Systemau rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau
Printable version
1. Trosolwg
Os ydych chi’n rhedeg busnes bwyd, mae angen i chi fod â system rheoli diogelwch bwyd ar waith i wneud yn siŵr bod eich bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae system rheoli diogelwch bwyd yn set ysgrifenedig o brosesau, gwiriadau, rheolau a chofnodion. Fel arfer mae’n cynnwys pethau fel:
- rheolau ar gyfer glanhau a hylendid
- gweithdrefnau coginio a storio diogel
- mesurau rheoli alergenau
- hyfforddiant staff
- gwiriadau tymheredd
Rhaid i’ch system rheoli diogelwch bwyd fodloni egwyddorion Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).
Mae rheolau gwahanol ar gyfer HACCP mewn ffatrïoedd cig.
Egwyddorion HACCP
Er mwyn bodloni , bydd angen i chi:
- nodi unrhyw beryglon bwyd y mae angen eu hosgoi, eu gwaredu, neu eu lleihau
- nodi’r pwyntiau rheoli critigol (CCPs) – sef y pwyntiau pan fydd angen i chi atal, gwaredu neu leihau perygl yn eich proses waith
- gosod terfynau ar gyfer y CCPs
- ³¾´Ç²Ô¾±³Ù°ù´Ç’r CCPs
- rhoi gwiriadau ar waith i sicrhau bod eich system yn gweithio
- cymryd camau unioni os oes problem gyda CCP
- cadw cofnodion o’ch systemau diogelwch bwyd, eich gwiriadau, a’r camau unioni rydych chi wedi’u cymryd
Os bydd eich busnes yn dod yn rhan o ddigwyddiad diogelwch bwyd, bydd angen i chi ddangos eich cofnodion fel tystiolaeth o sut rydych chi’n cadw bwyd yn ddiogel.
Peryglon bwyd
Mae ‘perygl bwyd’ yn golygu unrhyw beth a allai wneud bwyd yn anniogel i’w fwyta.
Dyma’r 3 phrif fath:
- microbiolegol – yn ymwneud â bacteria niweidiol
- cemegol – yn cynnwys cemegion glanhau, alergenau, a halogiad arall
- ffisegol – yn ymwneud â gwrthrychau sy’n mynd i mewn i fwyd
2. Creu system rheoli diogelwch bwyd
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’r math o system rheoli diogelwch bwyd sydd ei angen arnoch yn dibynnu ar y canlynol:
- maint eich busnes
- lefel risg a chymhlethdod eich busnes
Enghreifftiau
Mae caffi yn paratoi brechdanau, saladau a diodydd poeth i’w gwerthu’r un diwrnod. Mae angen i’r caffi nodi risgiau diogelwch bwyd allweddol, cadw bwyd wedi’i oeri ar dymheredd diogel, a darparu gwybodaeth am alergenau i gwsmeriaid.
Mae ffatri yn cynhyrchu prydau parod wedi’u hoeri sy’n cynnwys cig wedi’i goginio, ac mae’n eu dosbarthu ledled y wlad. Mae angen system â dogfennaeth gynhwysfawr arni, sy’n cynnwys rheolaethau ar gyfer olrheiniadwyedd, profi cynhyrchion, monitro amgylcheddol, a sicrwydd cyflenwyr.
Sut i greu system rheoli diogelwch bwyd
-
Cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol. Bydd y tîm yn asesu maint a natur eich busnes, ac yn eich cynghori ar y math o system sydd ei angen arnoch chi.
-
Datblygwch eich system gan ddefnyddio canllawiau a thempledi. Gallwch hefyd gyflogi ymgynghorydd diogelwch bwyd annibynnol neu gael cymorth gan eich cymdeithas ddiwydiant, os ydych chi’n aelod o un.
-
Gwiriwch, adolygwch a diweddarwch eich system yn rheolaidd, a bob tro y byddwch yn newid eich prosesau bwyd neu’ch cyflenwyr.
Canllawiau a thempledi i ddatblygu’ch system
Pecynnau cymorth rheoli diogelwch bwyd ar gyfer busnesau llai
Mae pecynnau cymorth Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi’u cynllunio ar gyfer busnesau arlwyo bach fel bwytai, caffis a siopau tecawê.
Os yw’ch busnes yng Ngogledd Iwerddon, defnyddiwch y canllawiau arlwyo diogel yn lle’r pecynnau cymorth.
Mae’r pecynnau cymorth SFBB yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer rheoli croeshalogi, glanhau, oeri a choginio. Gellir eu haddasu yn ôl maint a natur eich busnes.
Mae gwybodaeth am SFBB sy’n benodol i’r sector hefyd ar gael ar gyfer:
- manwerthwyr
- siopau tecawê Indiaidd
- siopau tecawê Tsieineaidd
- gwarchodwyr plant
- cartrefi gofal
Templedi dogfennau ar gyfer gweithdrefnau diogelwch bwyd
Gallwch ddefnyddio templedi dogfennau diogelwch bwyd yr ASB i reoli’r rhan fwyaf o arferion diogelwch bwyd, fel:
- glanhau
- cynnal a chadw
- rheoli plâu
- cofnodion cemegol
- hyfforddi staff
- hylendid staff
- iechyd a salwch staff
Cynlluniau Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)
Mae cynllun HACCP yn rhan fanylach o system rheoli diogelwch bwyd sy’n canolbwyntio ar nodi a rheoli risgiau diogelwch bwyd. Mae’n cynnwys dadansoddiad ffurfiol o beryglon, pwyntiau rheoli critigol, gweithdrefnau monitro, a chofnodion manwl.
Efallai y bydd eich tîm diogelwch bwyd lleol yn rhoi gwybod bod angen cynllun HACCP arnoch os yw’ch busnes yn fwy neu’n wynebu risg uwch.
Gallwch wneud cynllun HACCP:
- ar-lein, drwy’r gwasanaeth MyHACCP
- gan ddefnyddio templed cynllun HACCP yr ASB
3. Gwneud cynllun HACCP
Defnyddiwch y gwasanaeth MyHACCP er mwyn:
- creu cynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP)
- diweddaru cynllun HACCP presennol
Mae’r canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth MyHACCP, bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch chi’n gallu eu creu.
I greu cyfrif, bydd angen y canlynol arnoch:
- cyfeiriad e-bost
- manylion y busnes, gan gynnwys enw, lleoliad, math a maint
I ddefnyddio’r gwasanaeth, bydd angen y canlynol arnoch:
- manylion y bwyd rydych chi’n ei wneud neu’n ei drin
- rhestr gynhwysion, rhestr deunyddiau crai, a rhestr brosesau
- cofnodion tymheredd ac amserlenni glanhau (os oes gennych chi rai)
- gwybodaeth am eich cyflenwyr a hyfforddiant staff
Gallwch gadw eich cynnydd a dychwelyd yn ddiweddarach.
Ffyrdd eraill o wneud cynllun HACCP
Gallwch hefyd greu cynllun HACCP gan ddefnyddio:
- y templedi cynlluniau HACCP
- ymgynghorydd diogelwch bwyd annibynnol
Cysylltwch â’ch tîm diogelwch bwyd lleol os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud.