°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Mewnforio perlysiau a sbeisys

Cyhoeddwyd 2 Chwefror 2018

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae’n rhaid i berlysiau a sbeisys a gaiff eu mewnforio o du allan i Brydain Fawr fodloni’r un safonau hylendid a’r un gweithdrefnau diogelwch â bwyd a gynhyrchir ym Mhrydain Fawr.

Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio perlysiau a sbeisys.

Safonau ar gyfer sbeisys

Nid yw cyfraith y Deyrnas Unedig (DU) yn diffinio safonau ar gyfer sbeisys. Fodd bynnag, gall cyngor gan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd ar feini prawf microbiolegol ‘cynnyrch terfynol’ fod o gymorth. Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd yn gorff annibynnol sy’n diogelu iechyd a lles pawb yng Nghymru ac yn Lloegr.

Mae gan yr  (APHA) ragor o wybodaeth am y meini prawf.

Mae gwybodaeth am  hefyd ar gael ar wefan y Seasoning and Spice Association.

Lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd

Gall rhai perlysiau a sbeisys gynnwys lliwiau, cyflasynnau (‘flavourings’) neu felysyddion. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo’r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi’u cymeradwyo ym Mhrydain Fawr.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion (‘preservatives’) bwyd, cysylltwch â’r Tîm Ychwanegion Bwyd .

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan °Ç¸ç³Ô¹Ï.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi’u prosesu i’w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i’w tyfu), o drydydd gwledydd, cysylltwch â’r Tîm Mewnforion Organig trwy wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

I gael gwybodaeth am reoleiddio cynhyrchion organig a safonau organig (gan gynnwys labelu) o fewn Prydain Fawr, cysylltwch â’r Tîm Strategaeth Organig trwy wefan Defra.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir ar gyfer pecynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan gyfraith a gymathwyd (‘assimilated’) ym Mhrydain Fawr.

Mae’r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â’r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd .

Hylendid bwyd

Os oes gennych chi ymholiadau cyffredinol ar hylendid bwyd, cysylltwch â’r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Plaladdwyr

I  gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) trwy eu gwefan.

Halogion

²Ñ²¹±ðÌý yn darparu ar gyfer deddfu a gorfodi cyfraith a gymathwyd sy’n gosod terfynau rheoleiddio ar gyfer halogion mewn bwyd, fel nitrad, mycotocsinau, metelau, 3-MCPD, deuocsinau a hydrocarbonau aromatig polysyclig neu PAHs.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae yna rai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio perlysiau a sbeisys, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Cynhyrchion “risg uwchâ€

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel  y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri ‘risg uwch’ i Brydain Fawr. Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch ‘risg uwch’ yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Dyma ragor o wybodaeth am .

Mae ar gael.

Kava-kava

Ers 9 Ionawr 2003, mae’r perlysieuyn ‘kava-kava’, ac unrhyw fwyd sy’n ei gynnwys, wedi’i wahardd rhag dod i mewn i’r DU. Mae hyn oherwydd pryderon ynghylch ei effaith wenwynig ar yr iau/afu.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â  yr Adran Iechyd.

Cysylltiadau tîm

Tîm Polisi Hylendid Bwyd

foodhygiene.policy@food.gov.uk