ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Talu drwy’r gyflogres: trethu buddiannau a threuliau cyflogeion drwy’ch cyflogres

Y ffordd o roi gwybod am dreuliau a buddiannau rydych yn eu rhoi i gyflogeion neu gyfarwyddwyr.

Mae’r rheolau ar gyfer adrodd budd-daliadau a threuliau yn newid.

Ni allwch newid y ffordd rydych chi’n adrodd am fudd-daliadau a threuliau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.

Gwasanaeth ar-lein talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres

Os gwnaethoch gofrestru ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres cyn 6 Ebrill 2026, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein er mwyn talu buddiannau a threuliau trethadwy cyflogeion drwy’r gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) i wneud y canlynol:

  • bwrw golwg dros fudd-daliadau rydych wedi’u cofrestru i’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • bwrw golwg dros y cyflogeion sydd wedi cael eu heithrio rhag cael buddiant wedi’i dalu drwy’r gyflogres
  • eithrio cyflogeion rhag cael buddiant wedi’i dalu drwy’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol

Nid oes rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer buddiannau a threuliau sydd wedi’u talu drwy’r gyflogres.

Bydd y codau treth ar gyfer pob cyflogai sy’n cael y buddiannau hyn yn cael eu diwygio, oni bai eich bod yn eithrio unrhyw gyflogeion nad ydych am dalu buddiannau drwy’r gyflogres ar eu cyfer yn y gwasanaeth ar-lein.

Buddiannau y gallwch eu talu drwy’r gyflogres

Yr unig fuddiannau y cewch eu talu drwy’r gyflogres yw’r buddiannau rydych wedi’u cofrestru i’r gyflogres cyn 6 Ebrill 2026.

Ni allwch dalu’r canlynol drwy’r gyflogres:

  • llety byw a ddarperir gan y cyflogwr
  • benthyciadau (buddiannol) sy’n ddi-log a llog isel

Mae’n rhaid i chi barhau i roi gwybod am y buddiannau hyn ar ffurflen P11D, hyd yn oed os ydych yn talu buddiannau eraill drwy’r gyflogres i’r un cyflogeion.

Os ydych yn talu buddiannau car cwmni drwy’r gyflogres, nid oes angen i chi gyflwyno ffurflen P46 (Car) (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn rhoi’r gorau i dalu buddiant drwy’r gyflogres

Os gwnaethoch gofrestru i dalu buddiant drwy’r gyflogres ond nad ydych yn ei dalu drwy’r gyflogres, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein er mwyn eithrio eich cyflogeion rhag y buddiant sy’n cael ei dalu drwy’r gyflogres.

Rhoi gwybod i’ch cyflogeion

Bydd rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i’ch cyflogeion yn esbonio eich bod yn talu buddiannau drwy’r gyflogres a beth mae hynny’n ei olygu iddynt. Gallwch ddewis gwneud hyn drwy’r engreifftiau canlynol:

  • slipiau cyflog
  • e-byst
  • llythyr

Mae’n rhaid i chi anfon yr hysbysiad erbyn 1 Mehefin ar ôl diwedd pob blwyddyn dreth. Mae’n rhaid i’r hysbysiad roi gwybod i’ch cyflogeion na fyddant yn cael eu trethu ddwywaith oherwydd eich bod yn talu buddiannau drwy’r gyflogres gyda CThEF. Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • manylion y buddiannau rydych wedi’u talu drwy’r gyflogres, er enghraifft tanwydd ceir — gall hyn gynnwys beth yw’r buddiannau, y gwerth, y cyfwerth mewn arian parod a pha rai sydd wedi bod yn agored i dreth TWE
  • y swm rydych wedi’i dalu drwy’r gyflogres ar gyfer Trefniadau Tâl Opsiynol
  • manylion y buddiannau nad ydych wedi’u talu drwy’r gyflogres

Dylech hefyd roi gwybod i’ch cyflogeion beth fydd yn digwydd yn ystod y flwyddyn gyntaf. Bydd angen iddynt wybod y canlynol:

