Herio eich prisiad ardrethi busnes
Os ydych yn anghytuno â gwerth ardrethol eich eiddo a osodwyd gan y Swyddfa Brisio, gallwch ei herio drwy eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Pryd y gallwch gyflwyno her
Mae’n rhaid i chi gyflwyno achos gwirio a chael penderfyniad am yr achos hwn cyn y gallwch ddechrau her.
Gallwch herio prisiad eich eiddo annomestig:
-
cyn pen 4 mis i chi gael penderfyniad am yr achos gwirio
-
cyn pen 16 mis i chi gyflwyno’ch achos gwirio os yw’r her yn ymwneud â newid yn yr ardal gyfagos (fel gwaith ffordd)
-
os nad yw’r Swyddfa Brisio wedi gwneud penderfyniad ar eich achos gwirio ar ôl 12 mis
Mae’n rhaid bod gennych reswm dilys, a elwir yn sail, i gyflwyno her:
-
mae’r prisiad yn anghywir
-
ni ddylai’r eiddo gael ei brisio o gwbl
-
mae angen rhannu neu uno’r eiddo
-
mae manylion yr eiddo yn y rhestr gyhoeddedig o brisiadau ardrethi busnes yn anghywir
-
mae’r prisiad yn anghywir oherwydd penderfyniad cyfreithiol ar eiddo arall
Pryd na allwch gyflwyno her
Ni allwch gyflwyno her ar gyfer eiddo fwy nag unwaith:
-
yn erbyn yr un prisiad
-
ar yr un sail
Os ydych am wneud her arall ar sail yr un rhesymau ag a ddefnyddiwyd gennych o’r blaen, mae’n rhaid i’r amgylchiadau fod yn hollol newydd, gyda dyddiad dod i rym (yn agor tudalen Saesneg) gwahanol.
Enghraifft
Os byddwch yn cyflwyno her oherwydd gwaith ffordd, ni allwch gyflwyno ail her ar gyfer yr un gwaith ffordd. Gallwch godi achos gwirio a herio ar gyfer gwaith ffordd newydd, nad yw’n gysylltiedig, a ddechreuodd ar ddyddiad gwahanol. Os byddwch yn cyflwyno her ddwywaith ar gyfer yr un mater o waith ffordd, ni fydd eich ail her yn ddilys.
Ni allwch chwaith cyflwyno her yn erbyn canlyniad her flaenorol. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ar her, bydd angen i chi fynd â’ch apêl gerbron y Tribiwnlys Prisio.
Cyn i chi gyflwyno her
Dylech adolygu eich prisiad a’i gymharu â phrisiadau eiddo tebyg i weld a yw’ch eiddo wedi’i brisio’n deg. Cymharwch y canlynol:
-
lleoliad yr eiddo
-
oedran yr eiddo
-
maint yr eiddo
-
diben yr eiddo
-
gwahaniaethau
Gallwch ddysgu rhagor am sut mae’r Swyddfa Brisio yn prisio eiddo annomestig.
Wrth gyflwyno her, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
-
y rheswm dros eich her
-
tystiolaeth sy’n dangos bod y prisiad yn anghywir
-
datganiad sy’n ategu’ch her
-
gwerth ardrethol arfaethedig newydd, a’r dyddiad pan ddylai hwn ddod i rym
-
manylion rhentu’r eiddo, gan gynnwys cyfnodau di-rent, os yw’n eiddo rhent (hyd yn oed os mai chi yw’r landlord)
Mae’n rhaid i’ch tystiolaeth ddangos pam mae eich prisiad presennol yn anghywir. Gall gynnwys y canlynol:
-
prisiadau eiddo lleol tebyg
-
penderfyniadau cyfreithiol
-
unrhyw ddogfennau eraill sy’n ategu’ch her, megis ffotograffau o’r tir neu’r eiddo a’r amgylchedd lleol
Yn eich datganiad ategol, nodwch yn glir pam eich bod yn cyflwyno her a rhowch grynodeb o’ch tystiolaeth. Esboniwch yn eich datganiad sut mae’ch tystiolaeth yn ategu’ch her, a pham mae’ch gwerth ardrethol arfaethedig yn gywir.
