Apelio yn erbyn penderfyniad iawndal gwaed heintiedig
ApĂȘl yn erbyn penderfyniad iawndal gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA).
Trosolwg
Gallwch apelio penderfyniad a wnaed gan yr Awdurdod Iawndal Gwaed Heintiedig (IBCA) ynghylch eich cais cynllun iawndal gwaed heintiedig.
Mae apeliadau yn cael eu penderfynu gan y Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant (SSCS), sydd wediâi gefnogi gan Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF). Maeâr tribiwnlys yn ddiduedd ac yn annibynnol ar y llywodraeth aâr ICBA.
Bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar ĂŽl adolyguâr holl dystiolaeth a gwrando ar y ddwy ochr. Er enghraifft, gall y tribiwnlys benderfynu:
- bod gennych hawl i iawndal
- bod gennych hawl i swm arall o iawndal
- bod penderfyniad gwreiddiol yr ICBA yn gywir
Cyn i chi apelio
Rhaid i chi ofyn iâr penderfyniad am eich cais gael ei ystyried eto cyn y gallwch apelio â gelwir hyn yn benderfyniad adolygu. Ar ĂŽl yr adolygiad, bydd hysbysiad o benderfyniad yn cael ei anfon atoch gyda chanlyniad yr adolygiad.
Yr hawl i apelio
Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich apĂȘl.
Os bydd yr hysbysiad o benderfyniad adolygu yn dweud bod gennych yr hawl i apelio, gallwch gychwyn eich hawliad. Fodd bynnag, bydd arnoch angen dweud yn eich apĂȘl pam eich bod yn meddwl bod gennych yr hawl i apelio.
łÒČč±ô±ô·ÉłŠłóÌęgael cymorth cyn ichi apelio.
Sut i apelio
Mae apelio penderfyniad gan yr IBCA yn rhad ac am ddim.
Byddwch angen:
- eich cyfeirnod IBCA
- manylion y cynrychiolydd syân helpu gydaâch apĂȘl (os ydych yn defnyddio un)
- eich hysbysiad o benderfyniad adolygu
Rhaid i chi apelio iâr tribiwnlys o fewn un mis calendr o gael eich hysbysiad o benderfyniad adolygu.
Tribiwnlys annibynnol fydd yn penderfynu ar eich apĂȘl. Pan fyddwch yn apelio, byddant yn gofyn a ydych eisiau:
- mynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ffĂŽn
- iâch apĂȘl gael ei phenderfynu heb i chi fynychuâr gwrandawiad - gelwir hyn hefyd yn âwrandawiad ar sail y papurauâ
Gofynnir iâr IBCA sut yr hoffent iâr apĂȘl gael ei phenderfynu hefyd.
Gallwch ganfod mwy am y gwrandawiad cyn i chi apelio.
Os yw eich apĂȘl yn hwyr
Os byddwch yn apelioân hwyrach nac un mis calendr ar ĂŽl derbyn eich hysbysiad o benderfyniad adolygu, bydd arnoch angen esbonio pam.
Os yw eich apĂȘl:
- yn llai na 13 mis yn hwyr, bydd yr IBCA yn ystyried y rhesymau a roddwch - os ydynt yn eu gwrthwynebu, bydd barnwr yn penderfynu pâun a fydd eich apĂȘl yn cael ei symud yn ei blaen neu beidio
- 13 mis neu fwy yn hwyr, bydd barnwr yn penderfynu a all eich apĂȘl fynd yn ei blaen
Apelio ar-lein
Apelio drwyâr post
I apelio drwyâr post, bydd arnoch angen llenwi ffurflen SSCS8.
Cofrestru cynrychiolydd i helpu gydaâch apĂȘl
Gallwch enwebu rhywun fel âcynrychiolyddâ iâch helpu gydaâch apĂȘl. Gall cynrychiolydd:
- eich helpu i gyflwyno eich apĂȘl neu baratoi eich tystiolaeth
- gweithredu ar eich rhan
- rhoi cyngor i chi
Gall unrhyw un fod yn gynrychiolydd, gan gynnwys ffrindiau a theulu.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i gynrychiolydd trwy lyfrgell leol neu o sefydliad syân rhoi cyngor ar geisiadau iawndal gwaed heintiedig.
Bydd gan eich cynrychiolydd ganiatĂąd i weithredu ar eich rhan, er enghraifft i ymateb i lythyrau. Bydd yr holl wybodaeth am eich apĂȘl yn cael ei hanfon atynt, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth feddygol.
