ǸԹ

Skip to main content
Ymgynghoriad agored

Pecyn ymgynghori ar yr ymgynghoriad ar awdurdodi un hysbysiad bwyd traddodiadol i’w roi ar y farchnad

Cyhoeddwyd 6 Awst 2026

Ѳ’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon.

Dyddiad lansio

6 Awst 2026.

Ymatebion erbyn

2 Medi 2026.

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Pob busnes bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd phorthladdoedd, cynghorau dosbarth, a rhanddeiliaid eraill sydd â buddiant mewn diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.Mae ymgynghoriad ar wahân yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.

Ѳ’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Diben yr ymgynghoriad

Ѳ’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon sydd wedi’i chyflwyno o dan .

  • Awdurdodiad newydd ar gyfer cnau kenari sych (Canarium indicum L.)

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r .

Os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost i’r cyfeiriad canlynol:

RPconsultations@food.gov.uk

Gwelwch fanylion llawn ar sut i ymateb isod.

Diffiniadau

Ѳ’r hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig yn yr ymgynghoriad hwn yn fwyd traddodiadol o drydedd wlad.Efallai y bydd yr wybodaeth a’r diffiniadau canlynol o ddefnydd i chi wrth ymateb i’r ymgynghoriad hwn.

Cynhyrchion rheoleiddiedig

Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi cyn y gellir eu gwerthu yn y DU. Gallwch ddysgu mwy am y broses ymgeisio, gan gynnwys y prosesau dadansoddi risg a rheoli risg, a chyfranogiad y Gweinidogion ar ein gwefan.

Bwydydd newydd

Mae bwydydd newydd yn fwydydd sydd heb gael eu bwyta gan bobl i raddau helaeth yn y DU neu’r UE cyn 15 Mai 1997.Er mwyn rhoi bwydydd newydd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, neu newid y manylebau neu’r amodau ar gyfer defnyddio bwydydd newydd awdurdodedig, mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno cais yn unol â Rheoliad a gymathwyd 2015/2283.Darllenwch ein canllawiau ar sut i awdurdodi bwydydd newydd.

Hysbysiad bwyd traddodiadol (‘Erthyl 14’)

Dyma lwybr symlach i awdurdodi cynhyrchion sydd wedi cael eu bwyta y tu allan i’r DU neu’r UE am o leiaf 25 mlynedd cyn i’r hysbysiad gael ei wneud. Mae’n ofynnol i ymgeiswyr ddarparu data cofnodedig sy’n dangos hanes o’r bwyd yn cael ei ddefnyddio’n ddiogel mewn trydedd wlad.Ѳ’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cynnal adolygiad diogelwch o fewn cyfnod o bedwar mis. Os nad oes gan yr ASB unrhyw wrthwynebiadau diogelwch, caiff y cynnyrch ei awdurdodi a’i roi ar y rhestr awdurdodedig.

Rheoliadau a gymathwyd

Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr.Cafodd unrhyw ddeddfwriaeth o’r UE, a oedd wedi’i dargadw pan ymadawodd y DU â’r UE, ei chymathu ar 31 Rhagfyr 2023. Cyhoeddir cyfreithiau a gymathwyd ar legislation.gov.uk.

Ѳ’r yn drefniant anstatudol rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig i sefydlu dulliau cyffredin o ymdrin â meysydd polisi lle mae pwerau wedi dychwelyd o’r UE o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli. Ѳ’r ymgynghoriad hwn wedi’i ddatblygu yn unol â’r ymrwymiadau i weithio ar y cyd ar draws y pedair gwlad, fel y nodir yn y Fframwaith hwn. Felly, cafodd yr ymgynghoriad hwn ei ddatblygu drwy ddull pedair gwlad. Bydd y pedair gwlad yn cytuno ar yr argymhellion terfynol cyn eu cyflwyno i weinidogion Cymru, Lloegr a’r Alban, a bydd Gweinidog Iechyd Gogledd Iwerddon yn cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Mae Gogledd Iwerddon yn parhau i gymryd rhan lawn yn y prosesau dadansoddi risg sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn adlewyrchu rôl annatod Gogledd Iwerddon yn y DU ac yn sicrhau bod unrhyw benderfyniad yn ystyried yn llawn yr effeithiau posib ar y DU gyfan.

