°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Yswiriant Gwladol Gwirfoddol

Sgipio cynnwys

Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)

Mae’r rheolau ynghylch pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu yn dibynnu ar y flwyddyn dreth yr oeddech yn byw neu’n gweithio dramor.

Os ydych yn talu ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, neu flynyddoedd cynharach

I dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol, mae’n rhaid i’r naill neu’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • roeddech wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
  • roeddech yn talu cyfraniadau (neu roedd eich cyfraniadau Dosbarth 2 yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu) am o leiaf 3 blynedd

I dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol, mae’n rhaid i’r ddau beth canlynol fod yn berthnasol hefyd:

  • roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
  • rydych yn gweithio dramor (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)

Os cawsoch eich effeithio gan arweiniad anghywir gan CThEF (2017 i 2019)

Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Nododd yr arweiniad fod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i hyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais i dalu’r cyfraniadau.

Os ydych yn talu ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen

Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor.

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer amser a dreuliwyd dramor ar ôl 5 Ebrill 2026 os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • roeddech wedi byw yn y DU am 10 mlynedd yn olynol
  • rydych wedi talu cyfanswm o 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol

Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol yn cynnwys y canlynol:

  • cyfraniadau Dosbarth 1, 2 neu 3 a dalwyd, neu a ystyrir fel pe baent wedi’u talu, tra yn y DU
  • cyfraniadau Dosbarth 1 neu 2 a dalwyd, neu a ystyrir fel pe baent wedi’u talu, tra’n gweithio dramor o dan Gytundeb Nawdd Cymdeithasol
  • cyfraniadau Dosbarth 1 a dalwyd gan weithwyr sy’n gweithio dramor am y 52 wythnos gyntaf dramor
  • cyfraniadau Dosbarth 2 a dalwyd gan weithwyr datblygu gwirfoddol

Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol yn cynnwys y canlynol:

Os gwnaethoch gais cyn 6 Ebrill 2026

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ar gyfer cyfnodau a dreuliwyd dramor gan ddefnyddio’r rheolau blaenorol (a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2026). Mae’r rheolau hyn yn gofyn am 3 blynedd o breswylio parhaus yn y DU neu o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn hytrach na 10 mlynedd.

Mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn wir hefyd:

  • gwnaethoch gais i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth 2024 i 2025 neu 2025 i 2026 ar neu cyn 5 Ebrill 2026
  • rydych yn talu neu wedi talu’r cyfraniadau gwirfoddol y gwnaethoch gais amdanynt ar neu cyn 5 Ebrill 2027
  • rydych yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer blwyddyn treth 2026 i 2027 ar neu cyn 5 Ebrill 2027

Ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol pan fyddwch yn dychwelyd i fyw neu weithio yn y DU.

Sut i dalu cyfraniadau

Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor gan ddefnyddio’r ffurflen CF83.

Cael gwybod beth i’w dalu

Os nad ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y 6 mis nesaf, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.