°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Sut a phryd i dalu

Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:

Os ydych yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Dyddiadau cau

Gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.

Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2032 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.

Gallwch ddarllen yr arweiniad neu gael help i benderfynu a ddylech dalu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau.

Cael help

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.