Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Printable version
1. Trosolwg
Os na fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallai hyn fod oherwydd:
- roeddech yn gyflogedig, ond ag enillion isel
- roeddech yn ddi-waith ac nid oeddech yn hawlio budd-daliadau
- roeddech yn cael credydau Yswiriant Gwladol am lai nag un flwyddyn dreth lawn
- roeddech yn hunangyflogedig, ond ni wnaethoch dalu cyfraniadau o ganlyniad i elw bychan
- roeddech yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gall bylchau olygu na fydd gennych ddigon o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn:
- cael Pensiwn y Wladwriaeth (fel arfer mae angen o leiaf 10 ‘mlynedd gymhwysol’)
- bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau ac ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Pwy na all dalu cyfraniadau gwirfoddol
Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol os yw’r canlynol yn berthnasol:
- nid oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - oni bai eich bod yn cael credydau Dosbarth 3 ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2
- rydych yn fenyw briod neu’n weddw sy’n talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg)
- ³¾²¹±ð’r dyddiad cau ar gyfer talu cyfraniadau am y cyfnod sydd â bylchau wedi mynd heibio
Gwirio’ch cofnod am fylchau
Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:
- a oes gennych unrhyw fylchau
- faint y bydd yn ei gostio i dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a allwch dalu ar-lein
Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol cyn penderfynu talu cyfraniadau gwirfoddol.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn credu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol yn anghywir.
Penderfynu a ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol
Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft os cawsoch eich contractio allan.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch ragolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor a’ch bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 6 mis o’i gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor.
Pam efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol
Mae’n bosibl y byddwch am dalu cyfraniadau gwirfoddol oherwydd:
- rydych yn agos at oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac nid oes gennych ddigon o flynyddoedd cymhwysol i gael neu i gynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cael y blynyddoedd cymhwysol sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn yn ystod eich bywyd gwaith
- rydych yn hunangyflogedig ac mae gennych elw blynyddol sy’n llai na £7,105
- rydych yn byw y tu allan i’r DU, ond hoffech fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol neu Bensiwn y Wladwriaeth
- nid ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol
Pobl hunangyflogedig gyda swyddi penodol
Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfraniadau Dosbarth 2 wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu, ond efallai y bydd y bobl hyn am dalu cyfraniadau gwirfoddol. Y rhain yw:
- arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr ac unigolion sy’n gosod cwestiynau arholiad
- landlordiaid sy’n gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
- gweinidogion yr efengyl nad ydynt yn cael cyflog na thâl
- unigolion sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn
2. Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu
Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran, a ble’r ydych yn byw.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, ³¾²¹±ð’r rheolau wedi newid os ydych chi’n byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol).
Os ydych yn gyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 3 os ydych yn gyflogedig ac ³¾²¹±ð’r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn ennill llai na £129 yr wythnos
- nad ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn hunangyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:
- incwm gros o £1,000 neu lai
- incwm gros dros £1,000, ond gydag elw o lai na £7,105
Gallwch hefyd dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig gyda swydd benodol. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn un o’r canlynol:
- yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
- yn landlord ac yn gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
- yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
- yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes, a heb gael ffi na chomisiwn
Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig
Gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:
- ydych yn ennill llai na £129 o gyflogaeth
- oes gennych elw sy’n llai na £7,105 o hunangyflogaeth
Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac i gael gwybod a fyddai o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych yn ddi-waith
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn ddi-waith a bod y ddau beth canlynol yn wir:
- nid ydych yn hawlio budd-daliadau
- nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:
- cyfraniadau Dosbarth 3
- cyfraniadau Dosbarth 2 os ydych yn gymwys
Cael help i gyfrifo pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu
Defnyddiwch y i gael gwybod:
- a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
- pa fath o gyfraniadau gwirfoddol y gallwch eu talu
3. Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)
Mae’r rheolau ynghylch pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu yn dibynnu ar y flwyddyn dreth yr oeddech yn byw neu’n gweithio dramor.
