Sut mae eich eiddo’n cael ei brisio ar gyfer ardrethi busnes
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer ardrethi busnes.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerth ardrethol ar gyfer pob eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr.Maegwerth ardrethol yn amcangyfrif o’r hyn y byddai’n ei gostio i rentu eiddo am flwyddyn, ar ddyddiad penodol a elwir yn Ddyddiad Prisio Rhagflaenol, sef ‘AntecedentValuationDate’(AVD). Ѳ’r canlynol yn cael ei dybio:
-
mae’r eiddoyn wag
-
mae’r eiddo mewn cyflwr rhesymol
-
mae’r eiddo ar gael i’w osod ar y farchnad agored
-
mae’rtenant yn talu am yr ardrethi busnes, atgyweiriadau ac yswiriant
-
mae’rrhent wedi’i gytuno arno rhwng landlord rhesymol a thenant rhesymol
-
mae’rrhent wedi dechrau ar yr AVD
Gallwch weld gwerth ardrethol eich eiddo yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes neu gan ddefnyddio’r offeryn dod o hyd i brisiad ardrethi busnes. Gallwch hefyd weld sut mae eich gwerth ardrethol wedi’i gyfrifo o’i gymharu ag eiddo tebyg. Bydd eich cyngor lleol yn defnyddio’r gwerth ardrethol i gyfrifo’ch bil ardrethi busnes. Nid yw eich gwerth ardrethol yr un peth â’ch rhent neu’ch ardrethi busnes.
Ffyrdd o gyfrifo gwerthoedd ardrethol
Mae 3 prif ffordd o gyfrifo gwerthoedd ardrethol. Ѳ’r dull a ddefnyddir gan y VOA yn dibynnu ar y math o eiddo a’r wybodaeth sydd ar gael amdano.
Ydull rhent cymharol
Ѳ’r VOA yn defnyddio’rdull rhent cymharollle bo llawer o wybodaeth ar gael am amodau prydlesi a’r rhenti sy’n cael eu talu. Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer eiddo sy’n cael eu rhentu’n aml ar y farchnad agored, megis:
-
siopau
-
swyddfeydd
-
caffis
-
ffatrïoedd a warysau
Rydym yn edrych ar faint oedd rhent yr eiddo ar adeg yrAVD, gan ystyried hefyd:
-
a yw’r rhent a dalwyd yn is na gwerth y farchnad
-
amodau’r brydles neu’r drwydded
-
y berthynas rhwng y landlord a’r tenant
-
unrhyw gymhellion i rentu’r eiddo
-
os yw’r tenantiaid wedi gwneud gwelliannau i’r eiddo
-
a yw’r rhent yn cynnwys gwasanaethau a chyfleustodau
-
pryd y cytunwyd ar y rhent, gan fod gwerthoedd yn newid dros amser
-
beth mae eiddo tebyg, cyfagos yn cael eu rhentu amdano
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i gyfrifo beth fydd rhent blynyddol priodol ar gyfer yr eiddo. Dyma werth ardrethol yr eiddo.
Y dull derbyniadau a gwariant
Gelwir y dull derbyniadau a gwariant hefyd yn ddull elw. Ѳ’r VOA yn aml yn ei ddefnyddio i asesu gwerth eiddo fel sinemâu a pharciau thema. Fel arfer rydym yn ei ddefnyddio pan mai gwneud elw yw prif bwrpas yr eiddo ac nad oes llawer o wybodaeth am y rhent sy’n cael ei dalu. I gyfrifo gwerthoedd ardrethol gan ddefnyddio’r dull derbyniadau a gwariant, rydym fel arfer yn:
-
Cymryd sampl gynrychiadol o bob math o eiddo.
-
Ystyried y fasnach gynaliadwy deg gan weithredwr cymharol effeithlon, yn ddelfrydoldrwy adolygu cyfrifon 3 blynedd i bennu’r incwm gros.
-
Tynnu cost gwerthiannau a threuliau gweithio.
-
Tynnu’r hyn a fyddai’n incwm teg i’r gweithredwr.
Y swm sy’n weddill yw’r hyn a allai gael ei dalu’n rhesymol i rentu’r eiddo. Dyma’r ffigur a ddefnyddiwn ar gyfer gwerth ardrethol yr eiddo.
