Apelio yn erbyn penderfyniad y llys ynadon
Printable version
1. Trosolwg
Os ydych yn anhapus â phenderfyniad a wnaed gan lys ynadon, gallwch ei herio neu ofyn iddo gael ei adolygu (apelio).
Mae yna wahanol reolau ar gyfer a .
Mae’r cyfarwyddyd hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gallwch siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un) neu gael help gan gynghorydd cyfreithiol cyn i chi herio penderfyniad llys ynadon.
Gofyn i’ch dirwy gael ei hadolygu
Gallwch ofyn i’ch dirwy gael ei hadolygu os ydych yn cael anhawster talu’r dirwy a gawsoch.
Gofyn i’r llys ail-agor eich achos
Gallwch ofyn i’r llys ail-agor yr achos:
- os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi rhoi eich manylion ar gam i’r heddlu neu’r llysoedd mewn perthynas â throsedd
- os nad oeddech yn gwybod am eich achos
- os nad oedd gan y llys yr holl wybodaeth am eich achos
2. Gofyn i ddirwy gael ei hadolygu
Efallai y gellir adolygu eich dirwy os ydych eisiau lleihau:
- swm eich taliad rheolaidd
- cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch incwm megis slipiau cyflog neu brawf o lythyr budd-dal.
Os yw eich incwm wedi newid ers i chi gael eich dedfrydu, bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o’ch incwm ar ddyddiad eich dedfrydu.
Lleihau swm eich taliad rheolaidd
Gallwch ofyn i leihau swm eich taliad rheolaidd os na allwch ei fforddio. Efallai y cewch fwy o amser i dalu’r ddirwy.
Cysylltwch â’r llys neu’r ganolfan orfodi a nodir ar eich hysbysiad i leihau swm eich taliad rheolaidd.
Lleihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych
Gallwch ond wneud cais i leihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych os ydych yn ennill llai na £440 yr wythnos a naill ai:
- nid oedd y llys yn gwybod hyn pan roddodd y ddirwy i chi
- mae eich amgylchiadau ariannol wedi newid ers i chi gael y ddirwy
Os bydd y llys yn cytuno i leihau eich dirwy, gallwch gytuno ar swm y taliad rheolaidd newydd yr un amser.
Mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein i leihau cyfanswm y swm sy’n ddyledus gennych.
Efallai y bydd angen i chi fynychu gwrandawiad llys arall. Bydd y llys yn eich hysbysu os y cynhelir gwrandawiad.
3. Os yw rhywun wedi rhoi eich manylion ar gam i’r heddlu neu’r llysoedd
Efallai y gallwch ofyn i’r llys ail-agor eich achos os rhoddodd rhywun eich enw i’r heddlu ynghylch trosedd na wnaethoch ei chyflawni.
Sut i ofyn i’r llys ail-agor eich achos
-
Ffoniwch eich heddlu lleol ar 101 i riportio na wnaethoch gyflawni’r drosedd.
-
Gwnewch gais ar-lein i ofyn i’r llys ail-agor eich achos. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i brofi nad chi oedd yr unigolyn a gyflawnodd y drosedd.
-
Bydd y llys yn penderfynu p’un a fydd yn ail-agor yr achos neu’n cysylltu â chi os bydd angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach.
4. Os nad oeddech yn gwybod am eich achos
Os nad oeddech yn gwybod am eich achos, gallwch ofyn i’r llys ei ail-agor.
Mae’n rhaid i chi wneud pob un o’r canlynol:
- gwneud cais i’r llys
- gwneud datganiad cyfreithiol a elwir yn ‘datganiad statudol’
- mynychu gwrandawiad llys
Gwneud cais i’r llys
Mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein.
Bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am ble a phryd y cynhaliwyd eich gwrandawiad a sut y daethoch i wybod am eich achos llys.
Gwneud datganiad cyfreithiol
Bydd angen i chi wneud datganiad cyfreithiol yn dweud na chawsoch hysbysiad yn dweud wrthych am y cyhuddiadau.
