Ap 勒貊勛圖 One Login: datganiad hygyrchedd
Sut rydym wedi profi hygyrchedd ap 勒貊勛圖 One Login, materion rydym wedi'u darganfod, a sut y gallwch chi roi gwybod am broblemau.
Maer datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol ir:
-
ap iOS 勒貊勛圖 One Login, rhyddhawyd gyntaf ym mis Mehefin 2025
-
ap Android 勒貊勛圖 One Login, rhyddhawyd gyntaf ym mis Mehefin June 2025
Maer apiau hyn yn cael eu rhedeg gan Wasanaethau Digidol y Llywodraeth (GDS).
Rydym am i gynifer o bobl 璽 phosibl allu defnyddio ein apiau. Dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb ir testun ollwng oddi ar y sgrin
- llywior rhan fwyaf or ap drwy ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf or ap drwy ddefnyddio darllenydd sgrin, gan gynnwys VoiceOver a TalkBack
Rydym hefyd wedi gwneud testun yn yr ap mor syml 璽 phosibl iw ddeall.
Mae gan gyngor ar wneud eich dyfais yn haws iw ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch ywr ap iOS
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau or fersiwn iOS or ap 勒貊勛圖 One Login yn gwbl hygyrch.
Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddior ap oherwydd:
- maer ffocws yn symud i elfennau nad ydynt yn rhyngweithiol cyn glanio ar elfennau y gallwch ryngweithio 璽 nhw
- weithiau nid ywr ffocws yn weladwy ar rai elfennau
- nid ywr cyferbyniad rhwng elfennau mewn ffocws ar cefndir yn y dull tywyll yn ddigon uchel i fod yn weladwy i bawb - gallwch wella hyn trwy newid lliw ffocws y bysellfwrdd yn eich gosodiadau dyfais
- efallai na fyddwch yn gallu actifadu elfennau mewn ffocws gydar bar gofod fel yr arfer - efallai y bydd angen i chi ddefnyddio Control + Tab i symud ffocws ir adran nesaf i actifadu botymau
- ni ellir sgrolio gyda bysellfwrdd y rhagolwg a ddangosir wrthych wrth ychwanegu dogfen ir ap - mae hyn yn golygu efallai na fyddwch yn gallu adolygur holl wybodaeth cyn cytuno i ychwanegur ddogfen
- efallai y byddwch yn gweld tudalen Parhau yn yr ap wrth fewngofnodi ac yn cael trafferth dilyn y cyfarwyddiadau i gyffwrdd a dal dolen
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddior ap oherwydd:
- maer ffocws weithiaun mynd yn sownd ar y sgrin flaenorol - os bydd hyn yn digwydd, mae angen i chi ddefnyddior ystum sweipio i fyny gyda 2 fys i ddechrau darllen y sgrin eto or brig
- nid yw rhai elfennau rhyngweithiol yn cael eu darllen allan
- nid yw ymddygiad rhai dolenni a botymau syn mynd 璽 chi allan or ap yn cael eu darllen allan - gall hyn fod yn drafferthus gan nad yw bob amser yn glir ble maer ddolen neur botwm wedi mynd 璽 chi
- pan fyddwch yn mewngofnodi, efallai y byddwch yn cael trafferth mynd yn 繫l ir ap os bydd gwall yn digwydd - bydd angen i chi ddefnyddior teclynnau llywio sgrin yn eich darllenydd sgrin i ddychwelyd ir ap
- nid yw eiconaun cael eu darllen allan bob amser
- nid ywr ddolen i weld dogfen rydych wedii hychwanegu at eich ap yn cael ei ddarllen allan yn yr un lle ag y maen ymddangos ar y dudalen
- nid oes gan y botwm i ddarganfod mwy am ddogfennau label ystyrlon
- nid ywr cyfarwyddiadau am sut i sganior sglodyn yn eich ID gyda llun yn cael eu darllen allan mewn trefn resymegol - wrth i chi symud trwyr carws矇l, bydd angen i chi sweipio i fyny gyda 2 fys i ddechrau darllen o frig y sgrin ar bob sleid
Os ydych wedi cynyddu maint y ffont ar eich dyfais, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddior ap oherwydd:
- mae botymau yn aml wediu gosod ar waelod y sgrin ac yn cymryd llawer o le - mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i chi wneud mwy o sgrolio nag arfer i ddarllen yr holl destun ar sgrin
- mae testun nad ywn ffitio i mewn ir sgrin weithiaun cael ei dorri i ffwrdd, felly efallai na fyddwch yn gallu darllen yr holl destun ar rai sgriniau
- efallai na fydd yn glir bod angen i chi sgrolio i ddarllen yr holl wybodaeth ar y sgrin
- efallai y bydd y cyfarwyddiadau am sut i sganior sglodyn yn eich ID gyda llun yn anodd eu gweld - bydd angen i chi sgrolio i lawr ym mhob adran i weld yr holl destun
Os ydych yn defnyddio rheolaeth llais ac rydych yn defnyddio ap dilysydd i fewngofnodi, efallai y bydd angen i chi olygur cod diogelwch rydych chi wedii roi cyn ei gyflwyno i wneud yn si霾r nad oes ganddo unrhyw fylchau
Os ydych wedi troir nodwedd Reduce Motion ymlaen ar eich dyfais, efallai y byddwch yn gweld bod rhai animeiddiadau yn dal i chwarae.
