°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Bwyd mwy diogel, busnes gwell

Cyhoeddwyd 5 Mehefin 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Mae ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ (SFBB) yn sôn am y gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau bach. Mae’r pecyn hwn yn nodi eich cyfrifoldebau, yn esbonio sut y dylid defnyddio’r pecynnau, ac yn pwysleisio pwysigrwydd adolygu a diweddaru’r wybodaeth.

Mae SFBB yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar sut i wneud yn siŵr bod y bwyd rydych chi’n ei weini yn eich busnes yn ddiogel.

Cymru a Lloegr

.

Gogledd Iwerddon

Ar gyfer canllawiau yng Ngogledd Iwerddon, gweler y canllawiau arlwyo diogel.

Cynnwys y pecyn

Mae pob pecyn ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ yn cynnwys gwybodaeth am:

  • groeshalogi
  • glanhau
  • oeri
  • coginio
  • rheoli
  • defnyddio’r dyddiadur

Bydd y pecynnau, sy’n ymarferol ac yn hawdd eu defnyddio, yn eich helpu i:

  • gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd
  • dangos beth rydych chi’n ei wneud i baratoi a chadw bwyd yn ddiogel, gan gynnwys glanhau’n effeithiol
  • hyfforddi staff a’u cefnogi i ddilyn arferion hylendid da
  • diogelu enw da eich busnes
  • gwella eich sgôr hylendid bwyd

Mae pob pecyn SFBB unigol yn cynnwys gwybodaeth benodol ar gyfer gofynion busnesau gwahanol, gan gynnwys arlwywyr, gwarchodwyr plant, pecyn atodol ar gyfer cartrefi gofal preswyl, ac adnoddau hyfforddi ar gyfer colegau.

Pecynnau gwybodaeth

Rydyn ni’n darparu pecynnau ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ yn Gymraeg ar gyfer:

Hefyd, mae pecynnau ar gael yn Saesneg ar gyfer:

Gallwch lawrlwytho’r pecyn llawn neu adrannau penodol yn ôl yr angen ar gyfer pob pecyn.

Sut i ddefnyddio’r dyddiadur

Storiwch bob tudalen, wedi’i llenwi, o’ch yn ddiogel tan eich ymweliad nesaf gan swyddog diogelwch bwyd eich awdurdod lleol. Gallwch wneud hyn yn electronig neu gyda chopïau papur. Efallai y bydd y swyddog yn gofyn am gael edrych ar dudalennau’ch dyddiadur yn ogystal â’ch pecyn ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’.

Mae gennych chi ddau opsiwn.

  • cadw’r dyddiadur yn electronig gan lawrlwytho tudalennau’r dyddiadur i’ch dyfais, eu llenwi a’u storio’n electronig
  • argraffu’r dyddiadur a’i lenwi

Mae tudalennau dyddiadur ychwanegol y gallwch eu defnyddio hefyd pan fydd angen rhagor o dudalennau arnoch.

Rhaid cwblhau’r pecyn hwn ar gyfer eich holl weithrediadau bwyd a rhaid iddo amlinellu’r arferion diogelwch bwyd sydd ar waith gyda chofnodion dyddiol yn y dyddiadur.