Sut mae swyddfeydd yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer swyddfeydd.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae swyddfeydd yn cael eu prisio
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fel arfer yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio swyddfeydd. Rydym yn grwpio swyddfeydd gydag eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Fel arfer, rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol net (NIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio a NIA.Ìý
I brisio swyddfeydd, mae’r VOA ²â²Ô:Ìý
-
casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagosÂ
-
dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddoÂ
Rydym hefyd yn ystyried:Â
-
cyfnodau di-rentÂ
-
gwelliannau a wnaed gan y tenantÂ
-
telerau prydles anarferol
-
costau gosod ffitiadau
Rydym yn lluosi’r pris fesul metr sgwâr ag arwynebedd llawr yr eiddo i gyfrifo’r gwerth ardrethol.Ìý
Gall parcio:Â
-
cael ei ddangos ar wahân yn y prisiadÂ
-
cael ei gynnwys yng nghyfanswm y pris fesul metr sgwârÂ
-
cael gwerth ardrethol ar wahân
Dysgwch sut i gael help i ddiweddaru manylion eiddo eich swyddfa (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
±Ê±ð¾±°ù¾±²¹²Ô²Ô²¹³ÜÌý²¹Ìý±è³ó±ð¾±°ù¾±²¹²Ô·É²¹¾±³Ù³óÌý
Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol.ÌýGall peiriannau a pheirianwaith gynnwys:Â
- aerdymheru
- gwresogi
- teledu cylch cyfyng
- systemau chwistrellu dŵr
Swyddfeydd â gwasanaethÂ
²Ñ²¹±ð’r VOA yn prisio adeiladau swyddfeydd â gwasanaeth naill ai fel un asesiad sengl neu fel sawl eiddo ar wahân. Mae hyn yn dibynnu:Â
-
a yw deiliad yr uned yn meddiannu
-
a yw’r gweithredwr yn parhau i fod mewn rheolaeth