°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Yr hyn y mae angen i fusnesau ei wybod am arferion masnachol annheg

Diweddarwyd 3 Rhagfyr 2025

Dyma ganllaw byr i’r canllawiau ar arferion masnachol annheg i helpu busnesau i ddeall beth sydd angen iddynt ei wneud.

Dylech ddarllen y canllawiau llawn os, er enghraifft, ydych chi’n

  • berchen ar fusnes neu’n rhedeg busnes (mae hyn yn golygu eich bod yn ‘fasnachwr’) ac yn gwerthu nwyddau, gwasanaethau neu gynnwys digidol i ddefnyddwyr

  • gwerthu nwyddau ar-lein i wneud arian (yn hytrach nag i gael gwared ar hen bethau)

  • cyfreithiwr sy’n cynghori busnesau

Dyma drosolwg syml o’r canllawiau. Dylech ddarllen y canllawiau llawn i’w deall.

Am beth mae’r canllawiau’n sôn?

Mae’r canllawiau’n nodi gweithgareddau sy’n annheg i gwsmeriaid. Mae arferion masnachol y mae’r canllawiau’n eu trafod yn cynnwys unrhyw beth y mae masnachwyr yn ei wneud a allai effeithio ar ddefnyddwyr mewn rhyw ffordd. Mae rhai arferion bob amser yn cael eu gwahardd, tra bod rhai’n cael eu hystyried yn annheg os ydynt yn debygol o gael effaith ar benderfyniadau defnyddwyr.

Beth sydd raid i mi ei wneud?

Mae Deddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr 2024 (Deddf DMCC) yn ei gwneud yn ofynnol i fasnachwyr ymddwyn yn deg ac yn ddiwyd yn eu trafodion â defnyddwyr. Efallai eich bod yn ei thorri, er enghraifft, os byddwch yn:

  • gweithredu’n annheg

  • camarwain

  • ymddwyn yn ymosodol

tuag at ddefnyddwyr.

Dylech ddarllen y canllawiau newydd a sicrhau eich bod yn deall beth sydd angen i chi ei wneud er mwyn i chi drin defnyddwyr yn deg.

Beth sy’n digwydd os na fyddaf yn cydymffurfio?

Rhaid i chi gydymffurfio â’r gyfraith. Os na wnewch chi, efallai y byddwch chi’n wynebu camau gweithredu gan awdurdodau gorfodi (y mae’r CMA yn un ohonynt). Gall y CMA a’r llysoedd nawr ddirwyo masnachwyr nad ydynt yn cydymffurfio â’r gyfraith hyd at 10% o’u trosiant byd-eang. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd ddigolledu defnyddwyr yr effeithir arnynt.

Mae manylion camau gorfodi posibl gan y CMA i’w gweld yng Nghanllawiau gorfodi diogelu defnyddwyr a Chanllawiau gorfodi uniongyrchol yn erbyn defnyddwyr y CMA.

Pryd ddigwyddodd y newidiadau hyn?

Daeth y newidiadau i rym ar 6 Ebrill 2025.

Beth sydd bob amser wedi’i wahardd?

Mae’r ddeddfwriaeth yn cynnwys rhestr o arferion masnachol sy’n annheg ym mhob amgylchiad ac sydd bob amser wedi’u gwahardd. Rhaid i chi beidio â gwneud y pethau hyn o gwbl.

Gallwch weld y rhestr lawn o 32 o arferion gwaharddedig yn y canllawiau ffurfiol ar arferion masnachol annheg.

Mae’r arferion gwaharddedig yn dod o dan y themâu canlynol.

Camddefnyddio nodau ymddiriedaeth, codau ymddygiad neu gymeradwyaethau

Er enghraifft, rhaid i chi beidio â defnyddio logo cod, marc ansawdd na chymeradwyaeth os nad yw’n berthnasol iawn i chi neu’ch cynnyrch.

Honiadau hyrwyddo camarweiniol

Rhaid i chi beidio â defnyddio hysbysebu abwyd nac abwyd a newid na cheisio esgus y bydd cynnig arbennig yn dod i ben yn fuan, neu eich bod ar fin rhoi’r gorau i fasnachu neu symud eiddo, pan nad yw hyn yn wir. Rhaid i chi beidio â dweud bod cynnyrch am ddim pan nad yw hyn yn wir, na dweud wrth rywun eu bod wedi ennill gwobr os nad yw hynny’n wir. Rhaid i chi beidio â cheisio esgus bod hawliau statudol defnyddwyr yn rhan nodedig o’ch cynnig.