I gymhwyso gwerthoedd ardrethol y samplau cynrychioliadol i eiddo tebyg, rydym yn cyfrifo pa ganran o gyfanswm incwm yr eiddo a fyddai’n cael ei wario ar rent. Mae hyn yn ein galluogi i gyfrifo gwerthoedd ardrethol eiddo eraill heb fod angen cael yr holl wybodaeth ariannol. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o samplau eiddo i sicrhau bod gennym gynrychiolaeth gywir o bob math o eiddo ym mhob lleoliad.
Sail y contractwr
Ѳ’r VOA yn aml yn defnyddio sail y contractwr i brisio eiddo fel ysgolion, ysbytaia meysydd awyr. Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw eiddo nadydyntfel arfer yn cael eu rhentu allan ac nadydynt, yn aml,yncael eu rhedeg er elw. Ѳ’r gwerth ardrethol yn seiliedig ar faint y byddai’n ei gostio i adeiladu’r eiddo. I gyfrifo gwerthoedd ardrethol gan ddefnyddio sail y contractwr, rydym yn:
-
Amcangyfrif faint y byddai’n ei gostio i adeiladu cyfatebiaeth fodern o’r eiddo heddiw ar safle clir.
-
Addasu’r ffigur hwn yn seiliedig ar oedran a chyflwr gwirioneddol yr eiddo.
-
Ychwanegu gwerth unrhyw dir sy’n gysylltiedig â’r eiddo ac unrhyw welliannau i’r safle.
-
Lluosi’r cyfanswm â chanran o’r enw’r ‘gyfraddddadgyfalafu’ — caiff cyfraddaudadgyfalafueu gosod mewn deddfwriaeth ar bob ailbrisiad.
Enghraifft
Ѳ’r VOA yn prisio ysgol. Cyfanswm cost yr eiddo a’r tir yw £1 miliwn, a’r gyfraddddatgyfalafuyw 2.6%. Rydym yn lluosi £1 miliwn â 2.6%, sy’n rhoi gwerth ardrethol o £26,000.
Cynlluniau prisio
Ѳ’r VOA yn rhoi pob eiddo annomestig mewn cynlluniau prisio, fel y gallwn brisio eiddo tebyg mewn grwpiau. Rydym yn grwpio eiddo, sy’n cael eu prisio gan ddefnyddio’rdull rhent cymharol, yn gynlluniau prisio lleol. Rydym fel arfer yn grwpio eiddo, sy’n cael eu prisio gan ddefnyddio’r dull derbyniadau a gwariant neu sail y contractwr, yn gynlluniau prisiocenedlaethol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cynllun prisio eich eiddo yn eich cyfrif prisio ardrethi busnes.
Mesur eiddo
Ѳ’r VOAfel arferyn mesur arwynebedd adeilad gan ddefnyddio naill ai’r dull arwynebedd mewnol net (NIA) neu’r dull arwynebedd mewnol gros (GIA).
Maen nhw’n seiliedig argodymarfer mesur Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS). .
Gwyliwch fideo ar sut mae’r VOA yn mesur eiddo.
.
Yr NIA
Ѳ’r NIA yn cyfeirio at yr arwynebedddefnyddiadwyo fewn adeilad, wedi’i fesur i’rtu mewn i’r waliau ar bob llawr. Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer eiddo fel siopau, swyddfeydd a bwytai.
Dyma rai o’r pethau sy’n cyfrannu at yr arwynebedddefnyddiadwy:
-
cynteddau
-
ceginau
-
cypyrddau mewnol mewnardaloedddefnyddiadwy
-
rampiau a grisiau mewnardaloedddefnyddiadwy
-
ardaloedda feddiannir gan riliau gwresogi ac awyru
Dyma rai o’r pethau nad ydynt yn cyfrannu at yr arwynebedddefnyddiadwy:
-
cynteddau sy’n cael eu rhannu, pennau grisiau a balconïau
-
waliau strwythurol mewnol
-
toiledau
-
ystafelloedd glanhawyr
-
colofnau a brestiau simnai
-
grisiau a siafftiau lifft
Y GIA
Y GIA yw’rarwynebedd o fewn adeilad, wedi’i fesur i’r tu mewn i waliau perimedr pob llawr. Rydym yn ei ddefnyddio ar gyfer eiddo fel ffatrïoedd, gweithdai a warysau.