Sut i wneud her
-
Mewngofnodi i’ch cyfrif prisio ardrethi busnes.
-
Dewis y rhestr o’r eiddo yn yr adran ‘Eich eiddo’.
-
Dewis yr eiddo yr ydych am herio ei brisiad.
-
Dewis ei brisiad presennol.
-
Agor y tab ‘Gwiriadau’ a dewis ‘Dechrau her’.
-
Dewis y rheswm dros eich her a pharhau.
-
Uwchlwytho’ch tystiolaeth ategol.
-
Nodi eich gwerth ardrethol arfaethedig.
-
Uwchlwytho datganiad ategol sy’n crynhoi eich tystiolaeth a’ch dadl.
-
Adolygu eich her a’i chyflwyno.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl dystiolaeth gyda’i gilydd pan fyddwch yn cyflwyno’ch her. Gallwch ond cyflwyno tystiolaeth ychwanegol yn nes ymlaen o dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, os nad oedd y dystiolaeth yn bodoli tan i chi gyrraedd hanner ffordd drwy wneud eich her.
Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cyflwyno gwybodaeth ffug i’r Swyddfa Brisio yn fwriadol.
Ar ôl i chi gyflwyno her
Bydd y Swyddfa Brisio yn adolygu’ch tystiolaeth ac efallai y bydd yn cysylltu â chi i drafod eich her. Os byddwn yn cytuno â’ch achos, byddwn yn newid y prisiad ac yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch.
Os byddwn yn cytuno’n rhannol â’ch achos, byddwn yn anfon ffurflen gytundeb atoch y bydd angen i chi ei llenwi a’i dychwelyd.
Os na fyddwch chi a’r Swyddfa Brisio yn cytuno ar ganlyniad, byddwn yn cyhoeddi penderfyniad. Byddwn yn egluro ein barn ac yn nodi unrhyw newidiadau i’r prisiad y byddwn yn bwriadu eu gwneud. Byddwn yn anfon hyn at y person sy’n cyflwyno’r her ynghyd â’r talwr ardrethi, os nad yr un person yw hwn.
Os bydd angen rhagor o wybodaeth ar y Swyddfa Brisio, byddwn yn cysylltu â chi. Mae’n rhaid i chi ddarparu hyn o fewn y terfyn amser a roddwn. Os na fyddwch yn gwneud hynny:
-
gall y Swyddfa Brisio wneud penderfyniad heb yr wybodaeth
-
gall eich her ddod yn annilys heb y dystiolaeth ofynnol ac ni fydd yn arwain at benderfyniad
Yn dilyn her, gall eich gwerth ardrethol a’ch biliau ardrethi busnes gynyddu, gostwng neu aros yr un fath.
Rhannu gwybodaeth eich her
Bydd y Swyddfa Brisio yn rhannu gwybodaeth am eich her yn unol â hysbysiad preifatrwydd Gwirio a Herio.
Os nad ydych wedi cyflwyno her, ond eich bod yn berchennog neu’n feddiannydd eiddo, gallwch ofyn am y canlynol:
-
diweddariadau ar gynnydd yr her
-
cael rhoi caniatâd i unrhyw newid a gytunwyd
I ofyn am ddiweddariadau ar yr her, gwnewch y canlynol:
-
E-bostio ccaservice@voa.gov.uk gyda’r cais.
Bydd y Swyddfa Brisio yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr her, a beth y mae hynny’n ei olygu ar gyfer eich eiddo.
Cymorth ychwanegol
Gall y Swyddfa Brisio roi cymorth ychwanegol i chi os oes gennych gyflwr iechyd neu amgylchiadau personol sy’n ei gwneud hi’n anodd i chi ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein.
Os na allwch herio’r prisiad drwy eich cyfrif prisio ardrethi busnes, cysylltwch â’r Swyddfa Brisio neu anfonwch e-bost at ccaservice@voa.gov.uk
Updates to this page
-
Added Welsh translation.
-
Clearer instructions added for how to submit a challenge.
-
Added information related to check deadline ahead of revaluation 2026.
-
The 'Sharing your challenge information with others' section has been updated in line with practices.
-
A Welsh translation has been added.
-
Updated information for Wales
-
Updated for the 2023 rating list
-
First published.