Cofrestru nod masnach
Trosolwg
Gallwch gofrestru’ch nod masnach i ddiogelu’ch brand, er enghraifft enw eich cynnyrch neu wasanaeth.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pan fyddwch yn cofrestru’ch nod masnach, byddwch yn gallu:
- cymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n defnyddio’ch brand heb eich caniatâd, gan gynnwys ffugwyr
- rhoi’r symbol ® wrth ymyl eich brand - i ddangos mai eich brand chi ydyw a rhybuddio eraill rhag ei ddefnyddio
- gwerthu a thrwyddedu’ch brand
Cyn cofrestru nod masnach, gwiriwch:
- mai dyma’r math cywir o amddiffyniad ar gyfer eich eiddo deallusol (yn Saesneg )
- beth allwch chi ei gofrestru fel nod masnach (yn Saesneg )
Mae nod masnach yn parhau am 10 mlynedd. Rhaid i chi adnewyddu’ch nod masnach bob 10 mlynedd er mwyn iddo aros mewn grym.
Beth mae’n ei gostio
Mae cofrestru nod masnach yn costio o leiaf £205. Fel arfer bydd yn costio mwy yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft sawl math o nwyddau neu wasanaethau rydych am ddiogelu’ch brand ynddynt.
Y broses ymgeisio
Rhaid i chi anfon manylion eich nod masnach a’r nwyddau neu wasanaethau rydych am ddefnyddio’ch nod masnach arnynt i’r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO).
³Ò²¹±ô±ô·É³¦³óÌýanfon eich cais ar-lein neu drwy’r post.
Bydd yr IPO yn:
- gwirio nad yw eich nod masnach yr un peth ag unrhyw nodau masnach presennol, neu’n debyg iddynt
- cyhoeddi manylion eich cais yn y cyfnodolyn, rhag ofn bod unrhyw un eisiau ei wrthwynebu
Os oes unrhyw broblemau bydd yr IPO yn rhoi gwybod i chi. Bydd rhaid i chi eu datrys cyn y gallwch gofrestru’ch nod masnach.
Os nad oes unrhyw broblemau, fel arfer mae’n cymryd tua thri i bedwar mis o wneud cais i’ch nod masnach gael ei roi.
Gweld llinell amser o’r broses.
Cofrestru’ch nod masnach dramor
Mae cofrestru nod masnach yn y DU yn diogelu’ch brand yn y DU ac Ynys Manaw yn unig.
Mae prosesau gwahanol ar gyfer:
- - mae angen i chi fod wedi cofrestru’ch nod masnach yn y DU yn barod er mwyn gallu ei gofrestru yn Jersey
- cofrestru nodau masnach dramorr