°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Cael eich meddalwedd yn barod

Sut i awdurdodi meddalwedd a gwirio eich cyfnod cyfrifyddu cyn i chi ddefnyddio’r feddalwedd o’ch dewis.

Cyn i chi barhau, gwiriwch eich bod:Ìý

Ar ôl cofrestru, bydd angen i chi neu’ch cleient ddefnyddio’r feddalwedd o’ch dewis sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i greu cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol.ÌýÌý

Cyn i chi ddechrau creu cofnodion digidol, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:Ìý

  • awdurdodi’ch meddalweddÌý

  • gwirio eich cyfnod cyfrifyddu yn eich meddalweddÌýÌý

Awdurdodi’ch meddalweddÌý

Mae angen i chi awdurdodi eich meddalwedd sy’n cydweddu fel ei bod hi’n cysylltu â CThEF.Ìý

Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel unig fasnachwr neu landlordÌýÌý

  1. Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.ÌýÌýÌý

  2. Nodwch y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych pan wnaethoch gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.ÌýÌý

  3. Pasiwch y gwiriad adnabod drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o’ch dogfennau adnabod (os oes angen).ÌýÌý

  4. Rhowch ganiatâd i’ch meddalwedd gysylltu â CThEF.ÌýÌý

Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis, ond ni fydd angen i chi basio’r gwiriad adnabod eto. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.ÌýÌý

Sut i awdurdodi’ch meddalwedd fel asiantÌýÌý

  1. Dewiswch yr opsiwn i gysylltu â CThEF yn y feddalwedd sy’n cydweddu.ÌýÌýÌý

  2. Nodwch ID defnyddiwr a chyfrinair eich ffỳrm ar gyfer ei chyfrif gwasanaethau asiant.

  3. Pasiwch y gwiriad adnabod drwy nodi gwybodaeth bersonol a manylion o ddogfennau adnabod.ÌýÌý

  4. Rhowch ganiatâd i feddalwedd eich cwmni gysylltu â CThEF.ÌýÌý

Mae angen gwybodaeth bersonol gennych chi neu gyflogai yn y cwmni er mwyn atal twyll. Gallwch ddysgu sut rydym yn storio ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn a Hysbysiad Preifatrwydd CThEF.ÌýÌý

Bydd angen i chi ailadrodd y camau hyn bob 18 mis. Dylai’ch meddalwedd eich atgoffa pryd mae’n bryd ailgysylltu.Ìý

Gwirio’ch cyfnod cyfrifydduÌý

Bydd eich meddalwedd yn gosod cyfnod cyfrifyddu sy’n cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill) yn awtomatig.Ìý

Os yw eich cyfnod cyfrifyddu yn rhedeg rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth, mae angen i chi ddewis cyfnodau calendr yn eich meddalwedd cyn i chi anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf.

Ni allwch newid eich cyfnod cyfrifyddu ar ôl i chi anfon diweddariad chwarterol, felly maeֽ’n bwysig eich bod yn gwirio hyn pan fyddwch chi’n gosod eich meddalwedd.ÌýÌý

Yr hyn i’w wneud nesafÌýÌý

Dysgwch sut i gael mynediad at eich gwasanaeth treth newydd a beth allwch chi ei wneud yn eich cyfrif Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.