Dyma rai o’r pethau sy’n cyfrannu at arwynebedd adeilad:
-
cynteddau
-
waliau mewnol aphartisiynau
-
balconïau mewnol a llwybrau cerdded sydd ag ochrau agored
-
colofnau a brestiau simnai
-
grisiau a siafftiau lifft
Dyma rai o’r pethau nad ydynt yn cyfrannu at arwynebedd adeilad:
-
trwch y wal berimedr
-
nodweddion sy’n estyn allan o waliau allanol
-
balconïau allanol a llwybrau cerdded sydd ag ochrau agored
-
canopïau
Sut mae gwahanol fathau o eiddo yn cael eu prisio
Darganfyddwch sut mae’r VOA yn prisio:
Meddiannu sawl rhan o eiddo a rennir
Eiddo yn Lloegr
Os ydych yn meddiannu mwy nag un rhan o eiddo, mae nifer y gwerthoedd ardrethol a gewch yn dibynnuary canlynol:
-
mae’r rhannau rydych yn eu meddiannu yn cyffwrdd â’i gilydd
-
rydych yn defnyddio’r rhannau at yr un diben
Ѳ’r rhannau neu’r lloriau rydych yn eu meddiannu yn cyffwrdd pan fo’r naill neu’r llall yn berthnasol:
-
mae un rhan yn rhannu’r wal gyfan neu ran o’rwal (neu fath o amgaead) gyda’r rhan arall
-
mae’r cyfan neu ran o un llawr yn union uwchben nenfwd y llawr arall
Bydd y VOA yn rhoi un gwerth ardrethol ar gyfer yr holl rannau sy’n cyffwrdd ac sy’n cael eu defnyddio at ddibenion tebyg. Byddwch yn cael un bil ardrethi busnes ar gyfer y rhannau hyn.
Nid yw’r rhannau neu’r lloriau rydych chi’n eu meddiannu yn cyffwrddâ’i gilyddpan fyddannhwwedi’u gwahanu ganun o’r rhain:
-
meddiannydd arall
-
ardaloedda rennir gyda meddianwyr eraill megis lifftiau, grisiau neu gynteddau
Bydd y VOA yn rhoi prisiad ar gyfer pob rhan nad yw’n cyffwrdd â rhan arall. Byddwch yn cael mwy nag un bil ardrethi busnes.
Os oes gennych leoedd parcio wedi’u gwahanu oddi wrth yr adeilad gan ardal a rennir, bydd y VOA yn rhoi prisiadau ar wahân ar gyfer yr adeilad a’r lleoedd parcio.
Eiddo yng Nghymru
Cyn 1 Ebrill 2023, os oeddech chi’n meddiannu rhannau o eiddo yng Nghymru a oedd ochr yn ochr neu un llawr uwchben y llall,roeddech chi’n cael prisiad ar gyfer pob adeilad neu lawr.
Os oedd cysylltiad rhwng yr adeiladau neu’r lloriau nad oeddech yn ei rannu ag unrhyw un arall, roeddech yn cael un prisiad ar gyfer y rhannau hynny a oedd yn gysylltiedig.
MabwysiadoddCymru yr un rheolau â Lloegr o 1 Ebrill 2023 ymlaen.
Updates to this page
-
Information on how properties are valued and the methods of working out rateable values has been improved. Information on how shops and high street businesses are valued has been removed, this information can be found on the page 'How shops and high street businesses are valued for business rates'. Information on how factories, workshops and warehouses are valued has been removed, this information can be found on the page 'How factories, workshops and warehouses are valued for business rates'. Information on how offices are valued has been removed, this information can be found on the page 'How offices are valued for business rates'. Information on how pubs are valued has been removed, this information can be found on the page 'How pubs are valued for business rates'. Information on how hotels are valued has been removed, this information can be found on the page 'How hotels are valued for business rates'. Information on how restaurants are valued has been removed, this information can be found on the page 'How restaurants are valued for business rates'.
-
Added more information about different types of properties and how they are valued
-
Updated some broken links to the rating manual and included information about the 2023 rating list.
-
Information has been added on: zoning, single and multiple hereditaments, repairs and refurbishment, and adjustments. More information has also been included for plant and machinery, NIA and GIA.
-
Content reviewed and updated appropriately.
-
Changed title "The Non-domestic Rating List" to "Check your rateable value".
-
First published.