°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Lle y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd, gan ddibynnu ar y math o sefydliad a’ch lleoliad.

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Mae angen i rai sefydliadau cig a sefydliadau bwyd gael eu cymeradwyo cyn y gallant ddechrau gweithredu. Gan ddibynnu ar y gweithgareddau y byddwch yn eu cyflawni a’ch lleoliad, efallai y bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu eich awdurdod lleol.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Rhaid i’r sefydliadau canlynol gael cymeradwyaeth gennym ni cyn iddynt ddechrau masnachu:

Cymru a Lloegr

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig

Gogledd Iwerddon

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliadau trin helgig
  • marchnadoedd cyfanwerthu cig
  • canolfannau casglu llaeth amrwd
  • gweithfeydd prosesu llaeth gwlyb
  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysau

Ni allwch ddechrau masnachu cyn cael eich cymeradwyo. Ni ddylech ddechrau unrhyw weithgaredd busnes sy’n gofyn am gymeradwyaeth oni bai eich bod wedi cael cymeradwyaeth amodol neu lawn ar gyfer y gweithgarwch arfaethedig gan yr ASB. Os byddwch chi’n dechrau masnachu heb gymeradwyaeth, mae’n drosedd a allai arwain at erlyniad.

Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol

Cymru a Lloegr

Sefydliadau cyffredinol
  • storfeydd oer
  • sefydliadau ail-lapio ac ailbecynnu
Sefydliadau cig
  • sefydliadau briwgigÌý
  • sefydliadau paratoi cig
  • sefydliadau cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
  • ffatrïoedd prosesu cynhyrchion cig
  • ffatrïoedd prosesu brasterau anifeiliaid wedi’u rendro a chriwsionÌý
  • ffatrïoedd prosesu stumogau, pledrennau a choluddion wedi’u trin
  • ffatrïoedd prosesu gelatin
  • ffatrïoedd prosesu colagen
Sefydliadau pysgod a physgod cregyn
  • sefydliadau molysgiaid dwygragennog byw gan gynnwys canolfannau dosbarthu a chanolfannau puro
  • sefydliadau sy’n gweithio gyda chynhyrchion pysgodfeydd gan ddefnyddio llongau ffatri a rhewi, ffatrïoedd prosesu, cynhyrchion pysgodfeydd ffres, neuaddau arwerthu, marchnadoedd cyfanwerthu
Sefydliadau llaethÌý
  • canolfannau casglu llaeth amrwd lle caiff ei oeri a’i hidlo
  • ffatrïoedd prosesu sy’n cynhesu, prosesu a/neu’n lapio cynhyrchion llaeth (llaeth neu unrhyw gynnyrch sy’n cynnwys llaeth)
Sefydliadau wyau a chynhyrchion wyau
  • canolfannau pecynnu – pecynnu a graddio wyau yn ôl ansawdd a phwysauÌý
  • ffatrïoedd prosesu – prosesu cynhyrchion wyau
  • ffatrïoedd wyau hylifol – trin cynnwys wyau heb ei brosesu ar ôl tynnu’r plisgyn

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yr asesiad cymeradwyo, ²¹â€™r hawl i apelio.

Rhestr o sefydliadau a gymeradwyir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Cais am sefydliad newydd

Defnyddiwch einÌý i wneud cais am gymeradwyaeth gan yr ASB ar gyfer eich sefydliad. Bydd angen i chi greu cyfrif er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Pan ddaw eich cais i law, bydd un o’n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i drefnu ymweliad i gynnal asesiad.

Cais am weithgareddau ychwanegolÌýÌý

Os ydych eisoes wedi’ch cymeradwyo fel sefydliad cig ac rydych am wneud cais i gymeradwyo gweithgareddau neu rywogaethau ychwanegol, defnyddiwch einÌý.

Rheoli eich cais

Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, byddwch yn gallu ei reoli a’i olrhain trwy ein gwasanaeth ceisiadau am gymeradwyaeth.

Cymru a Lloegr

Ymweliadau cynghori

Os ydych am wneud cais i gymeradwyo eich sefydliad, gallwch ofyn am ymweliad cynghori. Nod ymweliadau cynghori yw eich helpu i nodi’r gofynion lles a hylendid a allai fod yn gymwys i’ch gweithgareddau cymeradwyo arfaethedig. Mae’r meysydd cyngor yn cynnwys strwythur adeiladau, offer a chyfleusterau, ystyriaethau hylendid gweithredol aÌýHACCP, arferion da, rheoli cofnodion, a gweithdrefnau gweithredu safonol yn ogystal â lles anifeiliaid.

