Deall labelu bwyd
Trosolwg
Mae angen i chi ddeall yr wybodaeth ar labeli bwyd er mwyn i chi allu penderfynu a yw bwyd yn ddiogel i chi ei fwyta. Mae hyn yn cynnwys:
-
dyddiadau âdefnyddio erbynâ ac âar ei orau cynâ
-
labeli alergenau
-
labeli figan
-
labeli ârhydd rhagâ
Maeâr canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Beth iâw wneud os yw label bwyd yn gamarweiniol
Maeân rhaid i fusnesau bwyd ddilyn rheolau penodol wrth labelu eu cynhyrchion.
Maeân rhaid i labeli ddangos gwybodaeth benodol. Maeân rhaid iddyn nhw fod yn gywir a pheidio â bod yn gamarweiniol.
Gallwch gysylltu â i roi gwybod am fusnes bwyd os ydych chiân credu bod rhywfaint o wybodaeth ar goll ar label, neu fod yr wybodaeth yn gamarweiniol mewn perthynas ââr canlynol:
-
honiadau iechyd
-
cynhwysion
-
pwysau
-
disgrifiad y cynnyrch
-
alergenau
Os ydych chiân byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu ââch tĂŽm diogelwch bwyd lleol os oes problem gyda gwybodaeth goll neu gamarweiniol. Am unrhyw broblemau eraill gydaâr pwysau neuâr mesuriadau ar labeli bwyd, cysylltwch â Safonau Masnach.