I gofrestru cynrychiolydd, gallwch naill ai:
- enwi eich cynrychiolydd pan fyddwch yn cyflwyno eich apĂȘl
- cofrestru cynrychiolydd ar unrhyw adeg ar ĂŽl i chi gyflwyno eich apĂȘl
Ar ĂŽl i chi wneud apĂȘl
Os yw eich apĂȘl wediâi derbyn, byddwn yn anfon cadarnhad atoch.
Os byddwn angen mwy o wybodaeth am eich apĂȘl, byddwn yn cysylltu Ăą chi.
Beth fydd yr IBCA yn gwneud pan fyddwch yn apelio
Bydd yr IBCA yn derbyn copi oâch apĂȘl a bydd yn adolygu:
- eu penderfyniad unwaith eto
- yr wybodaeth aâr dystiolaeth a roesoch
Gall yr IBCA newid eu penderfyniad gwreiddiol ar unrhyw adeg cyn y gwrandawiad. Os digwydd hyn, bydd yr IBCA yn anfon penderfyniad adolygu newydd atoch. Os ydych eisiau apelioâr penderfyniad newydd, bydd arnoch angen cychwyn apĂȘl newydd.
Os bydd yr IBCA yn gwrthwynebuâch apĂȘl
Gall yr IBCA wrthwynebuâch apĂȘl oherwydd, er enghraifft:
- maeân gwrthwynebu penderfyniad nad ywân cynnwys hawl i apelio
- maeân hwyr heb reswm da
- nid ywân cynnwys digon o wybodaeth
- maeân annhebygol o fod yn llwyddiannus
Os bydd y tribiwnlys yn meddwl gall y gwrthwynebiad fod yn ddilys, byddant yn ysgrifennu atoch er mwyn:
- esbonio pam bod yr ICBA wedi gwrthwynebuâch apĂȘl
- gofyn i chi ymateb iâr gwrthwynebiad
Yna bydd y barnwr yn adolyguâch achos ac yn penderfynu a all yr apĂȘl fynd yn ei blaen.
Os na fydd yr IBCA yn gwrthwynebuâch apĂȘl
Rhaid iâr IBCA ddarparu ymateb yn esbonio pam eu bod wedi gwneud ei penderfyniad gwreiddiol. Bydd eu hymateb yn cynnwys:
- y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
- crynodeb oâr ffeithiau perthnasol
- y rhesymau dros eu penderfyniad
- dyfyniadau oâr gyfraith berthnasol
- copi oâch ffurflen neu lythyr apĂȘl
- copĂŻau oâr dogfennau perthnasol - er enghraifft, ffurflen hawlio, adroddiadau meddygol a llythyrau
- unrhyw beth yr oedd yr IBCA yn ystyried wrth wneud eu penderfyniad
Mae gan yr IBCA 28 diwrnod oâr dyddiad bu iddynt dderbyn eich apĂȘl i ddarparu ymateb. Fodd bynnag, gall yr IBCA ofyn am estyniad. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi gwybod ichi.
Bydd yr IBCA yn anfon copi oâu hymateb atoch chi aâch cynrychiolydd (os oes gennych un), a bydd arnoch angen ei ddarllen.
Os byddwch yn penderfynu parhau gydaâch apĂȘl, yna byddwn:
- yn trefnu iâch apĂȘl gael ei wrando
- cysylltu Ăą chi am sut i ddarparu tystiolaeth bellach iâr tribiwnlys cyn y gwrandawiad
Os byddwch yn penderfynu peidio Ăą pharhau gydaâch apĂȘl, bydd arnoch angen cysylltu Ăą ni yn ysgrifenedig i dynnuâch apĂȘl yn ĂŽl. Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod eisiau tynnu eich apĂȘl yn ĂŽl, byddwn yn parhau gydaâch apĂȘl.
Y gwrandawiad
Os bydd arnoch angen cyflwyno unrhyw wybodaeth bellach i gefnogiâch apĂȘl cyn y gwrandawiad, rhaid i chi ei anfon atom o fewn 28 diwrnod o dderbyn ymateb yr IBCA. Os oes arnoch angen mwy o amser cysylltwch Ăą ni.
Gwrandawiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt
Gallwch fynychu a chymryd rhan yn eich gwrandawiad wyneb yn wyneb, trwy gyswllt fideo neu dros y ffĂŽn.
Os ydych chi am fynychu gwrandawiad yn bersonol, bydd disgwyl i chi fynychu tribiwnlys yn y Deyrnas Unedig. Byddwn yn ceisio sicrhau bod lleoliad eich gwrandawiad agosaf at:
- ble rydych chiân byw
- eich man cyrraedd os ydych chiân byw y tu allan iâr Deyrnas Unedig
Gallwch ddod o hyd iâch tribiwnlys agosaf yma.
Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad trwy gyswllt fideo, bydd arnoch angen darparu eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen:
- mynediad at gyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd Ăą chysylltiad cryf Ăąâr rhyngrwyd
- rhywle tawel a phreifat i siarad
Os ydych chi eisiau cymryd rhan mewn gwrandawiad dros y ffĂŽn, bydd arnoch angen darparu eich rhif ffĂŽn pan fyddwch yn apelio. Yn ystod y gwrandawiad bydd arnoch angen rhywle tawel a phreifat i siarad.
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau dyddiad eich gwrandawiad. Byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd. Bydd y llythyr yn cynnwys:
- dyddiad ac amser y gwrandawiad
- cyfeiriad y ganolfan wrandawiadau tribiwnlys, a gwybodaeth am y lleoliad a sut i fynd yno
- gwybodaeth am hawlio treuliau
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda lleoliad y gwrandawiad, bydd arnoch angen cysylltu ù ni.
Yn y gwrandawiad, byddwch yn:
- siarad gerbron y tribiwnlys
- cyflwynoâch achos
- ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych
Gwrandawiadau na fyddwch yn cymryd rhan ynddynt
Bydd gwrandawiad ar sail y papurau ond yn digwydd os:
- nad oes unrhyw un wedi gofyn am wrandawiad y gallant fynychu a chymryd rhan ynddo
- bod yr holl bartĂŻon yn cytuno iddo
- bod y tribiwnlys yn meddwl eu bod yn gallu penderfynu ar eich apĂȘl heb i chi fynychu a chymryd rhan yn y gwrandawiad
Ni fyddwch yn cael gwybod beth fydd y dyddiad newydd. Ni fyddwch chi naâr IBCA yn mynychu na chymryd rhan yn y gwrandawiad - bydd y tribiwnlys yn dod i benderfyniad ar ben ei hun. Bydd y tribiwnlys yn ystyried:
- yr wybodaeth yn eich apĂȘl
- unrhyw wybodaeth yr ydych wediâi rhoi
- ymateb yr IBCA iâch apĂȘl
Byddwch yn derbyn copi o benderfyniad y tribiwnlys drwyâr post.
Gofyn i ohirioâch gwrandawiad
Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol mae gwrandawiadau yn cael eu gohirio, er enghraifft os ydych yn sĂąl neuân methu mynychu am bod gennych apwyntiad arall. Gall y barnwr ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn.
Os yw dyddiad eich gwrandawiad 7 diwrnod neu fwy i ffwrdd ac ni allwch fynychu, cysylltwch Ăą ni yn ysgrifenedig i ofyn i ohirioâch gwrandawiad. Bydd eich cais yn cael ei anfon at farnwr iâw adolygu.
Os yw dyddiad eich gwrandawiad yn llai na 7 diwrnod i ffwrdd ac ni allwch fynychu, neu os na allwch ysgrifennu atom, mae arnoch angen ffonioâr tribiwnlys. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y tribiwnlys yma.
Gall y tribiwnlys wrando eich apĂȘl heb i chi fod yno, felly gall y barnwr benderfynu peidio Ăą gohirio eich gwrandawiad.
Cael cymorth
Gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim gan:
Os oes arnoch angen cyngor cyfreithiol, gallwch ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.
Os oes arnoch angen cymorth gydaâch apĂȘl, gallwch gysylltu Ăą llinell gymorth IBCA GLlTEF.
Gall llinell gymorth IBCA GLlTEF ond eich helpu gyda chwblhau eich apĂȘl, ni allant roi cyngor cyfreithiol.
Cymru, Lloegr neu dramor
Rhif ffĂŽn: 0300 303 5170
Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5170
·Ą-ČúŽÇČőłÙ:ÌęContactIBCAppeals@justice.gov.uk
Yr Alban a Gogledd Iwerddon
Rhif ffĂŽn: 0300 790 6234
·Ą-ČúŽÇČőłÙ:ÌęSSCSA-Glasgow@justice.gov.uk
Cysylltu Ăą ni
Gallwch gysylltu Ăą niân ysgrifenedig ynghylch eich apĂȘl neuâch gwrandawiad.
Cymru, Lloegr neu dramor
HMCTS Infected Blood Compensation Appeals
PO Box 13618
Harlow
CM20 9WX
Yr Alban a Gogledd Iwerddon
HMCTS SSCS Appeals Centre
PO Box 13150
HARLOW
CM20 9TT
Updates to this page
-
Included Northern Ireland as a country that provides in person hearings.
-
Updated the Welsh guidance.
-
Added guidance on how to appeal by post, and what happens after you appeal.
-
New link to an online appeal service added
-
Added translation