ǸԹ

Skip to main content
Ffurflen

Gwneud hawliad meddiannu cyflym ar gyfer eiddo a leolir yn gyfan gwbl yn Lloegr: Ffurflen N5B

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud hawliad meddiannu cyflym ar gyfer eiddo rydych yn berchen arno yn Lloegr. Gall Deddf Hawliau Rhentwyr 2025 effeithio ar eich hawliad – gweler 'Manylion' ar y dudalen hon.

Dogfennau

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Deddf Hawliau Rhentwyr 2025

O’r 1 Mai 2026, os ydych yn landlord preifat i eiddo yn Lloegr, gallwch ond gwneud hawliad cyflym os bu ichi gyflwyno rhybudd adran 21 dilys i’ch tenant cyn 1 Mai 2026.

Bydd arnoch angen gofyn i’r llys gyhoeddi’r hawliad erbyn pa un bynnag o’r dyddiadau canlynol sy’n dod gyntaf:

  • dyddiad dirwyn i ben yr hysbysiad adran 21
  • 31 Gorffennaf 2026

Gweler yr arweiniad ar y broses y mae’n rhaid i chi ei dilyn pan fyddwch yn cyflwyno hysbysiad troi allan cyn 1 Mai 2026 i gael mwy o wybodaeth.

Gallwch barhau i wneud cais N5B o dan yr un rheolau â’r cyfnod cyn 1 Mai 2026, dim ond os ydych:

  • landlord cofrestredig preifat yn hawlio meddiant o denantiaeth sicr tai cymdeithasol yn Lloegr
  • yn landlord preifat neu landlord cymdeithasol i eiddo yng Nghymru – fodd bynnag, rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen N5B Cymru

Gweler Rhoi eich eiddo ar rent: arweiniad ar gyfer landlordiaid ac asiantau gosod tai i gael mwy o wybodaeth.

Anfonwch eich ffurflen i’r llys sirol sydd agosaf at yr eiddo rydych yn hawlio meddiannaeth ohono.

Dewch o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Dysgwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Mai 2026 show all updates
  1. Made some clarification around eligibility for the process.

  2. Added the Welsh landing page.

  3. New forms and information for the Renters' Rights Act.

  4. Updated N5B form.

  5. Updated N5B Form.

  6. Updated form N5B.

  7. English version updated

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon