°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Troseddau bwyd: adrodd amdanynt a’u hatal

Printable version

1. Trosolwg

Gall troseddau a thwyll bwyd ddigwydd mewn cadwyni cyflenwi bwyd, gan gynnwys diodydd a bwyd anifeiliaid. Mae mathau o droseddau bwyd yn cynnwys:

  • lladrad – dwyn bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid er elw
  • prosesu anghyfreithlon – lladd neu baratoi cig mewn mannau neu ffyrdd nad ydynt wedi’u cymeradwyo
  • dargyfeirio gwastraff – cymryd bwyd, diod neu fwyd anifeiliaid y dylid bod wedi’i daflu a’i roi yn ôl yn y gadwyn cyflenwi bwyd
  • difwyno – ychwanegu rhywbeth sydd heb ei restru ar y label i dorri costau neu wneud i’r cynnyrch ymddangos fel pe bai o ansawdd gwell
  • amnewid – cyfnewid bwyd neu gynhwysion am opsiynau rhatach neu o ansawdd is
  • camgyfleu – gwerthu neu labelu cynnyrch yn anghywir i gamarwain pobl ynghylch ei ansawdd, ei ffresni, ei ddiogelwch neu o ble y daeth
  • twyll dogfennau – gwneud, defnyddio neu ddal papurau ffug i werthu neu farchnata cynnyrch sydd ddim yn cyd-fynd â’r honiadau amdano

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallech gael dirwy neu hyd yn oed gael eich anfon i’r carchar os byddwch yn cyflawni trosedd neu dwyll bwyd.

Gallwch roi gwybod am droseddau bwyd ar-lein neu dros y ffôn.

Os ydych chi’n fusnes, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n osgoi troseddau bwyd.

2. Rhoi gwybod am droseddau bwyd

Ffoniwch 999 a gofyn am yr heddlu os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol.

Mae’r canllawiau hyn ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych chi’n meddwl bod trosedd bwyd wedi’i gyflawni, rhowch wybod amdano i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd.

Rhoi gwybod ar-lein

Rhoi gwybod dros y ffôn

Yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd
foodcrime@food.gov.uk
Ffôn: 0800 028 1180
Ar gyfer ffonau symudol sydd ddim yn y DU neu alwadau o dramor, ffoniwch 020 7276 8787
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Dysgu mwy am gostau galwadau

Rhoi gwybod am broblem hylendid bwyd

I roi gwybod am broblem hylendid bwyd, cysylltwch â’ch cyngor lleol.

3. Atal troseddau mewn busnes bwyd

Er mwyn atal troseddau a thwyll bwyd yn eich busnes, dylech:

  • fod yn gyfarwydd ag arwyddion troseddau bwyd
  • hyfforddi eich staff
  • gwirio’r busnesau yn eich cadwyn gyflenwi
  • rhoi gweithdrefnau atal troseddau a thwyll ar waith
  • cadw’n gyfredol â risgiau sy’n effeithio ar eich busnes

Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Arwyddion troseddau bwyd

Dylai pawb yn eich busnes wybod yr arwyddion posib o droseddau bwyd, fel:

  • cwynion cwsmeriaid am yr ansawdd neu’r blas
  • cynhyrchion neu gynhwysion sydd ddim yn cyfateb i’w disgrifiad
  • cyflenwyr yn methu â darparu cofnodion olrheiniadwyedd
  • eich profion eich hun yn dangos ansawdd gwael neu wybodaeth ffug
  • problemau gyda gwaith papur, fel anfonebau sydd ddim yn cyd-fynd â labeli cynnyrch
  • cyflenwyr yn dweud pethau sydd ddim yn cyd-fynd â’ch gwybodaeth am y farchnad
  • prisiau sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir
  • staff yn gweithredu’n amddiffynnol neu’n cadw rheolaeth lwyr dros bethau
  • trafodion arian parod rhyfedd

Nid yw’r arwyddion hyn yn cadarnhau troseddau bwyd, ond gallan nhw awgrymu bod rhywbeth o’i le.

Hyfforddi staff

Gwnewch hi’n glir i’ch staff na fydd twyll yn cael ei dderbyn yn y gweithle.

Rhannwch arwyddion troseddau bwyd gyda’ch staff. Gwnewch yn siŵr bod staff yn teimlo’n ddiogel wrth godi pryderon. Rhannwch broses chwythu’r chwiban glir gyda nhw.

Rhowch wybod i staff y gallan nhw hefyd roi gwybod i’r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU) am eu pryderon.

Gwirio’r busnesau yn eich cadwyn gyflenwi

Cyn gweithio gyda chyflenwyr neu gwsmeriaid newydd, gwiriwch eu bod yn gyfreithlon drwy:

Datblygu prosesau ar gyfer atal troseddau a thwyll

Dylech chi adolygu eich prosesau busnes a dod o hyd i ffyrdd o atal twyll a throseddau bwyd.

Er mwyn atal twyll, gallwch chi:

  • ²µ·É²ú±ô³ó²¹³Ü’r a ddyluniwyd gan yr NFCU
  • cwblhau Asesiadau Bregusrwydd a Phwyntiau Rheoli Critigol (VACCP) – mae sawl busnes hyfforddiant diogelwch bwyd yn cynnig y rhain
  • cael cyfarfod ar-lein gyda’r NFCU lle byddan nhw’n asesu lefel risg eich busnes – anfonwch e-bost at dîm atal yr NFCU i drefnu hyn
  • mynd i ddigwyddiad hyfforddi wyneb yn wyneb lle bydd yr hyfforddwyr yn efelychu digwyddiad twyll bwyd – anfonwch e-bost at dîm atal yr NFCU i ymuno

Er mwyn atal ymosodiad ar eich cadwyn fwyd, dylech chi ddilyn canllawiau ‘PAS 96:2017’ i ddatblygu a gweithredu asesiad Pwyntiau Rheoli Critigol ar gyfer Asesu Bygythiadau (TACCP).

Tîm Atal yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd (NFCU)
nfcu.prevention@food.gov.uk

Cael diweddariadau am y diwydiant bwyd

I gael y diweddaraf am droseddau bwyd a risgiau sy’n effeithio ar y diwydiant, gallwch chi:

  • ymuno â’r i gael cyngor, clywed am ddigwyddiadau a chael diweddariadau am dwyll bwyd a materion o ran dilysrwydd
  • dilyn fforymau cymdeithasau masnach a’r diwydiant