Anfon data car i CThEF: talu buddiannau car a buddiannau tanwydd car drwy’r gyflogres
Dysgwch y ffordd o roi gwybod i CThEF am fuddiannau car cyflogai neu gyfarwyddwr pan gaiff buddiannau car a buddiannau tanwydd eu talu drwy’r gyflogres.
Trosolwg
Mae’n rhaid i gyflogwyr sy’n talu buddiannau a threuliau trethadwy cyflogeion drwy eu cyflogres anfon y symiau trethadwy at CThEF drwy ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).
O 6 Ebrill 2017 ymlaen, gall cyflogwyr sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres anfon gwybodaeth am y ceir a ddefnyddir gan gyflogeion i CThEF yn wirfoddol. Mae hyn yn debyg i anfon gwybodaeth ar ffurflen P46 (Car) (yn agor tudalen Saesneg) gan gyflogwyr nad ydynt yn talu buddiannau drwy’r gyflogres.
O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd yr wybodaeth hon yn orfodol os ydych yn gyflogwr sy’n talu buddiannau drwy’r gyflogres pan fo car a thanwydd car ar gael i’r cyflogai.
Mae’n rhaid i gyflogwyr sydd ddim yn talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres barhau i gwblhau ffurflen P46 (Car) (yn agor tudalen Saesneg).
Dysgu pa wybodaeth i’w hanfon
Mae’r rhestr isod yn dangos pa wybodaeth sydd ei hangen (os yw’ch meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) yn cydweddu):
- gwneuthuriad a model y car
- y dyddiad y cofrestrwyd y car yn gyntaf
- allyriadau carbon deuocsid (CO2)
- milltiroedd allyriadau sero
- math o danwydd
- adnabod y car
- pris wedi’i gyfrifo
- o ba ddyddiad oedd y car ar gael
- tan ba ddyddiad oedd y car ar gael
- cyfwerth mewn arian parod neu swm perthnasol
- dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
- cyfwerth mewn arian parod neu enillion a aberthwyd am y tanwydd
- dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl
- dangosydd y diwygiad
Llenwi’r blychau
Mae’r penawdau isod yn dangos pa wybodaeth i’w chyflwyno yn yr FPS cyntaf sy’n cynnwys treth sydd wedi’i thalu drwy’r gyflogres.
Gwneuthuriad a model y car
Nodwch wneuthuriad a model y car a ddarperir.
Allyriadau CO2
Nodwch y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy a ddangosir ar y Dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C). Nid yw’r ffigur CO2 yn berthnasol i’r canlynol:
- ceir a gofrestrwyd gyntaf cyn 1998
- rhai ceir prin sydd wedi’u mewnforio o dramor
Rhowch ‘X’ yn y blwch ar gyfer y ceir hyn.
Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
Rhaid i’r dyddiad a nodwyd fod yn heddiw neu’n gynharach. Gellir gweld y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf ar eich dogfen V5C.
Milltiroedd allyriadau sero
Rhwng 2020 a 2021, os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy’n 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae’n bosibl gyrru yn y modd trydan heb ailwefru’r batri.
Gall cyflogwyr gael yr wybodaeth hon gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.
Os ydych yn berchen ar y cerbyd, gallwch ddod o hyd i’r ffigur milltiroedd allyriadau sero ar Dystysgrif Cydymffurfio eich cerbyd.
Math o danwydd
Os ydych yn cyfrifo gwerth trethadwy ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, dewiswch:
- ‘F’ ar gyfer ceir diesel sy’n bodloni safon Ewro 6d (a elwir hefyd yn RDE2)
- ‘D’ ar gyfer pob car diesel arall
- ‘A’ ar gyfer pob car arall
Ar gyfer 2019 i 2020, bydd gwybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn eich galluogi i adnabod a yw car yn bodloni safon Ewro 6d drwy eu Gwasanaeth Ymholiadau Cerbydau ar-lein ar gyfer ceir a gynhyrchwyd ar ôl mis Medi 2018. Mae gwybodaeth safon Ewro 6d ar gael ar y ffurflen V5C ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Medi 2018 ymlaen.
Adnabod y car
Mae’r blwch hwn yn eich helpu i adnabod pa gar rydych wedi’i ddyrannu i gyflogai, e.e. pan gaiff yr un modelau eu darparu. Awgrymwn eich bod yn nodi rhif cofrestru’r car.