Gallwch naill ai wneud y datganiad cyfreithiol:
- cyn y gwrandawiad llys gyda chynrychiolydd cyfreithiol megis cyfreithiwr - bydd rhaid i chi dalu i wneud hyn
- yn y gwrandawiad llys - mae hyn am ddim
Os oeddech yn gwybod am yr achos ond nad oeddech yn gwybod bod yna wrandawiad, efallai na fydd angen i chi wneud datganiad cyfreithiol. Gallwch ofyn i’r llys ail-agor eich achos oherwydd nad oedd gan y llys yr holl wybodaeth.
Ar ôl i chi wneud cais
Os bydd y llys yn derbyn eich datganiad cyfreithiol, bydd yn ail-agor eich achos.
Gallwch dal fod yn euog o’r drosedd, hyd yn oed os nad oeddech yn gwybod am eich achos.
Os bydd eich achos yn cael ei ail-agor a’ch bod yn eich cael yn euog, efallai y bydd y canlyniad yn wahanol. Er enghraifft, efallai y cewch ddirwy uwch neu fwy o bwyntiau ar eich trwydded yrru.
5. Os nad oedd gan y llys yr holl wybodaeth am eich achos
Gallwch ofyn i’r llys ail-agor eich achos:
- os na chafodd y llys y dogfennau i gefnogi eich achos
- os gwnaeth y llys gamgymeriad
- ni chawsoch gyfle i siarad â’r llys am eich achos
Efallai na fyddwch wedi siarad â’r llys os, er enghraifft, nid oeddech yn gwybod am y gwrandawiad neu roedd gennych reswm da dros beidio mynychu.
Bydd y llys yn penderfynu p’un a fydd yn ailagor eich achos.
Os bydd eich achos yn cael ei ail-agor a’ch bod yn eich cael yn euog, efallai y bydd y canlyniad yn wahanol. Er enghraifft, gallwch gael dirwy uwch neu fwy o bwyntiau ar eich trwydded yrru.
Sut i ofyn i’r llys ail-agor eich achos
Mae’n rhaid i chi wneud cais ar-lein.
6. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais i herio penderfyniad y llys ynadon:
- os ydych eisiau gofyn i’r llys leihau swm dirwy
- rhoddodd rhywun eich manylion yn ffug i’r heddlu neu’r llysoedd
- nid oeddech yn gwybod am yr achos yn eich erbyn
- ni wnaethoch fynychu’r gwrandawiad, neu nid oedd gan y llys yr holl dystiolaeth
Gallwch wneud cais:
- dros y ffôn
- ar-lein
Fe ofynnir cwestiynau i chi ac fe ddywedir wrthych pa fath o gais y gallwch ei wneud. Gallwch wneud cais am ddim.
Mae yna broses wahanol ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad Llys y Goron, apelio yn erbyn penderfyniad y llys sifil neu’r llys teulu neu apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth.
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen:
- eich rhif achos unigryw - gallwch ddod o hyd iddo ar eich llythyr hysbysiad, neu unrhyw lythyr gan y llys neu’r erlynydd
- rhif eich trwydded yrru, os yw eich achos yn ymwneud â throsedd gyrru
- tystiolaeth o’ch incwm (megis slipiau cyflog neu lythyr prawf o fudd-dal) os ydych yn gwneud cais i leihau cyfanswm swm eich dirwy
- unrhyw ddogfennau ychwanegol rydych eisiau uwchlwytho i gefnogi eich achos
Os nad yw eich rhif achos unigryw gennych, ffoniwch Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.
Gwneud cais dros y ffôn
Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm a dydd Gwener, 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Gwneud cais ar-lein
Bydd yn cymryd tua 30 munud i wneud cais. Gallwch gadw eich cais a dod yn ôl ato yn hwyrach ymlaen.
Gallwch siarad â’ch cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un) neu gael help gan gynghorydd cyfreithiol cyn i chi herio penderfyniad llys ynadon.
Os oes arnoch angen cymorth i wneud cais
Os ydych angen cymorth, mae pwy y dylech gysylltu ag o yn dibynnu ar beth sydd ei angen arnoch.