Os ydych yn talu am y flwyddyn dreth 2025 i 2026 neu cyn hynny
I dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol, mae’n rhaid i’r naill neu’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:
- roeddech wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
- roeddech yn talu cyfraniadau (neu roedd eich cyfraniadau Dosbarth 2 yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu) am o leiaf 3 blynedd
I dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol, mae’n rhaid i’r ddau beth canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
- rydych yn gweithio dramor (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)
Os cawsoch eich effeithio gan arweiniad anghywir gan CThEF (2017-2019)
Rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Nododd yr arweiniad fod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i hyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais i dalu’r cyfraniadau.
Os ydych yn talu ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen
Ni allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor.
Gallwch wneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer amser a dreuliwyd dramor ar ôl 5 Ebrill 2026 os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
- roeddech wedi byw yn y DU am 10 mlynedd yn olynol
- rydych wedi talu cyfanswm o 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol yn cynnwys y canlynol:
- cyfraniadau Dosbarth 1, 2 neu 3 a dalwyd, neu a ystyrir fel pe baent wedi’u talu, tra yn y DU
- cyfraniadau Dosbarth 1 neu 2 a dalwyd, neu a ystyrir fel pe baent wedi’u talu, tra’n gweithio dramor o dan Gytundeb Nawdd Cymdeithasol
- cyfraniadau Dosbarth 1 a dalwyd gan weithwyr sy’n gweithio dramor am y 52 wythnos gyntaf dramor
- cyfraniadau Dosbarth 2 a dalwyd gan weithwyr datblygu gwirfoddol
Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol cymhwysol yn cynnwys y canlynol:
- unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol eraill a dalwyd ar gyfer cyfnodau eraill dramor
- credydau Yswiriant Gwladol
Os gwnaethoch gais cyn 6 Ebrill 2026
Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ar gyfer cyfnodau a dreuliwyd dramor gan ddefnyddio’r rheolau blaenorol (a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2026). Mae’r rheolau hyn yn gofyn am 3 blynedd o breswylio parhaus yn y DU neu o dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn hytrach na 10 mlynedd.
Mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn wir hefyd:
- gwnaethoch gais i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth 2024 i 2025 neu 2025 i 2026 ar neu cyn 5 Ebrill 2026
- rydych yn talu neu wedi talu’r cyfraniadau gwirfoddol y gwnaethoch gais amdanynt ar neu cyn 5 Ebrill 2027
- rydych yn gwneud cais i dalu cyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer blwyddyn treth 2026 i 2027 ar neu cyn 5 Ebrill 2027
Ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol pan fyddwch yn dychwelyd i fyw neu weithio yn y DU.
Sut i dalu cyfraniadau
Cael gwybod beth i’w dalu
Os nad ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y 6 mis nesaf, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.
4. Cyfraddau
Y cyfraddau ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:
- £3.65 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 2
- £18.40 yr wythnos ar gyfer Dosbarth 3
Fel arfer, byddwch yn talu’r gyfradd bresennol pan fyddwch yn gwneud cyfraniad gwirfoddol.
Pan fyddwch yn talu cyfraddau gwahanol
Os ydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, neu gyfraniadau Dosbarth 3 ar gyfer y 2 flwyddyn dreth flaenorol, byddwch yn talu’r gyfradd wreiddiol ar gyfer y blynyddoedd hynny:
Os ydych yn talu ar gyfer blynyddoedd cynharach, byddwch yn talu’r gyfradd 2026 i 2027.
Os oes gennych fath penodol o swydd
Byddwch yn talu cyfradd Dosbarth 2 (yn agor tudalen Saesneg) arbennig os ydych yn un o’r canlynol:
- pysgotwr cyfran
- gweithiwr datblygu gwirfoddol
5. Sut a phryd i dalu
Os ydych yn byw yn y DU, dysgwch sut i wneud y canlynol:
Os ydych yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol), dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud cyn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Dyddiadau cau
Gallwch ond talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer y 6 blwyddyn flaenorol yn unig. Bob blwyddyn, y dyddiad cau yw 5 Ebrill.
Er enghraifft, mae gennych hyd at 5 Ebrill 2032 i lenwi’r bylchau ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
Cael help
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (yn agor tudalen Saesneg) (CThEF) os oes gennych gwestiynau am Yswiriant Gwladol gwirfoddol.