°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau statudol

Monitro biotocsinau a ffytoplancton

Diweddarwyd 7 Awst 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Mae biotocsinau morol yn sylweddau gwenwynig sy’n gallu cronni o fewn meinweoedd (tissues) molysgiaid dwygragennog byw. Gall hyn fod o ganlyniad i fwydo ar ffytoplancton sy’n cynhyrchu biotocsinau. 

Ar hyn o bryd, mae tri grŵp o fiotocsinau sy’n cael eu rheoleiddio ar gyfer pysgod cregyn. Gall y rhain achosi:

  • gwenwyn pysgod cregyn parlysol (PSP)
  • gwenwyn pysgod cregyn amnesig (ASP)
  • gwenwyn pysgod cregyn diaretig (DSP) a achosir gan docsinau lipofilig

²Ñ²¹±ð’r broses o fonitro biotocsinau morol yn nodi a oes risg gynyddol o bysgod cregyn yn cael eu halogi.

Mae’n caniatáu i fusnesau gymryd camau priodol i sicrhau bod y pysgod cregyn y maent yn eu rhoi ar y farchnad yn ddiogel i’w bwyta.

Pan ddarganfyddir biotocsinau mewn pysgod cregyn mewn lefelau uwch na’r terfyn cyfreithiol, rydym ni a’ch awdurdod lleol yn gweithredu i sicrhau bod yr ardaloedd dan sylw yn cael eu cau o ran cynaeafu.

Risgiau biotocsinau morol

²Ñ²¹±ð’r rhywogaethau hyn yn bwydo drwy hidlo (‘filter feeders’) neu’n bwydo’n gyfan gwbl ar greaduriaid sy’n bwydo drwy hidlo. Mae hyn yn golygu eu bod yn fwy tebygol o godi a chronni biotocsinau neu halogion bacteriol.

Gall bwyta pysgod cregyn sydd wedi’u halogi â’r biotocsinau hyn arwain at salwch difrifol. O’r herwydd, o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy yn unig y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol. ²Ñ²¹±ð’r ardaloedd hyn yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf biotocsinau a microbiolegol.

Lefelau biotocsinau

Dyma’r lefelau uchaf o fiotocsinau a ganiateir mewn pysgod cregyn:

  • PSP ar 800 microgram/cilogram o saxitoxin (STX)
  • ASP ar 20 miligram/cilogram o asid domoic (DA)

Mae DSP yn cael ei achosi gan grŵp o docsinau Lipoffilig, a dyma’r lefelau:

  • OA/DTXs/ Pectenotoxins (PTXs) ar 160 microgram o gyfwerth asid Okadaic/cilogram
  • Yessotoxinau (YTXs) yr 3.75 miligram o gyfwerth yessotoxin/cilogram
  • Azaspirasidau (AZAs) ar 160 microgram o gyfwerth azaspiracid/cilogram
  • DSP sy’n gymwys ar gyfer rhywogaethau na brofir gan LC-MS – ni ddylai tocsinau DSP fod yn bresennol

Protocol ar gyfer casglu a chludo samplau pysgod cregyn ar gyfer Cymru a Lloegr

Pwysig: Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar . Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.

Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.

Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. ²Ñ²¹±ð’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Pecynnau profi am fiotocsinau ar gyfer y diwydiant

²Ñ²¹±ð’r yn cynnwys gwybodaeth am becynnau profi sydd ar gael i weithredwyr busnesau bwyd a chyngor ar sut i gynnal Profion Cynnyrch Terfynol.

Monitro ffytoplancton

Mae rhai mathau o ffytoplancton yn algâu sy’n cynhyrchu tocsinau.

Cesglir samplau dŵr o safleoedd dethol o fewn ardaloedd tyfu pysgod cregyn dosbarthedig, a chânt eu dadansoddi ar gyfer gwahanol rywogaethau o ffytoplancton gan gynnwys:

  • Alexandriwm
  • Dinoffysis
  • Pseudo-nitzchia

Mae monitro am ffytoplancton yn rhoi rhybudd cynnar o ddigwyddiadau tocsig. Gall hefyd eich helpu i wneud penderfyniadau ar weithgareddau monitro ychwanegol.