Os ydych chi’n cael problemau technegol neu os ydych chi angen cyfarwyddyd ar sut i apelio:
Canolfan Gwasanaethau’r Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Rhif ffôn: 0300 303 5172
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm a dydd Gwener, 9am - 4.30pm
Gwybodaeth am gost galwadau
Os nad oes gennych chi fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we:
We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau banc
Tecstiwch FORM i 60777 ac mi fydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau
7. Pryd i apelio i'r Llys y Goron
Gallwch apelio i Lys y Goron os gwrthodwyd eich cais i:
- adolygu swm y ddirwy
- ail-agor eich achos yn y llys ynadon oherwydd nad oedd ganddynt yr holl wybodaeth
Sut i apelio
Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen ‘Apelio i’r Llys y Goron sy’n berthnasol i’ch trosedd neu ddedfryd. Anfonwch y ffurflen drwy’r post neu e-bost. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Os cafwyd chi’n euog mewn llys ynadon ond y cawsoch eich dedfrydu mewn Llys y Goron, dilynwch y rheolau ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad Llys y Goron.
Pryd i apelio
Fel arfer bydd angen i chi apelio o fewn 15 diwrnod gwaith i’r dyddiad y cawsoch eich dedfrydu.
Os byddwch yn apelio ar ôl 15 diwrnod gwaith, bydd angen i chi egluro pam bod eich apêl yn hwyr yn y ffurflen a darparu tystiolaeth. Efallai na fydd y Llys y Goron yn ystyried eich apêl hwyr.
Siaradwch â’ch cynrychiolydd cyfreithiol (os oes gennych un) neu gallwch gael help gan gynghorydd cyfreithiol cyn i chi apelio.
Y gwrandawiad llys
Bydd y Llys y Goron yn gwneud penderfyniad am eich apêl mewn gwrandawiad. Efallai y bydd yn cynnal gwrandawiad rhagarweiniol i ddechrau i benderfynu sut y dylid rhoi’r dystiolaeth.
Fe gewch lythyr yn dweud wrthych pryd a ble bydd y gwrandawiad, neu wrandawiad rhagarweiniol, yn cael ei gynnal.
Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad
Fe gewch gyfle i gyflwyno eich achos i’r barnwr a’r ynadon. Bydd cynrychiolwyr yr erlyniad yn cyflwyno’r achos yn eich erbyn.
Efallai y bydd y barnwr hefyd yn gofyn cwestiynau i chi yn ystod y gwrandawiad.
Fe ddywedir wrthych p’un a ydych wedi ennill yr apêl yn y gwrandawiad. Fe anfonir gopi o benderfyniad y barnwr atoch drwy’r post hefyd.
Stopio eich apêl
Gallwch wneud cais i stopio eich apêl cyn y gwrandawiad. Ni allwch ail-gychwyn eich apêl unwaith y bydd wedi cael ei stopio.
Anfonwch ‘hysbysiad rhoi’r gorau i apelio’ i’r llys ynadon ble y gwnaethoch anfon eich apêl ac i’r Llys y Goron lle y cynhelir eich gwrandawiad.
Mae’n rhaid i chi hefyd anfon copi at unrhyw bartïon eraill sy’n ymwneud â’r achos, er enghraifft yr erlynydd.
Os byddwch yn ennill eich apêl
Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich euogfarn, ni fydd eich dedfryd yn bodoli mwyach. Efallai y gallwch wneud cais i gael iawndal.
Os byddwch yn ennill eich apêl yn erbyn eich dedfryd, bydd yn cael ei lleihau.
Efallai y bydd y llys yn penderfynu y gallwch gael ad-daliad am rhywfaint o’ch costau cyfreithiol, er enghraifft ffi eich cyfreithiwr.
Os byddwch yn colli eich apêl
Efallai y bydd eich dedfryd neu euogfarn wreiddiol yn newid.
Gwiriwch gyda’ch cynghorydd cyfreithiol os y gallwch apelio eto. Efallai y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol os byddwch yn gwneud hyn.