  • bydd eu cod treth yn newid i dynnu’r addasiad ar gyfer eu buddiannau
  • byddwch yn rhoi’r swm sydd wedi’i addasu drwy’r gyflogres bob mis a byddant yn talu treth ar y swm hwnnw
  • ar ddiwedd y flwyddyn, byddwch yn rhoi gwybod iddynt faint o fuddiant trethadwy y maent wedi’i gael yn ystod y flwyddyn a beth oedd ei bwrpas

Cyflogeion newydd

Os oes gennych gyflogai newydd sydd â buddiant sy’n cael ei dalu drwy’r gyflogres, mae’n rhaid i chi roi gwybod iddynt am y ffordd mae’r buddiant yn cael ei drethu.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r cyflogai am y canlynol:

  • mae’n bosibl caiff ei god treth ei ddiwygio er mwyn addasu ar gyfer unrhyw fuddiannau o gyflogaeth flaenorol
  • ni chaiff y buddiant newydd ei gynnwys yn ei god treth
  • caiff unrhyw dreth sydd wedi cael ei dandalu sydd efallai yn cael ei dalu ganddo drwy ei god treth presennol yn parhau i gael ei gasglu drwy’i god treth

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Bydd angen i chi barhau i gyfrifo’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar y cywerth mewn arian parod (neu swm perthnasol ar gyfer Trefniadau Tâl Opsiynol (OpRA)) a llenwi ffurflen P11D(b). Mae’r rhwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn berthnasol os ydych yn talu’r buddiannau drwy’r gyflogres neu yn rhoi gwybod i CThEF ar ffurflen P11D.

Mae’n rhaid i chi gadw cofnod o’r buddiannau rydych chi yn eu rhoi drwy gydol y flwyddyn dreth fel eich bod yn gallu adrodd a chyflwyno eich P11D(b) a’r taliadau cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A. Mae’n rhaid i hyn gael ei wneud erbyn 6 Gorffennaf ar ôl diwedd y flwyddyn dreth.

Dysgwch ragor o wybodaeth ynghylch y ffordd o gyflwyno P11D(b) yng nghanllaw cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (CWG5) (yn agor tudalen Saesneg).

Enghraifft: mae cyflogwr yn talu’r buddiant yswiriant iechyd drwy’r gyflogres i’w gyflogeion

Mae’r cyflogwr yn talu £600 am bob cyflogai, pob blwyddyn, am hyn. Maent yn talu’r buddiant hwn drwy’r gyflogres.

Mae codau treth y cyflogeion yn newid yn awtomatig er mwyn cymryd yr addasiad ar gyfer y buddiant hwn — mae’r cyflogeion yn cael gwybod gan CThEF.

Yn ystod y flwyddyn dreth, mae’r cyflogwr yn cyfrifo’r swm o’r buddiant sy’n agored i dreth, ac mae’n ychwanegu’r swm hwn at gyflog misol gwirioneddol y cyflogeion.

Caiff y gost flynyddol ei rhannu â’r nifer o ddiwrnodau cyflog sydd yn ystod y flwyddyn, ac mae’r cyflogeion yn talu treth ar y swm hwn. Gellir cyfrifo hyn:

£600 ÷ 12 = £50 y mis

Y ffordd o gyfrifo’r cyfwerth mewn arian parod

Rydych yn cyfrifo’r cyfwerth mewn arian parod ar gyfer buddiant sy’n cael ei dalu drwy’r gyflogres yn yr un ffordd a chyfrifo’r cyfwerth mewn arian parod ar gyfer buddiant rydych yn rhoi gwybod amdano mewn ffurflen P11D.

Os nad ydych yn sicr beth yw gwerth y buddiant ar ddechrau’r flwyddyn dreth, gallwch wneud amcangyfrif o gyfwerth y buddiant mewn arian parod. Gallwch ei addasu yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn pan rydych yn gwybod beth yw’r union werth.

Er mwyn cyfrifo’r cyfwerth mewn arian parod ar gyfer buddiant rydych yn ei ddarparu, gallwch ddefnyddio’r canlynol:

Ceir diesel sy’n cydymffurfio ag Allyriadau Gyrru Gwirioneddol 2 (RDE2) (a elwir hefyd yn Euro 6d) ar gyfer y flwyddyn dreth 2018 i 2019

Os yw car diesel cwmni yn cydymffurfio ag RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d), mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ganran briodol ar gyfer ‘Math o Danwydd A – Pob car arall’ pan fyddwch yn gwneud y canlynol:

  • cyfrifo’r arian parod cyfwerth ar gyfer y tâl buddiant tanwydd car a’r buddiant car
  • rhoi gwybod am geir diesel cwmni sy’n cydymffurfio ag RDE2 (a elwir hefyd yn Euro 6d) ar ffurflenni P11D neu P46 car

Os ydych yn talu’r tâl buddiant tanwydd car a’r buddiant car drwy’r gyflogres, dylech gyfrifo’r arian parod cyfwerth gan ddefnyddio’r ganran briodol ar gyfer ‘Math o Danwydd A’ ac yna:

  • nodi hyn ym Mlwch 182 o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn
  • nodi ‘A’ ym Mlwch 177 o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn

Trefniadau tâl opsiynol (OpRAs), a elwir hefyd yn aberthu cyflog

OpRA yw pan fydd cyflogai’n ildio’r hawl i gael swm o enillion (a elwir yn aberthu cyflog, fel arfer) yn gyfnewid am fuddiant nad yw ar ffurf arian.

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, os ydych yn sefydlu OpRA newydd, bydd angen i chi gyfrifo gwerth y buddiant nad yw ar ffurf arian drwy ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol, p’un bynnag sydd uchaf:

Nid yw’r rheolau hyn yn berthnasol ar gyfer y canlynol:

  • taliadau i gynlluniau pensiwn
  • cyngor ar bensiynau a roddir gan y cyflogwr
  • talebau gofal plant, meithrinfeydd yn y gweithle, a gofal plant sy’n cael ei gontractio gan y cyflogwr
  • cynllun beicio i’r gwaith
  • ceir gydag allyriadau CO2 o 75g/km neu lai

OpRAs a sefydlwyd cyn 6 Ebrill 2017

Os gwnaethoch sefydlu OpRA gyda chyflogai cyn 6 Ebrill 2017, gallwch barhau i gyfrifo gwerth y buddiant (yn agor tudalen Saesneg) fel yr oeddech yn ei wneud o’r blaen.

Bydd y rhan fwyaf o drefniadau’n amodol ar y rheolau newydd o 6 Ebrill 2018 ymlaen, oni bai eu bod yn cael eu hamrywio, eu hadnewyddu neu eu haddasu cyn y dyddiad hwnnw.

Pan mai darparu car gydag allyriadau o fwy na 75g CO2/km, llety byw neu ffioedd ysgol yw’r buddiant, mae’r rheolau trosiannol yn gymwys am gyfnod hwy. Ni fydd y rheolau newydd yn berthnasol tan 6 Ebrill 2021.

Dysgwch ragor o wybodaeth am OpRAs ac aberthu cyflog (yn agor tudalen Saesneg).

O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd deddfwriaeth TWE yn caniatáu i gyflogwyr dalu symiau perthnasol drwy’r gyflogres o dan drefniadau o’r fath.

Enghraifft: Dechreuodd Peter swydd newydd ar 10 Ebrill 2018, ac aberthu rhan o’i gyflog yn gyfnewid am fuddiant meddygol

£500 yw’r gost i’r cyflogwr, ond mae angen i Peter aberthu £600 o’i gyflog yn gyfnewid am y buddiant. £600 yw’r ’swm a aberthir’.

O dan y rheolau, yr arian parod cyfatebol neu’r arian a aberthir, p’un bynnag sydd uchaf, yw’r swm perthnasol at ddibenion didyniadau treth TWE.

Yn achos Peter, mae’r cyflogwr (sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres) yn cyfrifo’r didyniadau treth TWE ar £600, sef y ’swm trethadwy’, ac yn eu cyflwyno drwy ddefnyddio Gwybodaeth Amser Real (RTI).

Rhaid cynnwys y swm trethadwy yn y canlynol:

  • y P60 ar ddiwedd y flwyddyn fel rhan o ’gyfanswm y cyflog trethadwy yn y flwyddyn’
  • unrhyw P45 - yn y blwch ’cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yma’

Cyfnodau cyflog a ddefnyddir i dalu’r swm trethadwy drwy’r gyflogres

Er mwyn cyfrifo swm trethadwy’r buddiant rydych yn ei dalu drwy’r gyflogres pob diwrnod cyflog, mae angen i chi wybod beth yw nifer y dyddiau y byddwch yn talu eich cyflogeion yn ystod y flwyddyn dreth. Mae nifer y dyddiau cyflog yn cael ei benderfynu gan y cyfnod sydd rhwng pob diwrnod cyflog (y cyfnod cyflog). Mae’r mwyafrif o gyflogeion yn cael eu talu’n wythnosol, pob mis galendr, neu bob 4 wythnos.

Enghraifft: mae gan gyflogai gar cwmni sydd â chyfwerth mewn arian parod o £5,200

Caiff cyflogai ei dalu yn wythnosol (52 diwrnod cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 52 = £100. Yna mae’r cyflogwr yn ychwanegu £100 at gyflog trethadwy’r cyflogai pob diwrnod cyflog.

Caiff cyflogai ei dalu yn fisol (12 diwrnod cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 12 = £433.33. Yna mae’r cyflogwr yn ychwanegu £433.33 at gyflog trethadwy’r cyflogai pob diwrnod cyflog.

Caiff cyflogai ei dalu pob 4 wythnos (13 diwrnod cyflog). Swm trethadwy’r buddiant yw £5,200 ÷ 13 = £400. Yna mae’r cyflogwr yn ychwanegu £400 at gyflog trethadwy’r cyflogai pob diwrnod cyflog.

Cyfnodau cyflog afreolaidd

Mae cyfnodau cyflog afreolaidd yn daliadau o incwm o gyflogaeth sydd heb batrwm sefydlog. Er mwyn cyfrifo swm trethadwy’r buddiant, bydd angen i chi rannu’r cyfwerth mewn arian parod â 365, a lluosi’r ateb â nifer y dyddiau hyd at ddyddiad y cyfnod cyflog o ddyddiad dechrau’r flwyddyn dreth.

Enghraifft: mae cyflogai yn cael cyfwerth â buddiant car mewn arian parod o £5,200 ar gyfer y flwyddyn dreth

Caiff y cyflogai ei dalu ar 31 Mai, sydd 56 diwrnod i mewn i’r flwyddyn dreth.

£5,200 ÷ 365 × 56 diwrnod = £797.80 yw’r swm sydd i’w ychwanegu at y cyflog trethadwy yn y cyfnod hwn.

Y tro nesaf y byddwch yn talu eich cyflogai, cyfrifwch y cyfnod y cafodd y buddiant ei ddarparu o ddyddiad y diwrnod cyflog diwethaf, yn hytrach nag o ddechrau’r flwyddyn dreth.

Y ffordd o ddidynnu neu ad-dalu treth

Rydych yn ychwanegu swm trethadwy’r buddiant at gyflog eich cyflogai er mwyn didynnu’r swm cywir o dreth.

Er enghraifft: mae cyflogai yn ennill £24,000 y flwyddyn, mae’n cael ei dalu’n fisol ac mae ganddo gar cwmni sydd gyfwerth mewn arian parod â £5,200

Cyn talu drwy’r gyflogres, cyflog misol trethadwy’r cyflogai yw £2,000 (£24,000 ÷ 12 = £2,000).

Swm trethadwy’r buddiant car ar pob diwrnod cyflog yw £433.33 (£5,200 ÷ 12 = £433.33).

Cyfanswm cyflog trethadwy’r cyflogai wrth dalu drwy’r gyflogres yw £2,433.33 (£2,000 + £433.33 = £2,433.33).

Unwaith bydd cyfanswm y tâl a swm trethadwy’r buddiant wedi cael ei gofnodi ar y gyflogres (yn agor tudalen Saesneg), dylai treth TWE gael ei chyfrifo.

Mae cyflogai yn talu tuag at gost buddiant

Gall cyflogwyr gytuno i gyflogeion wneud taliad tuag at gost buddiant. Gelwir hyn yn ‘gwneud iawn’. Pan fo cyflogeion yn gwneud hyn, caiff cyfwerth y buddiant mewn arian parod ei leihau.

Os caiff cost gyfan y buddiant ei dalu drwy ‘wneud iawn’, nid oes buddiant trethadwy gan fod y cyflogai wedi talu amdano.

Ar ôl 6 Gorffennaf, ni fydd unrhyw symiau a gaiff eu talu drwy ‘wneud iawn’ yn effeithio’r cyfwerth mewn arian parod. Golyga hyn y bydd y buddiant yn parhau i fod yn drethadwy ac yn agored ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac ni ellir gael ei addasu gan y cyflogwr.

Ar gyfer buddiannau sy’n cael eu talu drwy’r gyflogres, mae’r arweiniad isod yn egluro’r hyn i’w wneud mewn gwahanol amgylchiadau.

Mae cyflogai yn methu ‘gwneud iawn’ ar fuddiant erbyn y diwrnod cyflog olaf

Ble bydd cost buddiant yn hysbys, a’r cyflogai heb ‘wneud iawn’ erbyn y diwrnod cyflog olaf, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm trethadwy’r buddiant sydd angen ei drethu o hyd
  • ychwanegu’r swm trethadwy at daliad cyflog terfynol y cyflogai ar gyfer y flwyddyn dreth
  • cyfrifo swm y dreth sydd angen ei ddidynnu

Ni allwch ddidynnu swm cyfan y dreth oddi wrth y taliad cyflog terfynol os yw dros 50% o’i gyflog.

Gwneud iawn: buddiant tanwydd preifat fan a char

Mae’n bosibl bod gennych gytundeb â’ch cyflogai i ‘wneud iawn’ ar gostau gwirioneddol tanwydd preifat er mwyn osgoi tâl treth buddiant tanwydd ar fan neu gar cwmni.

Os nad ydych yn gwybod beth yw swm y tanwydd sydd wedi cael ei brynu erbyn diwedd y flwyddyn dreth oherwydd y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • rydych yn aros i’r bil tanwydd gael ei anfon gan y cyflenwr
  • nid oes modd i’ch cyflogai gyfrifo ei filltiroedd preifat ar 5 Ebrill

Pan fyddwch yn cael gwybod beth yw cost wirioneddol y tanwydd ar gyfer y milltiroedd preifat, mae gan eich cyflogai hyd at 1 Mehefin i ‘wneud iawn’ am y gost gyfan, neu ran ohoni.

Os yw’ch cyflogai yn methu gwneud hynny, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo’r tâl buddiant tanwydd
  • ychwanegu’r tâl buddiant tanwydd fel swm trethadwy at y taliad cyflog nesaf ar, neu ar ôl, 1 Mehefin
  • cyfrifo TWE

Os yw’r buddiant yn parhau ar ôl 1 Mehefin, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • ailgyfrifo’r buddiant tanwydd fan neu danwydd car ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
  • ei gynnwys fel swm trethadwy o fuddiant pob diwrnod cyflog

Y rheswm am hyn yw er mwyn osgoi hyn rhag digwydd ar ddiwedd y flwyddyn dreth nesaf.

‘Gwneud iawn’: tocynnau credyd

Mae’n bosibl bod gennych gytundeb gyda’ch cyflogai i ddefnyddio eich cerdyn credyd busnes, ac i dalu unrhyw gostau preifat y bydd y cyflogai yn gorfod ei dalu wrth ddefnyddio’r cerdyn.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae’n bosibl na fyddwch yn gwybod beth yw’r swm sydd wedi cael ei wario gyda’r cerdyn credyd gan y cyflogai ar wasanaethau a nwyddau preifat. Er enghraifft:

  • rydych yn aros i’r bil gael ei anfon gan y darparwr
  • mae’n bosibl na fydd gan eich cyflogai fanylion y trafodyn

Unwaith y bydd y swm yn hysbys, mae gan eich cyflogai hyd at 1 Mehefin i ‘wneud iawn’ am gost wirioneddol y buddiant.

