydych yn cael problemau dod o hyd i ddogfen neu rydych yn sâl.
4. Os byddwch yn colli'ch achos
Efallai y gallwch apelio i lys uwch os ydych chi’n meddwl bod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
Ceisiwch os ydych yn ansicr am hyn.
Gofyn am ganiatâd
Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at y tribiwnlys a gofyn am ganiatâd cyn i chi apelio.
Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i chi gael y penderfyniad (neu 3 mis ar gyfer achosion nawdd cymdeithasol, cynnal plant neu bensiynau rhyfel a’r lluoedd arfog).
Cymru a Lloegr
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
5th Floor Rolls Building
7 Rolls Buildings
Fetter Lane
Llundain
EC4A 1NL
Yr Alban
Uwch Dribiwnlys (Siambr Apeliadau Gweinyddol)
George House
126 George Street
Caeredin
EH2 4HH
Gogledd Iwerddon
Canolfan Wrandawiadau’r Tribiwnlys
2nd floor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JF
Unwaith y cewch ganiatâd, dylech apelio i’r llys uwch perthnasol:
Mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn:
- 28 diwrnod o gael caniatâd (Cymru a Lloegr)
- 42 diwrnod o gael caniatâd (Yr Alban)
- 6 wythnos o gael caniatâd (Gogledd Iwerddon)
Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffioedd llys a chostau’r parti arall.
Os gwrthodir rhoi caniatâd i chi
Gallwch ofyn i’r llys uwch perthnasol am ganiatâd.
Yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i’ch cais am ganiatâd gael ei wrthod.
Mae’r terfynau amser yn wahanol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon - cysylltwch â’r swyddfa tribiwnlys perthnasol am fanylion.
5. Deddfwriaeth a phenderfyniadau blaenorol
Darllenwch y rheolau y mae’n rhaid i’r tribiwnlys eu dilyn a’i benderfyniadau ar achosion blaenorol.
Penderfyniadau blaenorol
Chwiliwch y i weld sut a pham y gwnaed penderfyniadau blaenorol.
Deddfwriaeth
Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ddilyn y rheolau a’r broses a nodwyd yn Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Uwch Dribiwnlys) 2008.