°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Trosolwg

Gallwch apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth (EAT) os ydych yn meddwl bod camgymeriad cyfreithiol wedi’i wneud mewn achos tribiwnlys cyflogaeth.

²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Er enghraifft, gallwch apelio os:

  • cafodd y tribiwnlys y gyfraith yn anghywir
  • na wnaeth y tribiwnlys gymhwyso’r gyfraith gywir
  • na wnaeth y tribiwnlys ddilyn y gweithdrefnau cywir ac amharodd hyn ar y penderfyniad
  • nid oedd gan y tribiwnlys dystiolaeth i gefnogi ei benderfyniad
  • roedd y tribiwnlys yn rhagfarnllyd yn annheg tuag at y parti arall

Gofynnwch am gyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr am hyn.

²Ñ²¹±ð’r EAT yn annibynnol o’r llywodraeth a bydd yn gwrando ar ddwy ochr y ddadl cyn gwneud penderfyniad.

Cyn i chi apelio

Gofynnwch i’r anfon y rhesymau dros y penderfyniad atoch, os nad ydynt gennych yn barod. Gallwch barhau â’ch apêl tra byddwch yn aros amdanynt.

Cymorth gyda’ch apêl

Darllenwch y rheolau a ddilynir gan yr EAT wrth wneud penderfyniadau.

Gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan a .

Cysylltu â’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Cysylltwch â’r llinell ymholiadau am fwy o wybodaeth.

Llinell ymholiadau cyhoeddus EAT
Rhif ffôn: 020 7273 1041 (Cymru a Lloegr)
Rhif ffôn: 0131 225 3963 (Yr Alban)
Gwybodaeth am gost galwadau