Gweithdrefn gwyno
Sut i gwyno am wasanaeth DVLA neu roi gwybod am bryder diogelu data.
Os oes gennych gwestiwn neu broblem y mae angen ei datrys
Dylech gysylltu â’r adran rydych wedi bod yn delio â hi yn gyntaf gan mai dyma’r ffordd gyflymaf a hawsaf o ddatrys eich ymholiad yn aml. Er mwyn trin â’ch ymholiadau, bydd angen inni wybod y canlynol:
- eich enw a’ch cyfeiriad llawn
- eich dyddiad geni
- eich rhif gyrrwr (ar gyfer ymholiadau am eich trwydded yrru)
- rhif cofrestru eich cerbyd, gan gynnwys gwneuthuriad a model y cerbyd (ar gyfer ymholiadau am drwyddedu cerbyd, cofrestru neu orfodi)
- unrhyw gyfeirnod rydym wedi’i ddarparu ar ohebiaeth flaenorol
Gwneud cwyn ffurfiol
Cam 1
Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, gallwch gysylltu â’n tîm cwynion a dweud wrthynt am eich pryderon.
I wneud eich cwyn, neu ysgrifennwch i:
Tîm Cwynion
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â mater diogelu data
Os ydych chi’n teimlo nad yw DVLA wedi dilyn cyfraith diogelu data yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR DU) neu Adran 3 o’r Ddeddf Diogelu Data, gallwch wneud cwyn diogelu data. Er enghraifft, os ydych chi’n anhapus â sut mae DVLA wedi delio â’ch gwybodaeth bersonol neu ei rhannu.
Os ydych chi’n gwneud cwyn diogelu data ar-lein, dewiswch yr opsiwn sydd yn fwyaf perthnasol i’ch pryder. Er enghraifft, os yw’ch cwyn yn ymwneud â data personol o’ch cofnod gyrru, dewiswch yr opsiwn ‘gwneud cwyn neu ganmoliaeth am y gwasanaeth gyrwyr rydych wedi’i dderbyn’.
Ymateb i’ch cwyn
Byddwn yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich cwyn ac yn anelu at anfon ymateb llawn atoch o fewn 10 diwrnod gwaith.
Pan fyddwch yn derbyn ymateb i’ch cwyn, efallai y gofynnir ichi hefyd gwblhau arolwg adborth byr. Mae hyn i’n helpu ni i fesur boddhad cwsmeriaid a deall eich disgwyliadau o’r gwasanaeth a ddarperir gan ein tîm cwynion.
Cam 2
Os ydych wedi cysylltu â’n tîm cwynion ac rydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i datrys, gallwch gysylltu â’n Pennaeth Cwynion.
Bydd yn sicrhau y caiff eich achos ei adolygu a’ch bod yn derbyn ymateb. Rydym yn anelu at ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Gallwch neu ysgrifennwch i:
Pennaeth Cwynion
DVLA
Abertawe
SA6 7JL
Nid yw ein Pennaeth Cwynion yn gallu delio ag ymholiadau cyffredinol.
Os ydych yn meddwl nad yw’ch cwyn wedi’i datrys
Adolygiad annibynnol
Os ydych yn teimlo nad yw’ch cwyn wedi’i datrys drwy ein tîm cwynion neu ein Pennaeth Cwynion, gallwch ofyn inni ei chyfeirio at Aseswr Cwynion Annibynnol (ACA).
Byddant yn adolygu’r modd y cafodd eich achos ei drin a byddant yn disgwyl eich bod wedi ceisio datrys eich cwyn yn uniongyrchol gyda ni, yn unol â’n gweithdrefn cwynion, cyn ystyried eich cwyn.
Os yw’ch cwyn yn ymwneud â mater diogelu data, ni ellir ei chyfeirio at ACA. Cael gwybod rhagor o wybodaeth am waith yr ACA.
Yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd
Os nad ydych yn fodlon ac mae’r ACA wedi ymchwilio i’ch cwyn, gallwch ofyn i Aelod Seneddol (AS) gyfeirio eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.
Rydym yn croesawu pob adborth gan gynnwys pryderon, cwynion neu sylwadau ar yr hyn rydym wedi’i wneud yn dda. Rydyn ni am wneud popeth o fewn ein gallu i ddysgu i wneud mwy o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn dda a gwella lle gallwn ni wneud yn well.
Ein nod yw bodloni y PHSO wrth ymdrin â chwynion. Mae’r safonau hyn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaeth ymdrin â chwynion cyflymach a symlach sydd:
- yn hyrwyddo diwylliant dysgu
- yn croesawu cwynion mewn ffordd gadarnhaol
- yn drwyadl a theg
- yn rhoi ymatebion teg ac atebol
Gallwch gael gwybod rhagor ar .
Cwynion diogelu dataÂ
Os ydych yn meddwl nad yw’ch cwyn diogelu data wedi’i datrys drwy ein tîm cwynion neu ein Pennaeth Cwynion, gallwch ei chyfeirio at .
Hysbysiad preifatrwydd
Am wybodaeth bellach am sut rydym yn prosesu eich data, eich hawliau a phwy i gysylltu ȃ nhw, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.
Ein hymrwymiad
Ein cwsmeriaid sydd wrth galon ein busnes ac rydym wedi ymrwymo i ddarparu safon uchel o wasanaeth i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth ac wedi ymrwymo i weithredu ar unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Ein nod yw:
- ymchwilio’n wrthrychol i bob cwyn a gwneud pethau’n iawn ichi pan mae’n bosib
- dysgu o ble aethom yn anghywir
- sicrhau nad ydym yn gwneud yr un camgymeriad eto