Marchnata twyllodrus sy’n cynnwys adolygiadau

Ni chewch ddefnyddio hysbysebu cudd ar gyfryngau cymdeithasol, esgus bod yn ddefnyddiwr sy’n gadael adolygiad, na chomisiynu adolygiadau ffug. Os ydych chi’n cyhoeddi adolygiadau defnyddwyr, mae’n rhaid i chi gymryd camau priodol i sicrhau eu bod nhw’n ddilys.

Cynhyrchion anghyfreithlon

Mae’n waharddedig cynnig cynhyrchion fel camau gwellhad ffug, aelodaeth o gynlluniau hyrwyddo pyramid, cymhorthion i helpu pobl i ennill gwobrau wrth gamblo neu unrhyw beth na ellir ei werthu’n gyfreithlon yn y DU.

Gwerthu dan bwysau

Ni ddylech roi pwysau annheg ar ddefnyddwyr i brynu cynhyrchion, er enghraifft drwy orliwio’r risgiau maen nhw’n eu hwynebu, esgus eu bod nhw wedi archebu rhywbeth pan nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, gwrthod gadael eu cartref, eu poeni drwy gysylltu â nhw dro ar ôl tro, neu wneud iddyn nhw deimlo na allant adael eich siop heb brynu rhywbeth. Ni ddylech ofyn i blant brynu cynhyrchion, na dweud wrth gwsmeriaid, os na fyddan nhw’n prynu eich cynnyrch, y bydd eich bywoliaeth mewn perygl.

Gofal ar ôl gwerthu

Rhaid i chi barhau i drin cwsmeriaid yn deg ar ôl iddyn nhw brynu cynnyrch, er enghraifft drwy anrhydeddu addewidion rydych chi wedi’u gwneud ynglŷn â gofal ôl-wasanaeth sydd ar gael mewn iaith benodol neu o leoliad penodol, a thrwy ymateb i ohebiaeth lle maen nhw’n ceisio arfer hawliau statudol.

Hepgor gwybodaeth o wahoddiadau i brynu

Yn ogystal â’r arferion gwaharddedig, mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys gwybodaeth allweddol wrth roi ‘gwahoddiad i brynu’.

Gwahoddiad i brynu yw lle rydych chi’n nodi manylion cynnyrch a’i bris. Wrth wneud hyn, mae’n rhaid i chi bob amser gynnwys rhywfaint o wybodaeth allweddol (oni bai bod unrhyw ran ohoni eisoes yn amlwg). Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi sicrhau bod prif nodweddion y cynnyrch wedi’u disgrifio’n iawn, a bod y pris llawn yn cael ei roi. Mae’n rhaid iddo fod yn glir pwy sy’n gwerthu’r cynnyrch a sut y gellir cysylltu â nhw. Mae’n rhaid i chi hefyd sicrhau ei bod yn glir sut y gall y defnyddiwr dalu am y cynnyrch, sut y bydd yn cael ei ddanfon, pa hawliau canslo sydd gan y defnyddiwr, a sut y gall y defnyddiwr wneud cwyn os bydd hyn yn angenrheidiol.

Mae Deddf DMCC yn cynnwys gofynion penodol ynghylch bod yn dryloyw gyda phrisiau mewn gwahoddiadau i brynu. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau tryloywder prisiau i:

  • esbonio beth ddylech a beth na ddylech ei wneud wrth ddweud wrth ddefnyddwyr am bris cynnyrch

  • dangos sut y gall y gyfraith fod yn berthnasol yn ymarferol

Dylech hefyd ddarllen y canllawiau ffurfiol ar arferion masnachol annheg:

  • i weld y rhestr lawn o wybodaeth ofynnol ar gyfer gwahoddiadau i brynu

  • os ydych chi’n meddwl y bydd hi’n anodd rhoi’r holl wybodaeth hon

Os ydych chi’n gwneud gwahoddiad i brynu, chi sy’n gyfrifol am gynnwys yr holl wybodaeth berthnasol, hyd yn oed os nad chi yw’r unigolyn sy’n gwerthu’r cynnyrch mewn gwirionedd. Er enghraifft, os ydych chi’n weithredwr marchnad ar-lein sy’n cyflwyno gwybodaeth am y cynhyrchion a restrir gan eraill, neu’n ddylanwadwr sy’n hyrwyddo cynnyrch brand i’ch dilynwyr.

Beth sydd weithiau’n cael ei wahardd?

Ar wahân i’r 32 arfer gwaharddedig, mae rhai arferion yn annheg os ydynt yn debygol o ddylanwadu ar ddefnyddwyr i wneud penderfyniad gwahanol.

Arferion camarweiniol

Mae 2 brif fath o arferion camarweiniol:

  • pethau rydych chi’n eu gwneud sy’n gamarweiniol (gelwir hyn yn ‘weithredoedd camarweiniol’)

  • pethau nad ydych chi’n dweud wrth ddefnyddwyr amdanynt neu guddio gwybodaeth y mae angen i ddefnyddwyr ei gwybod (gelwir hyn yn ‘hepgoriadau camarweiniol’ )

Gweithredoedd camarweiniol

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • darparu gwybodaeth ffug

  • cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd dwyllodrus

  • cyflwyno cynhyrchion y gellir eu drysu ag eraill

  • methu cydymffurfio ag unrhyw god ymddygiad rydych chi’n aelod ohono

Hepgoriadau camarweiniol

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • peidio â dweud wrth ddefnyddwyr rhywbeth y mae angen iddyn nhw ei wybod

  • peidio â rhoi gwybodaeth i ddefnyddwyr pan fo’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth

  • methu gwneud yn glir pryd rydych chi’n marchnata cynhyrchion

  • gwybodaeth bwysig yn rhy hwyr neu mewn ffordd sy’n golygu nad yw defnyddiwr yn debygol o’i gweld

Gall hyn hefyd gynnwys sut mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno ar-lein, felly mae’n rhaid i chi feddwl am eich gwefan neu bresenoldeb ar-lein, ac a yw’r wybodaeth ofynnol yn ddigon amlwg.

Arferion ymosodol

Mae hyn yn cynnwys:

  • aflonyddwch

  • gorfodaeth (mae hyn yn golygu defnyddio neu fygwth grym corfforol)

  • dylanwad gormodol (mae hyn yn golygu rhoi pwysau ar ddefnyddwyr a chyfyngu ar eu cyfle i wneud penderfyniad gwybodus)

Mae yna amrywiaeth o ffactorau a all gyfrannu at arferion ymosodol. Mae’r rhain yn cynnwys pryd a ble mae’r ymddygiad yn digwydd, a manylion sefyllfa’r defnyddiwr. Er enghraifft, eu hoedran neu eu statws iechyd.

Os ydych chi’n debygol o ddelio â defnyddwyr agored i niwed, rhaid i chi ystyried sut mae eich arferion yn debygol o effeithio arnyn nhw.

Ddim yn ymddwyn gyda diwydrwydd proffesiynol

Rhaid i chi ymddwyn gyda diwydrwydd proffesiynol. Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi weithredu gyda gofal a sgiliau rhesymol.

Os na fyddwch yn ymddwyn gyda diwydrwydd proffesiynol, gallech ddylanwadu ar ddefnyddiwr i wneud penderfyniad na fyddent wedi’i wneud fel arall. Gallai hyn fod yn annheg.

Mae’n cynnwys pethau fel:

  • manteisio ar gwsmer nad yw’n gwybod am gynnyrch i godi pris uchel iawn arnynt

  • gwneud gwaith o ansawdd gwael iawn, ond anfonebu amdano beth bynnag

  • gwerthu cynhyrchion yn fwriadol nad ydynt yn addas at y diben

  • peidio ag ymateb dro ar ôl tro i e-byst a galwadau ffôn defnyddwyr mewn modd amserol

Disgwyliadau cod ymddygiad

Os ydych chi’n gyfrifol am greu neu orfodi cod ymddygiad, mae’r gyfraith hefyd yn eich gwahardd rhag hyrwyddo arferion masnachol annheg.

Rhaid i chi sicrhau bod eich cod yn cydymffurfio â safonau diogelu defnyddwyr ac nad yw’n annog busnesau i weithredu’n annheg.