Gwneud Cais i’r Tribiwnlys Iechyd Meddwl
Printable version
1. Trosolwg
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gallwch wneud cais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl) os ydych wedi eich cadw fel claf mewn ysbyty seiciatrig ac rydych eisiau cael eich rhyddhau.
Gallwch hefyd wneud cais i’r tribiwnlys os ydych eisiau newid:
- gorchymyn triniaeth cymunedol
- gorchymyn gwarcheidiaeth
- rhyddhad amodol i ryddhad diamod
- yr amodau mewn rhyddhad amodol
Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.
Mae’r tribiwnlys yn delio ag achosion yn Lloegr. Mae yna a .
Pwy all wneud cais
Gallwch wneud cais eich hun.
Gallwch hefyd ofyn i rywun wneud cais ar eich rhan, cyn belled nad ydynt yn glaf mewn ysbyty iechyd meddwl. Er enghraifft, gallant fod yn gynrychiolydd cyfreithiol neu’n aelod o’r teulu.
Gall eich ‘perthynas agosaf’ wneud cais heb eich caniatâd.
Pryd y gallwch wneud cais
Mae pryd y gallwch wneud cais yn dibynnu ar sut y cawsoch eich cadw, megis os ydych yn ‘glaf wedi’i gyfyngu’ (cawsoch orchymyn cyfyngu gan Lys y Goron neu cawsoch eich trosglwyddo o’r carchar gyda chyfarwyddyd cyfyngu).
Os ydych yn ansicr ynglŷn â sut y cawsoch eich cadw, gofynnwch i’ch:
- ‘clinigydd cyfrifol’ (gall fod yn feddyg, nyrs, seicolegydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall)
- cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un
Os nad ydych yn gwneud cais, mae’n bosibl y byddwch yn parhau i gael eich atgyfeirio i’r tribiwnlys yn awtomatig.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad (‘adran 2’)
Gallwch wneud cais o fewn y 14 diwrnod cyntaf i chi gael eich cadw.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth (‘adran 3’)
Gallwch wneud cais unrhyw bryd o fewn y 6 mis cyntaf i chi gael eich cadw.
Os ydych wedi eich cadw am fwy na 6 mis, gallwch wneud cais unwaith yn ystod yr ail gyfnod o 6 mis, ac yna unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os nad ydych yn gwneud cais, byddwch yn cael eich cyfeirio i’r tribiwnlys yn awtomatig yn ystod yr ail 6 mis. Byddwch yn cael eich cyfeirio eto ar ôl 3 blynedd (os ydych yn oedolyn) neu ar ôl 12 mis (os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc).
Os ydych wedi eich cadw gan orchymyn llys (‘adran 37’)
Gallwch wneud cais rhwng 6 i 12 mis o ddyddiad y gorchymyn a wnaed gan y llys. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os ydych yn glaf cyfyngedig sydd wedi’i gadw o dan ‘adran 37’ ac ‘adran 41’.
Gallwch wneud cais rhwng 6 a 12 mis o ddyddiad y gorchymyn ysbyty a wnaed gan y llys. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith ym mhob cyfnod o 12 mis.
Os ydych yn glaf cyfyngedig sydd wedi’i ryddhau ar amod
Gallwch wneud cais 12 mis ar ôl i chi gael eich rhyddhau ar amod. Ar ôl hynny, gallwch wneud cais unwaith bob 2 flynedd.
Os ydych wedi eich cadw am unrhyw reswm arall
Gofynnwch i’ch clinigydd cyfrifol neu’ch cynrychiolydd cyfreithiol pryd y gallwch wneud cais.
Cymorth gallwch ei gael
Os ydych wedi gwneud y cais, gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol ar gyfer costau unrhyw cyngor cyfreithiol rydych yn ei gael.
Gallwch:
- gofyn i’r gweinyddwr Deddf Iechyd Meddwl yn yr ysbyty i roi eu rhestr o gynrychiolwyr cyfreithiol arbenigol i chi
- gofyn i’r tribiwnlys ddod o hyd i gynrychiolydd cyfreithiol i chi pan fyddwch yn gwneud cais.