Rheoli risg

Mae dogfen argymhellion yr ASB o ran rheoli risg yn cyflwyno’r ffactorau y mae wedi’u nodi fel rhai perthnasol i’r hysbysiad hwn, gan gynnwys effaith bosib unrhyw benderfyniad gan weinidogion, ac yn cynnwys telerau awdurdodi arfaethedig a darpariaethau perthnasol eraill.

Manylion yr ymgynghoriad

Rhagymadrodd

Ѳ’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau ar yr hysbysiad am gynnyrch rheoleiddiedig ar gyfer cnau kenari sych (Canarium indicum L.)

Gallwch weld trosolwg o fanylion yr hysbysiad hwn yn nes ymlaen yn y ddogfen hon. Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at y ddogfen argymhellion o ran rheoli risg sydd ynghlwm wrth yr ymgynghoriad hwn.

Ѳ’r ASB yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ar y telerau awdurdodi arfaethedig ac unrhyw ofynion o ran labelu.

Mae croeso i randdeiliaid ddefnyddio’r cyfle hwn i wneud sylwadau neu dynnu sylw at unrhyw ffactorau ychwanegol a ddylai ddod i sylw gweinidogion cyn awdurdodi’r hysbysiad.

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd yr ASB yn ysgrifennu at weinidogion yng Nghymru a Lloegr ynglŷn â’r telerau awdurdodi a labelu ar gyfer y cynnyrch hwn cyn ei roi ar y farchnad.Yn yr Alban, bydd yr FSS yn ysgrifennu at ei gweinidog yn dilyn yr ymgynghoriad ynglŷn â’r telerau awdurdodi a labelu ar gyfer y cynnyrch hwn cyn ei roi ar y farchnad. Bydd gweinidogion yng Ngogledd Iwerddon yn cael gwybod y diweddaraf.

Mae hyn yn unol â chyfrifoldeb yr ASB ac FSS am roi cyngor, gwybodaeth neu gymorth i weinidogion am faterion diogelwch bwyd, neu fuddiannau eraill defnyddwyr mewn perthynas â bwyd (Adran 6, Deddf Safonau Bwyd 1999, ac Adran 3, Deddf Bwyd (yr Alban) 2015).Unwaith y bydd y gweinidogion perthnasol wedi cael gwybod am yr awdurdodiad, byddant yn ystyried yr argymhellion o ran rheoli risg ac unrhyw ddarpariaethau perthnasol mewn cyfraith a gymathwyd a oedd wedi codi yn ystod y broses ymgynghori.

Effeithiau

Fel rhan o’r asesiad a gafodd ei gynnal i benderfynu a ddylid codi asesiad diogelwch rhesymol yn unol ag Erthygl 15, asesodd yr ASB ddiogelwch y bwyd traddodiadol hwn a’r effeithiau posib a fyddai’n codi pe bai’n cael ei awdurdodi. Nid oedd unrhyw bryderon diogelwch difrifol wedi’u nodi.

Mae effeithiau unigol a manwl, gan gynnwys masnach, Gogledd Iwerddon a phynciau eraill, ar gyfer yr hysbysiad wedi’u rhestru yn y ddogfen Rheoli Risg gyfatebol.

Yn gyffredinol, dylai awdurdodi’r cynnyrch hwn arwain at fwy o gystadleuaeth yn y farchnad, gan helpu gyda thwf ac arloesi yn y sector.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Bob mis, bydd manylion yr holl geisiadau dilys am gynhyrchion rheoleiddiedig yn cael eu cyhoeddi ar y ac ar wefan yr ASB.

Rydym yn gwahodd rhanddeiliaid i ystyried y cwestiynau isod mewn perthynas ag unrhyw ddarpariaethau perthnasol yng nghyfraith a gymathwyd a ffactorau dilys eraill.

Yn dilyn y broses ymgynghori, bydd yr ymatebion ar gael ar y wefan ac yn cael eu rhannu â gweinidogion.

Cwestiynau

Y cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn:

  • Oes gennych chi unrhyw sylwadau neu bryderon ynghylch awdurdodi cnau kenari sych (Canarium indicum L.) gan ddefnyddio’r telerau arfaethedig (fel sydd wedi’u hamlinellu yn argymhelliad yr ASB o ran rheoli risg)?

  • Oes unrhyw ystyriaethau eraill ynghylch y telerau awdurdodi arfaethedig y dylai gweinidogion eu hystyried ac nad ydynt eisoes wedi’u hamlygu?

  • Oes gennych chi unrhyw adborth arall?

Ymatebion

Gofynnir bod ymatebion yn dod i law erbyn 23:59pm, 2 Medi 2026. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Dylech gyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn drwy’r . Os nad yw hyn yn bosib, gallwch anfon eich ymateb dros e-bost i RPconsultations@food.gov.uk.

Nodwch pa gais/cynnyrch sydd dan sylw yn eich ymateb drwy ddefnyddio’r llinell bwnc ganlynol ar gyfer eich ymateb:Ymateb i ymgynghoriad RP2323 ar hysbysiad bwyd traddodiadol.

Os byddwch yn ymateb drwy e-bost, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi eich lleoli.

Ein nod yw cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn ymhen tua 3 mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben.I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau.

Bydd yr ymatebion yn cael eu rhannu â gweinidogion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gwybodaeth bellach

Os oes angen y ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, anfonwch fanylion at RPconsultations@food.gov.uk a byddwn yn ystyried eich cais.

Ѳ’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.

Diolch i chi, ar ran yr ASB, am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

RP2323, cnau kenari sych (Canarium indicum L.) (newydd) (bwyd traddodiadol)

Cefndir

Ym mis Mehefin 2025, roedd Kawanasi Sehat Dasacatur wedi cyflwyno hysbysiad ar gyfer y bwyd traddodiadol, cnau kenari sych (Canarium indicum L.), i’r ASB i’w awdurdodi ym Mhrydain Fawr.

Er mwyn rhoi bwyd traddodiadol o drydedd wlad ar y farchnad ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid cyflwyno hysbysiad yn unol â (“y Rheoliadau Bwyd Newydd”).  

O dan Erthygl 14 o’r Rheoliad, gall gweinidogion awdurdodi bwydydd traddodiadol sydd â hanes o gael eu defnyddio’n ddiogel mewn trydedd wlad, fel y diffinnir gan . Bydd y bwydydd traddodiadol awdurdodedig hyn wedi’u bwyta’n ddiogel y tu allan i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd am o leiaf 25 mlynedd yn olynol cyn gwneud yr hysbysiad.

Masnach

Bydd angen i fwyd sy’n cael ei allforio o’r DU i wledydd/blociau eraill barhau i fodloni rheolau’r gwledydd/blociau hynny.

Yr Undeb Ewropeaidd (UE)

Mae cnau kenari sych (Canarium indicum L.) eisoes wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn yr UE.

Gogledd Iwerddon

Ѳ’r cynnyrch hwn eisoes wedi’i awdurdodi i’w ddefnyddio yng Ngogledd Iwerddon. Byddai awdurdodi’r cynnyrch hwn ym Mhrydain Fawr yn golygu ei bod yn cyd-fynd â rheolau Gogledd Iwerddon.

Argymhelliad yr ASB o ran rheoli risg

Mae argymhelliad yr ASB o ran rheoli risg yn dod i’r casgliad fod cnau kenari sych (Canarium indicum L.) fel y maent wedi’u disgrifio yn yr hysbysiad hwn, yn ddiogel ac nad ydynt yn debygol o gael effaith andwyol ar y boblogaeth darged, diogelwch amgylcheddol nac iechyd pobl o ystyried y defnydd arfaethedig.