Os nad yw eich cyflogai yn ‘gwneud iawn’ ar yr holl gost, neu rhan ohoni, erbyn 1 Mehefin yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • cyfrifo swm y buddiant sy’n dal heb ei drethu, gan ystyried unrhyw symiau mae’r cyflogai wedi ‘gwneud iawn’ arnynt eisoes
  • ychwanegu’r swm at y taliad cyflog nesaf ar, neu ar ôl, 1 Mehefin
  • talu drwy’r gyflogres gost unrhyw ddefnydd o’r cerdyn credyd yn ystod blwyddyn 2, a hynny heb ganiatáu’r addewid i ‘wneud iawn’

Enghraifft:

Mae cyflogai yn defnyddio cerdyn credyd cwmni yn y flwyddyn dreth, a’r swm sydd wedi cael ei wario yw £120. Fe wnaeth y cyflogai gytuno â’r cyflogwr ar ddechrau’r flwyddyn i ‘wneud iawn’ am £30. Mae hyn yn golygu bod y swm trethadwy ar ddiwedd y flwyddyn dreth yn £90.

Yn ogystal, ar ddechrau’r flwyddyn dreth, fe gytunodd y cyflogai i’r cyflogwr drethu £5 y mis drwy dalu drwy’r gyflogres wrth ddisgwyl buddiant. Felly fe gaiff £60 o fil y cerdyn credyd ei dalu drwy’r gyflogres.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, mae’r cyflogai yn tynnu’r swm sydd wedi’i dalu drwy’r gyflogres, sef £60, oddi wrth y swm trethadwy o £90. Mae hyn yn gadael swm o £30 yn weddill er mwyn cael ei drethu.

Os nad yw’r cyflogai yn ‘gwneud iawn’ am y swm o £30 erbyn 1 Mehefin, yna bydd y swm yn cael ei ychwanegu at y taliad cyflog nesaf ar, neu ar ôl, 1 Mehefin.

Os yw’r cyflogai yn defnyddio’r cerdyn credyd er mwyn prynu gwasanaethau a nwyddau preifat yn ystod blwyddyn 2, caiff y swm cyfan ei drethu drwy dalu drwy’r gyflogres yn y flwyddyn honno heb ystyried unrhyw symiau symiau sydd wedi ‘gwneud iawn’ arnynt. Mae hyn yn rhwystro’r cyflogai rhag oedi cyn talu treth, fel y digwyddodd yn ystod blwyddyn 1.

Mae’n bosibl bydd angen i chi ailgyfrifo’r swm trethadwy. Mae gan yr arweiniad Cyflogres: newidiadau sy’n effeithio ar dreuliau a buddiannau ragor o wybodaeth ynghylch yr hyn mae’n bosibl y bydd angen i chi ei ailgyfrifo.

Mae treth y cyflogai yn fwy na 50% o’i gyflog

Ni chaiff cyflogai didynnu mwy na 50% mewn treth oddi wrth gyflog cyflogai. Caiff hyn ei adnabod fel y terfyn gor-redol, ac mae’n sicrhau nad yw cyflogeion yn cael eu gadael â phrinder arian i dalu eu costau byw.

Mewn rhai achosion, bydd traul neu fuddiant sydd â gwerth uchel ac sydd wedi cael ei gyfuno â chyflog isel, yn golygu bod y cyflogai yn cael cyflog clir sydd y nesaf peth i ddim. Gall hyn fod pan fydd cyflogai yn cael ei dalu gan Dâl Salwch Statudol.

Mae modd i chi roi’r gorau i dalu buddion drwy’r gyflogres os yw’n angenrheidiol, pan fydd didynnu treth am y buddiant yn golygu bod y treth sy’n daladwy yn fwy na 50% o gyflog ariannol y cyflogai.