Codir ffi benodol am ymweliadau cynghori sy’n daladwy cyn yr ymweliad. ÌýY ffi ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2026 a Mawrth 2027 yw £438.96 gan gynnwys TAW. Ni ellir ad-dalu’r ffi hon.Ìý

Gallwch ofyn am ymweliad cynghori pan fyddwch yn cyflwyno eich ffurflen gais wrth ddefnyddio ein gwasanaeth cymeradwyo.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd arÌý. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd. Ìý
Ìý
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth amÌý ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï. Ìý
Ìý
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU ²¹â€™r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Asesiad cymeradwyo

Fel rhan o’r broses gymeradwyo, byddwn yn asesu:

  • offer a seilwaith eich sefydliad
  • eich system rheoli diogelwch bwyd, fel rhan o’r broses gymeradwyo.

Nid oes hawl gennych weithredu tan i chi gael cymeradwyaeth amodol.

Ar ôl eich cymeradwyo, bydd un o’n swyddogion milfeddygol yn dychwelyd o fewn tri mis i asesu’r broses gynhyrchu a’ch Ìýa nodir yn:

  • aÌý ar gyfer Cymru a Lloegr
  • a ar gyfer Gogledd Iwerddon

Ar ôl i’r safle gael ei gymeradwyo, ychwanegir manylion y safle ynghyd â gwybodaeth sy’n ymwneud â’r mathau o fwydydd a gynhyrchir at yÌý.

Yr hawl i apelio

Mae gennychÌýhawl i apelioÌýyn erbyn ein penderfyniad os gwrthodir cymeradwyaeth i’ch safle o dan gyfraith bwyd.

Gallwch gyflwyno apêl un mis o’r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.

Mae trosolwg llawn o’r broses ar gyfer cymeradwyo sefydliadau cig ym mhennod 1 adran 4 o’rÌýÌý(MOC). Mae hefyd yn egluro ym mha amgylchiadau y byddem yn tynnu eich cymeradwyaeth yn ôl.

Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy

Rhestr lawn o sefydliadau, fel ffatrïoedd torri a lladd-dai, a gymeradwywyd i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y gosodir gofynion ar eu cyfer yn Rheoliad (CE) a gymathwyd Rhif 853/2004.

Cysylltiadau tîm

Y Tîm Cymeradwyo

approvals@food.gov.uk

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol ar gyfer sefydliad bwyd

Sut i wneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol ²¹â€™r broses gymeradwyo

Sefydliadau sydd angen cymeradwyaeth gan awdurdodau lleol

Mae angen cymeradwyaeth ar gyfer rhai sefydliadau bwyd sy’n trin cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, fel cig, pysgod, wyau, cynhyrchion llaeth, a chynhyrchion wedi’u prosesu sy’n dod o anifeiliaid, sy’n cyflenwi sefydliadau eraill.

Mae’n bosib y bydd angen cymeradwyaeth ar y sefydliadau hyn, naill ai gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) neu gan awdurdod lleol. Ceir enghreifftiau o sefydliadau o’r fath ar ein tudalenÌýSut i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer sefydliad cig neu sefydliad bwyd.

Mae’r dudalen we hon yn ymdrin yn benodol â chymeradwyaeth gan awdurdodau lleol.

Os nad ydych chi’n siŵr a oes angen cymeradwyaeth arnoch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am wneud cais am gymeradwyaeth,Ìý.

Sylwer: Mae’n drosedd i sefydliad bwyd sy’n ddarostyngedig i gymeradwyaeth weithredu, oni bai bod yr awdurdod lleol wedi rhoi cymeradwyaeth.

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau bwyd nad oes angen cymeradwyaeth arnynt, fod wedi’u cofrestru gyda’u hawdurdod lleol.

Ceir manylion ynghylch pwy sydd angen cofrestru a sut i gofrestru ar ein tudalenÌý.

Gwneud cais am gymeradwyaeth gan awdurdodau lleol

Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Gorffennaf 2026 Show all updates
  1. Fixing broken links to appeal process and published list of approved establishments

  2. Updated cost of advisory visit for current tax year

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon