Sut mae ffatrïoedd, gweithdai a warysau yn cael eu prisio ar gyfer ardrethi busnes
Dysgwch sut mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn cyfrifo gwerthoedd ardrethol ar gyfer ffatrïoedd, gweithdai a warysau.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sut mae ffatrïoedd, gweithdai a warysau yn cael eu prisioÂ
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn defnyddio’r dull rhent cymharol i brisio ffatrïoedd, warysau a gweithdai. Rydym yn grwpio’r eiddo hyn gydag eiddo tebyg i gynlluniau prisio. Rydym yn eu mesur gan ddefnyddio’r dull arwynebedd mewnol gros (GIA). Dysgwch fwy am y dull rhent cymharol, cynlluniau prisio a GIA.Ìý
I brisio ffatrïoedd, warysau a gweithdai, mae’r VOA ²â²Ô:Ìý
- casglu gwybodaeth am y rhent a dalwyd am eiddo ac eiddo tebyg cyfagosÂ
- dadansoddi’r wybodaeth ac yn cyfrifo pris fesul metr sgwâr ar gyfer yr eiddoÂ
Rydym hefyd yn ystyried yr eiddo o ran:Â
- ³¾²¹¾±²Ô³ÙÌý
- ´Ç±ð»å°ù²¹²ÔÌý
- ±ô±ô±ð´Ç±ô¾±²¹»åÌý
- ³Ù¾±°ùÌýÌý
- nodweddion, megis uchder y bondo a gwresogiÂ
Rydym yn lluosi’r pris fesul metr sgwâr ag arwynebedd llawr yr eiddo i gyfrifo’r gwerth ardrethol.Ìý
Dysgwch sut i gael help i ddiweddaru manylion eiddo eich ffatri, gweithdy neu warws (yn agor tudalen Saesneg).Ìý
Peiriannau a pheirianwaithÂ
Efallai y bydd peiriannau a pheirianwaith, meysydd parcio a thir yn ymddangos ar wahân yng nghyfrifiad y gwerth ardrethol. Gall peiriannau a pheirianwaith gynnwys:
-
system chwistrellu dŵr
-
aerdymheru
-
teledu cylch cyfyng
-
gwresogi