Pris wedi’i gyfrifo
Nodwch y pris wedi’i gyfrifo. Y pris wedi’i gyfrifo yw pris sylfaenol y car ynghyd â phris unrhyw ategolion. Yna, tynnwch i ffwrdd unrhyw gyfraniad cyfalaf a dalwyd gan y cyflogai. Ni chaiff taliadau am ddefnydd preifat na symiau sy’n ‘gwneud iawn’ (yn agor tudalen Saesneg) eu hystyried yn y cyfrifiad hwn.
O ba ddyddiad oedd y car ar gael
Nodwch y dyddiad pan oedd y car ar gael am y tro cyntaf yn yr FPS nesaf pan gaiff y cyflogai ei dalu. Dylech nodi 6 Ebrill yn yr FPS cyntaf os oedd y car ar gael o’r dyddiad hwnnw.Â
Os yw car ar gael ar ôl anfon yr FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth. dylech ddefnyddio’r FPS gyntaf yn y flwyddyn dreth newydd a nodi 6 Ebrill ar gyfer ‘ar gael o’.Â
I weld pa dreth sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod roedd y car ar gael yn y flwyddyn dreth flaenorol, dylech ailgyfrifo’r swm trethadwy a’r dreth sy’n ddyledus. Yna, anfonwch y rhain ynghyd ag unrhyw ddiwygiad i’r cyflog trethadwy mewn FPS neu Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU).
Tan ba ddyddiad oedd y car ar gael
Nodwch y dyddiad olaf roedd y car ar gael. Ni allwch nodi dyddiad sydd ar ôl 5 Ebrill mewn FPS ar gyfer yr un flwyddyn dreth.
Os nad oes car ar gael bellach ar ôl anfon yr FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth, does dim rhaid i chi anfon FPS wedi’i ddiwygio ar gyfer data car yn y flwyddyn dreth nesaf. Byddai dyddiad ‘ar gael tan’ cyn 6 Ebrill yn cael ei wrthod.Â
Ni ellir anfon FPS mis 1 fel diwygiad ar gyfer data car â dyddiad 31 Mawrth arno. Er enghraifft, os mai 20 Mawrth oedd y dyddiad cyflog olaf, a doedd y car ddim ar gael o 31 Mawrth ymlaen.Â
Rhaid diwygio’r symiau trethadwy sydd wedi’u talu drwy’r gyflogres ar gyfer yr FPS olaf yn ystod blwyddyn dreth, neu raid eu cynnwys fel rhan o EYU i ddangos y swm trethadwy diwygiedig. Mae hyn oherwydd y bydd y cyflogai wedi talu’r swm anghywir o dreth yn seiliedig ar argaeledd y car tan 31 Mawrth.
Cyfwerth mewn arian parod neu swm perthnasol
Nodwch y cyfwerth mewn arian parod disgwyliedig neu’r swm perthnasol wrth anfon gwybodaeth am y tro cyntaf mewn FPS.
Y swm perthnasol yw’r ffigur trethadwy pan fo cyflogai’n ildio’i hawl i gael cyflog er mwyn cael buddiant yn lle hynny, megis car cwmni.
Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
Nodwch 6 Ebrill ar gyfer y dyddiad os darparwyd tanwydd am ddim o ddechrau’r flwyddyn dreth. Fel arall, nodwch ddyddiad yn ystod y flwyddyn dreth pan rydych wedi cytuno i ddarparu tanwydd am ddim.
Cyfwerth mewn arian parod neu enillion a aberthwyd am y tanwydd
Nodwch y cyfwerth mewn arian parod disgwyliedig neu swm yr enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd sydd ar gael i gyflogai.
Y swm a aberthwyd yw swm yr enillion a aberthwyd er mwyn cael buddiant tanwydd car yn lle hynny.
Y dyddiad pan dynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl
Nodwch y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl. Os cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth flaenorol, ond ni chaiff ei ddarparu yn y flwyddyn dreth newydd, peidiwch â llenwi’r blwch hwn.
Diwygiadau a chywiriadau
Mae’r penawdau isod yn dangos sut i gywiro neu ddiwygio cyflwyniad.
Dangosydd y diwygiad
Dylech nodi ‘Iawn’ os oes angen cywiriad yn ystod y flwyddyn dreth ar gyfer y blychau canlynol:
- gwneuthuriad a model y car
- y dyddiad y cofrestrwyd y car yn gyntaf
- allyriadau CO2
- milltiroedd allyriadau sero
- math o danwydd
- adnabod y car
- pris wedi’i gyfrifo
- o ba ddyddiad oedd y car ar gael
- tan ba ddyddiad oedd y car ar gael
- cyfwerth mewn arian parod neu swm perthnasol
- dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
- cyfwerth mewn arian parod neu enillion a aberthwyd am y tanwydd
- dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl
Yna nodwch y manylion diwygiedig ar gyfer un neu ragor o’r blychau uchod yn yr FPS nesaf yn y flwyddyn dreth. Os oes angen i chi gyflwyno newid i ddata car yn unig ond ddim manylion cyflog a threth, dylech wneud y canlynol:
- gadael y blychau ’cyflog yn ystod y cyfnod’ yn wag
- cynnwys y manylion cyflog a threth hyd yma ar gyfer y flwyddyn
Os na thelir incwm yn ystod y cyfnod cyflog nesaf, rhaid i chi roi gwybod am y newid i’r data car yn unig. Er enghraifft, os telir y cyflogai’n afreolaidd.
Os daw data car anghywir i’r amlwg ar ôl i chi anfon yr FPS olaf, dylech anfon y manylion cywir yn yr FPS cyntaf yn y flwyddyn dreth newydd, os yw’r car ar gael o hyd. Ni ddylid defnyddio dangosydd y diwygiad.
Cywiriadau
Dim ond yn eich FPS o fewn y flwyddyn dreth nesaf y dylid nodi cywiriadau i wybodaeth am ddata car. Ni allwch roi gwybod am ddiwygiadau i ddata car mewn EYU.
Gwneuthuriad a model y car
Os ydych wedi nodi’r disgrifiad anghywir, anfonwch yr wybodaeth gywir yn eich FPS nesaf.
CO2
Os ydych wedi nodi’r ffigurau CO2 anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ yn y dangosydd diwygiadau, a nodi’r ffigur CO2 cywir yn eich FPS nesaf.
Os yw’n dod i’r amlwg bod y ffigur CO2 yn anghywir ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn siŵr fod yr FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y math cywir, os ydych yn talu am y car drwy’r gyflogres.
Math o danwydd
Os ydych wedi cyflwyno’r llythyren anghywir ar gyfer y math o danwydd, anfonwch yr un cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad. Os yw’n dod i’r amlwg bod y math o danwydd yn anghywir ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn siŵr fod yr FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y math cywir, os yw’r car yn dal i gael ei gynnwys yn y gyflogres.
Adnabod y car
Os ydych wedi sylweddoli bod cofnod yn anghywir, cyflwynwch y manylion cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad.
Pris wedi’i gyfrifo
Os yw’r pris wedi’i gyfrifo yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y pris newydd yn yr FPS nesaf.
O ba ddyddiad oedd y car ar gael
Os yw’r dyddiad ‘ar gael o’ yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn yr FPS nesaf.
Tan ba ddyddiad oedd y car ar gael
Os sylweddolir, nes ymlaen, bod y dyddiad hwn yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn yr FPS nesaf cyn diwedd y flwyddyn dreth.
Cyfwerth mewn arian parod neu swm perthnasol
Os nad yw’r car ar gael bellach, neu os yw’r cyfwerth mewn arian parod neu’r swm perthnasol yn anghywir, dylid newid yr arian parod cyfwerth neu’r swm perthnasol yn yr FPS nesaf, a rhoi gwybod amdano fel diwygiad.
Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
Os yw’r dyddiad y rhoddir gwybod amdano yn anghywir, dylid anfon diwygiad a nodi dyddiad diwygiedig. Os caiff y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl, nid yw hynny’n ddiwygiad. Dylech lenwi’r blwch ‘dyddiad y cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl’.
Cyfwerth mewn arian parod neu enillion a aberthwyd am y tanwydd
Dylid diwygio’r blwch hwn os yw’r cyfwerth mewn arian parod neu swm yr enillion a aberthwyd am y tanwydd yn anghywir, neu os yw argaeledd y tanwydd yn newid.
Y dyddiad pan dynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl
Os oedd y dyddiad a nodwyd gennych mewn FPS blaenorol yn yr un flwyddyn dreth yn anghywir, anfonwch y cywiriad fel diwygiad.
Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
Os ydych wedi nodi’r dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ yn y dangosydd diwygiadau, a nodi’n gywir y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn eich FPS nesaf.
Milltiroedd allyriadau sero
Os ydych wedi nodi’r milltiroedd allyriadau sero yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ yn y dangosydd diwygiadau, a nodi’r milltiroedd allyriadau sero cywir yn eich FPS nesaf.
Updates to this page
-
Added translation
-
Removed link to payrolling benefits and expenses online service.
-
Amendments and corrections information updated for zero emission mileage and date first registered.
-
Car fuel type information amended for the 2020 to 2021 tax year.
-
Car fuel type information amended for the 2019 to 2020 tax year.
-
Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.
-
Guidance on payrolling car fuel benefits for employees has been added.
-
A Welsh language version of the guidance has been added.
-
First published.