Os ydych chin defnyddior ap yn y modd tirwedd, efallai y byddwch yn gweld ei fod weithiaun newid ir modd portread hyd yn oed os nad ydych wedi newid cyfeiriadedd eich ff繫n.
Pa mor hygyrch ywr ap Android
Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd allanol, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddior ap oherwydd:
- maer cyflwr ffocws yn defnyddio newid lliw gwan nad ywn weladwy i bawb
- efallai y byddwch yn gweld nad ywr drefn y maer ffocws yn teithio trwy bob tudalen yn gyson - mae hyn yn golygu y gallai llywio drwyr daith gyda bysellfwrdd gymryd mwy o amser
- nid yw rhai cyfarwyddiadau yn cael eu darllen mewn trefn resymegol nar drefn maent yn ymddangos ar y dudalen
- efallai na allwch gaur carws矇l gyda chyfarwyddiadau ar sut i sganior sglodyn yn eich ID gyda llun gan ddefnyddio llwybrau byr bysellfwrdd safonol - bydd angen i chi ddefnyddio Control + Tab i symud ffocws ir botwm yn 繫l
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrin, efallai y byddwch yn cael trafferth defnyddior ap oherwydd:
- mae rhai elfennau tudalen yn cael eu darllen allan yn anghywir fel rhai mewn rhestr
- nid yw rhai penawdau tudalennau yn cael eu darllen allan fel penawdau
- pan fyddwch yn mewngofnodi ir ap, gall fod aros hir rhwng rhoi eich cod diogelwch a chael eich cymryd ir tab hafan yr ap - nid oes unrhyw gyhoeddiad yn ystod yr aros hwn, felly efallai na fydd y rheswm dros yr aros yn glir i chi
Os ydych yn defnyddio dull tywyll, efallai y byddwch yn cael trafferth gweld dolenni a botymau gwyrdd. Nid ywr cyferbyniad rhwng y testun gwyrdd ar cefndir tywyll yn ddigon uchel i fod yn weladwy i bawb.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wediu rhestru yn y datganiad hwn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodlonir gofynion hygyrchedd, cysylltwch 璽 accessibility-team@digital.cabinet-office.gov.uk
Gweithdrefn orfodi
Maer Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y rheoliadau hygyrchedd).
Os nad ydych yn hapus 璽 sut rydym yn ymateb ich cwyn, cysylltwch 璽r .
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap iOS
Mae GDS wedi ymrwymo i wneud yr ap hwn yn hygyrch, yn unol 璽 Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Maer fersiwn iOS o ap 勒貊勛圖 One Login yn cydymffurfion rhannol 璽 safon , oherwydd y cynnwys nad ywn hygyrch a restrir isod.
Cynnwys nad ywn hygyrch
Nid ywr ap iOS yn bodlonir meini prawf WCAG 2.2 canlynol yn llawn:
- 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (Lefel A) - nid ywr ddolen i weld dogfen y maer defnyddiwr wedii hychwanegu at yr ap yn cael ei ddarllen allan yn y lle rhesymegol wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (Lefel A) - nid yw cyfarwyddiadau am sut i sganior sglodyn mewn ID gyda llun ar gael i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin
- 1.3.4 Cyfeiriadedd (Lefel AA) - maer ap weithiaun newid rhwng dulliau tirwedd a phortread hyd yn oed os nad ywr defnyddiwr wedi newid cyfeiriadedd eu ff繫n
- 1.4.4 Newid maint y testun (Lefel AA) - mae labeli ar fotymaun gollwng dros faes y botwm pan fydd maint y ffont yn cael ei gynyddu
- 1.4.10 Ail-lifo (Level AA) - pan fydd maint y ffont yn cynyddu, efallai na fydd yr holl gynnwys mewn sgrin yn weladwy ac mae botymau sefydlog yn lleihau faint o gynnwys syn weladwy ar y sgrin
- 1.4.11 Cyferbyniad nad ywn destun (Lefel AA) - efallai na fydd ffocws yn weladwy i ddefnyddwyr dull tywyll syn defnyddio bysellfwrdd allanol
- 2.1.1 Bysellfwrdd (Lefel A) - nid yw defnyddwyr bysellfwrdd allanol sydd ag iPhone yn gallu dilyn cyfarwyddiadau i ddolenni cyffwrdd a dal gan nad oes ffordd safonol o berfformior weithred hon gyda bysellfwrdd
- 2.1.2 Dim Trap Bysellfwrdd (Lefel A) - ni all defnyddwyr bysellfwrdd allanol sgrolio i weld rhagolwg cyfan or ddogfen maent yn ei ychwanegu at yr ap
- 2.2.2 Saib, stopio, cuddio (Lefel A) - mae rhai animeiddiadau yn dal i chwarae hyd yn oed pan fydd defnyddiwr wedi troir nodwedd Reduce Motion ymlaen
- 2.4.6 Penawdau a Labeli (Lefel AA) - nid oes gan y botwm i ddarganfod mwy am ddogfennau label ystyrlon i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin
- 2.4.7 Ffocws Gweladwy (Lefel AA) - wrth ddefnyddio darllenydd sgrin, maer cyflwr y ffocws weithiaun mynd yn sownd yn y dudalen flaenorol, ac nid ywr cyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol yn ddigon gweladwy yn y dull tywyll
- 3.3.2 Labeli neu gyfarwyddiadau (Lefel A) - wrth ddefnyddio rheoli llais, gall defnyddwyr syn defnyddio ap dilysydd i fewngofnodi gael gwall dilysu oherwydd bod nod bwlch yn aml yn cael ei gyflwyno wrth ddarllen y cod 2FA
- 4.1.2 Enw, r繫l, gwerth (Lefel A) - nid yw elfennau rhyngweithiol yn cael eu darllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- 4.1.3 Negeseuon statws (Lefel AA) nid oes neges gadarnhau pan fo defnyddwyr wedi allgofnodi yn llwyddiannus
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap Android
Mae GDS wedi ymrwymo i wneud yr ap hwn yn hygyrch, yn unol 璽 Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Maer fersiwn Android ap 勒貊勛圖 One Login yn cydymffurfion rhannol 璽 safon , oherwydd y cynnwys nad ywn hygyrch a restrir isod.
Cynnwys nad ywn hygyrch
Nid ywr ap yn bodlonir meini prawf WCAG 2.2 canlynol yn llawn:
- 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (Lefel A) - nid yw eitemaur rhestr fwled bob amser yn cael eu darllen allan wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (Lefel A) - nid oes gan gyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol a thestun gwyrdd ar gyfer defnyddwyr dull tywyll gyferbyniad digon uchel
- 2.1.1 Bysellfwrdd (Lefel A) - mae angen i ddefnyddwyr bysellfwrdd ddefnyddio llwybr byr bysellfwrdd anarferol i gaur carws矇l gyda chyfarwyddiadau ar sut i sganior sglodyn mewn ID gyda llun
- 2.4.3 Trefn Ffocws (Lefel A) - wrth ddefnyddio darllenydd sgrin, nid ywr cyflwr ffocws bob amser yn darllen cyfarwyddiadau yn y drefn gywir neun resymegol
- 2.4.7 Lefel Ffocws Gweladwy AA - nid ywr cyflwr ffocws ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd allanol yn ddigon gweladwy ac nid ywn teithio trwy bob tudalen mewn ffordd gyson
- 4.1.2 Enw, r繫l, gwerth (Lefel A) - nid yw cyflwr allgofnodi, penawdau a hysbysiadau yn cael eu cyhoeddi wrth ddefnyddio darllenydd sgrin
- 4.1.3 Negeseuon Statws (Lefel AA) - does dim neges gadarnhau pan fo defnyddwyr wedi allgofnodi yn llwyddiannus
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw geisiadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Byddwn yn diweddarur dudalen hon pan fydd problemau yn cael eu datrys neu rydym yn disgwyl iddynt gael eu datrys. Byddwn hefyd yn ei ddiweddaru pan fydd problemau newydd yn cael eu nodi.
Mae t簾m hygyrchedd 勒貊勛圖 One Login yn monitror maes esblygol o archwilio hygyrchedd apiau a sut maer meini prawf WCAG yn berthnasol i apiau. Mae 勒貊勛圖 One Login wedi ymrwymo i ymchwil defnyddwyr ac yn croesawu sylwadau neu adborth gan yr holl ddefnyddwyr.
Sut rydym wedi paratoir datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ym mis Ionawr 2026. Byddwn yn ei adolygu ai ddiweddaru o leiaf bob 12 mis.
Profwyd hygyrchedd yr ap 勒貊勛圖 One Login ddiwethaf ym mis Medi 2025. Cynhaliwyd profion gan arbenigwyr hygyrchedd o fewn GDS.
Gwnaethant gynnal profion 璽 llaw gyda nodweddion hygyrchedd dyfeisiau i wirio gallu defnyddiwr i gwblhaur daith profi hunaniaeth ar iOS ac Android. Profwyd pob rhan or daith ar yr ap.
Updates to this page
-
Added an issue external keyboard users who have an iPhone may find when they need to follow instructions to 'touch and hold' a link.
-
Removed 2 issues that have been fixed in the iOS app and added 1 new issue: iPhone users may find their app switches between landscape and portrait modes.
-
Removed 4 issues that have been fixed in the Android app and added 1 new issue: Android users who navigate with a keyboard may have difficulty closing an instruction carousel.
-
Added new accessibility issues users may find when they scan the biometric chip in their photo ID.
-
Removed accessibility issues that have been fixed, and added new issues users may encounter when when adding a digital version of a government document to the app.
-
Added translation