Bydd gennych 2 opsiwn:

Opsiwn 1

Gallwch roi’r gorau i gynnwys y cyflogai yn y broses o dalu drwy’r gyflogres drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os byddwch yn tynnu’r cyflogai am weddill y flwyddyn dreth, bydd y buddiant mae’r cyflogai yn ei gael yn cael ychwanegu at ei god treth. Dylai eich cyflogai wirio bod y cod diwygiedig yn cynnwys y swm cywir o fuddiannau fel nad ydynt yn gordalu nac yn tandalu treth.

Bydd angen i chi anfon ffurflen P11D ar ôl diwedd y flwyddyn dreth ar gyfer y cyflogai sydd wedi’i eithrio. Mae’r swm sydd ar y P11D, ac unrhyw dreth sydd eisoes wedi’i thalu’n drwy’r gyflogres, yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiad treth y cyflogai ar ôl diwedd y flwyddyn.

Os ydych am ailgychwyn talu drwy’r gyflogres yn y flwyddyn dreth ganlynol, bydd angen i chi aros tan ar ôl i chi anfon eich ffurflen P11D, gan ei bod yn sbarduno diwygio codau treth.

Opsiwn 2

Gallwch barhau i gynnwys y cyflogai yn y broses o dalu drwy’r gyflogres, a chario swm trethadwy’r buddiant ymlaen i gyfnodau cyflog yn nes ymlaen yn y flwyddyn dreth honno.

Enghraifft:

Caiff cyflogai ei dalu £1,000 y mis, a’i god treth yw 1060L.

Mae gan y cyflogai fuddiant car sy’n ychwanegu £4,000 at ei gyflog trethadwy ym mis Medi, sy’n golygu bod ganddo gyflog trethadwy o £5,000 ar gyfer mis Medi.

Rydych chi’n defnyddio’r tablau treth er mwyn cyfrifo swm y dreth sy’n ddyledus i’w didynnu. O dan y cod Treth 1060L, y swm yw £1,116.25.

Gallwch ond didynnu hyd at £500 ym mis Medi (50% o gyflog £1,000 y cyflogai).

Caiff y swm o £616.25 o dreth sydd heb ei chasglu ei gario ymlaen i’r diwrnod cyflog nesaf.

Mae cyfanswm y cyflog trethadwy hyd yn hyn yng Nghyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) ym mis Hydref yn cynnwys y buddiant llawn.

Ym mis Hydref, gall hyd at £500 o dreth gael ei chasglu, a bydd swm y dreth sy’n weddill heb ei dalu, o’r buddiant ac o gyflog mis Hydref, yn cael ei gario ymlaen i ddiwrnod cyflog mis Tachwedd.

Os nad oes digion o gyfnodau cyflog i adennill y dreth sydd heb ei chasglu, unwaith fydd yr FPS terfynol wedi cael ei wneud, bydd unrhyw dreth sydd wedi’i thandalu yn cael ei chynnwys mewn cyfrifiad treth ddiwedd blwyddyn, a’i anfon at y cyflogai gan CThEF.

Newidiadau sy’n effeithio ar fuddiannau a threuliau

Os bydd pethau’n newid, megis cyflogai’n gadael neu’n newid y car cwmni, bydd angen i chi ail-gyfrifo’r swm trethadwy i’w dalu drwy’r gyflogres. Mae gan yr arweiniad Cyflogres: newidiadau sy’n effeithio ar dreuliau a buddiannau ragor o wybodaeth ynghylch y newidiadau hyn, a newidiadau eraill.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2026 show all updates
  1. Added information about changes to the rules on reporting benefits and expenses. Removed information about registering and cancelling registrations for the service, as you cannot do this any more.

  2. The link to the HMRC online calculator to work out cash equivalents of benefits an employer provides has been updated.

  3. How to register for payrolling benefits and expenses section has been changed, because there is no longer any informal payroll arrangements from April 2023.

  4. The section 'Tell your employees' has been updated with the information you need to give your employees once you've registered to payroll benefits.

  5. Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  6. The employee pays towards the cost of benefit section has been updated to remove the tax deadline date.

  7. A Welsh language version of the guidance has been added.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon