°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Talu os yw’ch cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth

Printable version

1. Trosolwg

Os cewch lythyr cyfrifiad treth (a elwir hefyd yn P800) sy’n dweud eich bod wedi talu rhy ychydig o dreth incwm, naill ai:

  • bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei gasglu’n awtomatig drwy newid eich cod treth o ddechrau’r flwyddyn dreth ganlynol (6 Ebrill)
  • gallwch ei dalu cyn dechrau’r flwyddyn dreth ganlynol

Dysgwch ragor am eich cyfrifiad treth, a beth i’w wneud os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir.

Mae’r canllaw hwn ar gael hefyd yn Saesneg.

Sut i dalu

Os ydych am dalu’r hyn sydd arnoch cyn dechrau’r flwyddyn dreth ganlynol, gallwch wneud y canlynol:

2. Talu ar-lein

Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:

  • cymeradwyo taliad gan ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.

Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud (hyd yn oed ar wyliau banc ac ar benwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.

Talu drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein CThEF

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Byddwch yn cael gwybod wrth fewngofnodi os oes angen i chi brofi eich hunaniaeth. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Ar ôl i chi fewngofnodi byddwch yn gallu gweld faint sydd arnoch, gwirio’ch cyfrifiad a thalu.

Ar ôl i chi dalu

Os ydych yn talu drwy’ch cyfrif banc ar-lein, gall gymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

3. Talu drwy drosglwyddiad banc

Gallwch wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs:

  • drwy’ch cyfrif bancio ar-lein
  • drwy ffonio’ch banc

Pryd fydd eich taliad yn cyrraedd CThEF

Fel arfer, bydd taliadau’n cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF):

  • ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf ar gyfer Taliadau Cyflymach
  • yr un diwrnod gwaith os ydych yn talu o fewn amseroedd prosesu’ch banc ar gyfer taliadau CHAPS
  • o fewn 3 diwrnod gwaith ar gyfer taliadau Bacs

Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.

Sut i dalu drwy drosglwyddiad banc

Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio cyfeirnod talu, sy’n 17 o gymeriadau. Bydd angen eich llythyr P800 arnoch i greu eich cyfeirnod.

Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr P800, defnyddiwch y llythyr mwyaf diweddar. Dim ond un taliad sydd angen i chi ei wneud, hyd yn oed os yw’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.

Creu eich cyfeirnod taliad

Crëwch eich cyfeirnod drwy roi’r canlynol mewn trefn:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol llawn
  • y cymeriadau: P800
  • blwyddyn gyntaf y flwyddyn dreth a ddangosir ar eich llythyr P800

Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn eich cyfeirnod.

Enghraifft

Os mai eich rhif Yswiriant Gwladol yw ‘AB123456C’ ac mae’ch llythyr P800 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd eich cyfeirnod fel a ganlyn: AB123456CP8002025

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Os ydych yn talu o gyfrif banc yn y DU

Talwch i mewn i’r cyfrif hwn:

  • cod didoli - 08 32 10
  • rhif y cyfrif - 12001020
  • enw’r cyfrif - CThEF Shipley

Os ydych yn talu o gyfrif tramor

Gallwch wneud trosglwyddiad o’ch cyfrif banc tramor gan CHAPS, gan ddefnyddio’r manylion banc canlynol ar gyfer CThEF:

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) - BARCGB22
  • rhif y cyfrif (IBAN) - GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • enw’r cyfrif - CThEF Shipley

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

4. Talu â siec

Gallwch dalu â siec drwy’r post.

Bydd angen i chi ysgrifennu cyfeirnod taliad 17 nod ar gefn y siec. Bydd angen eich llythyr P800 arnoch i greu eich cyfeirnod.

Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr P800, defnyddiwch y llythyr mwyaf diweddar. Dim ond un taliad sydd angen i chi ei wneud, hyd yn oed os yw’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.

Creu eich cyfeirnod taliad

Crëwch eich cyfeirnod drwy roi’r canlynol mewn trefn:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol llawn
  • y cymeriadau: P800
  • blwyddyn gyntaf y flwyddyn dreth a ddangosir ar eich llythyr P800

Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn eich cyfeirnod.

Enghraifft

Os mai eich rhif Yswiriant Gwladol yw ‘AB123456C’ ac mae’ch llythyr P800 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd eich cyfeirnod fel a ganlyn: AB123456CP8002025

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Ble i anfon eich siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:

CThEF
Direct
BX5 5BD

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.