Ymgynghoriad ar awdurdodi un bwyd traddodiadol
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?
Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.Mae ymgynghoriad ar wahân yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Pwnc yr ymgynghoriad
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon. Cafodd ei gyflwyno o dan .
- Awdurdodiad newydd ar gyfer cnau kenari sych (Canarium indicum L.)
Diben yr ymgynghoriad
Wrth ymgynghori, mae’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y telerau awdurdodi arfaethedig ac unrhyw ofynion labelu.Mae croeso i randdeiliaid ddefnyddio’r cyfle hwn i wneud sylwadau neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol a ddylai ddod i sylw gweinidogion cyn awdurdodi’r hysbysiad.
Pecyn ymgynghori
Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn rhoi’r wybodaeth gefndirol, y manylion a’r cwestiynau rydym yn gwahodd eich ymatebion iddynt. Mae’n darparu dolenni i’r argymhelliad o ran rheoli risg sy’n cynnwys crynodeb o’r allbwn gwyddonol a mesurau diogelu. Mae’r pecyn ymgynghori llawn a’r ddogfen argymhellion rheoli risg ar gael trwy’r tudalennau isod.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r .Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol:
E-bost:RPconsultations@food.gov.uk
Enw:Y Gwasanaeth Cyflenwi Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Adran/Cangen: Awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad
Os byddwch yn ymateb drwy e-bost, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych chi wedi eich lleoli.
Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion
Rydym yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd o fewn tua thri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben a darparu dolen iddo o’r dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd ynghylch ymgynghoriadau.
Gwybodaeth bellach
Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion at RPconsultations@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.
Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth EF.Mae’r effeithiau posib mewn perthynas â’n cynigion wedi’u trafod yn y ddogfen ymgynghori.Os nad oes asesiad o’r effaith wedi’i ddarparu, byddwn yn nodi’r rheswm dros hynny yn y ddogfen ymgynghori.
Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.