Cofrestru nod masnach
Yr hyn y gallwch ei gofrestru fel nod masnach
Gall eich nod masnach gynnwys:
- geiriau
- synau
- logos
- lliwiau
- cyfuniad o unrhyw un o’r rhain
Yr hyn na allwch ei gofrestru
Ni all eich nod masnach:
- ddisgrifio’r nwyddau neu’r gwasanaethau y bydd yn ymwneud â nhw, er enghraifft defnyddio’r gair ‘Apple’ ar gyfer cwmni sy’n gwerthu afalau - ond gellid ei ddefnyddio ar gyfer cwmni cyfrifiaduron
- bod yn rhy gyffredin ac yn annodweddiadol, er enghraifft datganiad fel ‘rydym yn arwain y ffordd’
- bod yn sarhaus, er enghraifft cynnwys geiriau rheg neu ddelweddau pornograffig
- bod yn siâp generig yn unig sy’n gysylltiedig â’ch busnes, er enghraifft defnyddio amlinelliad generig o botel win ar gyfer busnes sy’n gwerthu gwin
- defnyddio baneri cenedlaethol nad oes gennych ganiatâd i’w defnyddio
- defnyddio arwyddluniau neu nodau masnach swyddogol, er enghraifft arfbeisiau
Efallai na fyddwch yn gallu cofrestru eich nod masnach os yw’r un fath â nod masnach busnes arall sy’n gwerthu’r un nwyddau neu wasanaethau, neu’n debyg iddo.
.