Cynaeafu mewn crynodiadau uchel o ffytoplancton

Mae angen i chi gymryd y rhagofalon angenrheidiol os ydych chi am gynaeafu ardaloedd â chyflyrau lefel rhybudd.

Dyma’r lefelau rhybudd am grynodiad ffytoplancton ar gyfer pob rhywogaeth:

  • Alexandriwm (Saxitocsin) – mwy na neu gyfartal â 40 cell/litr o Alexandriwm (cyfrifol am PSP)
  • Dinoffysis (Asid Okadaic) – mwy na neu gyfartal â 100 cell/litr o Dinoffysis, a data hanesyddol (cyfrifol am DSP)
  • Pseudo-nitzschia (Asid Domoic) – mwy na neu gyfartal â 150,000 cell/litr o Pseudo-nitzschia, a data hanesyddol (cyfrifol am ASP)

Canlyniadau biotocsinau a ffytoplanctonau

Mae canlyniadau biotocsinau a ffytoplancton ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn cael eu cadw ar ein gwefan ddata bwrpasol, yn ogystal â chan CEFAS.

Cynlluniau samplu biotocsinau a ffytoplanctonau

Ffurflen gyflwyno sampl pysgod cregyn a dŵr ar gyfer Gogledd Iwerddon

Monitro cregyn bylchog (Pectinidae)

O dan Reoliad (EC) 853/2004 sy’n rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir, gellir cynaeafu cregyn bylchog o ardaloedd sydd heb eu ddosbarthu. Gellir caniatáu cynaeafu cregyn bylchog gwyllt os dilynir y rheolaethau yn y rheoliad hwn a sicrhau bod y cynnyrch terfynol yn ddiogel i’w fwyta.

Cau

I gael manylion unrhyw Hysbysiadau Cau Dros Dro a Hysbysiadau Rhybudd, dylech gysylltu â Swyddog Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol i gael cyngor.

Nid yw’r ffaith nad oes unrhyw wybodaeth ar gael yn golygu bod yr ardal yn rhydd o unrhyw fiotocsinau. Cyfrifoldeb gweithredwr y busnes bwyd yw sicrhau bod eu cynhyrchion yn cydymffurfio â’r holl ofynion perthnasol. Mae hyn yn cynnwys gwirio bod biotocsinau yn is na’r lefelau rheoledig.

¶Ù¾±·É±ð»å»å²¹°ù¾±²¹»å²¹³ÜÌý²ú²â·É

Diweddarwyd ddiwethaf 7 Awst 2026.

²Ñ²¹±ð’r ardaloedd cynhyrchu canlynol ar gau ar hyn o bryd ar gyfer cynaeafu masnachol oherwydd presenoldeb biotocsinau morol sy’n uwchlaw’r terfynau diogel:

  • °äâ°ù-²â-²Ñô°ù
  • Burry Inlet

I gael mwy o fanylion am ganlyniadau, ewch i ganlyniadau biotocsinau a ffytoplancton.

Canlyniadau pysgod cregyn Ffrainc

Mae’n bwysig eich bod chi’n ymwybodol o’r canlyniadau biotocsinau ar gyfer pob ardal rydych chi’n ei chynaeafu i sicrhau bod y cynnyrch yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys dyfroedd Ffrainc.

Mae angen i chi fod yn ymwybodol o’r canlyniadau .

Ar ôl agor y wefan, mae’r marciau coch yn dangos ardaloedd lle mae’r canlyniadau wedi torri lefelau sbarduno ffytoplancton neu derfynau gweithredu cnawd.

Rydym ni’n argymell bod y wefan yn cael ei hagor gan ddefnyddio Google Chrome i fanteisio ar y swyddogaeth gyfieithu sydd ar gael.