Deall labelu bwyd
Labeli alergenau
Mae 14 o alergenau y maeân rhaid i fusnesau bwyd eu datgan os ydyn nhw yn eu cynhyrchion bwyd neu ddiod. Yr alergenau hyn yw:
-
seleri
-
grawnfwydydd syân cynnwys glwten â gan gynnwys gwenith, rhyg (âryeâ), haidd (âbarleyâ) a cheirch
-
cramenogion (âcrustaceansâ) â gan gynnwys corgimychiaid, crancod a chimychiaid
-
wyau
-
pysgod
-
bysedd y blaidd (âlupinâ)
-
llaeth
-
molysgiaid â gan gynnwys mĂ´r-lewys (âsquidâ), cregyn gleision, cocos, cregyn moch (âwhelksâ) a malwod
-
mwstard
-
cnau
-
pysgnau
-
hadau sesame
-
ffa soia
-
sylffwr deuocsid neu sylffitau ar lefelau dros 10mg y cilogram neuâr litr
Maeâr canllawiau hyn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Gall labeli bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi mewn sawl ffordd wahanol. Gall hyn ddibynnu ar y mathau o fwydydd neu ddiodydd rydych chiân eu prynu ac o ba fathau o fusnesau y maen nhwân dod.
Dysgwch beth iâw wneud wrth fwyta allan neu archebu bwyd pan fydd gennych alergedd.
Bwyd wediâi becynnu ymlaen llaw
Ystyr bwyd wediâi becynnu ymlaen llaw yw unrhyw fwydydd neu ddiodydd syân cael eu rhoi mewn deunydd pecynnu gan weithgynhyrchwr cyn iddyn nhw gael eu rhoi ar werth gan fusnes bwyd arall. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion sydd wediâu pecynnu ymlaen llaw:
-
pecynnau o greision
-
caniau o ddiodydd pop
-
bara wediâi becynnu
Os yw bwydydd neu ddiodydd sydd wediâu pecynnu ymlaen llaw yn cynnwys unrhyw un oâr 14 o alergenau, maeân rhaid iâr label ddangos hyn yn glir yn y rhestr gynhwysion. Er enghraifft, gallaiâr alergenau fod mewn print trwm, italig neu liw gwahanol.
Bwyd wediâi becynnu ymlaen llawn iâw werthuân uniongyrchol (PPDS)
Ystyr cynhyrchion PPDS yw bwydydd neu ddiodydd sydd wediâu pecynnu ar y safle lle maen nhwân cael eu gwerthu cyn i chi eu dewis. Dyma rai enghreifftiau o gynhyrchion PPDS:
-
brechdanau wediâu pecynnu ar y safle mewn caffi
-
danteithion crwst neu gacennau wediâu pecynnu ar y safle mewn becws
-
bocsys salad wediâu pecynnu ymlaen llaw mewn deli
-
byrgyrs wediâu pecynnu ar y safle mewn siop gig
Maeân rhaid iâr alergenau gael eu labeluân glir yn rhestr gynhwysion y bwyd neu ddiod PPDS hefyd. Gallwch ofyn iâr busnes am gynhwysion a dylech sĂ´n wrthyn nhw am eich alergedd neu anoddefiad.
Bwyd rhydd
Mae bwyd rhydd nad yw wediâi becynnu ymlaen llaw (ânon-prepacked foodâ) yn cynnwys:
-
bwyd syân cael ei werthuân rhydd mewn siopau manwerthu (er enghraifft, rholiau bara heb eu lapio wrth gownter becws, ffrwythau a llysiau rhydd a salad o gownter hunanwasanaeth)
-
bwyd nad ywân cael ei werthu wediâi becynnu ymlaen llaw (er enghraifft, prydau mewn bwytai wediâu gweini ar blatiau, prydau tecawĂŞ a gaiff eu pecynnu ar Ă´l eu harchebu ac eitemau wediâu torri aâu lapio ar gais wrth gownteri deli)
Maeân rhaid i fusnesau bwyd roi gwybodaeth am alergenau i chi ar gyfer unrhyw eitem rhydd rydych chiân ei brynu syân cynnwys unrhyw un oâr 14 alergen. Gall busnesau roiâr wybodaeth hon ar lafar neuân ysgrifenedig. Os byddan nhwân rhoiâr wybodaeth ar lafar, maeân rhaid iddyn nhw roi gwybod i chi ble gallwch chi ddod o hyd i gadarnhad ysgrifenedig.
Labeli ârhydd rhagâ
Mae labeli diogelwch bwyd fel ârhydd rhagâ neu ârhydd rhag alergenauâ yn warant nad ywâr alergen dan sylw yn y cynnyrch. Maeân rhaid i fusnesau bwyd syân creu cynhyrchion bwyd ârhydd rhagâ neu ârhydd rhag alergenauâ ddilyn prosesau llym i atal croeshalogi.
Os nad yw busnes yn gallu cael gwared ar y risg o groeshalogi, dyai roi gwybod i chi. Ni ddylai wneud unrhyw honiadau ârhydd rhagâ.
Nid yw labeli figan yn gwarantu bod y bwyd yn rhydd rhag alergen penodol.
Labelu alergenau rhagofalus (PAL)
Gall busnesau ddefnyddioâr broses o labelu alergenau rhagofalus i ddweud wrth gwsmeriaid y gallai olion alergenau fod wedi mynd i mewn i gynhyrchion ar ddamwain. Yn aml, bydd y labeli hyn yn defnyddio geiriad fel âgallai gynnwys llaethâ neu âddim yn addas i bobl ag alergedd i gnauâ.
Nid ywân ofynnol yn Ă´l y gyfraith i fusnesau bwyd ddefnyddioâr broses PAL.