ǸԹ

Skip to main content
Ymgynghoriad caeedig

Gwella hyfforddiant, profi a thrwyddedu mopedau a beiciau modur

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Rydym yn dadansoddi eich adborth

Dewch yn ôl at y wefan hon yn fuan i lwytho'r canlyniad i lawr ar gyfer yr adborth cyhoeddus hwn.

Crynodeb

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i hyfforddiant, profi a thrwyddedu mopedau a beiciau modur i wella diogelwch ar y ffyrdd a symleiddio mynediad pobl at feicio modur.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o
to

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Gweld yr ymgynghoriad hwn yn Saesneg (English) y Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eisiau eich barn ar newidiadau posibl i hyfforddiant, profi a thrwyddedu mopedau a beiciau modur.

Bydd y newidiadau posibl yn effeithio ar gategorïau trwydded yrru ar gyfer:

  • mopedau (AM)
  • beiciau modur (A1, A2, ac A)

Rydym am wneud y newidiadau hyn i wella diogelwch ar y ffyrdd a symleiddio mynediad pobl at feicio modur.

Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch os dylem:

  • gyfyngu beicwyr sy’n dysgu i beiriannau awtomatig os ydynt yn cwblhau hyfforddiant sylfaenol gorfodol (CBT) ar un
  • gyflwyno prawf theori y mae’n rhaid ei sefyll cyn (neu fel rhan o) y cwrs CBT
  • gyflwyno cwrs hyfforddi mynediad cynyddol i feicwyr uwchraddio eu trwydded
  • ddiweddaru’r maes llafur CBT
  • newid y ffordd y mae hyfforddwyr beiciau modur yn cymhwyso
  • newid pa mor hir y mae tystysgrifau CBT yn ddilys
  • ddatblygu gwasanaeth digidol i reoli gweinyddiaeth cyrsiau CBT

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch accessible-formats@dvsa-publishing.zendesk.com. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 16 Chwefror 2026 show all updates
  1. Ychwanegwyd cyfieithiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Diweddarwyd y dyddiad cau i 11 Mai 2026.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon