°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Talu os yw’ch cyfrifiad treth (P800) yn dweud bod arnoch dreth

Sgipio cynnwys

Talu â siec

Gallwch dalu â siec drwy’r post.

Bydd angen i chi ysgrifennu cyfeirnod taliad 17 nod ar gefn y siec. Bydd angen eich llythyr P800 arnoch i greu eich cyfeirnod.

Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr P800, defnyddiwch y llythyr mwyaf diweddar. Dim ond un taliad sydd angen i chi ei wneud, hyd yn oed os yw’n cwmpasu mwy nag un flwyddyn dreth.

Creu eich cyfeirnod taliad

Crëwch eich cyfeirnod drwy roi’r canlynol mewn trefn:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol llawn
  • y cymeriadau: P800
  • blwyddyn gyntaf y flwyddyn dreth a ddangosir ar eich llythyr P800

Peidiwch â gadael unrhyw fylchau yn eich cyfeirnod.

Enghraifft

Os mai eich rhif Yswiriant Gwladol yw ‘AB123456C’ ac mae’ch llythyr P800 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd eich cyfeirnod fel a ganlyn: AB123456CP8002025

Gall eich taliad gael ei oedi os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Ble i anfon eich siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’ a’i hanfon i:

CThEF
Direct
BX5 5BD

Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn i CThEF am dderbynneb.