Gallwch hefyd gael cyngor gan:
2. Gwneud cais i’r tribiwnlys
Lawrlwythwch a llenwch gais i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf (Iechyd Meddwl). Rhaid i chi gynnwys:
- yr hyn rydych yn gwneud cais amdano, er enghraifft, cael eich rhyddhau os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad neu driniaeth
- enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni’r claf
- manylion llawn y cydlynydd gofal a’r ysbyty
- y dyddiad y cawsoch eich cadw neu ddyddiad y gorchymyn
- manylion cyswllt eich ‘perthynas agosaf’ (os oes gennych chi un)
- manylion eich cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un)
- p’un a ydych angen cyfieithydd
Gallwch hefyd gynnwys ar eich ffurflen gais a fyddai’n well gennych i’ch gwrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo. Bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn ceisio gwneud yr hyn sydd orau gennych ond ni fydd bob amser yn bosibl.
Anfon y ffurflen
Postiwch neu anfonwch y ffurflen drwy e-bost i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Tribiwnlys Haen-gyntaf (Iechyd Meddwl)
Blwch Post 11231
5ed Llawr
°ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù
LE1 8FR
Cysylltwch â’r tribiwnlys dros y ffôn neu drwy e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch llenwi’r ffurflen. Ni all y llinell gymorth na’r cyfeiriad e-bost roi cyngor cyfreithiol i chi.
Tribiwnlys Iechyd Meddwl
mhtenquiries@justice.gov.uk
Rhif ffôn (Lloegr): 0300 123 2201
3. Ar ôl ichi wneud cais
Byddwch yn cael gwybod pan fydd y tribiwnlys wedi cael eich cais. Byddwch yn cael gwybodaeth am eich hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol os na wnaethoch gynnwys manylion cynrychiolydd cyfreithiol yn eich cais.
Yn nes at amser y gwrandawiad, fe gewch gopïau o adroddiadau fel y gallwch wirio bod yr wybodaeth yn gywir a meddwl am unrhyw gwestiynau rydych eisiau eu gofyn.
Pryd fydd y gwrandawiad yn digwydd
Mae dyddiad y gwrandawiad yn dibynnu ar eich sefyllfa. Byddwch fel arfer yn cael gwrandawiad o fewn:
- 10 diwrnod o wneud cais os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad
- 2 fis os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth
- 4 mis os ydych yn ‘glaf wedi’i gyfyngu’ (cawsoch orchymyn cyfyngu gan Lys y Goron neu cawsoch eich trosglwyddo o’r carchar gyda chyfarwyddyd cyfyngu)
Gofyn am archwiliad cyn gwrandawiad
Gallwch ofyn am archwiliad cyn gwrandawiad gyda meddyg y tribiwnlys os ydych eisiau un. Bydd y meddyg yn gallu darllen eich cofnodion meddygol.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer asesiad, gofynnwch yn ysgrifenedig am yr archwiliad pan fyddwch yn anfon eich cais i’r tribiwnlys.
Os ydych wedi eich cadw ar gyfer triniaeth neu os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu, mae’n rhaid i chi ofyn o leiaf pythefnos cyn y gwrandawiad.
Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys EF
Tribiwnlys Haen-gyntaf (Iechyd Meddwl)
Blwch Post 11231
5ed Llawr
°ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù
LE1 8FR
Gall eich archwiliad cyn-wrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo.
Bydd y tribiwnlys hefyd yn cael adroddiadau gan:
- eich ‘clinigydd cyfrifol’ (gall fod yn feddyg, nyrs, seicolegydd neu weithiwr meddygol proffesiynol arall)
- y tîm gwaith cymdeithasol sy’n gyfrifol am eich gofal
- y tîm nyrsio sy’n gyfrifol am eich gofal, os ydych wedi eich cadw mewn ysbyty
- yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu
- eich goruchwyliwr cymdeithasol, os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu ac rydych yn byw yn y gymuned ar ryddhad amodol
Os nad ydych eisiau parhau gyda’ch cais
Ysgrifennwch at y tribiwnlys cyn gynted â phosibl os nad ydych yn dymuno parhau gyda’ch cais. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fydd yn derbyn eich cais i dynnu’n ôl.
Ni allwch dynnu eich achos yn ôl os cafodd ei gyfeirio’n awtomatig i’r tribiwnlys, ond nid oes rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad os nad ydych yn dymuno gwneud hynny.
4. Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Cynhelir gwrandawiadau yn breifat fel arfer. Gall y gwrandawiad gael ei gynnal wyneb yn wyneb neu drwy alwad fideo. Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych sut fydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal.
Os bydd eich gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy alwad fideo, bydd yn cael ei recordio. Gallwch wneud cais am drawsgrifiad o’r recordiad.
Nid oes yn rhaid i chi fynychu’r gwrandawiad os nad ydych yn dymuno. Os byddwch yn mynychu, gallwch adael ar unrhyw adeg.
Pwy sy’n mynychu’r gwrandawiad
Mae’r canlynol yn mynychu gwrandawiad:
- panel barnwrol, sy’n cynnwys barnwr, seiciatrydd ymgynghorol ac arbenigwr iechyd meddwl
- chi, os ydych eisiau mynychu
- eich clinigydd cyfrifol a gweithiwr cymdeithasol
- eich nyrs ward, os ydych yn cael eich cadw mewn ysbyty
- eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un
- eich eiriolydd iechyd meddwl annibynnol, os oes gennych un
- eich ‘perthynas agosaf’, os gwnaethant gais i’r tribiwnlys ar eich rhan
Os ydych eisiau dod ag unrhyw berthynas gyda chi, yna mae’n rhaid i chi ofyn i’r tribiwnlys cyn y gwrandawiad. Bydd y tribiwnlys yn penderfynu a fyddant yn cael dod.
Gallwch chi, eich perthynas neu eich cynrychiolydd cyfreithiol drefnu i dystion neu arbenigwyr fynychu.
Mynychwyr o tu allan i’r DU
Os yw eich cynrychiolydd, tyst neu berthynas y tu allan i’r DU ac yn dymuno rhoi tystiolaeth fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i ofyn am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad maent a pha fath o dystiolaeth a roddir. Rhaid i chi wneud hyn cyn gynted ag y bo modd.
Ble cynhelir gwrandawiadau wyneb yn wyneb
Fel arfer, bydd gwrandawiadau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal naill ai yn:
- yr ysbyty ble rydych wedi eich cadw
- y lleoliad ble mae eich clinigydd cyfrifol neu eich tîm cymunedol wedi’i leoli (os ydych yn byw yn y gymuned)
Tystiolaeth a roddir yn y gwrandawiad
Bydd eich clinigydd cyfrifol a’ch gweithiwr cymdeithasol yn rhoi tystiolaeth. Os byddwch wedi eich cadw mewn ysbyty, bydd nyrs hefyd yn rhoi tystiolaeth.
Gallwch roi tystiolaeth os dymunwch. Gallwch ddewis naill ai siarad yn gyntaf neu’n olaf, a gallwch adael y gwrandawiad ar ôl i chi roi tystiolaeth.
Gellir gofyn cwestiynau i unrhyw un sy’n rhoi tystiolaeth.
Bydd y tribiwnlys hefyd yn edrych ar:
- eich archwiliad cyn y gwrandawiad gan feddyg y tribiwnlys, os cawsoch un
- adroddiad seiciatrig annibynnol, os wnaethoch chi, eich perthynas neu eich cynrychiolydd cyfreithiol ofyn am un
Os ydych wedi cael gorchymyn neu gyfarwyddyd cyfyngu
Os ydych wedi cyflawni trosedd ddifrifol yn erbyn unigolyn, gallan nhw neu eu teulu ofyn neu wneud ‘sylwadau’ am amodau penodol os yw’r tribiwnlys yn meddwl eich bod yn barod i’ch rhyddhau.
Hawlio treuliau
Mae’n bosibl y gallwch hawlio costau am fynd i’r gwrandawiad. Mae hyn yn cynnwys arian ar gyfer:
- costau teithio
- enillion a gollwyd
- bwyd a diod, os ydych i ffwrdd am fwy na 5 awr
Darllenwch y canllawiau ar hawlio treuliau.
5. Penderfyniad y tribiwnlys
Mae’r tribiwnlys fel arfer yn gwneud penderfyniad ar ddiwedd y gwrandawiad. Byddwch yn cael y penderfyniad ar y diwrnod, a byddwch fel arfer yn cael y rhesymau ysgrifenedig llawn o fewn 7 diwrnod i’r gwrandawiad.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gall y tribiwnlys:
- orchymyn eich rhyddhau (ar yr un diwrnod neu ar ddyddiad yn y dyfodol)
- argymell eich bod yn cael eich trosglwyddo i ysbyty gwahanol
- argymell eich bod yn cael eich ystyried ar gyfer triniaeth o dan orchymyn triniaeth cymunedol
- argymell eich bod yn cael gadael yr ysbyty am gyfnodau o amser, i weld a ydych yn barod ar gyfer bywyd yn y gymuned
- argymell eich bod yn dychwelyd i’r carchar, os ydych yn garcharor sydd wedi’i drosglwyddo i ysbyty
Ni all y tribiwnlys newid eich triniaeth, er enghraifft meddyginiaeth.
Apelio
Os byddwch yn colli eich achos, gallwch ofyn i’r tribiwnlys:
- ganslo’r penderfyniad - rhaid i chi wneud hyn o fewn 28 diwrnod i chi gael y penderfyniad ysgrifenedig.
- am ganiatâd i apelio i dribiwnlys uwch (yr ‘Uwch Dribiwnlys’)
Gofyn i’r tribiwnlys ganslo’r penderfyniad
Byddwch yn cael gwybod sut i gael penderfyniad ‘wedi’i roi o’r naill du’ (wedi’i ganslo) os ydych yn meddwl bod yna gamgymeriad wedi bod yn y broses, er enghraifft ni chawsoch wybod am y gwrandawiad ac felly ni wnaethoch fynychu.
Os bydd y tribiwnlys yn canslo’r penderfyniad, efallai y gallwch gael gwrandawiad newydd.
Cysylltwch â os ydych angen cymorth.
Apelio i’r Uwch Dribiwnlys
Gallwch ofyn am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys os ydych yn meddwl bod yna gamgymeriad cyfreithiol wedi bod, er enghraifft os:
- na wnaethant gymhwyso’r gyfraith gywir neu wedi dehongli’r gyfraith yn anghywir
- na wnaethant ddilyn y gweithdrefnau cywir
- nad oedd ganddynt dystiolaeth neu ddigon o dystiolaeth i gefnogi eu penderfyniad.
Llenwch y ffurflen gais am ganiatâd i apelio - mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Bydd barnwr arall yn edrych i weld a oes yna broblem gyfreithiol gyda’ch achos ac os yw angen gwrandawiad arall.
Cwyno
Ni allwch gwyno am y penderfyniad - gallwch ond gwyno am staff y tribiwnlys a’r ffordd y cafodd y gwrandawiad ei gynnal.
6. Deddfwriaeth
Bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad yn seiliedig ar:
- os yw’r achos yn ymwneud â hawliau dynol
Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ddilyn Rheolau Trefniadaeth y Tribiwnlys (Tribiwnlys Haen Gyntaf) (Siambr Iechyd, Addysg a Gofal Cymdeithasol) 2008.
Mae’n rhaid i ddatganiadau ac adroddiadau gan eich clinigydd cyfrifol gael eu hysgrifennu yn unol â’r cyfarwyddiadau ymarfer.
Gallwch ddarllen y cyfarwyddiadau ymarfer o dan y ddolen ‘Contents neu Statements and Reports’ ar .